Efallai eich bod wedi cael cyfandaliad diswyddo. Tra’ch bod yn penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio’r arian, dyma rai pethau y gallech fod am eu hystyried.
Ychwanegu at eich incwm nes i chi gael swydd newydd
Defnyddiwch ein Cynllunydd Cyllideb i gyfrifo faint fydd ei angen arnoch bob wythnos neu fis, a pha mor hir y gallwch wneud i’r arian para
Cliriwch ddyledion os bydd hyn yn dod â gwariant i lawr i lefel haws ei rheoli
Anelwch at glirio unrhyw ddyledion â blaenoriaeth cyn gynted â phosibl. Gwiriwch a oes unrhyw gosbau ad-dalu cynnar ar ddyledion yr ydych yn ystyried eu had-dalu’n llawn. Byddwch yn ymwybodol y gallai ad-dalu dyledion effeithio ar unrhyw gais am fudd-daliadau’r wladwriaeth sy’n dibynnu ar brawf modd os nad oedd yn rhaid i chi ad-dalu’r dyledion a’ch bod wedi gwneud hynny’n rhannol o leiaf i gynyddu eich budd-daliadau drwy leihau eich cynilion.
Sefydlu cynilion brys
Mae cael rhai cynilion brys yn ffordd wych o baratoi am gostau annisgwyl. Ystyriwch roi eich cyfandaliad mewn cyfrif mynediad hawdd neu gyfrif cyfredol sy’n talu llog. Rhowch hwb i'ch cynilion pensiwn
Byddwch yn cael gostyngiad treth ar y swm rydych yn talu i mewn i gynllun pensiwn hyd at derfynau penodol