Pan fydd aelod o’r teulu yn rheoli eich arian ar eich rhan chi neu aelod arall o’r teulu gall pryderon godi. Yn aml, gellir datrys y problemau’n hawdd. Os credwch fod rhywbeth o’i le, dylech wirio a yw eich pryderon yn ddilys a chael cyngor arbenigol am eich camau nesaf
A yw eich pryderon yn ddilys?
Awgrym Da
Ceisiwch osgoi gwneud cyhuddiadau - yn lle hynny, dim ond gofyn am esboniad. Fel hynny, mae'n haws osgoi camddealltwriaeth.
Mae camreoli arian yn broblem wirioneddol, ac mae’n iawn i chi gymryd eich pryderon o ddifrif.
Ar y llaw arall, mae llawer o bryderon yn seiliedig ar gamddealltwriaeth syml. Trwy fod yn bwyllog, efallai y gallwch dawelu eich meddwl heb i neb gael ei niweidio.
Efallai y bydd rheswm da iawn am daliad anesboniadwy, felly eich cam cyntaf yw gofyn am esboniad am y taliad rydych yn poeni amdano.
Bydd y sgwrs yn llai tanllyd os na chaiff ei geirio fel cyhuddiad. Yn hytrach, gofynnwch: ‘Roeddwn am holi tybed beth oedd y taliad hwn ar gyfer..?’
Efallai mai dyna’r cyfan y bydd rhaid i chi ei wneud i ddatrys y broblem. Ond os nad ydych yn gyfforddus â’r ateb a gewch, peidiwch â theimlo’n euog am fynd â phethau ymhellach.
Gall ein canllaw am gael sgyrsiau anodd am arian eich helpu i baratoi.
Cael cyngor arbenigol
Os ydych yn poeni o hyd ar ôl i chi siarad â’r aelod o’r teulu sy’n rheoli’r arian, mae’n syniad da iawn cael rhywfaint o gyngor arbenigol. Gallwch:
- Cewch gyngor annibynnol, cyfrinachol, am ddim Citizen's Advice.
- Gofynnwch i gyfreithiwr – os ydych eisoes wedi bod yn defnyddio un i wneud trefniadau, byddant yn gyfarwydd â’r sefyllfa ac efallai’n gallu cynnig cyngor anffurfiol. Efallai y bydd rhaid i chi dalu am hyn, felly gofynnwch ymlaen llaw bob amser a sicrhewch eich bod yn hapus â’r cyfraddau.
Dod o hyd i gyfreithiwr yn:
Cymru a Lloegr – Cymdeithas y Gyfraith
Alban – The Law Society of Scotland
Ngogledd Iwerddon – Law Society of Northern Ireland
Cymerwch gamau os bydd angen
Os credwch fod rhywun mewn perygl dybryd (naill ai bod rhwyun yn dwyn eu harian neu eu bod mewn perygl o niwed corfforol) dylech ffonio’r heddlu ar unwaith.
Yn yr un modd, efallai y credwch fod rhywun yn cael ei orfodi gan berson arall i ddefnyddio asedau neu arian mewn ffordd annarferol. Gallai hyn fod yn fath o gam-drin ariannol neu’r hyn a elwir yn ‘rheolaeth drwy orfodaeth’.
Gallwch ddarganfod mwy am gam-drin economaidd a sefydliadau a all helpu ar y wefan Surviving economic abuse
Os ydych yn anghytuno â'r dewisiadau y mae'r person yn wneud ag arian aelod o'r teulu, mae'r hyn rydych yn ei wneud yn dibynnu ar y sefyllfa.
Os ydych yn anghytuno ynglŷn â sut caiff arian ei ddefnyddio, mae’n aml yn well cael sgwrs â meddwl clir. Gallai anghytundeb fod yn rhywbeth fel a ddylid gwario’r arian ar ofal cartref neu ofal dydd. Os na fyddwch yn gallu datrys y broblem eich hunain, ceisiwch gael cyngor proffesiynol – gan feddygon neu weithwyr cymdeithasol, er enghraifft.
Datrys problemau ag atwrneiaethau ac ymddiriedolaethau
Gall fod yn destun pryder meddwl y gallai rhywun sy'n gyfrifol am arian rhywun arall fod yn gwneud rhywbeth o'i le neu efallai nad yw'n gymwys. Mae angen datrys unrhyw broblemau yn enwedig os yw rhywun wedi cael pwerau ffurfiol, fel atwrnai neu ymddiriedolwr.
Beth yw atwrneion ac ymddiriedolwyr?
Mae atwrneion ac ymddiriedolwyr yn gofalu am arian a materion ariannol i bobl eraill.
Gall atwrneion edrych ar ôl arian rhywun pan gânt eu penodi o dan atwrneiaeth, sy'n rhoi'r hawl iddynt wneud penderfyniadau ariannol neu feddygol dros rywun arall.
