Mae trefnu ystad pan nad oes ewyllys yn mynd i gymryd ychydig mwy o amser na phan fydd ewyllys. Ond nid yw mor anodd na brawychus ag y byddech yn meddwl. Bydd ein canllaw yn dweud wrthych beth i'w wneud, a sut i'w wneud.
Pwy ddylai gael trefn ar yr ystâd?
Pan fydd rhywun yn marw heb lunio ewyllys gelwir hyn yn ‘farw’n ddiewyllys’.
Gall hyn olygu bod rhoi trefn ar eu hystâd ychydig yn fwy cymhleth oherwydd y gyfraith sy’n penderfynu pwy sy’n etifeddu’r ystâd yn ôl meini prawf penodol o’r enw ‘rheolau diewyllys’.
Os oes yna berthynas neu ffrind sy’n fodlon ac yn gallu rhoi trefn ar yr ystâd, yna gall wneud cais am ‘grant gweinyddu’ - a elwir hefyd yn grant cynrychioli, grant profiant, neu gadarnhad (yn yr Alban).
Mae’r grant hwn yn ei wneud yn ‘weinyddwr’ yr ystâd ac yn ei alluogi i werthuso’r ystâd, talu unrhyw ddyledion a dosbarthu’r ystâd yn unol â’r rheolau diewyllys.
Mae cael trefn ar ystâd fel arfer yn cymryd mwy o amser. Felly, gorau po gyntaf y byddwch yn ymgeisio am brofiant, er mwyn gallu dosbarthu’r ystâd i’r etifeddion.
Os nad oes unrhyw berthnasau wedi goroesi, mae ystâd yr unigolyn yn cael ei basio i’r Goron.
Yna mae Trysorlys EM yn gyfrifol am ddelio â’r ystâd.
Os byddwch yn dewis ymgymryd â’r gwaith o weinyddu’r ystâd, gallwch:
- ddefnyddio arbenigwr profiant, neu
- cael trefn ar yr ystâd eich hun.
Darganfyddwch fwy am reolau diewyllys ar GOV.UK
Defnyddio cyfreithiwr neu arbenigwr profiant
Mae cael trefn ar ystâd pan nad oes ewyllys yn waith anodd weithiau.Yn arbennig os nad yw’n glir pa asedau oedd gan yr ymadawedig, neu os oes yna berthnasau teuluol cymhleth sy’n gwneud dosbarthu’r ystâd dan reolau diewyllys yn anodd.
O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n synhwyrol ystyried defnyddio cyfreithiwr neu gyfrifydd sy’n arbenigo mewn profiant.
Gall defnyddio arbenigwr profiant hefyd wneud y broses o gael trefn ar ddiffyg ewyllys yn haws ac ychydig yn gynt, hyd yn oed ar gyfer ystadau llai cymhleth.
Os byddwch chi’n penderfynu defnyddio arbenigwr profiant, dylech gyllidebu ar gyfer nifer o filoedd o bunnoedd ar gyfer eu gwasanaethau.
Cael trefn ar yr ystâd eich hun
Os byddwch chi’n penderfynu mynd i’r afael â gweinyddu’r ystâd eich hun, rydych yn dal i allu talu cyfreithiwr am ei amser, os oes angen gwneud pethau fel bwrw golwg dros y cais profiant, neu gyfrifo sut i ddosbarthu’r ystâd.
Mae’r broses o gael trefn ar ystâd heb ewyllys bron yr un fath â phan fydd yna ewyllys. Os ydych eisiau cael trefn ar yr ystâd eich hun, gallwch ddefnyddio ein canllaw Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw ac yn gadael ewyllys.
Mae yna wybodaeth a help hefyd am wneud cais am brofiant yn GOV.UK
Paratoi ar gyfer grant profiant
Mae’r cam cyntaf wrth ymgeisio am brofiant yn cynnwys rhywfaint o ‘hela’ ac ychydig o waith papur. Yn benodol, mae angen i chi ddod o hyd i rai dogfennau a gwneud copïau.
Mae angen y dogfennau hyn wrth i chi fynd trwy’r broses o gael profiant.
Chwilio am a gwneud copïau o ddogfennau pwysig
Bydd angen i chi gael o leiaf chwe chopi ardystiedig o’r dogfennau canlynol:
- tystysgrif marwolaeth
- tystysgrif geni
- tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil, os oedd yr unigolyn yn briod.
Bydd angen i chi atodi copïau o’r amrywiol ddogfennau hyn i ffurflenni profiant, a chael mynediad at gyfrifon banc, buddsoddiadau neu yswiriant bywyd yr ymadawedig.
Prisio’r ystad
Cyn i chi fedru ymgeisio am brofiant, neu gadarnhad os ydych yn byw yn yr Alban, bydd angen i chi roi gwerth ar yr ystâd.
Pan gwblhewch y ffurflenni profiant, bydd angen i chi nodi beth yw gwerth yr ystâd.
I prisio’r ystâd, rhaid i chi ddod o hyd i'r wybodaeth canlynol:
- Darganfod gwerth unrhyw asedau, fel eiddo, pensiynau preifat, cynilion, cyfranddaliadau, gemwaith, neu eitemau gwerthfawr.
Os ydych chi’n meddwl bod eitem yn werth mwy na £500, dylech gael ei brisio’n broffesiynol. - Darganfod beth yw gwerth unrhyw roddion a roddodd yr unigolyn yn y saith mlynedd cyn marw. Bydd angen i chi gynnwys y rhain yng ngwerth yr ystâd. Mae mathau penodol o roddion a roddwyd cyn i’r person farw yn gallu arwain at dalu Treth Etifeddiant.
- Darganfod faint o ddyled sydd os o gwbl, fel morgais, cardiau credyd neu fenthyciadau. Dylech gynnwys costau angladd yn rhan o’r ddyled os yw’r ystâd yn talu am yr angladd. Os oes dyled ar y cyd, bydd angen i chi gyfrifo faint yw cyfran yr ymadawedig o’r ddyled honno.
- Gweithio allan faint yw gwerth yr ystâd ar ôl talu unrhyw ddyledion.
Bydd hefyd angen i chi gyfrifo os oedd unrhyw asedau oedd dan berchnogaeth gyfunol, fel cyfrif banc neu eiddo.
Yn ddibynnol ar y math o berchnogaeth, efallai y bydd rhaid i chi ei gynnwys yng ngwerth yr ystâd.
Prisio cyd asedau
Cyn y gallwch gyfrifo gwerth cyfran ased yr ymadawedig a oedd mewn cydberchnogaeth, rhaid i chi ganfod pa fath o berchnogaeth oedd iddo.
Ymysg yr enghreifftiau o’r math yma o ased mae car, tŷ neu ddarn o dir.
Efallai y bydd wedi bod yn berchen ar yr ased hwn un ai fel:
- ‘Cyd-denant’, neu
- ‘Tenant cydradd’.
Ased sy’n berchen arnynt fel ‘cyd-denantiaid’
- bod gan y ddau berchennog hawliau cyfartal dros yr ased cyfan
- mae’r ased yn trosglwyddo’n awtomatig i’r cydberchennog arall os yw un yn marw
- ni all yr ymadawedig drosglwyddo’r berchnogaeth o’r ased yn eu ewyllys.
- rhaid i chi brisio’r ased a’i gynnwys wrth gyfrifo’r Dreth Etifeddiant. Ond, efallai na fydd Treth Etifeddiant i’w dalu ar yr ased hwn os yw’r gwerth o fewn y lwfans di-dreth.
Mae cyfrifon banc ar y cyd bron bob tro yn cael eu cadw fel ‘tenantiaid ar y cyd’.
Felly, er bod perchnogaeth o’r cyfrif yn pasio’n awtomatig i gyd ddeiliad y cyfrif, rhaid i chi ei gynnwys yn rhan o werth ystâd yr ymadawedig.
I roi gwerth ar gyfran yr ymadawedig o gyfrif banc ar y cyd, bydd angen i chi gael gwybod beth oedd y swm yn weddill yn y cyfrif a’i rannu gyda’r nifer o ddeiliaid cyfrif.
Fel arfer mae CThEM yn craffu cyfrifon ar y cyd gan gyplau dibriod neu gyfuniadau eraill (e.e. rhiant a phlentyn) yn agosach.
Mae hyn oherwydd mae’n bosibl na fydd yr eithriadau arferol o Dreth Etifeddiant yn gymwys, ac y gallai’r cyd ddeiliaid sy’n goroesi fod yn gyfrifol am swm penodol o dreth.
Ased sy’n berchen arnynt fel ‘tenantiaid cydradd’
- Gall pob perchennog fod yn berchen ar wahanol gyfrannau o’r ased
- Nid yw’r ased yn trosglwyddo i’r perchennog arall fel mater o drefn os yw un yn marw
- Gall yr ymadawedig drosglwyddo eu perchnogaeth o’r ased yn eu ewyllys.
- Bydd angen i chi werthuso cyfran yr ymadawedig o’r ased a’i chynnwys wrth gyfrifo’r Treth Etifeddiant.
Ddim yn siŵr sut mae ased dan gydberchnogaeth?
Os oedd gan yr ymadawedig unrhyw asedau eraill, megis cyfranddaliadau, bydd angen i chi gysylltu â’r cwmni:
- i weld sut berchnogaeth oedd yn bodoli
- i gyfrifo faint oedd cyfran yr ymadawedig o’r ased a chynnwys hynny fel rhan o’r ystâd.
Ar gyfer eiddo neu dir, os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn ei bapurau a chofnodion, gallwch ei gael, am ffi, gan;
- Y Gofrestrfa Dir ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr.
- Department of Finance and Personnel ar gyfer eiddo yng Ngogledd Iwerddon.
- Registers of Scotland (Opens in a new window) ar gyfer eiddo yn yr Alban.
Sut i gasglu asedau’r ymadawedig
Gallwch gael mynediad at asedau ariannol yr ymadawedig (megis cyfrifon banc) trwy ofyn i fanciau a sefydliadau eraill ryddhau asedau'r ymadawedig i chi.
Dylech agor cyfrif banc ar wahân ar gyfer yr ystâd, er mwyn osgoi ei gymysgu â'ch cyfrifon banc personol eich hun.
Bydd agor cyfrif banc ar wahân hefyd yn ei wneud yn haws i chi weld gwerth asedau ariannol yr ymadawedig, a gallai hefyd helpu i osgoi unrhyw anghytundebau rhwng buddiolwyr ewyllys yr ymadawedig.
Efallai y bydd y banciau’n cyfeirio at y math hwn o gyfrif fel ‘cyfrif ysgutor’ neu gyfrif cleient os yw cyfreithwyr yn gweithredu ar eu rhan.
Diogelwch arian a gedwir mewn cyfrif ysgutor
Os dewiswch agor cyfrif banc ar wahân, dylech hefyd ystyried ei agor gyda banc cwbl ar wahân i'ch un chi.
Mae hyn er mwyn i chi fod yn sicr bod gan unrhyw arian a gedwir yn y cyfrif banc ddiogelwch llawn y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Er bod yr FSCS yn caniatáu diogelwch blaendal o £1 miliwn dros dro am hyd at chwe mis ar gyfer ‘enillion ystâd ymadawedig a gedwir gan eu cynrychiolydd personol’, ni allant warantu’r diogelwch hwn os bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal.
Swm safonol y diogelwch yw £85,000 fesul sefydliad ariannol (mae rhai banciau'n rhannu trwydded, ee Halifax a Bank of Scotland), a allai fod yn is na gwerth ystâd yr ymadawedig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Iawndal os yw'ch banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i'r wal
Cyfrifo Treth Etifeddiant
Unwaith y byddwch wedi cael gwerth yr ystâd a faint o ddyled oedd gan yr ymadawedig, bydd angen i chi gyfrifo faint o Dreth Etifeddiant sy’n daladwy.
Os yw cyfanswm gwerth yr ystâd ar ôl tynnu’r dyledion dros £325,000, yna mae angen talu Treth Etifeddiant.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifo a thalu treth incwm a threth enillion cyfalaf ar ôl i rywun marw
Mae gan wefan gov.uk arweiniad ar sut i weithio allan pa ran o'r ystad sy'n talu Treth Etifeddiant
Mae'r dreth hon yn ddyledus o fewn chwe mis i'r adeg y bu farw'r person. A chodir llog os na chaiff ei dalu o fewn chwe mis.
Felly er mwyn helpu i osgoi talu'r llog hwn, ystyriwch dalu rhywfaint neu'r cyfan o'r Dreth Etifeddiant cyn i chi orffen prisio'r ystâd. Os ydych yn talu hwn o'ch cyfrif eich hun, gallwch ei hawlio yn ôl o'r ystâd.
Darganfyddwch fwy am ynglŷn â thalu am Dreth Etifeddiant yn GOV.UK
Gwneud cais am grant profiant
Ar ôl i chi ddod o hyd i werth yr ystâd, bydd angen i chi lenwi ychydig o ffurflenni a'u hanfon i swyddfa'r Gofrestrfa Profiant agosaf.
Bydd angen i chi dalu ffi am wneud cais hefyd.
Mae faint sydd angen i chi ei dalu a pha ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi yn dibynnu a ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Ar ôl iddynt gael eich cais, bydd y swyddfa brofiant yn cysylltu â chi i drefnu i chi dyngu llw.
Gallwch wneud hyn naill ai yn y swyddfa brofiant leol neu yn swyddfa comisiynydd llwon.
Fel arfer nid oes angen i chi wneud cais am brofiant os oedd yr ystâd naill ai:
- yn eiddo ar y cyd ac felly'n trosglwyddo i'r gŵr, gwraig neu bartner sifil sy’n goroesi, neu
- nid yw'n cynnwys tir, eiddo na chyfranddaliadau.
Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr
Y ffi i wneud cais yw £273 os byddwch yn ei wneud eich hun neu os yw ystad yn defnyddio cyfreithiwr i wneud cais am brofiant, ar bob ystad dros £5,000.
Gallwch wneud cais am brofiant ar-lein ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os farwodd y person tramor, mae yna ffurflenni gwahanol i’w llenwi. Dewch o hyd iddynt ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
I gael help i lenwi'r ffurflenni hyn, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddiaeth ar 0300 123 1072. Darganfyddwch fwy o fanylion cyswllt ar wefan GOV.UK
Os ydych yn byw yn yr Alban
Yn ddibynnol ar faint yr ystâd, mae yna wahanol ffurflenni i’w llenwi:
- gyfer ystadau bach (sy’n werth £36,000 neu lai), rydych angen ffurflen C1 ac C5(SE)
- gyfer ystadau mawr (sy’n werth dros £36,000), rydych angen ffurflen C1.
Mae’r ffi gadarnhad yn amrywio gan ddibynnu ar faint yr ystâd.
Cysylltwch â’ch clerc siryf lleol i ddarganfod faint mae angen i chi ei dalu am help i gwblhau’r ffurflenni.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Bydd angen i chi ofyn am apwyntiad gyda’ch Swyddfa Profiant leol. Unwaith y bydd gennych apwyntiad, byddant yn eich helpu i lenwi’r ffurflenni priodol.
Bydd y Swyddfa Brofiant yn gofyn i chi ddod ag amrywiol ddogfennau fel yr ewyllys a thystysgrif marwolaeth pan fyddwch chi’n mynd am eich apwyntiad.
Mae’r ffi yn £261 ar gyfer ystadau sydd werth mwy na £10,000. Nid oes ffi i’w thalu os yw gwerth yr ystâd yn llai na £10,000.
Gofynnwch am apwyntiad, a darganfyddwch fwy ar wefan nidirect
Talu Treth Etifeddiant
Os yw’r ystâd yn werth mwy na £325,000, bydd angen i chi dalu o leiaf rhywfaint os nad y cyfan o’r Dreth Etifeddiant cyn cyhoeddi profiant.
Os ydych chi’n meddwl y byddwch yn cael anhawster talu’r dreth am fod angen i chi werthu asedau o’r ystâd yn gyntaf, gallech ofyn i CThEM am ganiatáu credyd
Mae caniatáu credyd yn golygu y gallwch gael profiant gyntaf er mwyn gwerthu’r asedau i dalu treth.
Talu dyledion a threthi
Unwaith y byddwch wedi cael profiant, gallwch gysylltu â’r sefydliadau sy’n dal asedau’r ymadawedig, fel y banc neu ddarparwr pensiwn preifat.
Byddant yn gofyn am gopi o’r profiant neu lythyr cadarnhad cyn rhyddhau’r asedau.
Yna gallwch dalu’r amrywiol ddyledion (os o gwbl) a’r trethi sy’n ddyledus.
Os yw’r asedau ar ffurf eiddo neu gyfranddaliadau, mae’n bosibl y bydd angen i chi eu gwerthu er mwyn talu’r dyledion a’r trethi.
Os ydych chi’n bwriadu gwerthu eiddo:
- gallwch gael cyngor ar brisio eiddo a’r costau cysylltiedig yn ogystal ag awgrymiadau gwerthu ar wefan Which?
- darllenwch ein Canllaw ar werthu tai yn gyflym os ydych chi’n meddwl defnyddio cwmni gwerthu tai yn gyflym yn lle hynny.
Os ydych yn cael gwared ar gyfranddaliadau:
- mae’n bosibl y byddwch chi eisiau ystyried gwneud hyn eich hun, os yw swm y cyfranddaliadau yn rhy fach. Darganfyddwch fwy am sut i werthu cyfranddaliadau.
- ar gyfer portffolio cymhleth neu os yw’r cyfranddaliadau yn werth cryn dipyn, mae’n syniad da ceisio cyngor proffesiynol.
Gallech hefyd siarad gydag ymgynghorydd os nad ydych yn siŵr a ydych am werthu’r cyfraddiadau hyn. Darllenwch Dewis ymgynghorydd ariannol am ragor o gyngor.
Dosbarthu’r ystâd yn unol â’r rheolau diewyllys
Wedi i chi dalu’r dyledion a threthi, bydd yn rhaid i chi ddosbarthu’r ystâd yn unol â’r rheolau diewyllys.
Gall y gŵr, gwraig neu bartner sifil sy’n goroesi oedd yn dal yn briod i’r ymadawedig etifeddu’r ystâd.
Gallai plant yr ymadawedig etifeddu rhan o’r ystâd hefyd os yw ei werth yn fwy na swm penodol.
Gallai perthnasau agos megis rhieni sy’n goroesi neu frodyr neu chwiorydd yr ymadawedig hefyd etifeddu’r ystâd mewn rhai sefyllfaoedd.
Mae gan bob gwlad wahanol reol ar gyfer cyfrifo pwy sy’n cael beth a faint.
Am fwy o fanylion ar gyfrifo sut i ddosbarthu’r ystâd yn unol â’r rheolau diewyllys, defnyddiwch yr offeryn ar wefan GOV.UK
Yng Nghymru a Lloegr
Os yw’r ystâd yn werth llai na £270,000, bydd y priod neu bartner sifil sy’n goroesi yn etifeddu’r ystâd gyfan.
Ond os yw’r ystâd yn werth mwy na £270,000 ac mae yna blant:
- Mae’r priod yn etifeddu gwerth hyd at £270,000 o asedau, holl eiddo personol yr ymadawedig, hanner gweddill yr ystâd.
- Mae’r hanner arall yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y plant.
- Os oes plentyn dan 18 oed pan fydd yr unigolyn yn marw, fe gedwir eu cyfran hwy mewn ymddiriedolaeth statudol. Byddant yn derbyn yr etifeddiaeth pan fyddant yn cyrraedd 18 oed, neu pan fyddant yn priodi neu’n mynd i bartneriaeth sifil, pa bynnag un ddaw gyntaf.
Darganfyddwch fwy ar wefan Cyngor ar Bopeth
Yng Ngogledd Iwerddon
Os yw’r ystâd yn werth llai na £250,000, bydd y priod neu bartner sifil sy’n goroesi yn etifeddu’r ystâd gyfan.
Os yw’r ystâd yn werth mwy na £250,000 ac mae yna blant:
- Bydd y priod yn cael gwerth hyd at £250,000 o asedau a holl eiddo personol yr ymadawedig. Pe na bai unrhyw blant, byddai’n £450,000.
- Os mai dim ond un plentyn sydd, yna mae’r priod hefyd yn cael hanner yr ystâd sy’n weddill a’r plentyn yn cael yr hanner arall.
- Serch hynny, os oes mwy nac un plentyn, mae’r priod yn derbyn traean o’r ystâd sy’n weddill, ac mae’r ddau draean sy’n weddill yn cael eu rhannu rhwng y plant.
Darganfyddwch fwy ar y wefan nidirect ar beth i'w wneud os nad oes ewyllys
Yn yr Alban
Os nad oes unrhyw blant na pherthnasau agos sy’n goroesi, bydd y priod neu bartner sifil sy’n goroesi yn cael yr ystâd gyfan.
Os oes plant, mae gan y priod hawl i’r isod, gelwir y rhain yn ‘Prior Rights’:
- Y tŷ hyd at werth o £473,000, neu lwmp swm o £473,000 os yw’r tŷ yn werth mwy.
- Dodrefn a nwyddau’r cartref hyd at werth o £29,000.
- Hyd at £50,000 mewn arian os adawodd yr ymadawedig blant. Os na adawodd yr ymadawedig blant, yna £89,000.
Ar ôl y ‘Prior Rights’ mae yna ‘Legal Rights’ i’r ystâd sy’n weddill:
- Byddai’r priod yn derbyn traean o’r ystâd symudol net os nad oes plant. Os oes plant, yna traean.
- Yn yr un modd mae gan blant hawl i draean o’r ystâd symudol net os oes priod, ac un hanner os nad oes priod.
Ar ôl bodloni ‘Legal Rights’, mae gweddill yr ystâd yn pasio yn unol â rhestr flaenoriaeth, a amlinellir yn y Succession (Scotland) Act 1964.
Mae Comisiwn Cyfraith yr Alban yn edrych ar symleiddio’r rheolau ar ddiewyllys.