Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Delio â materion ariannol ar ôl i’ch partner farw

Nid yw addasu i fywyd ar ôl marwolaeth eich partner yn hawdd. Rhwng eich galar a’r holl bethau yn sydyn iawn y canfyddwch yr ydych yn gyfrifol amdanynt, gall y teimlad eich llethu. I’ch helpu i ddelio â’r sefyllfa newydd hon, darganfyddwch rai o’r nodweddion ariannol pwysig y bydd angen i chi eu hystyried a’u rheoli.

Cymryd cyfrifoldeb am filiau a chyllideb y cartref

Mae’n debygol y newidiodd eich incwm yn y cartref, neu ostwng hyd yn oed, ar ôl marwolaeth eich partner.

Ond mae pethau allwch chi eu gwneud i sicrhau y gallwch gymryd rheolaeth dros y materion ariannol a pharhau i dalu’r biliau ac ymdopi i fyw o fewn cyllideb wahanol.

Trosglwyddo a thalu’r biliau

Os mai’ch partner diweddar oedd yn delio â’r biliau, mae’n bwysig eich bod yn cymryd cyfrifoldeb am y gwaith hwn yn gyflym. Fel arall, gallech wynebu ffioedd am daliadau hwyr, neu rywun yn casglu dyledion gennych am daliadau a fethwyd.

I roi trefn ar filiau’r cartref:

  • casglwch yr holl filiau, nodwch pa bryd mae pob un yn ddyledus a beth yw’r swm
  • gwiriwch eich cyfrif(on) banc i weld a oes gennych chi ddigon o arian i dalu’r biliau hyn.

Bydd biliau:

  • a delir o’ch cyfrif ar y cyd yn parhau yn ôl yr arfer - os penderfynwch gadw’r cyfrif ar y cyd
  • a delir o gyfrif unigol eich partner ddim yn cael eu talu o bosib, oherwydd mae’n debygol y rhewir y cyfrif unwaith y bydd y banc yn ymwybodol o farwolaeth deilydd y cyfrif. Bydd angen i chi gysylltu â’r cwmnïau i newid y trefniadau talu er mwyn i’r arian ddod allan o’ch cyfrif chi yn hytrach.

Bydd angen i chi hefyd newid unrhyw filiau a oedd yn enw eich partner yn unig a’u rhoi yn eich enw chi.

Efallai yr hoffech hefyd newid unrhyw filiau a oedd yn enw’r ddau ohonoch, a’u rhoi yn eich enw chi yn unig yn ddiweddarach.

Os credwch eich bod yn mynd i gael trafferth talu’ch biliau’n, mae cymorth a chyngor ar gael i chi ddelio â hyn.

Trosglwyddo o gyfrif ar y cyd i un unigol

Os oedd gennych gyfrif banc ar y cyd gyda’ch partner, gallwch barhau i’w ddefnyddio yn ôl yr arfer.

Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw hysbysu’r banc neu’r gymdeithas adeiladu bod eich partner wedi marw, er mwyn iddynt fedru newid manylion y cyfrif.

Ond efallai yr hoffech chi ystyried ei newid cyn hir i gyfrif unigol yn eich enw chi.

Dylai hyn ei gwneud hi’n haws i reoli’ch arian a gweld a oes gennych chi ddigon bob mis i dalu’r biliau.

Lluniwch gyllideb

Gyda rhestr o’ch treuliau cartref, mae gennych y rhan gyntaf o lunio cyllideb sy’n gweddu i’ch sefyllfa ariannol newydd.

Nesaf, mae angen i chi adio’ch holl incwm rheolaidd. Gallai hyn ddod o fudd-daliadau, pensiwn, cyflogau neu hyd yn oed gynilion.

Os bydd gennych ychydig o incwm yn weddill ar ôl talu’r biliau, yna efallai yr hoffech ystyried cynilo i greu cronfa argyfwng.

Ond os bydd eich gwariant yn uwch na’ch incwm, mae yna rai pethau allwch chi eu gwneud i gwtogi ar eich gwario.

Sut i wneud cais am unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt

Os ydych yn wynebu gostyngiad yn eich incwm ar ôl i’ch partner farw, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd hwn yn ychwanegu at eich incwm ac yn helpu gyda phethau megis costau tai neu fagu plant.

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym pa gefnogaeth gallech fod â hawl iddo.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am ba fudd-daliadau a chymorth sydd ar gael i chiYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan nidirect.

Yn dibynnu ar eich perthynas gyda’r person a fu farw, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn budd-daliadau profedigaeth a help arall.

Delio ag unrhyw ddyledion cardiau credyd, benthyciadau neu forgeisiau

Os oedd gan eich partner gerdyn credit neu siop, benthyciad personol neu gytundeb hurbwrcas yn eu henw, gallai fod gan y rhain weddill  heb ei dalu.

Mae’n bwysig i ddelio gyda rhain mor fuan â phosib. Mae hwn yn cynnwys eich morgais.

Dechreuwch gan greu rhestr o’r dyledion, a faint sydd yn weddill am bob un.

Bydd hwn yn eich helpu i flaenoriaethu'r dyledion fel eich bod yn medru delio â nhw.

Cymryd cyfrifoldeb am y morgais

Y cam cyntaf yw siarad â’r darparwr morgais i adael iddynt wybod bod eich partner wedi marw.

Gallant eich helpu i gyfrifo eich opsiynau gyda’r morgais.

Fel arfer, y morgais yw un o’r dyledion cyntaf i’w dalu allan o’r ystâd. Neu o yswiriant bywyd neu ddiogelu taliadau morgais a brynodd eich partner efallai pan brynwyd y morgais yn wreiddiol.

Ond os nad oes digon o arian i glirio’r ddyled hon, mae gennych un neu ddau o opsiynau.

Un opsiwn yw cymryd morgais yn eich enw chi.

Dylech ystyried hynny os credwch y gallwch fforddio’r taliadau ar eich pen eich hun.

Yn anffodus, ni allwch yn syml ‘drosglwyddo’r’ morgais i’ch enw chi, hyd yn oed os oedd gennych chi forgais ar y cyd gyda’ch partner.

Byddai’n rhaid i chi fynd drwy broses o adolygiad yn union fel petai’r cais am forgais yn un newydd.

Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’ch sefyllfa ariannol gyfredol i’r darparwr morgais.

Byddant yn asesu hyn ynghyd â’ch gallu i ad-dalu’n brydlon.

Os na chewch eich cymeradwyo ar gyfer morgais ac os na allwch ei ad-dalu’n ôl yn llawn, efallai y bydd yn rhaid i chi wynebu’r opsiwn o werthu’ch cartref i glirio’r ddyled hon.

Os ydych yn ystyried gwerthu eich cartref, darllenwch ein canllaw Sut i werthu a phrynu cartref drwy asiantau tai.

Mae ychydig o help ar gael gan y llywodraeth os gwelwch eich bod yn cael trafferth ad-dalu’ch morgais.

Cymryd cyfrifoldeb am yr yswiriant

Os yw unrhyw un o’r polisïau yswiriant cartref yn enw’ch partner, mae’n bwysig iawn gwirio’r polisïau hyn.

Dylech roi sylw arbennig i:

  • yswiriant car
  • yswiriant cartref
  • yswiriant oes a diogelwch.

Bydd y rhan fwyaf o bolisïau’n dod i ben pan fydd prif ddeiliad y polisi’n marw.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, mae’n golygu na fyddwch wedi’ch diogelu petai rhywbeth yn digwydd.

Yswiriant car

Os ydych yn yrrwr a enwir ar y polisi yswiriant car, bydd angen i chi wirio gyda’r yswirwyr a ydych wedi’ch diogelu o hyd.

Os nad ydych, bydd angen i chi gael polisi newydd yn ei le. Bydd y rhan fwyaf o bolisïau’n dod i ben pan fydd prif ddeiliad y polisi’n marw, sy’n golygu na fyddwch wedi eich yswirio.

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r un cwmni. Chwiliwch am y fargen orau.

Cofiwch, rhaid cael yswiriant car os ydych yn dymuno parhau i yrru car. Rydych mewn perygl o wynebu dirwy sylweddol, neu waeth na hynny, os gyrrwch heb yswiriant.

Yswiriant cartref

Bydd angen i chi adael i’ch darparwr yswiriant cartref wybod bod eich amgylchiadau wedi newid.

Yn dibynnu ar sut y rhannwyd ystâd eich partner, efallai y byddwch wedi etifeddu mwy neu etifeddu llai hyd yn oed ar ôl ei farwolaeth.

Bydd hyn yn effeithio ar faint o ddiogelwch y byddwch ei angen ynghyd â faint dalwch chi am eich yswiriant cartref.

Gallech gymryd y cyfle hwn hefyd i chwilio am y fargen orau o ran yswiriant cartref newydd sy’n gweddu’n well â’ch amgylchiadau newydd.

Yswiriant oes a diogelwch

Os oes gennych chi yswiriant bywyd ar y cyd neu eich yswiriant eich hun, bydd angen i chi gysylltu â’r darparwr i ddiweddaru eich polisi.

Efallai y bydd angen i chi newid buddiolwyr y polisi, neu hyd yn oed newid y swm a ddiogelir ganddo.

Os nad oes gennych chi yswiriant bywyd, dyma amser da i ddechrau chwilio am un.

Mae’n bwysig cael ychydig o yswiriant bywyd i ddiogelu unrhyw un sy’n ddibynnol arnoch chi, petai unrhyw beth yn digwydd.

Efallai yr hoffech hefyd ystyried cael rhagor o yswiriant diogelwch, fel diogelu incwm neu ddiogelwch salwch.

Cynllunio’ch materion ariannol ar gyfer y dyfodol

Wedi i chi ddod i’r arfer o reoli materion ariannol y cartref, dylech ddechrau ystyried gwneud cynlluniau ariannol i’r dyfodol.

Gall gymryd peth amser cyn i chi deimlo’n barod i wynebu’r dyfodol heb eich partner, felly nid oes angen brysio wrth gynllunio’ch dyfodol ariannol.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.