Weithiau, efallai bod llys wedi rhoi pwerau tebyg i bobl, ac os ydynt wedi cael eu penodi gan lys, byddant yn cael eu galw’n:
- Dirprwyon (Cymru a Lloegr), sef y term y byddwn yn ei ddefnyddio yn y canllaw hwn
- Guardians neu interveners (Yr Alban)
- Controllers (Gogledd Iwerddon).
Penodir ymddiriedolwyr i reoli ymddiriedolaeth - swm o arian neu asedau a ddelir er budd rhywun arall.
Gall hyn fod yn arian y mae rhywun wedi'i adael yn ei ewyllys i dalu am addysg plentyn, neu efallai arian i berson sy'n anabl ac yn methu â'i reoli ei hunain.
Mae rhaid i atwrneion, dirprwyon ac ymddiriedolwyr weithredu er budd gorau:
- y person a wnaeth yr atwrneiaeth
- y bobl sydd i fod i elwa o'r ymddiriedolaeth.
Pryd i boeni am atwrneion ac ymddiriedolwyr
Gweithredwch os credwch eu bod:
- yn camddefnyddio arian
- yn cyflwyno trosedd
- ddim yn gweithredu er budd gorau'r unigolyn
- yn gwneud penderfyniadau gwael sy'n effeithio ar yr unigolyn.
Mae'r hyn y dylech ei wneud yn dibynnu a ydynt yn atwrnai, yn ddirprwy neu'n ymddiriedolwr
Sut i gwyno am atwrnai neu ddirprwy
Os ydych yn poeni am ymddiriedolwr
Os nad ydych yn hapus â sut mae ymddiriedolwr yn ymddwyn, efallai y gallwch gael gwared â hwy.
Ni all llawer o bobl ddiswyddo ymddiriedolwr.
Os mai eich ymddiriedolaeth chi yw (hynny yw, pe bai wedi'i sefydlu gan ddefnyddio'ch asedau - eich arian a'ch buddsoddiadau) efallai y bydd gennych y pŵer i'w wneud.
Efallai y bydd ymddiriedolwr arall yn gallu ei wneud hefyd - mae sut y mae hyn yn gweithio yn dibynnu ar reolau'r ymddiriedolaeth.
Os ydych am ddiswyddo ymddiriedolwr, mae'n werth cael cyngor proffesiynol cyn i chi wneud unrhyw beth.
Os nad oes gennych gysylltiad agos, siaradwch â'r unigolyn sy'n rhoi’r asedau mewn ymddiriedolaeth (os gallwch), neu geisio trafod materion ag ymddiriedolwyr eraill os ydych yn gwybod pwy ydynt. Efallai y bydd y person rydych am ei helpu yn gallu dweud wrthych.
Os oes rhaid diswyddo ymddiriedolwr
Os sefydlwch yr ymddiriedolaeth, gwiriwch ddogfennau'r ymddiriedolaeth i weld a yw'r rheolau yn caniatáu i chi ddiswyddo’r ymddiriedolwyr.
Os ydych yn gyd-ymddiriedolwr neu'n fuddiolwr i'r ymddiriedolaeth, weithiau gallwch ddiswyddo ymddiriedolwr gan ddefnyddio darpariaethau gyfreithiol arall na fydd fel arfer yn nogfennau'r ymddiriedolaeth eu hunain. Siaradwch â chyfreithiwr am sut i wneud hyn.
Os yw'r dogfennau ymddiriedolaeth neu ddarpariaeth gyfreithiol arall yn caniatáu i chi ddiswyddo ymddiriedolwyr, bydd angen y gwaith papur cywir arnoch. Gallwch ei gael gan y cyfreithiwr neu'r cwmni ariannol sy'n rheoli'r ymddiriedolaeth.
Fel arfer, y cyfan sydd ei angen yw llofnodi ffurflen ychwanegol. Efallai y bydd angen i'r ymddiriedolwr rydych am eu tynnu ei lofnodi, ond efallai y gallwch eu tynnu heb eu llofnod.
Cofiwch, mae angen o leiaf dau ymddiriedolwr ar y mwyafrif o ymddiriedolaethau - felly os yw dileu un ymddiriedolwr yn eich gadael yn fyr, bydd angen i chi ddod o hyd i un arall.
Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, mae'n well siarad â chyfreithiwr neu'r sefydliad ariannol sy'n rheoli'r ymddiriedolaeth.
Mynd â rhywun i'r llys i adennill arian sy'n ddyledus
Os defnyddiwyd llawer o arian mewn ffordd nad ydych yn cytuno ag ef, efallai y bydd rhaid i chi ystyried mynd â'r person i'r llys. Mae hwn yn gam mawr, felly mae'n werth cofio y gallai hyn gael effaith negyddol ar eich perthynas â'r person hwnnw, bod yn straen i'r ddwy ochr ac nad oes ganddo unrhyw warant o lwyddiant i unrhyw un.