Pan fydd rhywun yn marw, bydd treth fel arfer yn cael ei dalu o’u hystad cyn i unrhyw arian gael ei ddosbarthu i’w etifeddion. Fel arfer pan fyddwch chi'n etifeddu rhywbeth, does dim treth i'w dalu ar unwaith ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth yn nes ymlaen. Dyma ganllaw ar ba dreth y mae angen i chi ei dalu a phryd.
Cyfrifo Treth Incwm hyd at ddyddiad y farwolaeth
Pan fydd rhywun annwyl wedi marw, efallai eu bod wedi talu gormod neu rhy ychydig o Dreth Incwm. O hyn ymlaen byddwn yn cyfeirio at yr un sydd wedi marw fel yr ‘ymadawedig’ gan mai dyma’r term cyfreithiol rydych yn fwyaf tebygol o’i weld.
O ganlyniad, gallai ystâd yr ymadawedig fod â threth yn ddyledus i'r llywodraeth neu efallai y bydd ad-daliad treth yn ddyledus.
Mae’r ‘ystâd’ yn air sy’n disgrifio popeth roedd person yn berchen arno ac yn ddyledus iddynt pan fu farw.
Er mwyn sicrhau bod y swm cywir o Dreth Incwm yn cael ei dalu, mae'n bwysig cysylltu â Chyllid a Thollau EM (CThEM) cyn gynted â phosibl fel y gallant addasu cyfrifiad treth yr ymadawedig.
Am help i gysylltu â sefydliadau eraill am farwolaeth fel banciau ac yswirwyr darllenwch ein canllaw Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw
Cwblhau ffurflen dreth dros rhywun sydd wedi marw
Efallai y bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth hunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd os oedd yr ymadawedig fel arfer yn cwblhau un.
Os ydych chi wedi defnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, bydd CThEM yn dweud wrthych os oes angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad.
Os nad ydych yn siŵr a oedd yr ymadawedig yn cyflwyno ffurflen dreth yn rheolaidd, gwiriwch gyda CThEM os oeddant yn gwneud, a phryd y gwnaethant gyflwyno ffurflen ddiwethaf.
Bydd angen i chi gael rhif Yswiriant Gwladol yr ymadawedig wrth law wrth gysylltu â CThEM.
Gallwch ddod o hyd i’r holl fanylion i gysylltu â CThEM ar eu gwefan
Talu treth ar incwm a dderbynnir gan ystâd rhywun sydd wedi marw
Mae unrhyw incwm a dderbynnir ar ôl marwolaeth yr unigolyn, fel rhent o eiddo neu incwm o fusnes y person, yn ‘perthyn’ i’w ystâd.
Fel arfer, nid oes treth wedi'i didynnu o'r math hwn o incwm cyn ei dderbyn.
Ar gyfer y math hwn o incwm, rhaid i ysgutor ewyllys y person roi gwybod am hyn i CThEM fel rhan o brofiant, fel bod y swm priodol o dreth yn cael ei gyfrifo a'i dalu gan yr ystâd.
Mae faint o Dreth Incwm y mae angen i ystâd yr ymadawedig ei dalu yn dibynnu o ble mae'r incwm yn dod.
Mae'n werth cofio nad yw'r lwfansau di-dreth arferol sydd gennych pan fyddwch yn fyw, fel eich lwfans personol neu'ch lwfans cynilo personol, yn berthnasol i'ch ystâd pan fyddwch chi'n marw.
Incwm o gynilion, buddsoddiadau neu rent ar eiddo
Nid yw llog a difidendau o gyfrifon cynilo a chyfranddaliadau bellach wedi cael y dreth wedi’i dynnu ohonynt cyn cael eu talu.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesu ar ran yr ymadawedig a thalu'r Dreth Incwm o'r ystâd.
Os oes incwm rhent o eiddo yn y DU, bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth ar gyfer ystâd yr ymadawedig.
Gallwch roi gwybod am ystadau ‘syml’ trwy ysgrifennu at CThEM a elwir hefyd yn ‘trefniant anffurfiol’. Fodd bynnag, os ydyw’n fwy ‘cymhleth’ bydd angen i chi gofrestru ar-lein ac anfon ffurflen dreth Hunan-Asesiad am yr ystâd. Gall CThEM roi gwybod beth i wneud pan rydych yn delio ag ystâd rhywun sydd wedi marw.
I ddweud wrth CThEM am unrhyw incwm o dramor heb ei drethu, ffoniwch y Llinell Gymorth Profedigaeth ar 0300 200 3300
A oes Treth Enillion Cyfalaf i'w dalu ar yr ystâd?
Y newyddion da yw nad oes rhaid i’r ystâd dalu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf ar yr eiddo neu’r asedau na chawsant eu gwerthu (a elwir hefyd yn ‘enillion nas gwireddwyd’) cyn i’r person farw.
Ond, os yw'r eiddo neu'r ased yn cael ei werthu yn ystod profiant a bod ei werth wedi codi ers i'r person farw, fel rheol mae Treth Enillion Cyfalaf i'w dalu.
Cyfrifir y dreth hon yn ôl faint yw'r cynnydd ers marwolaeth yr unigolyn.
Mae buddiolwyr yn etifeddu'r asedau yn ôl eu gwerth profiant.
Mae hyn yn golygu pan fyddant yn gwerthu neu'n rhoi'r ased i ffwrdd, byddant yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar y cynnydd mewn gwerth o'r adeg y bu farw'r person hyd nes iddo gael ei werthu neu ei roi i ffwrdd.
Am fwy o wybodaeth am gyfrifo a thalu Treth Enillion Cyfalaf ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae angen i chi roi gwybod am a thalu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy'n ddyledus i CThEM o fewn 60 diwrnod ar gyfer unrhyw eiddo preswyl a werthir sy'n eiddo i'r ystâd. Mae'r 60 diwrnod yn dechrau pan fydd y gwerthiant yn cael ei gwblhau.
Darganfyddwch fwy am newidiadau i Dreth Enillion Cyfalaf ar gyfer gwerthu eiddo yn y DUYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Help gyda threth os ydych ar incwm isel
Os ydych ar incwm isel a methu â chael yr help sydd ei angen arnoch gan CThEF, mae Taxaid yn cynnig cyngor am dreth ddienw am ddim.
Neu os ydych ar incwm isel a 60 oed neu’n hŷn, gallwch gysylltu â Tax Help for Older PeopleYn agor mewn ffenestr newydd