Bondiau cynilo cyfradd sefydlog yw cyfrifon cynilo sy’n talu llog a ddarparwyd gan fanciau a chymdeithasau adeiladu am gyfnod penodol. Gallwch gael cyfradd llog uwch fel arfer na chyfrifon cynilo dim rhybudd.
Beth sydd yn canllaw hwn
- A yw bond cynilo cyfradd sefydlog yn iawn i chi?
- Pa fathau o fondiau cynilo cyfradd sefydlog sydd ar gael?
- Risg ac elw o’r bondiau cynilo cyfradd sefydlog
- Cael gafael ar eich arian o fondiau cynilo cyfradd sefydlog
- A yw cyfrifon cynilo cyfradd sefydlog yn ddiogel?
- Ble i gael cyfrif cynilo cyfradd sefydlog
- Treth a bondiau cynilo cyfradd sefydlog
- Os bydd pethau’n mynd o chwith â’ch bondiau cynilo cyfradd sefydlog
A yw bond cynilo cyfradd sefydlog yn iawn i chi?
Oeddech chi’n gwybod?
Fe’u gelwir hefyd yn ‘cyfrif cynilo cyfradd sefydlog’, ‘bondiau cyfradd sefydlog’ neu ‘flaendaliadau cyfnod penodol’.
Gallai bond cynilo cyfradd sefydlog fod yn addas ar eich cyfer os:
- oes gennych £100 neu fwy mewn arian parod nid oes angen mynediad ar unwaith arnoch am o leiaf chwe mis neu gyfnod y bond
- ydych am gael adenillion uwch o bosibl na’r adenillion ar eich cyfrif cynilo rheolaidd
- nad ydych am fentro colli unrhyw gyfran o’ch arian (fel y gallwch â buddsoddiadau).
Pa fathau o fondiau cynilo cyfradd sefydlog sydd ar gael?
Mae Bondiau Cynilo Cyfradd Sefydlog yn gwarantu cyfradd llog benodedig dros dymor penodol – mae’r rhan fwyaf o fondiau cynilo yn talu llog sefydlog.
Mae bondiau yn talu llog yn flynyddol fel arfer, ond bydd rhai cyfrifon yn talu’r llog hwn yn chwarterol neu fisol. Yn aml, gallwch enwi cyfrif banc gwahanol er mwyn talu’r llog iddo.
Mae Bondiau Olrhain yn olrhain mynegai neu gyfradd benodol – er enghraifft chwyddiant neu gyfradd sylfaen Banc Lloegr – dros gyfnod penodedig. Gall hyn fod rhwng chwe mis a phum mlynedd.
Er mai £1 yw’r isafswm y gellir ei fuddsoddi ar gyfer rhai cyfrifon cynilo, fel arfer £100 yw’r isafswm adnau, ag uchafswm nodweddiadol o £1,000,000. Weithiau cynigir cyfraddau llog mewn haenau yn ôl y swm y byddwch yn ei roi fel adnau. Serch hynny, nid yw bondiau cyfradd sefydlog yn caniatau i chi ychwanegu arian ychwanegol unwaith i chi wneud eich adnau cychwynnol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth rydych yn ei brynu.
Darganfyddwch fwy am gynnyrch strwythuredig ar wefan FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Risg ac elw o’r bondiau cynilo cyfradd sefydlog
- Byddwch yn cael eich cyfalaf gwreiddiol yn ôl ar ddiwedd y tymor ynghyd â’r llog cronedig.
- Mae’r cynhyrchion hyn yn tueddu i gynnig cyfraddau llog uwch na chyfrifon dim rhybudd. Po hwyaf y gallwch fforddio gadael eich arian mewn un o’r cyfrifon yma, po fwyaf bydd y gyfradd llog tebygol i fod.
- Gyda bondiau cynilo cyfradd sefydlog, byddwch yn gwybod o’r cychwyn cyntaf faint y byddwch yn ei gael pan fydd cyfnod o’r cyfrif yn terfynu (pan fydd y bond ‘yn aeddfedu’).
- Ni fydd eich buddsoddiad gwreiddiol yn cadw ei werth mewn termau real (ei ‘bŵer prynu’) os bydd y llog rydych yn ei gael yn is na’r gyfradd chwyddiant dros gyfnod y buddsoddiad.
Os yw’r bond rydych yn ei ystyried yn adnau strwythuredig, bydd y risgiau yn wahanol.
Cael gafael ar eich arian o fondiau cynilo cyfradd sefydlog
- Fel arfer mae’r cynhyrchion hyn yn ei gwneud yn ofynnol i chi ymrwymo eich arian am gyfnod o rhwng chwe mis a phum mlynedd.
- Gall fod cosbau mawr am godi arian yn gynnar. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r cosbau hyn ac y gallwch ymdopi cyn i chi ymrwymo eich arian.
- Mewn rhai achosion, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cael gafael ar unrhyw ran o’ch cyfalaf tan ddiwedd y tymor – darllenwch y ffeithiau cyn i chi ymrwymo.
A yw cyfrifon cynilo cyfradd sefydlog yn ddiogel?
Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU (a awdurdodir gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential) ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.
Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig. Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu. Mae rhai mantolenni uchel dros dro hyd at £1 filiwn sy’n gymwys yn ddiogel am 6 mis, megis arian ar ôl gwerthu tŷ.
Darganfyddwch pa fanciau sy’n rhan o ba gwmniau awdurdodedig ar wefan Which?
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Iawndal os bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal
Ble i gael cyfrif cynilo cyfradd sefydlog
Gallwch brynu bondiau cynilo yn uniongyrchol gan fanc neu gymdeithas adeiladu neu NS&I. Gallwch fuddsoddi mewn bondiau NS&I ar-lein ar eu gwefan.
Gallwch gynilo arian mewn rhai cyfrifon cynilo cyfradd sefydlog ar-lein, mewn cangen, drwy’r post neu dros y ffôn, yn dibynnu ar y cyfrif a’r darparwr.
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo addas i’ch dibenion chi.
Darganfyddwch fwy am ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau i ddod o hyd i gyfrif cynilo yn ein canllaw Dod o hyd i’r cynigion gorau â gwefannau cymharu prisiau
Mae’r gwefannau hyn yn lle da i gychwyn er mwyn i chi cymharu cyfrifon cynilo:
Ond byddwch yn ymwybodol na fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi. Felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad.
Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
Treth a bondiau cynilo cyfradd sefydlog
Telir llog ar eich cynilion yn gros ac efallai y bydd rhaid i chi dalu treth arnynt os ydynt yn uwch na’ch Lwfans Cynilion Personol.
Mae rhai bondiau cynilo ar gael fel cyfrifon ISA di-dreth.