Beth bynnag sy’n digwydd yn eich bywyd, mae yna ffyrdd o wneud i’ch incwm fynd ymhellach. Dysgwch sut i dorri’n ôl ar gostau a gweld pa gymorth ychwanegol sydd ar gael.

Beth bynnag sy’n digwydd yn eich bywyd, mae yna ffyrdd o wneud i’ch incwm fynd ymhellach. Dysgwch sut i dorri’n ôl ar gostau a gweld pa gymorth ychwanegol sydd ar gael.
Os ydych wedi colli rheolaeth o’ch arian, gall creu cyllideb eich helpu i ddod yn ôl ar y trywydd iawn. Mae’n rhaid i bawb cyllidebu er mwyn cael gwell ansawdd bywyd. Yna, na fyddwch i fyny’n hwyr yn troi a throsi, yn meddwl tybed sut fyddwch yn talu’ch biliau.
Dechreuwch trwy restru eich anghenion. Bydd angen i chi weithio allan faint rydych chi’n ei wario ar:
Mae hefyd yn syniad da cael pawb yn eich teulu i gadw at gyllideb.
Eisteddwch i lawr gyda’ch gilydd i greu cynllun y gall pawb ei ddilyn.
Rhannwch eich costau i’r pethau rydych angen ac eisiau a chytunwch rhyngoch ar beth fydd gennych i'w wario. Os na allwch fforddio'r pethau rydych eisiau, penderfynwch ar yr hyn sy’n bwysig i chi neu edrychwch ar ffyrdd i dorri costau.
Gall fod yn anodd cynyddu faint o arian sydd gennych yn dod i mewn, ond mae gennych lawer mwy o reolaeth dros beth sy’n mynd allan.
Ar ben eich morgais neu rent, mae rhai biliau yn hanfodol a dylid eu blaenoriaethu. Mae’r rhain yn cynnwys:
Mae’n werth gwirio gyda’ch darparwr presennol a ydych ar y tariff gorau i’ch anghenion neu chwilio o gwmpas i weld a allwch gael bargen well. Gallwch hefyd wirio eich bod yn talu’r swm cywir am eich Treth Cyngor neu’ch Ardrethi.
Mae torri costau’n haws nag yr ydych yn ei feddwl. Dilynwch ein hawgrymiadau yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref
I weithio allan beth yn union sydd gennych yn dod i mewn, yr hanfodion rydych angen eu cwmpasu bob wythnos neu fis a lle gallai fod lle i dorri’n ôl, y peth orau yw creu cyllideb.
Mae yna lawer o declynnau, cyfrifianellau ac apiau a all eich helpu i baratoi cyllideb lawn, ond mae’n iawn ei ysgrifennu ar ddarn o bapur hefyd.
Bydd angen awr neu ddwy am y tro cyntaf i gasglu’r holl ffigurau, ond unwaith y byddwch yn gwybod ble rydych chi, bydd pethau’n dod yn haws.
Dim ond 20 munud mae ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim yn ei gymryd i’w lenwi a gall eich helpu i adolygu gwariant eich cartref a’ch ysgogi i feddwl am bethau y gallech fod wedi anghofio eu cynnwys
Nid oes angen taenlenni ffansi, cynllunwyr ar-lein nac apiau arnoch i wneud cyllideb.
Gallwch ddefnyddio llyfr ymarfer, cadw-mi-gei neu’r dull pot jam i gadw'ch arian mewn potiau ar wahân i dalu’ch biliau a’ch taliadau.
Gallwch ei wneud gyda photiau jam go iawn neu ddod o hyd i gyfrif banc sy’n eich galluogi i wneud yr un peth.
Cofiwch, serch hynny, bydd cyfrif banc yn fwy diogel na chael llawer o arian parod yn y tŷ.
Eisiau ffyrdd hawdd o gadw rheolaeth ar sut rydych yn gwario’ch arian parod? Darganfyddwch sut yn ein canllaw Rheoli eich arian gan ddefnyddio potiau cynilo, jariau jam a chadw-mi-gei
Cewch awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr yn ein grŵp preifat Facebook Budgeting and Saving.
Yn y grŵp hwn, rydym yn rhannu syniadau a chymorth i helpu aelodau ar eu taith cynilo. Er enghraifft, gallwch bostio’n ddienw am fater ariannol sydd gennych a chael barn aelodau eraill ar sut i ddelio â'ch sefyllfa.
Dechreuwch ac ymunwch â’n grŵp FacebookYn agor mewn ffenestr newydd preifat
Mae aros mewn pensiwn gweithle yn ffordd hawdd i gynilo ar gyfer ymddeol, yn enwedig gan fod rhaid i’ch cyflogwr, yn y rhan fwyaf o achosion, cyfrannu ato. Ond os ydych yn delio gyda dyledion afreolus, efallai mai’n gwneud synnwyr i stopio eich cyfraniadau am nawr.
Gallwch bob amser ail-ymuno yng nghynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr yn hwyrach pan mae pethau o dan reolaeth. Os ydy’ch dyledion yn broblem, darllenwch ein canllaw Ymrestru awtomatig os oes gennych ddyledion
Cofiwch, os ydych yn stopio neu’n lleihau eich cyfraniadau pensiwn, efallai y byddwch yn colli allan ar fuddion ymddeol gwerthfawr. mae’r rhain yn cynnwys:
I ddarganfod pa fuddion gallwch golli, gwiriwch y llyfryn am eich cynllun pensiwn neu gofynnwch i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn am gopi os nad oes un gennych.
Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?
Ffoniwch am ddim ar 0800 011 3797 neu defnyddiwch ein gwe-sgwrs. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.
Amseroedd agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm (llinell gymorth), 9am i 6pm (gwesgwrs). Ar gau ar wyliau banc.
Darganfyddwch ffyrdd i gynyddu eich incwm
Os mai ond ychydig neu ddim arian sydd gennych ar ôl i wneud i fyny am y diffyg mewn costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau incwm a chymorth eraill sydd ar gael i’ch helpu i reoli’ch arian.
Os ydych wedi dioddef sioc incwm neu os ydych yn byw ar incwm isel efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau nad oeddech yn gwybod amdanynt.
Mae tua £10 miliwn y flwyddyn heb ei hawlio gan bobl sydd yn colli allan.
I ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod yn gymwys iddo a faint y gallech ei gael, mae cyfrifianellau budd-daliadau am ddim ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn wynebu sioc incwm difrifol, mae llawer o elusennau, sefydliadau proffesiynol, ffydd a lleol eraill yn cynnig grantiau.
Does dim rhaid i chi dalu’r arian yn ôl. Gallwch hefyd chwilio am grantiau os oes gennych salwch neu gyflwr sydd angen cymorth ariannol ychwanegol i’w reoli.
Os ydych yn wynebu sioc incwm neu ddigwyddiad annisgwyl fel colli swydd, diswyddo neu salwch, efallai bod gennych yswiriant nad oeddech yn gwybod bod gennych.
Weithiau gall yswiriant Damweiniau, Salwch a Diweithdra (ASU) neu yswiriant cyfreithiol gael ei gynnwys fel ychwanegiad at gytundebau morgais, cyfrifon banc wedi’u pecynnu neu yswiriant cartref neu gar.
Mae bob amser yn werth gwirio eich polisïau presennol. Er enghraifft, efallai y cewch gyngor cyfreithiol am ddim os ydych yn cael eich diswyddo neu’n colli eich swydd.
Os oes gennych ystafell wely sbâr yn eich cartref, efallai yr hoffech ystyried ei rhentu o dan y cynllun Rhentu Ystafell, sy’n gadael i chi ennill hyd at £7,500 y flwyddyn mewn incwm rhent heb dalu treth arno.
Nid oes rhaid i chi fod yn berchennog tŷ i fanteisio ar y cynllun. Os ydych yn rhentu gallwch hefyd osod ystafell i letywr, os yw eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu i chi wneud hynny.
Os ydych ar Gredyd Cynhwysol gallwch ennill hyd at y terfyn o £7,500 heb iddo effeithio ar eich taliad. Mae hyn yn golygu ei fod yn ffordd wych o ychwanegu at eich incwm.
Mae cynllun Gosod Ystafell ond yn un ffordd y gallwch ddod ag ychydig o arian i mewn. Darganfyddwch sut mae’n gweithio a rheolau treth yn ein canllaw
Taliad Costau Byw
Os ydych ar fudd-daliadau prawf modd byddwch yn cael taliad costau byw o £650, wedi'i dalu mewn dau randaliad ochr yn ochr â'ch budd-daliadau presennol.
Disgwylir i'r rhandaliad cyntaf gael ei dalu ym mis Gorffennaf a'r ail yn yr hydref.
Bydd y taliad yn ddi-dreth, ni fydd yn cyfrif tuag at y cap ar fudd-daliadau ac ni fydd yn effeithio ar eich cymhwysedd i gael unrhyw fudd-daliadau eraill rydych yn eu cael nawr.
Rydych yn debygol o fod yn gymwys os ydych yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn:
Os nad ydych yn cael y budd-daliadau hyn ac yn byw ar incwm isel, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo. Defnyddiwch wiriwr budd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd i ddarganfod beth y gallech ei gael.
Bydd pob cartref pensiynwyr sy'n derbyn y taliad tanwydd gaeaf yn cael £300 yn ychwanegol ar ben eu taliad blynyddol. Dylid talu hwn i chi'n awtomatig i'ch cyfrif banc ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr 2022. Nid oes angen i chi wneud cais.
Ni fydd y taliad hwn yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau rydych eisoes yn eu cael a chânt eu talu ochr yn ochr â chymorth arall y gallech fod yn gymwys i'w gael, fel y taliad costau byw o £650 os ydych yn cael Credyd Pensiwn.
Os nad ydych eisoes yn hawlio Credyd Pensiwn, gallwch ddarganfod a ydych yn gymwys ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy am daliad tanwydd gaeaf ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Byddwch yn cael £150 ychwanegol wedi’i dalu i chi ym mis Medi 2022 os ydych yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau anabledd hyn:
Bydd y taliad yn ddi-dreth, ni fydd yn cyfrif tuag at y cap ar fudd-daliadau ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill rydych yn eu cael nawr.
Bydd yn cael ei dalu ar ben y taliad costau byw o £650 y gallech hefyd fod yn gymwys i’w gael os ydych yn cael rhai budd-daliadau prawf modd, megis Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm.
Darganfyddwch ffyrdd i arbed arian ar filiau’r cartref
Ydych chi ar y fargen neu’r tariff gorau ar gyfer eich anghenion? Allech chi arbed arian trwy fynd ar-lein neu dalu mewn ffyrdd gwahanol? Nid yw’n cymryd yn hir i wirio. Hefyd, darganfyddwch yr help sydd ar gael os ydych yn cael trafferth gyda’ch biliau.
Mae prisiau ynni yn uchel iawn ar hyn o bryd. Mae llawer o bobl yn edrych i ddod o hyd i fargen ratach, ond mae’n debygol mai cyfradd tariff diofyn safonol eich cyflenwr a osodwyd ar y cap ar brisiau ynni gan y rheolydd Ofgem fydd y gyfradd rataf sydd ar gael.
Mae’r Gwarant Pris Ynni bellach yn £2,500 y flwyddyn ar gyfer cartref â defnydd arferol a bydd yn cael ei gadw ar y lefel honno tan fis Mawrth 2023, a bydd yn cynyddu i £3,000 y flwyddyn o fis Ebrill tan fis Mawrth 2024.
Gallech dalu mwy neu lai na hyn, yn dibynnu ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ystyried y cymorth ynni a gyhoeddwyd eisoes.
Cynllun cymorth biliau ynni
Bydd cwsmeriaid ynni domestig yn cael £400 wedi’i dynnu o’u biliau ynni o fis Hydref 2022. Caiff y £400 hwn ei dalu o fis Hydref i fis Mawrth 2023 mewn rhandaliadau misol o £66 neu £67 ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Bydd y gostyngiad £400 hefyd ar gael i bobl yng Ngogledd Iwerddon ond mae’n rhaid cytuno ar sut caiff hwn ei dalu.
Os ydych yn talu eich biliau drwy Ddebyd Uniongyrchol neu gredyd, bydd yr arian yn cael ei gredydu i'ch cyfrif. Os oes gennych fesurydd rhagdaledig, bydd yr arian naill ai'n cael ei ychwanegu at eich mesurydd neu byddwch yn cael taleb i'w ddefnyddio ar gyfer taliadau atodol.
Angen help i gadw eich costau ynni i lawr? Darganfyddwch beth all eich cyflenwr ei wneud a’r cymorth ychwanegol sydd ar gael yn ein canllaw Help i dalu eich bil nwy neu drydan
Yn wahanol i nwy a thrydan, nid oes Gwarant Pris Ynni i helpu i reoli cost y mathau hyn o danwydd. Defnyddiwch y rhestr wirio hon i helpu cadw costau i lawr.
Hefyd cofiwch i wneud cais am yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt (yn enwedig Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol) oherwydd bydd y rhain yn rhoi mynediad i help pellach i chi, gan gynnwys Gostyngiad Cartrefi Cynnes gwerth £150 y flwyddyn neu daliad anabledd costau byw o £150 os oes gennych anghenion iechyd ychwanegol.
Mae gan ein canllaw Help os ydych chi'n cynhesu eich cartref gan ddefnyddio olew gwresogi neu nwy petroliwm hylifedig fwy o wybodaeth.
Os ydych eisiau lleihau eich biliau ynni, gallwch fynd yn wyrdd a lleihau faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio.
Os ydych yn gwirio eich Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) dylai hwn cynnig ffyrdd i chi wella eich cartref yn effeithlon a dangos faint o wahaniaeth bydd hwn yn ei wneud.
Os nad ydych yn gwybod os oes gennych EPC neu’n methu â dod o hyd iddo, gallwch gofrestru ar EPC a chwilio am EPCO eich eiddoYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw’r eiddo yn Yr Alban gallwch chwilio amdano ar gofrestr EPC Yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch ddod o hyd i syniadau am sut i dorri'n ôl ar yr ynni rydych yn ei ddefnyddio ar wefan yr Energy Saving TrustYn agor mewn ffenestr newydd
Mae rhai o’r newidiadau’n hawdd iawn. Er enghraifft, gallwch arbed £80 y flwyddyn ar eich costau gwresogi drwy droi’r tymheredd i lawr un radd yn unig.
Gall fod arian ar gael i’ch helpu i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni. Gallwch gael cymorth gyda thalu am insiwleiddio neu hyd yn oed boeler newydd.
Edrychwch ar ba grantiau arbed-ynni gallwch gael ar ein tudalen Sut i dalu am welliannau i’r cartref
Fel arfer, po fwyaf yw eich cartref a’r lleiaf o bobl sy’n byw ynddo, y mwyaf tebygol ydych chi o arbed arian gyda mesurydd dŵr.
I weld a yw’n addas i chi, gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell defnydd dŵrYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr. Os yw’n addas, caiff eich mesurydd ei osod am ddim os ydych byw yng Nghymru neu Loegr. (Gwiriwch â’ch cwmni dŵr os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon). Nid oes unrhyw daliadau dŵr yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch hefyd ofyn am newid os ydych yn rhentu.
Efallai na fydd mesurydd dŵr yn iawn i chi os oes gennych rai cyflyrau meddygol. Cysylltwch â'ch cyflenwr dŵr i weld a oes modd i chi gofrestru ar gyfer y Gofrestr gwasanaeth blaenoriaeth. Ar ôl i chi gofrestru, byddant yn gallu cynnig help ychwanegol i chi os ydych yn cael trafferth gyda biliau ond yn methu cael mesurydd dŵr.
Os na all eich cyflenwr dŵr ddarparu mesurydd dŵr i chi oherwydd ei fod yn rhy anodd neu’n rhy ddrud i’w osod, mae’n rhaid iddynt gynnig dewis arall i chi, fel na fyddwch ar eich colled.
Gelwir y dewis amgen hwn yn Daliad Wedi’i Asesu.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am Daliadau Wedi’u HasesuYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr.
Os ydych ar fesurydd dŵr gallwch leihau eich bil ymhellach drwy arbed dŵr. Edrychwch ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr a darganfyddwch eich cwmni dŵr am awgrymiadau a theclynnau arbed dŵr am ddimYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i newid i fesurydd dŵr
Mae costau tanwydd yn uchel iawn ar hyn o bryd os ydych yn dibynnu ar gerbyd fel eich prif fath o gludiant. Ni allwch wneud llawer am gost petrol yn y pympiau, ond gallwch leihau eich gwariant trwy dorri'n ôl faint rydych yn ei ddefnyddio.
Mae rhai triciau yn cynnwys cadw ffenestri ar gau i gynyddu aerodynameg, neu yrru’n arafach, a all helpu gyda defnyddio tanwydd.
Gall gyrru’n fwy effeithlon helpu i leihau costau. Mae gan wefan Money Saving ExpertYn agor mewn ffenestr newydd ganllaw cam wrth gam ar sut y gallwch wneud hynny
Biliau bwyd yw’r gost fwyaf i lawer o bobl ar ôl talu eu rhent neu forgais.
Mae llawer o wefannau a all eich helpu i leihau biliau siopa bwyd. Dyma rai o’r rhai mwyaf poblogaidd.
Os nad oes gennych arian i dalu am fwyd, efallai y gallwch chi ddefnyddio banc bwyd.
Fel arfer ni allwch fynd yn syth i fanc bwyd. Bydd y rhan fwyaf yn gofyn i chi gael taleb atgyfeirio gan sefydliad yn eich cymuned yn gyntaf.
Ymhlith y mannau lle gallwch gael taleb banc bwyd mae:
Os ydych yn meddwl bod angen i chi ddefnyddio banc bwyd, dilynwch y camau hyn.
Chwiliwch ar-lein gan ddefnyddio’r Trussel Trust Find a foodbank toolYn agor mewn ffenestr newydd
Mae ffôn a band eang yn hanfodol os ydych yn chwilio am waith neu hyd yn oed eisiau dod o hyd i’r bargeinion gorau i’ch helpu i arbed arian, gan fod cynigion ar-lein yn aml yn rhatach, a gallwch ddefnyddio gwefannau cymharu i wirio tariffau a phrisiau.
Er mwyn eich helpu i gadw cysylltiad digidol, mae rhai darparwyr yn cynnig cynlluniau cost isel os ydych yn cael rhai budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm, gan gynnwys:
Os ydych yn chwilio am waith, gallwch wneud cais trwy eich anogwr gwaith am daleb i gyfnewid am fand eang am ddim gan y darparwr cysylltedd TalkTalk.
Mae’r daleb yn caniatáu i chi gael chwe mis o wasanaeth band eang Ffibr 35 TalkTalk heb unrhyw gontract neu wiriad credyd. Mae terfynau defnydd data heb eu capio (o fewn y terfynau defnydd data teg).
Darganfyddwch pwy sy’n cynnig tariffau cost isel a sut y gall darparwyr eich helpu i gael y cynllun gorau ar gyfer eich anghenion yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ffôn symudol, teledu neu fand eang
Gall talu eich biliau ar amser pan fydd arian yn brin fod yn bryderus iawn, yn enwedig os ydynt yn dechrau pentyrru. Gall fod yn anodd gwybod pa rai i ddelio â nhw yn gyntaf.
Efallai y byddwch yn dechrau teimlo’r temptasiwn i beidio â delio â nhw, efallai oherwydd nad oes neb yn eich erlid am daliad nawr neu efallai nad ydych yn siŵr beth fydd yn digwydd os ydych yn cyfaddef bod yna broblem.
Fodd bynnag, gall canlyniadau peidio â thalu rhai biliau cyn rhai eraill fod yn fwy difrifol. Bydd delio â phethau’n gynnar yn eich helpu i gadw ar ben pethau ac osgoi dyledion problemus. Os ydych yn cael trafferth gwneud ad-daliadau ar amser, mae’n rhaid i chi edrych ar eich biliau a’u gwahanu i daliadau sydd â blaenoriaeth neu sydd heb flaenoriaeth
Os ydych yn cael trafferth gwneud eich ad-daliadau ar amser, mae ein Blaenoriaethwr biliau hawdd ei ddefnyddio yn eich helpu chi i ddeall pa rai i ddelio â nhw gyntaf, yn dweud wrthych pa gymorth sydd ar gael a beth i’w wneud i sicrhau nad ydych yn methu taliad.
Gweithiwch allan pa filiau i’w talu gyntaf gan ddefnyddio ein blaenoriaethwr biliau
Darganfyddwch fwy am yr help allwch chi ei gael i dalu am bethau angenrheidiol
Os yw’ch incwm wedi gostwng yn sylweddol, er enghraifft, oherwydd colli swydd neu salwch a’ch bod bellach yn cael Credyd Cynhwysol neu ar incwm isel iawn, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ychwanegol gan y llywodraeth i’ch cefnogi.
Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â'ch cyngor lleol i weld a allwch wneud cais am y Gronfa Cymorth Cartref sy'n helpu pobl sy'n cael trafferth gyda biliau a threuliau bob dydd fel:
Nid oes rhaid i chi fod ar fudd-daliadau prawf modd i wneud cais am y Gronfa Cymorth Cartref ond rhaid i chi fod ar incwm isel.
Mae’r gronfa ar gael yn Lloegr tan ddiwedd mis Mawrth 2023. I wneud cais amdani cysylltwch â’ch cyngor lleol.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol i weld a oes ganddynt gynllun cymorth lles. Gallwch hefyd ddod o hyd i help sydd ar gael yn eich ardalYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan End Furniture Poverty
Mae cynlluniau ar wahân ar gael os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Rhowch eich cod post ar y GOV.UK i ddod o hyd i’ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn wynebu argyfwng fel peiriant golchi dillad wedi torri neu os ydych angen cymorth brys gyda bwyd, dillad ac ynni a’ch bod yn fregus, efallai y bydd cymorth lleol ar gael. Gelwir hyn yn gymorth lles lleol.
Os byddwch yn gwneud cais, bydd penderfyniad ynghylch a ddylid darparu cymorth a faint yn seiliedig ar eich sefyllfa unigol.
Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor i weld a oes ganddynt gynllun cymorth lles. Darganfyddwch yr help sydd ar gael yn eich ardal chi ar wefan End Furniture PovertyYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn yr Alban, cewch fwy o wybodaeth am Gronfa Les yr Alban ar wefan Llywodraeth yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Nghymru, cewch fwy o wybodaeth am y Gronfa Cymorth Dewisol ar wefan Llywodraeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am y gronfa Disretionary ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych angen help i dalu am bethau hanfodol fel dillad, dodrefn, costau gwaith neu flaendal rhent, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw di-log.
Er mwyn ei gael, rhaid i chi:
Mae ad-daliadau fel arfer yn dod allan o’ch taliad Credyd Cynhwysol nesaf a bydd angen i chi ei dalu’n ôl o fewn 12 mis (18 mis mewn amgylchiadau eithriadol). Gall unrhyw gynilion effeithio ar faint a gewch.
Yr isafswm y gallwch ofyn amdano yw £100. Yr uchafswm yw:
Darganfyddwch fwy am Daliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw a sut i wneud cais ar wefan Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ddarganfod sut i gael Blaenswm Cyllidebu ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch pa help sydd ar gael tra rydych yn chwilio am waith
Os ydych yn gyflogedig, efallai y byddwch yn gallu cynyddu eich incwm drwy wirio eich bod yn cael eich talu’n gywir neu ystyried gwaith ar yr ochr. Os ydych yn chwilio am waith, mae llawer o gymorth ariannol i'ch helpu i gael yn ôl ar eich traed.
Os ydych yn gyflogedig, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’ch slip cyflog i weld eich bod ar y cod treth cywir ac yn cael eich talu ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu uwch.
Does dim rhaid i’ch slip cyflog ysgrifenedig fod ar bapur – gellir ei anfon atoch drwy e-bost neu drwy wefan.
Darganfyddwch fwy am godau treth yn ein canllaw Deall eich slip cyflog
Gwiriwch a ydych yn cael eich talu’n gywir a darganfyddwch beth i’w wneud os ydych yn cael llai o dâl nag y dylech fod yn ein canllaw Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Os oes rhaid i chi weithio gartref am yr wythnos gyfan neu ran o’r wythnos efallai y gallwch hawlio rhyddhad treth ar rai o’ch treuliau. Mae hyn yn cynnwys os ydych wedi gorfod gweithio o gartref oherwydd coronafeirws.
Gallwch naill ai hawlio rhyddhad treth ar y gyfradd rydych yn talu treth ar £6 yr wythnos neu gallwch anfon derbynebau ar gyfer biliau fel nwy neu drydan, costau band eang neu eitemau sydd eu hangen ar gyfer gwaith a hawlio rhyddhad treth ar gyfer y rhannau sy'n ymwneud â'ch gwaith.
Bydd CThEM yn derbyn ceisiadau wedi’u hôl-ddyddio am hyd at bedair blynedd. Byddwch yn derbyn cyfandaliad am unrhyw geisiadau llwyddiannus sydd wedi’u hôl-ddyddio.
Gwiriwch i weld a allwch wneud cais am ryddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes gennych yr amser, efallai y gallwch chi ennill arian o swydd arall, a elwir weithiau’n waith ar yr ochr.
Cyn i chi gymryd gwaith ychwanegol, mae angen i chi wybod beth yw eich hawliau o ran gweithio i fwy nag un cyflogwr neu wneud oriau ychwanegol. Hefyd sut rydych yn delio â’r dreth ychwanegol a’r Yswiriant Gwladol y byddwch yn ei dalu.
Peidiwch ag anghofio yr effaith y gallai ei gael ar unrhyw fudd-daliadau a gewch neu eich cyfraniadau pensiwn.
Os ydych yn ystyried gwneud rhywfaint o arian ychwanegol, darllenwch ein canllaw Treth a chyflog ail swydd
Yn Lloegr, daeth y cynllun talu Cymorth Profi ac Olrhain i ben ar 24 Chwefror 2022.
Os ydych yn byw yn yr Alban efallai y byddwch yn gymwys i gael grant o £500 os ydych ar incwm isel ac y byddech yn colli incwm ac yn dioddef caledi ariannol oherwydd eich bod naill ai:
Ond rhaid i chi roi gwybod am y taliad ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os oes angen i chi gyflwyno un.
Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer y Grant Cymorth Hunanynysu a sut i wneud cais amdano ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Nghymru, efallai y gallwch wneud cais am grant o £750 drwy’r cynllun cymorth hunanynysu. Darganfyddwch fwy ar wefan llyw.cymruYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon gallech wneud cais am Grant dewisol cymorth hunanynysu. Darganfyddwch fwy ar wefan nidirect.gov.ukYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch help os ydych yn cael trafferth gydag arian ac iechyd meddwl
Ni fu blaenoriaethu iechyd meddwl erioed mor bwysig nag y mae ar hyn o bryd. Mae effaith pandemig y Coronafeirws a’r cynnydd mewn costau byw wedi achosi argyfwng iechyd meddwl. Cofiwch, nid yw gofyn am help yn arwydd o wendid – dyma’r cam cyntaf i gael rheolaeth yn ôla r eich arian.
Gall pryderon ariannol effeithio ar eich iechyd meddwl a gall iechyd meddwl gwael effeithio ar y ffordd rydych yn rheoli eich arian. Gall ddigwydd i unrhyw un, ar unrhyw adeg ac am unrhyw gyfnod o amser.
Dyma rai ffyrdd cyffredin y gall eich iechyd meddwl effeithio ar y ffordd rydych yn delio ag arian
Efallai y bydd datrys pethau pan fyddwch yn teimlo’n isel neu’n bryderus teimlo fel tasg llethol ond mae’n bwysig cymryd pethau un cam ar y tro.
Os ydych yn meddwl bod materion ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl, darllenwch ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol i gael awgrymiadau ymarferol ar reoli eich arian pan fyddwch yn sâl, gan gynnwys lle gallwch gael cymorth
Gall poeni am broblemau ariannol effeithio ar eich iechyd meddwl ac ni ddylid eu hanwybyddu.
Mae Vicky Eves, un o’r cyfranogwyr yn ein cyfres fideo Arian ac Iechyd Meddwl, yn siarad yn agored am ei brwydrau a pham mae gofyn am help yn iawn ac nid yn arwydd o wendid.
Gwyliwch a darllenwch stori Vicky yn ein blog am Pam nad yw gofyn am help yn arwydd o wendid
Os ydych yn teimlo’n isel iawn neu’n profi meddyliau hunanladdol, gallwch ffonio’r Samariaid am ddim ar 116 123
Mae’r Samariaid yn darparu gwasanaethau gwrando anfeirniadol 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Beth bynnag rydych yn mynd drwyddo, bydd Samariad yn ei wynebu gyda chi.
Os teimlwch eich bod mewn perygl o ladd eich hun, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999
Mae rhai pobl yn profi argyfwng iechyd meddwl fel toriad gyda realiti. Efallai y byddant yn gweld neu’n clywed pethau nad ydynt yno, neu efallai eu bod yn credu pethau na all fod yn wir. Gall hyn weithiau olygu eu bod yn rhoi eu hunain mewn perygl. Os ydych yn poeni bod rhywun rydych yn ei adnabod mewn perygl o hyn neu mewn perygl o ladd eu hunan, dylech ffonio 999 ar unwaith.
Am fwy o wybodaeth am iechyd meddwl a delio gyda dyledYn agor mewn ffenestr newydd darllenwch y llyfryn hwn gan MoneySavingExpert
Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion
Mae am ddim ac yn gyfrinachol
Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian
Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir