Pan fydd rhywun yn marw ac yn gadael dyledion ar ei ôl, mae beth sy’n digwydd i’r dyledion hyn yn dibynnu ar nifer o bethau. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i weld pa ddyledion fydd angen eu had-dalu a beth sydd rhaid i chi ei wneud.
Beth sy’n digwydd i ddyledion pan fyddwch yn marw?
Pan fydd rhywun yn marw, mae ei ddyledion yn dod yn atebolrwydd ar ei ystâd. Ysgutor yr ystad, neu’r gweinyddwr os nad oes ewyllys mewn lle, sy’n gyfrifol am dalu unrhyw ddyledion sydd heb eu talu o’r stad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw ac yn gadael ewyllys
Cael trefn ar yr ystâd pan nad oes ewyllys
Os nad oes digon o arian neu asedau yn yr ystâd i dalu’r holl ddyledion, yna byddai’r dyledion yn cael eu talu yn ôl trefn blaenoriaeth nes bod yr arian neu’r asedau’n dod i ben. Bydd unrhyw ddyledion sydd ar ôl yn debygol o gael eu dileu.
Os nad oes ystad ar ôl, nid oes arian i dalu’r dyledion ac fel rheol bydd y dyledion yn marw gyda’r ymadawedig.
Fel arfer, ni fydd perthnasau sy’n goroesi yn gyfrifol am dalu unrhyw ddyledion sydd ar ôl, oni bai eu bod wedi gwasanaethu fel gwarantwr neu eu bod yn gydlofnodwr y ddyled.
Pwy sy’n gorfod talu’r dyledion?
Cyfrifoldeb yr ysgutor neu weinyddwr yw talu’r dyledion.
Nid yw bod yn ysgutor yn golygu y byddwch yn bersonol yn atebol am unrhyw ddyledion yr ystad. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau ac mae ymgymryd â’r cyfrifoldeb yn cyflwyno rhai risgiau.
Er mwyn diogelu eich hun rhag bod yn atebol at unrhyw gredydwyr anadnabyddus, dylech roi hysbysiad ystadau ymadawedig yn The Gazette ac ym mhapur newydd sy’n lleol i ble’r roedd y person yn bywYn agor mewn ffenestr newydd. Bydd hwn yn dangos y gwnaethoch geisio cysylltu â chredydwyr cyn rhannu’r ystad i fuddiolwyr.
Os yw’n ystad fawr neu gymhleth, efallai yr hoffech ystyried cael cyngor gan gyfreithiwr neu arbenigwr profiant.
Darganfyddwch gyfreithiwr neu arbenigwr profiant ar wefan Law Society
Rhoi trefn ar ddyledion rhywun sydd wedi marw
Y cam cyntaf yw canfod pa ddyledion sydd wedi’u gadael a pha fath o ddyledion ydynt.
Ewch drwy bapurau a datganiadau ariannol, a lluniwch restr o bopeth sy’n ddyledus.
Bydd angen i chi wirio a oes gwarantwr ar gyfer unrhyw un o’r dyledion hyn. Os oes, mae’r gwarantwr yn dal i fod yn atebol am unrhyw ddyled sydd wedi’i sicrhau gan warant os nad yw’n cael ei thalu gan yr ystad.
Mae ffordd wahanol o ddelio â’r gwahanol fathau o ddyledion, a’u talu. Felly, mae’n bwysig eich bod yn canfod pa fath o ddyled ydyw.
Dyledion unigol
Gall dyledion sydd yn enw’r ymadawedig yn unig gael eu talu o werth yr ystad. Os nad oes gan yr ymadawedig ddigon o asedau i dalu’r ddyled, bydd y dyledion yn cael eu dileu. Gall dyledion unigol fod wedi’u diogelu neu heb eu diogelu.
Nid oes gofyn i unrhyw briod, partner sifil, na pherthynas sy’n goroesi dalu’r dyledion unigol o’u poced eu hunain, oni bai eu bod wedi rhoi gwarant bersonol.
Mae cerdyn credyd personol sydd â balans heb ei dalu yn enghraifft o ddyled unigol.
