Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Help os oes rhywun wedi cysylltu â chi am ddyled barhaus ar eich cerdyn credyd

Os yw eich banc neu gwmni cerdyn credyd wedi cysylltu â chi i ddweud eich bod mewn dyled barhaus, mae hyn yn golygu yw bod mwy o log, ffioedd a thaliadau yn cael eu codi arnoch nag ydych wedi'i ad-dalu yn ystod y 18 mis diwethaf. Darganfyddwch beth i’w wneud os mae dyma’r sefyllfa.

Beth yw dyled barhaus?

Os ydych wedi talu mwy mewn llog, taliadau a ffioedd na rydych wedi'i ad-dalu ar falans eich cerdyn credyd dros gyfnod o 18 mis, byddwch yn cael eich nodi fel bod mewn dyled barhaus.

Pan fydd hyn yn digwydd, mae rhaid i'ch darparwr cerdyn credyd gysylltu â chi i roi gwybod i chi a chynnig help i chi.

Mae rhaid iddynt:

  • ofyn a allwch fforddio ad-dalu mwy bob mis
  • dweud wrthych beth fyddai'n digwydd pe na bai unrhyw beth yn newid, er enghraifft, gellid atal eich cerdyn a chael effaith negyddol ar eich sgôr credyd
  • trafod eich amgylchiadau ac opsiynau gyda chi os na fyddwch yn cymryd camau gweithredu.

Os ydych wedi derbyn llythyr ‘dyled barhaus’ gan ddarparwr eich cerdyn credyd ac nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf, gall StepChange helpu. Maent yn cynnig gwasanaeth arweiniad a cyllidebu diduedd am ddimYn agor mewn ffenestr newydd i'ch helpu i ddeall a rheoli eich sefyllfa ariannol.

Isafswm ad-daliadau

Yr isafswm ad-daliadau yw'r swm lleiaf y mae’n rhaid i chi ei dalu'n ôl bob mis er mwyn osgoi ffioedd a niwed i’ch sgôr credyd.

Gall talu dim ond yr isafswm ad-daliadau eich helpu i ledaenu cost eitemau, ond byddwch fel arfer yn talu llog drud ac ni fyddwch yn clirio llawer o'r swm sy'n ddyledus gennych. Os gallwch fforddio cynyddu eich ad-daliadau, gallwch yn aml arbed cannoedd, neu hyd yn oed filoedd o bunnoedd mewn llog.

Pan fydd cwmni cerdyn credyd yn cynyddu eich ad-daliadau

Mae rhaid gosod isafswm ad-daliad ar gerdyn credyd ar swm sydd o leiaf yn ad-dalu'r llog, ffioedd a thaliadau a gymhwysir i'ch cyfrif, ynghyd ag 1% o'r balans sy'n ddyledus.

Nid yw'r rheolau hyn yn golygu bod rhaid i ddarparwyr cardiau credyd eich gorfodi i ad-dalu mwy trwy gynyddu eich ad-daliadau cardiau credyd misol yn awtomatig. Fodd bynnag, mae rhai banciau neu cwmnïau cerdyn credyd wedi newid eu telerau ac amodau i gynyddu'r isafswm ad-daliad sy'n ofynnol i gael cwsmeriaid allan o ddyled barhaus.

Os bydd hyn yn digwydd ac na allwch fforddio'r ad-daliad cynyddol, cysylltwch â'ch banc neu gwmni credyd.

Darganfyddwch fwy yn ein hadran ar Siarad â’ch credydwr

Os ydych eisiau atal eich cwmni cerdyn credyd rhag cysylltu â chi

Yn hytrach nag anwybyddu'r llythyr, y peth gorau i'w wneud yw siarad â darparwr eich cerdyn credyd fel y gallant drafod eich opsiynau gyda chi.

Yna gall eich cwmni cerdyn credyd eich helpu gyda chynllun i ad-dalu balans eich cerdyn credyd sy'n ddyledus mewn cyfnod rhesymol o amser.

I'ch helpu i reoli eich arian, gweler ein canllawiau Canllaw i ddechreuwyr ar reoli eich arian a Sut i arbed arian ar filiau cartref.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu trosglwyddo balans eich cerdyn credyd i gerdyn sy'n codi cyfradd llog is neu un sy'n cynnig cyfradd llog rhagarweiniol o 0%. Gallai hyn olygu y byddwch yn talu llai o log ar eich dyled bresennol.

Fel arfer, bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr cardiau credyd yn codi ffi am drosglwyddiadau balans felly mae'n bwysig cadw hyn mewn cof, yn ogystal â hyd unrhyw gyfnod rhagarweiniol.

Darganfyddwch fwy yn ein hadran Rheoli credyd yn dda.

Os na allwch fforddio talu mwy tuag at eich cerdyn credyd

Os nad ydych yn meddwl bod gennych ddigon o arian i allu cynyddu’ch ad-daliadau, siaradwch â’ch darparwr cerdyn am eich sefyllfa ariannol a gofynnwch am y cymorth y gallant ei gynnig

Bydd gwneud hyn yn gynnar yn atal pethau rhag gwaethygu. Gallwch hefyd gysylltu â StepChange am arweiniad a gwasanaeth cyllidebu di-duedd am ddimYn agor mewn ffenestr newydd

Mae cyfrifo cyllideb cartref yn ffordd wych o ddeall ble mae'ch arian yn mynd a nodi ble y gallwch chi dorri'n ôl i wneud y mwyaf o'ch incwm.

Os oes gennych daliadau eraill i’w gwneud

Os nad eich bil cerdyn credyd yw'r unig beth rydych yn ei chael hi'n anodd ei dalu, gofynnwch am gyngor ar ddyledion am ddim.

Byddwch yn cael eich cysylltu â rhywun diduedd a all eich helpu i ddod o hyd i'r ateb gorau ar gyfer eich sefyllfa.

Mae'r holl gyngor yn gyfrinachol, ac ni fydd neb yn eich barnu.

Beth sy’n digwydd os ydych yn penderfynu gwneud dim ar ôl iddynt gysylltu?

Os na fyddwch yn cynyddu eich ad-daliadau ar ôl i'ch darparwr cerdyn credyd gysylltu â chi, byddant yn cysylltu â chi unwaith eto tua naw mis yn ddiweddarach.

Unwaith eto, byddant yn argymell eich bod yn cynyddu eich ad-daliadau os gallwch fforddio gwneud hynny.

Os ydych yn dal i fod yn yr un sefyllfa naw mis yn ddiweddarach, bydd rhaid i'ch darparwr cerdyn credyd wneud un o ddau beth:

  1. Cynnig ffyrdd i chi ad-dalu’n gyflymach dros gyfnod rhesymol, fel arfer rhwng tair a phedair blynedd. Er enghraifft, drwyl drosglwyddo’r balans ar gerdyn credyd i fenthyciad personol â llog is.
  2. Cynnig ffyrdd eraill o’ch helpu, fel lleihau, dileu, neu ganslo unrhyw log neu gostau. Os gwnant hynny, gallent hefyd wahardd eich cerdyn credyd oni bai y byddai gwneud hynny’n cael effaith niweidiol sylweddol ar eich sefyllfa ariannol. Er enghraifft, oherwydd eich bod yn dibynnu ar eich cerdyn credyd i dalu am gostau byw hanfodol fel eich morgais, rhent, Treth Gyngor neu fwyd.

A fydd cerdyn credyd yn cael ei atal

Dim ond fel y dewis olaf y dylai eich darparwr atal eich cerdyn credyd oherwydd dyled barhaus. Ond fe allai ddigwydd os byddwch yn parhau i anwybyddu’ch darparwr ac nad ydych yn gwneud newidiadau i’r ffordd rydych chi’n ad-dalu’ch bil cerdyn credyd.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.