Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Dweud wrth gynllun pensiwn am farwolaeth

Pan fydd rhywun yn marw, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i bob cynllun pensiwn yr oeddent yn aelod ohono cyn gynted â phosibl.

Os oedd gan yr unigolyn bensiwn preifat neu weithle

Cysylltwch â gweinyddwr y cynllun neu'r darparwr pensiwn ar gyfer pob un o'r cynlluniau i ddweud wrthynt am y farwolaeth.

Os oedd y person sydd wedi marw yn gyflogedig, efallai y byddai eu cyflogwr wedi cysylltu â'r cynllun ond mae'n well sicrhau.

Yna bydd gweinyddwr y cynllun neu'r darparwr pensiwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych beth sy'n digwydd nesaf.

Mae cynlluniau pensiwn yn aml yn darparu budd-daliadau marwolaeth i fuddiolwyr yr aelod. Os nad ydych yn gwybod beth yw'r budd-daliadau marwolaeth neu'r rheolau sy'n berthnasol, cysylltwch â'r darparwr pensiwn neu weinyddwr y cynllun i gael gwybod.

Gallwch hefyd ofyn a oes gennych hawl i gael unrhyw fudd-daliadau pensiwn a/neu gyfandaliad arian parod o'r cynllun pensiwn.

Os oedd y person yn tynnu pensiwn, dywedwch wrth y cynllun pensiwn cyn gynted â phosibl. Byddwch yn ymwybodol y gallai fod yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw daliadau pensiwn a dderbyniwyd ar ôl dyddiad eu marwolaeth.

Mae'n bwysig deall beth fydd yn digwydd i'ch pensiwn pan fyddwch yn marw. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth sy'n digwydd i'm pensiwn pan fyddaf yn marw?

Os oedd y person yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym UnwaithYn agor mewn ffenestr newydd i roi gwybod am farwolaeth i'r rhan fwyaf o sefydliadau'r llywodraeth ar yr un pryd gan gynnwys delio â Phensiwn y Wladwriaeth.

Ar ôl i chi roi gwybod am farwolaeth, gallant stopio talu'r pensiwn. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn gallu etifeddu rhan neu'r cyfan o'r Pensiwn y Wladwriaeth neu gyfandaliad ychwanegol yr oeddent wedi'i gronni. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau marwolaeth Pensiwn y Wladwriaeth.

Os hoffech drafod eich sefyllfa, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 0469.

Gwasanaeth Cymorth Profedigaeth

Taliad Cymorth Profedigaeth yw'r prif fudd-dal sydd ar gael i chi os yw'ch partner wedi marw.

Darganfyddwch faint ydyw a sut i wneud cais yn ein canllaw Hawlio Taliad Cymorth Profedigaeth a budd-daliadau eraill.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.