Ar ôl holl hwyl a sbri’r Nadolig, mae llawer ohonom yn wynebu bil sylweddol yn y Flwyddyn Newydd. Ond er y gall fod yn anodd osgoi defnyddio credyd i dalu am dymor yr ŵyl, bydd cynilo yn y cyfnod yn nesáu at y Nadolig yn helpu i leddfu’r ergyd ym mis Ionawr.
Siarad â’ch ffrindiau a’ch teulu
Mae pwysau i blesio anwyliaid ac i roi'r Nadolig perffaith i blant ar frig y rhestr o resymau y mae pobl yn gorwario yn ystod tymor yr ŵyl.
Pan fyddwch wedi gweithio allan faint y gallwch fforddio ei wario ar anrhegion, siaradwch â'r bobl rydych yn bwriadu rhoi anrhegion iddynt am faint rydych yn bwriadu ei wario.
Gallai hyn beri embaras. Y llynedd gwnaethom arolwg o'r DU ynghylch eu gwariant ar y Nadolig. Dywedodd tri chwarter y bobl wrthym y byddent yn hapus i siarad am gyfanswm cost anrhegion â'u partner, ond dim ond traean a fyddai'n gyffyrddus yn siarad â'u mam, ffrindiau, brodyr a chwiorydd neu blant a dim ond chwarter â'u tad.
Darllenwch ein canllaw Siarad â’ch partner am arian
Efallai y byddai'n ddefnyddiol cofio y bydd llawer o bobl yn ei chael yn anodd y Nadolig hwn. Os ydych yn gwario gormod ar anrhegion i anwyliaid, efallai y byddant yn teimlo'r pwysau i wario'r un faint arnoch, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu fforddio gwneud hynny.
Efallai y byddwch yn teimlo dan straen am y syniad o gael sgwrs anodd am arian, ac efallai y byddwch yn anghofio'r pethau pwysig roeddech am eu trafod.
Dilynwch ein awgrymiadau am siarad â’ch ffrindiau a theulu yn ein canllaw Sut i gael sgwrs am arian
Gosod gyllideb
Mae’r gwariant Nadolig ar gyfartaledd fesul cartref yn £350, sy’n cynnwys bwyd, anrhegion, teithio ac addurniadau, ynghyd â chostau eraill.
I ddechrau ar eich cyllideb, gwnewch restr o deulu a ffrindiau y byddwch yn prynu anrhegion ar eu cyfer a dynodwch swm ar gyfer pob unigolyn.
Os byddwch yn trefnu cinio ystyriwch faint o bobl fydd yn dod draw a faint o arian fydd angen i chi ei wario ar fwyd a diod.
Yn dilyn hyn, dylech fedru cyfrifo faint o arian fydd angen i chi ei neilltuo bob mis.
Er enghraifft, wrth gynilo £20 y mis o ddechrau’r flwyddyn, bydd gennych £240 i’w wario ar gyfer y Nadolig.
Darganfyddwch fwy o awgrymiadau am gyllidebu ar gyfer tymor yr ŵyl yn ein blog Mae rhaid i ni siarad am Nadolig
Cynilo am Nadolig
Mae'n anodd talu am y Nadolig allan o becyn cyflog mis Rhagfyr yn unig, felly mae'n gwneud synnwyr arbed cymaint ag y gallwch ymlaen llaw.
Po gynharaf y byddwch yn dechrau cynilo, po leiaf y bydd angen i chi ei roi o'r neilltu bob mis. Gall hyd yn oed ychydig bach dros ychydig fisoedd wneud gwahaniaeth mawr.
Darganfyddwch fwy am y lleoedd gorau i roi eich arian yn ein canllaw Cipolwg ar gynilion arian parod
Dylech drin cynilo’r un ffordd â byddwch yn talu bil.
Mae ymrwymo i gynilo swm rheolaidd bob mis neu wythnos yn fwy effeithiol na dweud y byddwch yn cynilo beth bynnag sydd gennych dros ben, a allai fod yn dim.
Ond byddwch yn realistig – mae’n well ymrwymo i swm bach, ymarferol na cheisio’n rhy galed a rhoi’r gorau iddi.
Ddim yn siŵr faint y gallwch fforddio ei gynilo? Dechreuwch yn fach - rhowch eich darnau arian £1 neu £2 sbâr mewn jar bob wythnos.
Os yw hynny'n gweithio, ceisiwch neilltuo ychydig yn fwy yn rheolaidd.
Benthyca ar gyfer Nadolig
Gallai benthyca arian i dalu am eich gwariant Nadolig fod yn ddrud â chostau llog a ffioedd.
Ar y gorau, gallai hynny fod yn arian a ddefnyddir ar gyfer rhywbeth llawer mwy gwerth chweil. Ar y gwaethaf, gallai eich gadael â dyled y gallech ei chael yn anodd ei thalu.
Gallai ad-dalu'r ddyled fod yn ddrud ac os byddwch yn colli taliadau, bydd effaith negyddol ar eich adroddiad credyd. Gallai effeithio ar eich gallu yn y dyfodol i gael unrhyw fath o gredyd o gwbl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wirio eich adroddiad credyd
Ystyried cychwyn rhai traddodiadau Nadolig newydd
Ystyriwch gychwyn rhai traddodiadau Nadolig newydd y gall yr holl deulu fod yn rhan ohonynt gan arbed ychydig o arian wrth wneud hynny.
Gall prynu hanfodion Nadolig fel cracers neu addurniadau yn y sêls olygu arbedion mawr, weithiau tua 50%.
Os ydych yn gwybod pa anrhegion sydd angen i chi eu prynu, gall fod o werth dewis eitem bob mis er mwyn lledaenu’r gost a sicrhau na fyddwch dan bwysau i siopa yn ystod yr adegau prysuraf â phawb arall.
Gallwch hefyd ymuno â’r oes ddigidol ac anfon cardiau Nadolig trwy e-bost er mwyn arbed ar stampiau.
Mae nifer o wefannau am ddim sy’n eich galluogi i greu cardiau personol, â lluniau a fideos teuluol.
Bydd cael gwared ar bethau â’ch teulu o gymorth i chi roi pethau mewn trefn ar gyfer yr ŵyl a gallech bocedu ychydig o arian wrth wneud hynny hefyd.
Unwaith y byddwch i gyd wedi rhoi popeth diangen i un ochr, gallwch wneud ychydig o arian ychwanegol drwy ei werthu ar-lein neu mewn sêl leol.
Os cewch yr amseriad yn gywir, gwelwch y bydd nifer o bobl yn chwilio am brynu anrhegion ail law.
A ddylech ymuno â chlwb cynilo Nadolig?
Efallai y cewch eich temtio i ymuno â chlwb cynilo Nadolig. Ond nid ydynt yn cynnig llog i chi ar eich cynilion ac yn dod â mwy o risg na chynilo trwy eich banc neu gymdeithas adeiladu. Nid yw cynlluniau cynilo Nadolig yn cael eu rheoleiddio yn y ffordd y mae banciau a chymdeithasau adeiladu.
Os bydd y clwb Nadolig rydych yn cynilo ynddo yn mynd i’r wal, gallech golli’r holl arian a wnaethoch gynilo.
Mae’n debygol hefyd y cewch eich arian yn ôl mewn talebau, sydd yn anodd eu gwario’n llwyr ac yn cyfyngu ar eich dewis o siopa wrth brynu nwyddau.
Os ydych yn cael anhawster agor cyfrif banc ar gyfer eich cynilion, ystyriwch fynd i siarad â’ch undeb credyd.
Mae’r undeb yn fwy tebygol o gynnig gwell cyfradd i chi ar eich cynilion na chlwb Nadolig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon cynilo undebau credyd
Peidiwch â bod ofn rhannu eich pryderon
Un o effeithiau'r pandemig hwn oedd ei gwneud yn normal teimlo, ar brydiau, bod popeth yn ormod.
Ond os ydych yn aml yn teimlo'n isel gallai fod yn arwydd o les meddyliol gwael. Gall teimlo’n isel ei gwneud yn anodd rheoli arian a gall poeni amdano wneud i chi deimlo'n waeth byth.
Os yw'ch pryderon yn gysylltiedig â'ch annibyniaeth ariannol, gallai hyn fod yn arwydd o gam-drin ariannol. Mae cefnogaeth ar gael i chi.