Weithiau mae angen i bobl stopio gweithio neu leihau eu horiau fel y gallant ofalu am deulu neu ffrindiau. Mae llawer o resymau pam y gallai fod angen i chi wneud hyn. Darganfyddwch rai o'r pethau i'w hystyried a'r sefydliadau a allai helpu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pethau i'w hystyried
Mae llawer o bobl yn ystyried stopio gweithio neu leihau eu horiau i ofalu am eraill, naill ai'n barhaol neu dros dro.
Er nad eich cynilion pensiwn neu ymddeol yw'r peth cyntaf ar eich meddwl, mae rhai pethau i'w hystyried a allai eich helpu'n ariannol yn y tymor hir.
Mae'n bwysig meddwl sut y bydd stopio gweithio neu leihau eich oriau yn effeithio ar eich pensiwn preifat neu weithle.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Eich pensiwn os ydych yn gweithio rhan amser
Gadael eich cynllun pensiwn
Ymddeoliad cynnar
Pensiwn y Wladwriaeth
I gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn pan fyddwch yn ymddeol, mae rhaid eich bod wedi talu Yswiriant Gwladol am isafswm o flynyddoedd.
Efallai y gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol os nad ydych yn gweithio, ac fel rheol mae angen i chi fod yn hawlio rhai budd-daliadau’r Wladwriaeth.
Gall y credydau hyn helpu i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn diogelu’ch hawl i:
- Pensiwn y Wladwriaeth
- budd-daliadau oedran gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau
- budd-daliadau profedigaeth i'ch partner.
Fel rheol, gall y bobl ganlynol hawlio credydau Yswiriant Gwladol mewn rhai amgylchiadau:
- gofalwyr
- Rhieni a gofalwyr maeth
- aelod o'r teulu sy'n gofalu am blentyn (fel arfer tra bo'r rhiant neu'r prif ofalwr yn gweithio)
- y sawl sy'n cael tâl mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu.
Rydych yn gymwys am gredydau Yswiriant Gwladol os ydych:
- yn, neu wedi bod yn hawlio budd-daliadau oherwydd iechyd gwael neu ddiweithdra
- ar, neu wedi bod ar dâl mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu
- yn, neu wedi bod yn gofalu am blentyn o dan 12 oed
- ar, neu wedi bod ar gwrs hyfforddi cymeradwy
- yn briod i neu’n bartner sifil i aelod o’r lluoedd arfog ac wedi mynd gyda’ch partner ar benodiad dramor
- ar, neu wedi bod ar, wasanaeth rheithgor
- wedi cyflawni dedfryd carchar am euogfarn a gafodd ei dileu yn ddiweddarach.
Gall ceisiadau am rai credydau cael eu hôl-ddyddio am nifer o flynyddoedd, felly mae bob amser werth gwirio a ydych yn gymwys.
Os nad oes gennych hawl i gredydau Yswiriant Gwladol, efallai y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol a’r Pensiwn y Wladwriaeth
Budd-daliadau’r wladwriaeth
Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn deall pa gymorth y gallai fod gennych hawl iddo gan y Wladwriaeth.
Efallai y bydd gennych chi, neu'r person rydych yn gofalu amdano, hawl i wahanol fudd-daliadau a lwfansau.
Mae'n bwysig hawlio cyn gynted â phosibl fel na fyddwch ar eich colled o ran unrhyw fudd-daliadau.
Darganfyddwch fwy am rai o’r budd-daliadau neu lwfansau y gallech eu hawlio yn ein canllaw Budd-daliadau ar ôl ymddeol
Os ydych wedi cael gwybod nad ydych wedi talu digon o Yswiriant Gwladol i wneud cais am fudd-dal, mae’n werth gwirio a ydych wedi hawlio’r credydau Yswiriant Gwladol rydych yn gymwys iddynt. Darganfyddwch beth i’w wneud os yw Yswiriant Gwladol yn effeithio ar eich budd-daliadau ar wefan Cyngor ar Bopeth.Yn agor mewn ffenestr newydd
Sefydliadau a all helpu
Mae llawer o sefydliadau a all helpu os ydych yn gofalu am berson arall, gan gynnwys:
Canolfan Gwasanaeth Anabledd yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Macmillan – os ydych yn gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sydd â chancr.