Dyledion ar y cyd
Os yw dau neu fwy o unigolion wedi benthyg arian yn enwau’r cwbl, yn y rhan fwyaf o’r achosion bydd y ddyled sydd heb ei thalu yn cael ei rhoi i’r bobl sy’n goroesi a gymerodd y benthyciad.
Mae morgais ar y cyd a chyfrif cyfredol ar y cyd â gorddrafft yn enghreifftiau o ddyled ar y cyd.
Un peth y gallwch ei wneud yw gwirio a oes polisi yswiriant i dalu’r ddyled ai peidio. Os nad oes, gallwch gysylltu â’r credydwr neu’r darparwr benthyciadau i wirio telerau’r ddyled. Os credwch na fyddwch yn gallu bodloni’ch rhwymedigaethau talu, eglurwch eich sefyllfa a cheisiwch drafod trefniant talu mwy fforddiadwy.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymryd benthyciad ar y cyd: beth sydd angen ei wybod arnoch
Dyledion wedi’u diogelu
Os yw dyled wedi’i diogelu yn erbyn eitem neu ased, er enghraifft, eiddo, mae pethau ychydig yn fwy cymhleth.
Cyn y gallwch gyfrifo gwerth ased, fel eich cartref, mae rhaid i chi ganfod pa fath o berchnogaeth oedd iddo a gwerth cyfran yr ymadawedig o’r ased a berchnogir ar y cyd.
Os ydych yn denantiaid ar y cyd, lle mae bob unigolyn yn berchen ar yr eiddo, mae cyfran yr ymadawedig o’r eiddo yn mynd i’r perchennog neu berchnogion eraill yn awtomatig. Golyga hyn nad yw’r eiddo yn ffurfio rhan o’r ystad ac ni ellir ei ystyried wrth dalu dyledion heb eu talu.
Bydd y perchennog sy’n goroesi yn parhau i fod yn gyfrifol am wneud ad-daliadau’r benthyciad yn ôl yr arfer.
Os ydych yn denantiaid cydradd, rydych yn berchen ar gyfran benodol o’r eiddo yn unig. Golyga hyn y gellir ystyried cyfran yr ymadawedig o’r eiddo wrth dalu’r dyledion.
Os nad yw’r eitem sy’n diogelu’r benthyciad yn eiddo, mae rheolau cyffelyb yn berthnasol. Felly, er enghraifft, os yw dau neu fwy o unigolion yn berchnogion llwyr ar yr ased, ni ellir ei gymryd i ystyraeth.
Os mai’r ymadawedig yn unig sy’n berchen arno, gellir ei ddefnyddio i dalu’r dyledion sydd heb eu talu, hyd yn oed os oes gan bobl eraill hawl i’w ddefnyddio.
Os nad ydych yn sicr pwy sy’n berchen ar yr eiddo, gallwch gael gwybod hynny drwy’r Gofrestrfa Tir am ffi fach i eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae rhai eiddo heb eu cofrestru ac os mai dyma’r achos, bydd angen i chi wirio’r gweithredoedd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro benthyciadau wedi’u gwarantu a benthyciadau heb eu gwarantu
Am ragor o wybodaeth am ddelio â dyledion rhywun sydd wedi marw ewch ar wefan y Llinell Dyledion Genedlaethol
Dyledion heb eu diogelu
Nid yw dyled heb ei diogelu wedi’i diogelu yn erbyn eich cartref neu unrhyw ased arall, er enghraifft, car. Ni all credydwyr sy’n ceisio adennill dyled gymryd y rhain os na allwch dalu’r ddyled.
Gallant ddod ar eich hôl o hyd am y dyledion hyn sydd heb eu talu, ond yn gyffredinol, bydd rhaid iddynt aros nes bod y dyledion o flaenoriaeth wedi’u talu yn gyntaf.
Mae rhagor o wybodaeth am y drefn y dylid talu dyledion wedi marwolaeth nes ymlaen yn y canllaw hwn.
Dyledion heb eu datgan
Ambell waith, ar ôl i’r holl ddyledion gael eu talu, gallech ddod o hyd i ddyled na wyddech ddim amdani.
I helpu osgoi hynny, gallwch hysbysebu mewn papur newydd lleol cyn i chi ddechrau trefnu talu’r dyledion.
Mae hyn yn rhoi amser i gredydwyr yr ymadawedig ddod ymlaen gydag unrhyw hawliadau.
Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i chi osod Hysbysiad Ystadau Ymadawedig, ond os byddwch yn methu gwneud hyn, gallech greu risg i chi’ch hun. Mae hyn oherwydd os byddwch chi’n rhannu’r Ystad ac yna y bydd credydwr yn cyflwyno ei hun, gellid eich cael yn bersonol atebol. Felly efallai y byddai’n rhaid i chi dalu’r ddyled o’ch poced eich hun.
Dylid caniatáu cyfnod o ddau fis o leiaf o ddyddiad yr hysbyseb i gyflwyno unrhyw hawliadau posibl ar yr ystad.
Sut i dalu dyledion wedi marwolaeth
Cam 1: dywedwch wrth gredydwyr fod yr unigolyn wedi marw
Mae llawer iawn o waith i’w wneud pan fyddwch yn delio â dyledion ac ystad rhywun sydd wedi marw.
Mae cael llythyrau a galwadau ffôn gan gredydwyr yn mynnu taliad yn gwaethygu straen y sefyllfa. Felly, cysylltwch â’r credydwyr a’u hysbysu fod yr unigolyn wedi marw.
Dywedwch wrthynt eich bod yng nghanol y broses gyfreithiol o ddelio ag ystad yr unigolyn. Dylech ofyn iddynt hefyd am lythyr neu ddatganiad sy’n dangos swm y ddyled sydd angen ei thalu. Unwaith y byddant yn gwybod hynny, dylent roi’r gorau i’ch poenydio a rhoi amser i chi roi trefn ar yr ystad a’r dyledion.
Os yw’n ddyled unigol, dylent roi’r gorau i dynnu taliadau rheolaidd o gyfrif(on) banc yr ymadawedig hyd nes i’r ddyled gael ei chlirio’n llwyr.
Os yw’n ddyled ar y cyd, gellir tynnu enw’r ymadawedig o’r ddyled.
Er mwyn diogelu eich hun rhag bod yn atebol at unrhyw gredydwyr anadnabyddus, dylech roi hysbysiad ystadau ymadawedig yn The Gazette ac ym mhapur newydd sy’n lleol i ble’r roedd y person yn bywYn agor mewn ffenestr newydd. Bydd hwn yn dangos y gwnaethoch geisio cysylltu â chredydwyr cyn rhannu’r ystad i fuddiolwyr.
Cam 2: gwiriwch a oes yswiriant
Y cam nesaf yw gwirio a gymerodd yr unigolyn unrhyw yswiriant i dalu’r ddyled. Er enghraifft, yswiriant bywyd i glirio’r ddyled pe byddai’n marw.
Dylech wneud hyn waeth pa fath o ddyled ydyw.
Os oes yswiriant
Gwiriwch amodau’r polisi i weld beth allwch ei hawlio. Mae rhai polisïau, fel yswiriant diogelu taliadau (PPI) ond yn talu allan ar gyfer cyfnodau o ddiweithdra neu salwch ond nid marwolaeth gan amlaf. Yna gallwch gysylltu â’r cwmni yswiriant i gyflwyno hawliad. Wedi i’r hawliad gael ei brosesu, gallwch ddefnyddio’r arian o’r hawliad i dalu’r ddyled.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd enillion polisi yswiriant bywyd yn mynd yn uniongyrchol i fuddiolwr enwebedig, ac ni fydd yn ffurfio rhan o’r ystad. Fodd bynnag, os nad oes buddiolwr wedi’i enwebu, mae’n bosibl y bydd enillion y polisi yswiriant bywyd yn ffurfio rhan o’r ystad y gellid eu defnyddio i dalu unrhyw ddyledion sydd heb eu talu. Bydd hyn yn dibynnu ar delerau ac amodau’r polisi a sut cafodd ei sefydlu.
Os nad oes yswiriant
Bydd angen i chi gysylltu â chredydwyr i wneud trefniadau i dalu dyledion os nad ydynt eisoes wedi gwneud cais ar yr ystâd.
Ar gyfer dyledion ar y cyd:
- dylech wirio amodau’r benthyciad
- gofynnwch iddynt dynnu enw eich partner ymadawedig o’r biliau a throsglwyddo unrhyw filiau i’r dyfodol i’ch enw chi yn unig
- os na allwch fforddio talu pob rhandaliad yn llawn, ceisiwch ail-drafod yr ad-daliadau i swm ac amserlen sy’n rhesymol i chi.
Ar gyfer dyledion unigol:
- gofynnwch am gyfriflen neu lythyr sy’n dangos swm y ddyled i’w thalu
- rhowch enw a manylion cyswllt yr ysgutor neu’r gweinyddwr sy’n delio ag ystad yr ymadawedig. Maent yn gyfrifol am sicrhau y telir y ddyled o’r ystad.
- os mai chi yw gweinyddwr yr ystad, byddwch angen cael profiant neu grant gweinyddu
- bydd yr ysgutor yn talu’r dyledion mewn trefn o flaenoriaeth.
Cam 3: talu mewn trefn o flaenoriaeth
Cyn y telir unrhyw ddyled, cewch yn gyntaf dalu am unrhyw dreuliau angladd a’r costau sydd ynghlwm â gwaith gweinyddol yr ystad.
Wedi i chi gael profiant neu grant gweinyddu, gallwch ddefnyddio’r arian yn yr ystad i dalu’r dyledion nad ydynt wedi eu diogelu gan yswiriant. Mae hyn yn bwysicach na rhannu’r ystad ymysg yr etifeddion.
Telir y dyledion mewn trefn benodol:
- Dyledion wedi’u diogelu, fel taliadau morgais.
- Dyledion o flaenoriaeth, megis treth incwm a’r dreth gyngor.
- Dyledion heb eu diogelu, yn cynnwys biliau cyfleustodau a chardiau credyd.
Os nad oes digon o arian yn yr ystad i dalu’r dyledion i gyd, caiff y dyledion pwysicaf eu talu yn gyntaf.
Os oes asedau, fel car neu dŷ y gellid eu defnyddio, drwy eu gwerthu, i dalu’r dyledion, mae’n opsiwn sydd yn werth ei ystyried.
Os oes mwy o ddyledion na all yr ystad eu had-dalu, gelwir hyn yn ‘ystad ansolfent’.
Beth ddylwn ei wneud os wyf yn cael anhawster talu dyledion wedi marwolaeth?
Oeddech chi’n gwybod?
Dywed y rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael cyngor ar ddyledion wrthym eu bod yn teimlo dan lai o straen neu’n llai pryderus a gyda mwy o reolaeth ar eu bywydau unwaith eto.
Os ydych yn cael anhawster talu dyledion ar y cyd wedi i’ch partner farw, neu os bydd y lleihad mewn incwm yn ei gwneud yn anodd i chi dalu’ch dyledion, gall fod yn anodd gwybod at bwy i droi.
Mae’n bwysig sylweddoli nad oes rhaid i chi ymdopi â’ch problemau dyled ar eich pen eich hun.
Mae nifer o ffyrdd i chi reoli’ch dyledion ac mae rhai yn fwy cyfarwydd na’i gilydd.
Bydd yr un fwyaf addas ar eich cyfer yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Mae’n well trafod pethau gyda chynghorydd dyledion profiadol, am ddim cyn i chi benderfynu beth i’w wneud.
Sut bydd cynghorydd dyledion yn eich helpu?
Bydd cynghorydd dyledion:
- fyth yn eich barnu na’n gwneud i chi deimlo’n wael am eich sefyllfa
- yn awgrymu ffyrdd i ddelio â dyledion nad oeddech yn ymwybodol ohonynt efallai
- yn fodlon siarad gyda chi bob amser, waeth pa mor fawr neu fach yw’ch problem
- yn dod o hyd i ffyrdd i reoli’ch dyledion hyd yn oed os credwch nad oes gennych arian i’w talu
- yn gwirio eich bod wedi ymgeisio am yr holl fudd-daliadau a’r hawliau sydd ar gael i chi.
Gallwch gysylltu â chynghorydd yn y ffordd sydd orau i chi:
- ar-lein
- wyneb yn wyneb
- dros y ffôn.
Neu darllenwch ein canllawiau ar ddelio gyda dyled