Os ydych yn hunangyflogedig ac yn hawlio rhai budd-daliadau, fel Credydau Treth neu Fudd-dal Tai yn barod, byddwch yn y pen draw yn cael eich symud i Gredyd Cynhwysol. Darganfyddwch fwy am yr hyn i'w ddisgwyl a sut i baratoi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig
- Symud o fudd-daliadau presennol i Gredyd Cynhwysol
- Sut ydw i’n dangos fy mod yn hunangyflogedig?
- Credyd Cynhwysol a’r llawr isafswm incwm
- Rhoi gwybod am incwm o hunangyflogaeth
- Sut mae treuliau’n effeithio ar eich Credyd Cynhwysol
- Rheoli eich incwm amrywiol
- Paratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig
Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Treth Plant
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn galw'r budd-daliadau hyn yn rhai 'legacy'. Nid yw pobl bellach yn gallu gwneud ceisiadau newydd am y rhain.
Os ydych yn hunangyflogedig ac eisoes yn cael y budd-daliadau a fydd yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Bydd DWP yn dweud wrthych pryd mae'n amser symud ymlaen i Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
I gael mwy o wybodaeth am hawlio Credyd Cynhwysol, eich ymrwymiadau, sancsiynau a gweithio wrth hawlio, darllenwch y daflen ‘Credyd Cynhwysol a Chi' ar wefan GOV.UK
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, gallwch lawrlwytho canllaw o wefan nidirect
Symud o fudd-daliadau presennol i Gredyd Cynhwysol
Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth
Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf, mae gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth am ddim ac yn gyfrinachol. Gall eich helpu:
- gwirio a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol
- dod â'ch gwaith papur a'ch dogfennau pwysig at ei gilydd i gyflymu'ch cais
- llenwi eich cais ar-lein.
Cymru a Lloegr
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr, darganfyddwch fwy o fanylion am wneud cais ar wefan Cyngor ar Bopeth
Neu, yng Nghymru ffoniwch 0800 024 1220
Yn Lloegr ffoniwch 0800 144 8444
Yr Alban
Os ydych chi'n byw yn yr Alban, am help i wneud cais ewch i Citizens Advice Scotland neu ffoniwch 0800 023 2581
Gogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon mae Credyd Cynhwysol yn gweithio'n wahanol – darganfyddwch fwy ar wefan nidirect
Os yw’ch amgylchiadau yn newid
Os bydd rhai amgylchiadau yn eich bywyd yn newid, gallai effeithio ar eich budd-daliadau. Ac efallai y bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hyn.
Gallai newidiadau arwyddocaol mewn amgylchiadau gynnwys:
- symud i mewn gyda phartner sydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol
- cael babi newydd sy’n effeithio ar eich hawl am Gredyd Treth Plant.
Os byddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol ac wedi bod yn hunangyflogedig ers 12 mis neu fwy, bydd y llawr isafswm incwm yn berthnasol i’ch enillion.
Os ydych chi wedi bod yn hunangyflogedig am lai na 12 mis, efallai y byddwch yn cael eich dosbarthu o fod yn y cyfnod cychwynnol ac ni fydd y llawr isafswm incwm yn berthnasol am hyd at 12 mis.
Darganfyddwch beth mae ‘gwaith â thâl’ n ei olygu yn ein hadran isod ar ‘Sut mae dangos fy mod yn hunangyflogedig?
Os na fydd eich amgylchiadau yn newid
Os ydych chi eisoes yn cael budd-daliadau a fydd yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol ymhen amser, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth am y tro.
Bydd y DWP yn cysylltu â chi pan fydd yn amser i chi symud i Gredyd Cynhwysol. Pryd hynny, bydd y budd-daliadau rydych chi’n eu hawlio yn stopio a bydd yn rhaid i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.
Os yw’ch busnes wedi bod yn rhedeg am fwy na 12 mis a’ch bod yn gymwys fel rhywun hunangyflogedig, byddwch wedi’ch eithrio o’r llawr isafswm incwm am chwe mis cyntaf eich cais.
Os ydych chi wedi bod yn hunangyflogedig am lai na 12 mis ac yn gymwys fel rhywun hunangyflogedig, efallai y byddwch yn cael eich dosbarthu i fod yn y cyfnod cychwynnol ac ni fydd y llawr isafswm incwm yn berthnasol am hyd at 12 mis.
Sut ydw i’n dangos fy mod yn hunangyflogedig?
Os oes angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, cewch wahoddiad i gyfweliad porth yn eich Canolfan Byd Gwaith leol.
Pwrpas y cyfweliad yw i benderfynu a yw’ch gwaith yn beth mae'r DWP yn ddiffinio fel ‘hunangyflogedig â thâl‘.
I ddangos eich bod yn hunangyflogedig rhaid i’r gwaith a wnewch fod:
- yn rheolaidd
- wedi ei drefnu
- wedi ei ddatblygu.
Rhaid i chi ddisgwyl gwneud elw a dylai’r gwaith fod eich prif swydd.
Yn y cyfweliad porth, bydd angen i chi roi tystiolaeth eich bod yn hunangyflogedig. Gallai hynny gynnwys:
- derbynebau
- eich cynllun busnes
- copïau o anfonebau
- cyfrifon masnachol o’r flwyddyn flaenorol
- tystiolaeth eich bod wedi cofrestru’n hunangyflogedig gyda CThEM.
Os na ddangoswch ddigon o dystiolaeth, gallai’r aseswr benderfynu nad ydych yn hunangyflogedig â thâl.
Golyga hynny y bydd angen i chi chwilio am waith a bod ar gael i wneud gwaith arall yn hytrach tra rydych yn cael Credyd Cynhwysol.
Credyd Cynhwysol a’r llawr isafswm incwm
Os ydych wedi bod yn rhedeg eich busnes am 12 mis neu fwy pan rydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd DWP yn cyfrifo’ch taliad yn seiliedig ar y llawr isafswm incwm.
Mae hon yn lefel dybiedig o enillion a ddefnyddir i gyfrifo’ch Credyd Cynhwysol pan fydd eich gwir enillion yn gostwng o dan y lefel hon.
Cyfrifir lefel eich llawr isafswm incwm fel a ganlyn:
- Y nifer o oriau y disgwylir i chi weithio bob wythnos. Gall hynny fod hyd at 35 awr yr wythnos, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau personol. Er enghraifft byddai disgwyl i chi weithio llai o oriau os oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu neu os ydych yn anabl.
- Lluosir y ffigwr hwn gyda chyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eich grŵp oedran.
- Lluosir y ffigwr hwn â 52 ac yna ei rannu â 12 - i gael ffigwr misol.
- Yna didynnir swm o Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a 4 i gael eich llawr isafswm incwm misol.
Eich llawr isafswm incwm yw’r swm a ddefnyddir gan DWP i osod eich taliad Credyd Cynhwysol misol.
Os enillwch fwy na’r llawr isafswm incwm yna cewch lai o Gredyd Cynhwysol.
Os enillwch lai na’r llawr isafswm incwm yna ni chewch ragor o arian i bontio’r gwahaniaeth.
Enghraifft o sut y defnyddir llawr isafswm incwm i gyfrifo Credyd Cynhwysol
Bu Sarah yn gweithio fel triniwr gwallt ers dwy flynedd. Mae hi’n 25 oed a disgwylir iddi weithio 35 awr yr wythnos.
Y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer ei grŵp oed yw £10.42/awr (ar gyfer 2023/24). O 1 Ebrill 2024, bydd hwn yn newid i £11.44/awr a bydd gweithwyr 21 oed a throsodd hefyd yn gymwys i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Cyfrifir ei llawr isafswm incwm fel a ganlyn:
- 35 × £10.42 = £364.70 yr wythnos.
- £364.70 × 52 o wythnosau = £18.964.40 y flwyddyn.
- £18.964.40 ÷ 12 o fisoedd = £1,580.36 y mis.
- Yna didynnir swm o Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o £1,580.36 i gael eich llawr isafswm incwm misol.
- Ar y swm hwn, byddai’r didyniadau’n £170.37 y mis yn seiliedig ar dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn dreth 2023/24.
- £1,580.36 - £170.37 = £1,409.99
- Dyma’r isafswm y mae’r DWP yn disgwyl i Sarah ei ennill bob mis a bydd ei thaliad yn seiliedig ar incwm o £1,409.99
- Os bydd hi’n ennill mwy na hyn, bydd ei thaliad Credyd Cynhwysol yn lleihau 55c am bob £1 y bydd hi’n ei hennill oni bai ei bod yn gymwys i gael y Lwfans Gwaith.
- Os bydd hi’n ennill llai na hyn, ni chaiff fwy o Gredyd Cynhwysol i wneud i fyny'r gwahaniaeth.
Pwy sydd wedi’i eithrio o’r llawr isafswm incwm?
Beth yw Lwfans Gwaith?
Dyma’r swm o arian y byddwch yn ei ennill cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol ddechrau lleihau.
Darganfyddwch fwy yn y canllaw Egluro Credyd Cynhywysol
Os ydych wedi’ch eithrio o’r llawr isafswm incwm, yna cyfrifir eich taliadau Credyd Cynhwysol yn unol â’ch gwir incwm yn hytrach na’ch incwm tybiedig.
Dechrau busnes
Os yw eich busnes yn llai na 12 mis oed, ni fydd y llawr isafswm incwm yn berthnasol i chi am flwyddyn.
Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd yn ofynnol i chi chwilio am waith arall cyflogedig.
Fodd bynnag, bydd angen i chi fynychu cyfweliad bob tri mis i brofi eich bod yn parhau’n hunangyflogedig â thâl , ac mae'n rhaid i chi wneud popeth y gallwch i gynyddu eich enillion.
Caniateir un cyfnod dechrau busnes bob pum mlynedd i chi.
Pobl anabl a rhieni unigol
Os ydych yn hunangyflogedig ac yn y grŵp ‘dim gofynion yn gysylltiedig â gwaith’ neu’r grŵp ‘cyfweliad sy’n canolbwyntio ar Waith’ neu’r grŵp ‘paratoi gwaith’ yna ni fydd y llawr isafswm incwm yn berthnasol.
Symud o fudd-daliadau presennol i Gredyd Cynhwysol
Mae’r effaith o symud o fudd-daliadau presennol, fel Credydau Treth Gwaith, i Gredyd Cynhwysol, yn dibynnu ar ba mor hir y buoch yn hunangyflogedig.
Os ydych wedi bod yn hunangyflogedig ers llai na 12 mis, yna byddwch wedi’ch eithrio o’r llawr isafswm incwm l am 12 mis.
Rhoi gwybod am incwm o hunangyflogaeth
Grant cymorth incwm hunangyflogedig
Os cawsoch grant cymorth incwm hunangyflogedig (SEISS), bydd angen datgan hyn ar eich ffurflen dreth Hunanasesiad.
Os ydych yn cael grant cymhorthdal incwm hunangyflogaeth, bydd angen rhoi gwybod am hwn fel incwm pan fydd yn cael ei dalu.
Rhaid i chi rhoi gwybod am eich enillion i DWP bob mis er mwyn parhau i fedru hawlio Credyd Cynhwysol.
Os na fyddwch yn cyflwyno’r ffigurau hyn rhwng 7 diwrnod cyn a 14 diwrnod ar ôl eich dyddiad asesu bob mis, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ohirio.
Bydd angen i chi wneud hyn ar-lein drwy gofnodi eich derbynebau gwreiddiol meinws:
- Treth Incwm
- treuliau a ganiateir
- Yswiriant Gwladol (Dosbarth 2 a Dosbarth 4)
- unrhyw gyfraniadau pensiwn sy’n gymwys am ostyngiad treth.
Sut mae treuliau’n effeithio ar eich Credyd Cynhwysol
Os bydd eich treuliau ar gyfer cyfnod asesu misol neilltuol yn anarferol o uchel, gallwch eu gwrthbwyso yn erbyn eich incwm yng nghyfnodau asesu misol y dyfodol.
Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw eich taliadau treuliau am y mis yn uwch na’ch derbynebau.
Rheoli eich incwm amrywiol
Cymorth i Gynilo
Os ydych yn gweithio ac yn cael Credyd Cynhwysol, gallech fod yn gymwys i gael y cyfrif Cymorth i Gynilo sy’n rhoi bonws hyd at 50% i chi ar eich cynilion gan y llywodraeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Esbonio Cymorth i Gynilo
Os yw eich incwm a’ch gwariant yn cynyddu ac yn gostwng o fis i fis, mae’n syniad da ceisio ei gysoni cymaint â phosibl ar hyd y flwyddyn.
Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda Chredyd Cynhwysol gan ei fod yn cael ei dalu fel ôl-daliad yn fisol ac yn seiliedig ar y llawr isafswm incwm.
Felly os cewch fis anodd yn dilyn mis llewyrchus - gall cyfanswm cyfunol eich enillion a’ch Credyd Cynhwysol fod yn isel. Mae hyn oherwydd os yw’ch incwm yn mynd yn is na’r llawr isafswm incwm, ni chaiff ei ychwanegu ato.
I reoli cyfnodau o incwm uchel ac isel am yn ail, cyfrifwch gyfanswm eich enillion dros flwyddyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd eich holl dreuliau i ystyriaeth. Rhannwch â 12 i gael swm misol cyfartalog.
Pryd bynnag y byddwch yn ennill mwy na’r cyfartaledd mewn mis, ceisiwch neilltuo’r arian ychwanegol er mwyn i chi fedru ei ddefnyddio pan gewch fis llai llewyrchus.
Yn ogystal, peidiwch ag anghofio cynllunio ar gyfer biliau llai aml, fel Treth Incwm.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd
Gofynnwch i’ch cwsmeriaid am daliadau rhannol
Os yw natur eich busnes yn golygu ychydig o brosiectau mawr - lle cewch eich talu mewn cyfandaliad wrth gyflawni neu gwblhau, gofynnwch i’ch cleientiaid am eu caniatâd i’w bilio dros gyfnodau rheolaidd, yn fisol yn ddelfrydol.
Os byddant yn cytuno i wneud hynny, bydd hyn o gymorth i chi gysoni’ch incwm o fis i fis.
Adolygwch eich gwariant
Edrychwch ar wariant eich busnes a chanfod a allwch chi symud eich taliadau i fod yn rhai misol yn hytrach na blynyddol os yn bosibl.
Ar gyfer rhai treuliau, fel premiymau yswiriant, efallai y bydd angen i chi chwilio am ddarparwr nad yw’n codi mwy am daliadau misol.
Cael cyngor arbenigol ar ddyledion ar gyfer pobl hunangyflogedig
Os ydych yn cael trafferth gyda dyled busnes neu gartref, mae'r Llinell Ddyled Busnes yn cynnig gwasanaeth cynghori ar ddyledion am ddim i bobl hunangyflogedig a busnesau bach yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Ffoniwch Linell Ddyled Busnes ar 0800 197 6026 (o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 8pm). Neu ymwelwch â'r wefan Llinell Ddyled Busnes
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan nidirect
Paratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig
Hyd yn oed os nad ydych yn debygol o gael eich symud i Gredyd Cynhwysol ar unwaith, mae pethau y gallwch eu gwneud yn awr i sicrhau eich bod yn barod am hynny.
Ewch ar-lein
Disgwylir i chi hawlio Credyd Cynhwysol a chyflwyno’ch incwm misol ar-lein.
Gall y Ganolfan Byd Gwaith roi mynediad i’r rhyngrwyd neu roi gwybod i chi am leoedd eraill yn lleol lle gallwch ddefnyddio’r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim.
Os na allwch hawlio ar-lein, bydd cymorth wyneb yn wyneb ac ar y ffôn ar gael hyd nes i chi fedru cael mynediad i’r rhyngrwyd.
Darganfyddwch ble i fynd ar-lein am ddim ar wefan Online Centres Network (Opens in a new window)
Sefydlwch gyfrif banc ar wahân
Mae’n arfer dda cael cyfrif banc ar wahân ar gyfer eich busnes.
Mae hyn yn neilltuol o bwysig gyda Chredyd Cynhwysol oherwydd fe gyfrifir eich taliadau ar gyfer y cartref cyfan yn hytrach nag ar eich cyfer chi fel unigolyn yn unig.
Os ydych yn hunangyflogedig nid oes angen i chi ddefnyddio cyfrif banc busnes oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny.
Gall cyfrif personol fod yn ddewis rhatach.