Mae credyd yn arf defnyddiol i'ch helpu i ledaenu costau, yn enwedig ar gyfer swmp-brynu eitemau bob dydd os gallwch arbed arian. Ond os nad ydych yn cwrdd â thaliadau benthyg neu'n defnyddio credyd i dalu am eitemau hanfodol fel bwyd, mae angen i chi weithredu.
Bydd y camau hyn yn helpu os ydych yn cael eich gorlwytho gyda chredyd o wahanol ffynonellau - fel cardiau credyd, benthyciadau, gorddrafftiau a chynhyrchion credyd tymor byr fel Prynu Nawr Talu Wedyn neu'n ystyried benthyca arian gan deulu.