Mae cyfraddau llog cynyddol yn cael effaith ar daliadau morgais a rhent. Dyma beth sydd angen i chi wybod os ydych yn berchennog cartref presennol a’n poeni am gwympo tu ôl neu rydych yn trio cael mynediad at y farchnad tai am y tro cyntaf.
Os ydych yn poeni am gyfraddau morgais yn codi
Os yw’ch cyfradd morgais sefydlog neu ostyngedig yn dod i ben
Os ydych yn dod i ddiwedd bargen cytundeb sefydlog neu ostyngedig ac yn poeni am gyfraddau llog morgais anwadal, dilynwch y camau hyn i sicrhau eich bod yn ystyried eich opsiynau i gyd.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Siaradwch â’ch benthyciwr yn gyntaf
Pan fydd eich cyfradd sefydlog yn dod i ben, os nad ydych yn gweithredu, bydd eich cyfradd yn mynd yn ôl i’r gyfradd safonol amrywiol yn awtomatig.
Mae gan y rhan fwyaf o fenthycwyr adran cadw cwsmeriaid ac yn cynnig rhai cyfraddau ffafriol i gwsmeriaid presennol. Cysylltwch â’ch darparwr morgais a byddant yn drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi.
Gallwch ddechrau siarad â’ch benthyciwr tua chwe mis cyn bod eich bargen yn dod i ben i ddeall pa gynigion sydd ar gael am gyfraddau newydd.
Defnyddiwch ein cyfrifiannell morgais i gyfrifo sut bydd cyfradd llog morgais uwch yn effeithio arnoch
Cymharu cyfraddau morgais newydd gyda benthycwyr eraill
Pan rydych yn gwybod beth sydd gan eich benthyciwr presennol i gynnig, gwiriwch fod gennych y fargen orau sydd ar gael i chi o’i gymharu â’r farchnad morgais llawn.
Y peth gorau i’w wneud yw siarad â brocer morgais annibynnol a chael cyngor. Gallent gael mynediad i’r farchnad morgais llawn. Os yw’ch amgylchiadau wedi newid ers i chi drefnu’ch morgais diwethaf, byddant yn ystyried hwn.
Wrth gymharu cyfraddau, peidiwch ag anghofio i ofyn am ffioedd trefnu a chosbau adbryniad cynnar (os ydych am gael hyblygrwydd i newid cynnyrch cyn i’ch cytundeb dod i ben).
Mae defnyddio brocer morgais yn helpu i wneud y ffioedd hyn yn fwy dryladwy gan fod cyfraddau’n cael eu dyfynnu gyda’r holl ffioedd wedi’u cynnwys, nid y brif gyfradd yn unig.
Dewch o hyd i frocer morgais gyda’n canllaw ar gael cyngor morgais
Cadwch eich cynlluniau am y dyfodol mewn cof
Mae bywyd yn ansicr ar hyn o bryd ond mae’n bwysig peidio â cholli golwg ar y darlun ehangach. Siaradwch â’ch brocer morgais am eich anghenion a nodau ariannol a beth sy’n bwysig i chi. Gall hwn eich helpu i benderfynu pa fath o forgais sydd orau i chi.
Mae’r pethau i’w ystyried yn cynnwys:
- Faint o lonyddwch meddwl rydych am gael am daliadau. Mae sefydlu fel arfer yn meddwl byddwch yn talu cyfraddau ychydig yn uwch na morgais cyfradd safonol amrywiol (SVR).
- Os ydych yn bwriadu symud yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Efallai byddwch am gael cyfradd sefydlog neu ostyngedig tymor byr, neu gyfradd morgais heb gosbau adbryniad cynnar.
- Y gallu i ordalu heb gosbau. Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i chi dalu eich morgais yn gyflymach os yw pethau’n gwella yn y dyfodol.
Darganfyddwch fwy am ddefnyddio brocer morgais
Adolygwch eich cyllideb
Os ydych yn gorfod gwario mwy ar eich taliadau morgais, nid oes angen dweud bod angen i chi edrych ar ble y gallwch dorri costau a chynyddu incwm trwy wneud yn siŵr eich bod wedi hawlio popeth y mae gennych hawl iddo.
Os ydych dal yn ei chael yn anodd gwneud taliadau, siaradwch â’ch benthyciwr am eich opsiynau. Er enghraifft, efallai gallwch estyn tymor eich morgais i gadw daliadau yn gyson.
Efallai bydd hyn yn meddwl y bydd yn cymryd yn hirach i ad-dalu eich morgais a byddwch yn talu mwy o log dros y tymor. Felly ystyriwch eich cyllideb heddiw a’ch anghenion yn y dyfodol cyn gwneud penderfyniad.
Defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb i weld ble gallwch dorri costau a chynyddu incwm
Darganfyddwch beth i wneud i gadw lan gyda thaliadau morgais
Beth i wneud i gadw i fyny gyda thaliadau morgais
Os ydych yn cael trafferth i gadw i fyny gydag ad-daliadau, dyma beth i’w wneud.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Siaradwch â’ch benthyciwr am drefniadau amgen
Mae’n rhaid i fenthycwyr eich trin yn deg ac ystyried unrhyw gais rydych yn gwneud i newid y ffordd rydych yn talu eich morgais i’ch helpu.
Felly os yw’r taliadau newydd yn edrych yn anhylaw, gofynnwch am ffyrdd i’w wneud yn fwy fforddiadwy.
Gall ddatrysiadau cynnwys:
- estyn tymor eich morgais
- cymryd gwyliau taliad
- derbyn taliadau llai am ychydig
Pan rydych yn drafod datrysiadau gyda’ch benthyciwr, ni fydd unrhyw sgwrs yn ymddangos ar eich ffeil credyd.
Fodd bynnag, mae rhai datrysiadau yn, felly dylech bob tro ofyn beth fydd effaith unrhyw ganlyniadau rydych yn cytuno arnynt ar eich sgôr credyd.
Cofiwch, mae unrhyw effaith yn debygol o fod yn llai nag os ydych yn mynd i ôl-ddyledion a’n methu taliadau heb siarad â’ch benthyciwr yn gyntaf.
Os ydych yn cael trafferth i newid i fenthyciwr newydd, mae gennych forgais llog yn unig na allwch ad-dalu neu am drafod Cynlluniau Rhyddhau Ecwiti, cysylltwch â ni. Gallwn drafod eich sefyllfa a’ch cyfeirio at gyngor arbenigol, annibynnol, am ddim i archwilio eich opsiynau.
Ffoniwch ni ar 0800 138 1677 neu ddechreuwch wesgwrs ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn barod wedi methu taliadau
Mae cadw lan gyda’ch morgais yn flaenoriaeth mae angen i chi edrych ar gyn biliau a thaliadau eraill.
Bydd eich benthyciwr yn ystyried eich bod mewn ôl-ddyledion os ydych wedi methu dau neu fwy o daliadau.
Os yw hwn yn digwydd, o fewn 15 diwrnod mae’n rhaid iddynt:
- dweud wrthych swm llawn eich ôl-ddyledion
- rhestri’r taliadau rydych wedi methu neu dalu mewn rhan
- dweud wrthych yr union swm sy’n ddyledus o dan eich morgais
- dweud wrthych swm unrhyw daliadau yr eir iddynt oherwydd methu unrhyw daliadau (a nodi unrhyw ffioedd a all ddigwydd os nad yw’r ôl-ddyledion yn cael eu had-dalu)
Nad oes modd i’ch benthyciwr ceisio adfeddiannu oni bai bod ymdrechion rhesymol eraill i ddatrys y sefyllfa i gyd wedi methu, ac mae’n rhaid iddynt roi hysbysiad rhesymol cyn iddynt gymryd y weithred hynny.
Peidiwch ag oedi ar weithredu. Os ydych wedi colli dau neu fwy o daliadau morgais nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion.
Cael cyngor ar ddyledion dienw ac am ddim
Darganfyddwch a allwch gael cymorth y llywodraeth
Os ydych yn cael trafferth talu eich ad-daliadau morgais, efallai gall y llywodraeth helpu.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, mae gan y llywodraeth fudd-daliadau a chynlluniau cymorth ar gael i berchnogion tai. Gall y rhain helpu i roi lle i chi geisio datrys materion ariannol a gostwng eich costau misol.
Bydd y cymorth sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU, ond mae cynlluniau presennol yn cynnwys:
- Cynllun Achub Morgeisi
- Cefnogaeth ar gyfer Llog Morgais
- Cymorth i Aros - Cymru
Mae pob un yn cynnig gwahanol fathau o gymorth, gan gynnwys benthyciadau ecwiti a rennir, benthyciadau ad-daladwy i helpu gyda llog morgais, neu gael landlord cymdeithasol i brynu’ch cartref a’i rentu’n ôl i chi.
Darganfyddwch fwy am help y Llywodraeth os na allwch dalu eich morgais
Beth yw wneud os oes rhywun yn ceisio cael meddiant o’ch cartref
Mae help ar gael o’r eiliad y byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan gredydwr sy’n ceisio cael meddiant o’ch cartref.
Gall y Gwasanaeth Cynghori Atal Colli Tai helpu os ydych mewn perygl o gael eich troi allan o’ch eiddo os yw eich morgais mewn ôl-ddyledion.
Bydd arbenigwr tai a ariennir gan y llywodraeth yn gweithio gyda chi i nodi beth sydd wedi sbarduno’r cais am feddiant ac yn argymell atebion. Efallai y byddant yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i chi ar:
- ôl-ddyledion morgais
- taliadau budd-daliadau lles
- dyled.
Os na allwch ddatrys materion a gofynnir i chi fynychu gwrandawiad llys, gall ymgynghorydd tai hefyd ddarparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys. Dylech gyrraedd o leiaf 30 munud cyn eich gwrandawiad a siaradwch â’r tywysydd llys a byddant yn eich cyfeirio at yr ymynghorydd.
Gallwch ddod o hyd i’ch darparwr Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai agosaf drwy deipio eich cod post a ticio’r blwch ‘Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai’ yn find-legal-advice.justice.gov.ukYn agor mewn ffenestr newydd
Defnyddio ecwiti yn eich cartref i ymdopi â chostau cynyddol
Os ydych yn poeni am gostau cynyddol, efallai byddwch yn ystyried rhyddhau arian parod, fel defnyddio ecwiti yn eich cartref neu ail-forgeisio. Tra ei fod yn werth ystyried, mae hefyd yn dod gyda goblygiadau sylweddol hirdymor.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Deall manteision ac anfanteision ail-forgeisio
Gall ail-forgeisio gael ei weld fel ffordd gweddol hawdd o lenwi blychau yn eich cyllid.
Ond mae risg o ychwanegu dyledion anniogel i’ch morgais. Er enghraifft, byddwch yn rhoi’ch cartref mewn perygl os na allwch gadw i fyny gydag ad-daliadau.
Hefyd, byddwch yn talu mwy ar y cyfan os yw’r benthyciad dros dymor hirach, hyd yn oed pan mae’r cyfraddau llog morgais yn isel.
Efallai caiff opsiynau ail-forgeisio eu heffeithio hefyd os yw’ch incwm wedi gostwng neu mae gwerth eich tŷ yn gostwng, felly efallai bydd yn anodd newid i fenthyciwr arall neu fenthyg mwy.
Mae’n bwysig i archwilio eich opsiynau eraill ac os ydych yn meddwl am ail-forgeisio i ad-dalu dyledion, cael cyngor ar ddyledion am ddim cyn meddwl yn ddifrifol am ychwanegu mwy o ddyled i’ch morgais.
Darganfyddwch fwy am os yw ail-forgeisio yn addas i chi yn ein canllaw Sut mae ailforgeisio’n gweithio?
Defnyddio rhyddhad ecwiti i hybu’ch incwm
Mae cynlluniau rhyddhau ecwiti yn ffordd i bobl dros 55 oed cael mynediad at arian sydd ynghlwm â’u cartref. Mae hwn yn cynnwys cymryd cyfandaliad arian parod, sawl swm llai neu gymysgedd o’r ddau.
Efallai bod hwn yn ymddangos fel opsiwn da os oes angen arian arnoch ac nad ydych eisiau symud tŷ, ond mae’n werth fod yn ymwybodol am y goblygiadau hirdymor.
Yn debygol nid rhyddhad ecwiti bydd yr opsiwn gorau os ydych wedi cael eich effeithio’n ariannol gan y cynyddiadau yng nghostau byw. Gall y cynlluniau hyn fod yn ddrud iawn yn yr hirdymor, felly peidiwch â brysio i wneud penderfyniad.
Sicrhewch eich bod wedi ystyried pob opsiwn cyn i chi edrych ar ryddhad ecwiti.
Gall opsiynau eraill gynnwys symud i gartref llai o faint, cael lletywr neu fynd yn ôl i’r gwaith.
Edrychwch ar ein tudalen ar sut mae’r cynlluniau hyn yn gweithio a beth i ystyried
Defnyddio ecwiti yn eich cartref i ad-dalu dyledion
Nid yw defnyddio eich cartref i gael gwared ar ddyledion anniogel, byrdymor fel benthyciadau, cardiau credyd a gorddrafftiau yn gam i’w gymryd yn ysgafn.
Mae sawl risg i chi ac aelodau eraill o’ch teulu. Mae rhai o’r risgiau’n cynnwys:
- Gall llog, lle’n berthnasol, gronni dros sawl blwyddyn. Mae hwn yn meddwl gall yr ecwiti yn eich cartref leihau’n gyflym iawn dros amser. Felly, mae’n syniad da i gymryd dim ond beth sydd angen arnoch ac ystyried cynllun sydd â gwarant ‘dim ecwiti negyddol’.
- Bydd yn dod yn anoddach i symud tŷ, felly ystyriwch symud i gartref llai o faint fel opsiwn yn gyntaf.
- Gall unrhyw etifeddiaeth rydych am ei adael cael ei leihau’n ddifrifol.
- Dylech ystyried yr effaith ar unrhyw fudd-dal prawf modd gallwch fod yn gymwys iddo.
Os ydych yn cael trafferth gyda dyledion neu’n poeni efallai byddwch yn gwneud cyn bo hir, siaradwch â’ch darparwyr (banciau a benthycwyr eraill).
Mae’n rhaid iddynt gynnig mesurau i’ch helpu. Er enghraifft, lleihau eich taliadau neu log, neu gytuno i gynllun ad-dalu ymarferol.
Os nad yw hyn yn gweithio, gall arbenigwr cyngor ar ddyledion eich helpu i ddod o hyd i ddatrysiad sy’n eich galluogi i gadw’r ecwiti sydd yn eich cartref wrth ad-dalu eich dyledion.
Os ydych am siarad am eich opsiynau gyda chynghorydd cymwysedig sydd wedi’i reoleiddio, gallwch gael cyngor arian a rhyddhad ecwiti diduedd, am ddim ar wefan StepChangeYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 1686 719
Darganfyddwch fwy am beth i wneud os ydych yn edrych ar brynu eich cartref cyntaf
Os ydych yn edrych ar brynu eich cartref cyntaf
Er nad oes modd rhagfynegi newidiadau yn y farchnad tai, y newyddion da yw nad yw prynwyr tro cyntaf bellach yn talu treth stamp ar eiddo sy’n costio hyd at £425,000, ac mae gwerth yr eiddo gallant hawlio rhyddhad yn cynyddu o £500,000 i £625,000.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Parhewch i gynilo cymaint ag y gallwch
Gyda chwyddiant cynyddol, mae angen i chi sicrhau bod eich cynilion am flaendal yn gweithio mor galed ag y gallent amdanoch.
Os ydych o dan 40 oed, mae’r ISA Gydol-Oes wedi’i ddylunio gan y llywodraeth i’ch helpu i gynilo am gostau prynu eich cartref cyntaf.
Gallwch gynilo hyd at £4000 pob blwyddyn dreth ac mae’r ISA yn talu bonws blynyddol o hyd at 25%, rydych hefyd yn ennill llog di-dreth ar beth bynnag rydych yn cynilo. Mae hyn yn ei wneud yn ddeniadol iawn o’i gymharu ag ISAs arian parod, sy’n talu llog ond dim bonws.
Os gallwch gynilo mwy na £4,000 y flwyddyn, sicrhewch eich bod yn cymharu cyfrifon cynilo cyffredinol, gan fod cyfraddau llog yn cynyddu. Gall newid i ddarparwr arall gwneud gwahaniaeth mawr i falans eich cynilion.
Ac os ydych yn rhoi arian wrth ochr pob mis am filiau, gwyliau neu ddiwrnod glawog, edrychwch ar gyfrifon gynilo mynediad hawdd arferol - maent yn talu rhai o’r cyfraddau uchaf sydd ar gael.
Darganfyddwch fwy am Gyfrifon Gynilo Gydol-Oes Annibynol (LISAs)
Gwybod faint gallwch fforddio benthyg
Defnyddiwch ein teclyn Fforddiadwyedd Morgais.
Bydd yn eich helpu i ragdybio faint gallwch fforddio benthyg i brynu cartref gan edrych ar eich incwm a’ch gwariant. Bydd hefyd yn eich helpu i weld beth sydd ar gael i fforddio taliadau morgais a chwrdd â thaliadau cartref hanfodol yn gyfforddus.
Bydd benthycwyr morgais hefyd yn edrych ar y ffigurau hyn i gyfrifo faint byddant yn ei fenthyg i chi.
Dylai gymryd dim ond tua phum munud i’w gwblhau.
Darganfyddwch fwy am faint gallwch fforddio benthyg gyda’n teclyn Fforddiadwyedd Morgais.
Deall manteision ac anfanteision gwahanol forgeisio
Mae pedwar prif fath o forgeisi, felly dewch i adnabod sut maent yn gweithio ac a ydynt yn addas ar gyfer eich anghenion.
Cyfradd sefydlog: Mae’r swm rydych yn ei dalu’n sefydlog am gyfnod penodol, fel arfer rhwng dau a deg mlynedd. Efallai bydd taliadau’n uwch na chyfraddau morgais amrywiol. Mewn rhai achosion, y hirach yw’r amser, yr uwch yw’r gyfradd.
Cyfradd Safonol Amrywiol (SVR): Mae’r gyfradd rydych yn ei dalu’n cael ei osod gan y benthyciwr morgais. Yn wahanol i forgais tracio, nid yw’n gysylltiedig i gynyddiadau a gostyngiadau cyfradd sylfaenol Banc Lloegr. Nid oes tymor sefydlog ac fel arfer nid oes cosb os ydych am newid.
Rydych yn debygol i fynd ar SVR ar ôl gorffen bargen ragarweiniol sefydlog, tracio neu ostyngedig os nad ydych yn gweithredu.
Gostyngedig: Bydd eich benthyciwr yn cynnig gostyngiad o’r Gyfradd Safonol Amrywiol am gyfnod sefydlog, fel arfer dau neu dair blynedd.
Traciwr: Mae’r gyfradd rydych yn ei dalu’n gysylltiedig neu’n ‘tracio’ cyfradd arall, fel arfer cyfradd benthyg sylfaenol Banc Lloegr. Gall bargeinion rhagarweiniol fod yn gyfradd sylfaenol a 1%. Po hirach yw’r tymor, yr hirach bydd y gyfradd. Weithiau, gallwch gael traciwr gydol-oes am dymor llawn eich morgais.
Cael cyngor ar ddyledion annibynnol
Pan rydych yn deall pa fathau o gynnyrch morgais sydd ar gael, siaradwch â brocer morgais am eich anghenion a nodau ariannol a beth sy’n bwysig i chi.
Gallent gael mynediad at y farchnad morgais llawn i gael bargen sy’n addas i chi a’ch amgylchiadau ariannol.
Gall gynghorwyr morgais dod o hyd i fargen na allwch ar eich pen eich hun a gallent wella eich cyfle i gael eich derbyn am forgais. Mae hwn yn benodol yn bwysig os nad oes gennych flaendal mawr, heb fod gyda’ch cyflogwr am hir neu rydych yn hunangyflogedig.
Gallent hefyd eich helpu gyda’r gwaith papur, a all fod yn llethol os nad ydych wedi prynu cartref o’r blaen.
Tra bod cost ymlaen llaw fel arfer, bydd gweld cynghorydd morgais ar ddechrau eich siwrne morgais yn arbed llawer o amser ac ymdrech yn y pen draw.
Dewch o hyd i frocer morgais a darllenwch ein canllaw ar gael cyngor morgais
Cyfrifwch wir gost prynu cartref
Dim ond un o’r costau bydd angen i chi gynllunio am pan rydych yn prynu cartref yw blaendal. Mae costau ymlaen llaw fawr yn cynnwys:
- Treth Stamp
- Ffi prisiad
- Ffi syrfëwr
- Ffioedd cyfreithiol
- Ffi’r gwerthwr tai
- Ffi trosglwyddiad electronig
- Costau symud
Bydd hefyd rhaid i chi gyllidebu i ddiogelu a chynnal eich cartref. Mae costau’n cynnwys:
- Cynnal ac atgyweirio (cost gyfartalog bil atgyweirio am berchnogwyr tai newydd yw £5,750)
- Yswiriant
- Treth Cyngor
- Costau rhedeg (cyfleustodau, gofynnwch i’ch gwerthwr faint maent yn ei wario)
- Costau lesddaliad a thaliadau gwasanaeth
Defnyddiwch ein canllaw i sicrhau rydych wedi meddwl am bopeth
Ydych chi wedi methu taliad?
Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion
-
Mae am ddim ac yn gyfrinachol
-
Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian
-
Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir