Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Adeiladu eich cronfa bensiwn

      Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    • Esbonio pensiynau

      Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    • Problemau pensiwn

      Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    • Cymryd eich pensiwn

      Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    • Treth a phensiynau

      Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    • Pensiynau ac ymddeoliad

      Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    • Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    • Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    • Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    • Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    • Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    • Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Hafan blog
Hafan blog

Sut i gwyno am gyllid car wedi’i gamwerthu

Dyn mewn car yn gyrru
Wedi’i ddiweddaru diwethaf: 28 Rhagfyr 2024

Os gwnaethoch gymryd cyllid ar gerbyd cyn mis Ionawr 2021, efallai eich bod wedi cael eich cam-werthu trefniant comisiwn yn ôl disgresiwn (DCA). Dyma sut i gwyno a gwneud cais am iawndal.

Diweddariad diweddaraf – Cwynion nad ydynt yn ymwneud â’r DCA

Yn dilyn dyfarniad Llys Apêl, bydd yr FCA yn ymchwilio i gwynion cyllid ceir sy’n cynnwys pob comisiwn, gan gynnwys comisiynau sefydlog - nid trefniadau comisiwn yn ôl disgresiwn (DCAs) yn unig.

Mae hyn yn golygu y gallai fod iawndal yn ddyledus i lawer mwy o bobl. Rydym yn aros i ddysgu mwy am sut y bydd hyn yn gweithio, ond mae’n syniad da cyflwyno’ch cwyn cyn gynted â phosibl.

Ym mis Rhagfyr 2024, estynnodd yr FCA yr amser sydd gan gwmnïau cyllid ymateb i gwynion comisiwn nad ydynt yn ymwneud â’r DCA tan ar ôl Rhagfyr 2025. Mae hyn yn unol yn fras â’r rheolau presennol ar gyfer cwynion DCA, a eglurir ar y dudalen hon.

Byddwn yn darparu canllawiau gyda mwy o fanylion ar gwynion nad ydynt yn ymwneud â’r DCA yn fuan. Mae’r canllawiau canlynol ar gwynion os gwerthwyd cyllid i chi gyda DCA yn aros yr un fath. 

Cyn 2021, gallai gwerthwyr ceir benderfynu ar eich cyfradd llog

Cyn iddo gael ei wahardd ar 28 Ionawr 2021, roedd rhai gwerthwyr ceir a broceriaid credyd yn cael penderfynu ar y gyfradd llog y byddech yn ei thalu. 

Roeddent yn ennill mwy o arian pe gwnaethant werthu cyfradd llog uwch i chi, a elwir yn drefniant comisiwn dewisol. 

Mae hyn yn golygu y gallai cyllid car fod wedi cael ei gam-werthu i lawer, gan gynnwys: 

  • Prynu Contract Personol (PCP), a 

  • Hurbwrcas (HP). 

Ond nid yw hyn yn berthnasol i brydlesu ceir – a elwir hefyd yn Llogi Contract Personol (PCH). 

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ymchwilio i gam-werthu eang posibl

Mae miloedd eisoes wedi cwyno y gallent fod wedi gordalu, ond mae’r rhan fwyaf wedi cael eu gwrthod gan fenthycwyr.

I helpu, mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi lansio ymchwiliad i weld a yw cwmnïau wedi gwneud unrhyw beth o’i le ac a yw cwynion yn cael eu rheoli’n deg.

Y syniad yw dweud wrth fenthycwyr sut i ymdrin â’r cwynion hyn a’r ffordd orau iddynt ddosbarthu unrhyw iawndal sy’n ddyledus. Disgwylir i’r FCA gyhoeddi ei ganfyddiadau a’r camau nesaf ym mis Mai 2025.

Tra bod yr FCA yn datrys hyn, nid oes angen i fenthycwyr ateb i gwynion newydd (a rhai diweddar). Ar hyn o bryd mae disgwyl i hyn bara tan ar ôl 4 Rhagfyr 2025, ond mae’n dal yn werth cwyno nawr. 

Gallai iawndal fod yn ddyledus i chi

Mae’n rhaid i gwmnïau godi tâl teg arnoch, felly dylech gael iawndal os yw cyllid wedi’i gamwerthu. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw gyllid a gymerwyd allan ar gerbyd ar gyfer ddefnydd personol, gan gynnwys ceir, faniau, campervans a beiciau modur

Caiff hyn ei gyfrifo’n aml fesul achos, ond gallai gynnwys:

  • ad-daliad o’ch ad-daliadau

  • taliad ewyllys da, a 

  • y llog ar ei ben.

Gallai’r FCA benderfynu dweud wrth gwmnïau sut i gyfrifo hyn, yn dibynnu ar ganlyniad eu hymchwiliad.

Mae rhai cwmnïau wedi honni nad ydynt o fewn cwmpas yr ymchwiliad – gallwch weld rhestr o’r cwmnïau hyn sydd ddim yn defnyddio Trefniadau Dewisol y Comisiwn ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd

Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau

Efallai y bydd sgamwyr yn cysylltu â chi i ddweud bod iawndal yn ddyledus i chi, a byddant yn gofyn am eich manylion fel y gallant gasglu gwybodaeth am eich hunaniaeth.

Byddwch yn ofalus os bydd unrhyw un yn cysylltu â chi’n annisgwyl ynghylch cyllid car a gamwerthwyd. Ym mron pob achos, sgam yw hyn.

Sut i gwyno

Cyn cwyno, mae’n werth gwirio unrhyw waith papur sydd gennych (fel cytundeb cyllid) i weld a yw’n sôn am gomisiwn, ac i wirio ei fod wedi’i dynnu allan cyn 28 Ionawr 2021.

Byddai rhywfaint o gyllid car wedi cael ei werthu heb gomisiwn, neu gomisiwn sefydlog nad yw’n gysylltiedig â’r gyfradd llog a gawsoch.

Os nad ydych yn siŵr, dylech gwyno wrth eich benthyciwr. Mae’n rhad ac am ddim i’w wneud a’u cyfrifoldeb hwy yw ymchwilio i’ch achos.

 

Darganfyddwch pa gwmni y mae angen i chi gwyno iddo

Os nad ydych yn siŵr i ba gwmni y mae angen i chi gyfeirio’ch cwyn ato, gallwch:

  • ofyn i’ch deliwr a ddarparodd y cyllid
  • wirio eich ffeil credyd, gan y bydd yn cynnwys cytundebau sy’n mynd yn ôl 6 mlynedd

Mae’n bosib bod eich darparwr wedi cael ei gymryd drosodd gan gwmni newydd - yn yr achos hwn, gallwch dal gwneud cwyn.

Gwneud eich cwyn

Dyma sut i wneud cwyn newydd:

  1. Casglwch unrhyw wybodaeth am gyllid eich car. Fel arfer gallwch gwyno o fewn tair blynedd o sylwi bod rhywbeth o’i le, neu chwe blynedd o’r cyllid yn cael ei werthu i chi.
  2. Cwynwch i’ch benthyciwr, yn ysgrifenedig yn ddelfrydol. Dywedwch wrthynt eich bod yn meddwl eich bod wedi gordalu a chynnwys cymaint o wybodaeth ag sydd gennych. Mae gan Which? dempled am ddim ar sut i gwynoYn agor mewn ffenestr newydd a mae gan MoneySavingExpert dempled am ddim Yn agor mewn ffenestr newydd  y gallwch ei ddefnyddio hefyd.
  3. Bydd eich benthyciwr yn adolygu eich achos ac yn darparu ymateb terfynol, gan gynnwys yr hyn y bydd yn ei wneud i unioni pethau. Ar hyn o bryd mae ganddynt tan 4 Rhagfyr 2025 i wneud hyn.
  4. Os ydych yn anhapus gyda’r ymateb terfynol, neu os nad ydynt yn ymateb mewn amser, gallwch fynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) am ddim. Mae pa mor hir sydd gennych i gwyno i FOS yn dibynnu ar pryd y byddwch yn derbyn eich ymateb terfynol
  5. Bydd y FOS yn rhoi penderfyniad annibynnol i chi ynghylch a oedd ymateb eich benthyciwr yn deg neu a oes angen iddo wneud mwy.

Osgoi talu rhywun i reoli eich cwyn

Meddyliwch yn ofalus cyn defnyddio cwmni i wneud cwyn.

Fel arfer, byddant yn cymryd cyfran fawr o unrhyw iawndal a gewch ac yn dilyn yr un broses y gallech ei gwneud eich hun yn hawdd.

Pan fyddwch wedi derbyn ymateb terfynol

Os ydych yn anhapus ag ymateb terfynol eich darparwr, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd

Bydd angen i chi fynd â’ch cwyn i’r Ombwdsmon Ariannol cyn y dyddiad cau:

  • Os anfonir ymateb terfynol atoch rhwng 12 Gorffennaf 2023 a 29 Ebrill 2025, bydd gennych tan 29 Gorffennaf 2026 i gwyno i’r Ombwdsmon Ariannol.
  • Os anfonir ymateb terfynol atoch rhwng 30 Ebrill 2025 a 29 Ionawr 2026, bydd gennych 15 mis o’r dyddiad y cafodd ei anfon i gwyno i’r Ombwdsmon Ariannol.

Mae hyn yn rhoi amser ychwanegol i chi weld canlyniad ymchwiliad yr FCA cyn mynd â’ch cwyn ymhellach.

Os ydych eisoes wedi cwyno

Mae degau o filoedd eisoes wedi cwyno, ond mae’r rhan fwyaf o’r rhain wedi cael eu gwrthod gan fenthycwyr

Dyma’r prif reswm pam mae’r FCA wedi camu i mewn i ymchwilio.

Os ydych eisoes wedi derbyn cynnig neu os yw’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS) wedi ochri gyda’r benthyciwr, ni fyddwch yn gallu cwyno eto (oni bai eich bod yn dewis mynd i’r llys). Fel arall, mae gennych fwy o opsiynau.

Cwynion a wnaed cyn 17 Tachwedd 2023

Os gwnaethoch gwyno cyn 17 Tachwedd 2023, roedd gan eich benthyciwr wyth wythnos i roi ymateb terfynol i chi.

Os nad yw’r benthyciwr wedi ymateb mewn pryd, neu os nad ydych yn fodlon â’r ymateb, gallwch fynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am ddim i gael penderfyniad annibynnol. 

Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn cwyno i’r Ombwdsmon Ariannol erbyn y dyddiad a roddir yn yr ymateb terfynol.

Cwynion a wnaed rhwng 17 Tachwedd 2023 a 10 Ionawr 2024

Os gwnaethoch gwyno rhwng 17 Tachwedd 2023 a 10 Ionawr 2024 a’ch bod yn anhapus ag ymateb terfynol eich benthyciwr, gallwch fynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am ddim i gael penderfyniad annibynnol. 

Ond efallai yr hoffech aros i weld canlyniad ymchwiliad yr FCA yn gyntaf.

Bydd angen i chi gwyno i FOS erbyn pa un bynnag ddaw yn ddiweddarach, naill ai:

  • 15 mis o’r dyddiad yr anfonwyd yr ymateb terfynol, neu
  • 29 Gorffennaf 2026.

Mae gennych 15 mis o’r dyddiad yr anfonwyd yr ymateb terfynol i fynd â’ch cwyn i’r FOS.

Os nad ydych wedi cael ymateb terfynol, mae’r dyddiad cau arferol o wyth wythnos i’ch benthyciwr ateb wedi cael ei oedi. 

Yn hytrach, dylent egluro beth sy’n digwydd a sut yr effeithir ar eich cwyn, o dan yr amserlenni presennol, y diweddaraf y dylech glywed yn ôl yw 4 Rhagfyr 2025.

Cwynion a wnaed ar ôl 10 Ionawr 2024

Mae gan eich darparwr hyd at 30 Ionawr 2026 i ymateb i’ch cwyn. Dylent gydnabod eich cwyn o hyd – os nad ydynt, cysylltwch â nhw i wirio eu bod wedi’i dderbyn.

Ar ôl i chi gael ymateb terfynol, gallwch fynd â’ch cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol am benderfyniad annibynnol am ddim.

Ond efallai yr hoffech aros i weld canlyniad ymchwiliad yr FCA yn gyntaf.

Bydd angen i chi gwyno i FOS erbyn pa un bynnag ddaw yn ddiweddarach, naill ai:

  • 15 mis o’r dyddiad yr anfonwyd yr ymateb terfynol, neu
  • 29 Gorffennaf 2026.

Os gwnaethoch gymryd cyllid car ar ôl 28 Ionawr 2021

Gallwch gwyno o hyd os oes gennych broblem gyda chyllid car wedi’i dynnu allan ar ôl 28 Ionawr 2021.

Byddwch yn dilyn y broses gwynion arferol a’r amserlenni safonol.

Gweler Sut i gwyno os oes cyllid wedi’i gam-werthu i chi am fwy o help. 

Steve Brigden
Awdur Steve Brigden
Nol i’r brig
Rhannwch y post hwn
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Tagiau
Benthyca Cyllid car Credyd Ceir Pob postiadau blog

Swyddi diweddaraf

Bandiau treth car wedi’u hesbonio

01 Ebrill 2025

Sut ydych chi’n cael benthyciad car?

19 Chwefror 2025

Esbonio profion MOT

10 Rhagfyr 2024

Mwy o bostiadau blog
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau