Sut ydych chi’n cael benthyciad car?

Cyhoeddwyd:
19 Chwefror 2025
Os ydych chi'n ystyried cael car ac yn edrych ar sut i gael benthyciad car, darllenwch ein blog i ddarganfod mwy ac os yw hyn yn iawn i chi.
I gael benthyciad car, bydd angen i chi gymryd benthyciad personol gyda benthyciwr. Yn dilyn hynny, bydd angen i chi ddewis car a dod o hyd i werthwr i drefnu pethau gyda nhw.
Eich cam cyntaf yw gwirio'ch sgôr credyd pan fyddwch yn bwriadu gwneud cais am fenthyciad car oherwydd y gall hyn effeithio ar yr hyn y gallech ei dderbyn gan fenthycwyr, hanes credyd, eich cyllideb a'ch incwm.
Mae benthyg arian ar gyfer eich car yn mynd i gostio mwy i chi - opsiwn arall os gallwch aros i gael eich car yw dechrau cynilo tuag ato. Hyd yn oed os nad ydych wedi cynilo o'r blaen, bydd ein canllaw yn eich helpu i gychwyn. Gweler ein canllaw Sut i osod nod cynilo.
Beth yw’r opsiynau ar gyfer benthyg?
Gallech ystyried cael benthyciad personol neu gerdyn credyd 0% lle bo hynny'n bosibl i dalu am gost car.
Mae'n bwysig dewis yr opsiynau cyllid cywir ar gyfer eich amgylchiadau, felly edrychwch ar yr opsiynau eraill, er enghraifft prydlesu, Hurbwrcas (HP), Llogi Contract Personol (PCH), a Phrynu ar Gytundeb Personol (PCP). Am fwy o wybodaeth, gweler ein hadran canllawiau eraill i Ddeall eich opsiynau talu.
Gwiriwch eich sgôr credyd
Dylech wirio eich adroddiad credyd a'ch sgôr cyn benthyg.
Mae yna dri chwmni (asiantaethau cyfeirio credyd) sy'n dal eich ffeil credyd, felly mae'n well gwirio nhw i gyd.
Dyma sut i wirio'ch adroddiadau credyd am ddim:
TransUnion –cofrestrwch ar gyfer cyfrif MoneySavingExpert Credit ClubYn agor mewn ffenestr newydd
Equifax –cofrestrwch ar gyfer cyfrif ClearScoreYn agor mewn ffenestr newydd
Experian – gofynnwch am Adroddiad Credyd Statudol ExperianYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n poeni am eich sgôr credyd, gweler ein canllaw Sut i wella eich sgôr credyd.
Penderfynu ar eich cyllideb
Bydd angen i chi gyfrifo'ch cyllideb cyn i chi ddechrau meddwl am brynu car. Mae cael cyllideb yn golygu y byddwch chi'n gwybod yn union beth allwch chi ei fforddio. Am fwy o help, gweler ein hadran canllawiau eraill ar Ddechreuwch gyda’ch cyllideb
Bydd defnyddio ein Cynlluniwr cyllideb i gyfrifo'r hyn y gallwch ei fforddio yn rhoi syniad i chi o ba gynigion fydd yn gweithio i chi.
Mae ein canllaw Costau prynu a rhedeg car yn mynd i fwy o fanylder am yr holl gostau hyn, ac yn esbonio sut mae ceir gwahanol yn tueddu i effeithio ar bob un.
Mae hefyd yn synhwyrol cael cynilion yn barod ar gyfer unrhyw gostau annisgwyl. Mae mwy o wybodaeth am faint i'w gynilo yn ein canllaw Cynilion brys - faint sy'n ddigon?
Beth mae cael eich cymeradwyo o flaen llaw ar gyfer benthyciad yn ei olygu?
Mae cael eich cymeradwyo o flaen llaw fel arfer yn golygu bod benthyciwr wedi gwneud adolygiad manylach o'ch manylion ac mae'n debygol iawn o gymeradwyo eich cais credyd, ar yr amod eich bod yn pasio'r gwiriadau terfynol.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler ein hadran canllawiau eraill ar Sut i gael y cynnig benthyciad personol gorau.
Siopa o gwmpas am y cyfraddau gorau
Mae yna lawer o fargeinion ceir ar gael, a gall fod yn ddryslyd i gyfrifo'r opsiwn gorau i chi. Gweler ein hadran canllawiau eraill ar Sut i gael y cynnig benthyciad personol gorau ar gyfer eich amgylchiadau.
Bydd ein canllaw ar Sut i brynu car yn eich helpu i ystyried eich holl opsiynau ariannol.
Mae'r opsiwn cywir i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau eich hun, felly bydd angen i chi feddwl am eich sefyllfa ariannol eich hun.
Mae'n werth gwneud eich ymchwil i nodi'r hyn y bydd angen i chi ei ystyried cyn gwneud penderfyniad.
Perygl o gymryd benthyciad car
Fel unrhyw fath o fenthyg, gall cymryd cyllid ar gyfer car effeithio'n sylweddol ar eich statws credyd mewn ffordd gadarnhaol neu negyddol.
Er enghraifft, os byddwch yn methu taliadau, gallai eich adroddiad credyd gael ei effeithio'n negyddol gyda thaliadau a fethwyd yn cael eu hadrodd a gellid adfeddiannu'ch car.
Gweler mwy yn ein hadran canllawiau eraill ar fanteision ac anfanteision benthyciadau personol.
Gwneud taliadau prydlon
Mae talu rhandaliadau eich benthyciad car ar amser yn bwysig gan ei fod yn dangos i'r benthyciwr eich bod yn gyfrifol ac eich bod yn gallu rheoli eich arian yn iawn.
Fodd bynnag, gall pethau ddigwydd a all arwain at fethu taliad.
Mae bob amser yn well cysylltu â'ch benthyciwr yn gyntaf os ydych yn cael trafferth ac yn debygol o fethu taliad.
Bydd methu taliad yn effeithio’n wael ar eich sgôr credyd. Mae'n well ceisio osgoi hyn drwy siarad â'ch benthyciwr o flaen llaw, oherwydd efallai y bydd yn gallu trefnu rhywbeth gyda chi. Gall siarad â'ch benthyciwr fod yn opsiwn.