Efallai y gallwch hawlio Credyd Cynhwysol os oes angen i chi ychwanegu at eich incwm a bod gennych incwm cartref a chynilion isel.
Ond byddwch yn ymwybodol, os oes gennych chi gynilion o fwy na £16,000 a bod eich partner neu eich priod yn ennill gormod, ni fyddwch yn gallu gwneud cais.
Bydd angen i chi fynychu cyfweliad porth gydag anogwr gwaith DWP er mwyn iddynt allu gwirio mai hunangyflogaeth yw eich prif swydd. Dylech fod yn gwneud rhywfaint o elw neu ddisgwyl gwneud hynny os ydych newydd ddechrau arni.
Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi ddangos tystiolaeth gan gynnwys:
- derbyniadau
- eich cynllun busnes
- copiau o anfonebau
- cyfrifon masnachu am y flwyddyn flaenorol
- prawf eich bod wedi cofrestru yn hunangyflogedig gyda CThEM.
Os na fyddwch yn dangos digon o dystiolaeth, efallai y bydd yr aseswr yn penderfynu nad ydych yn hunangyflogedig ‘â thâl’.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi chwilio, a bod ar gael, am waith arall tra byddwch yn cael Credyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am hawlio Credyd Cynhwysol yn ein canllaw Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig.