Mae pris hanfodion bob dydd yn cynyddu, mae'n debyg eich bod wedi sylwi arno yn yr archfarchnad ac yn eich biliau misol. Mae chwyddiant a chyfradd llog yn cynyddu yn golygu efallai na fyddai eich arian yn ymestyn mor bell ag yr arferai wneud.
Os ydych chi ar ei hôl hi ar eich biliau neu'n mynd i ddyled i'w talu, y peth gorau y gallwch ei wneud yw gweithredu. Efallai y byddwch yn gallu hawlio cymorth ychwanegol, grantiau costau byw neu daliadau i'ch helpu i gynyddu eich incwm.
P'un a ydych chi'n poeni am gynnydd mewn rhenti, talu costau ynni uwch neu fynd i'r afael â dyledion, rydym wedi dod â'n teclynnau, cyfrifianellau a'n canllawiau mwyaf defnyddiol at ei gilydd i'ch helpu i gadw mewn rheolaeth o’ch arian.
