Bandiau treth car wedi’u hesbonio

Cyhoeddwyd:
16 Rhagfyr 2024
Nid yw swm y dreth car a godir yr un peth am bob car. Yn dibynnu ar ba mor ecogyfeillgar yw'r car, gall gostio unrhyw swm rhwng dim ac ychydig o filoedd o bunnoedd - ac efallai y byddwch wedi'ch eithrio os oes gennych anabledd.
Beth yw treth car?
Mae treth car (a elwir yn swyddogol yn VED ond y cyfeirir ato weithiau fel treth ffordd) yn dâl y mae'n rhaid i chi ei dalu ar unrhyw gar sydd:
- wedi’i gofrestu yn y Deyrnas Unedig, ac
- yn cael ei yrru neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus.
Wrth brynu car, bydd angen i chi ei drethu ar GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw eich car wedi’i ddatgan oddi ar y ffordd gyda SORN
Os nad ydych yn cadw neu'n gyrru eich car ar ffordd gyhoeddus, ni fydd angen i chi dalu treth car.
Bydd angen i chi gofrestru eich cerbyd fel oddi ar y ffordd ar GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd, a elwir yn aml yn Hysbysiad Statudol Oddi ar y Ffordd (SORN).
Faint yw treth car?
Mae faint o dreth car y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar:
- pryd gafodd eich car ei gofrestru’n gyntaf
- pa fath o danwydd y mae'r car yn ei ddefnyddio (neu os yw'r car yn drydanol)
- faint o CO2 mae'r car yn ei allyrru
- os yw pris prynu eich car dros £40,000
- os byddwch yn dewis talu bob mis, bob chwe mis neu bob blwyddyn.
Byddwch hefyd yn talu cyfraddau gwahanol os mai hon yw'r flwyddyn gyntaf i'r car gael ei drethu.
Treth car wrth gofrestru car newydd
Os ydych yn cofrestru car newydd, bydd angen i chi dalu'r 12 mis cyntaf ymlaen llaw. Bydd y swm hwn yn seiliedig ar:
- y math o danwydd y mae'r car yn ei ddefnyddio
- ei allyriadau CO2.
Gallwch weld faint fyddwch chi'n ei dalu am y taliad treth cyntaf ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Cyfraddau treth car
Gallwch weld manylion llawn cyfraddau treth car ar GOV.UK:
- Ceir a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017Yn agor mewn ffenestr newydd
- Ceir a gofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2001 a 31 Mawrth 2017Yn agor mewn ffenestr newydd
- Ceir a gofrestrwyd cyn 1 Mawrth 2001Yn agor mewn ffenestr newydd
Sut ydw i’n talu treth car?
Mae eich treth car yn daliad blynyddol, ond nid oes rhaid i chi ei dalu i gyd ar unwaith. Gallwch ddewis:
- talu'n fisol (ar y 1af o bob mis)
- talu bob chwe mis
- talu bob blwyddyn.
Byddwch yn talu ychydig yn llai os byddwch yn dewis talu'r cyfan mewn un tro. Gallwch dalu treth ar eich cerbyd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Talu treth car gyda Debyd Uniongyrchol
Sefydlu Debyd Uniongyrchol yw'r ffordd orau o sicrhau nad ydych yn methu taliad.
Bydd gennych yr opsiwn i sefydlu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trethu'r cerbyd ar-lein. Gallwch hefyd sefydlu un mewn Swyddfa’r Post.
Pa fand treth car yw fy nghar?
Os oes gennych chi gofrestriad a llyfr log V5C eich car, gallwch ddarganfod faint o dreth car y byddwch chi'n ei thalu bob blwyddyn ar wiriwr statws cerbyd GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os mai dim ond cofrestriad y car sydd gennych, gallwch barhau i ddefnyddio'r gwiriwr cerbyd i weld manylion y car:
- blwyddyn cofrestru
- math tanwydd, ac
- allyriadau CO2.
Yna gallwch ddefnyddio'r rhain i gyfrifo pa fand treth yw'r car wrth ddefnyddio'r tablau treth cerbyd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Pwy sydd ddim yn gorfod talu treth car?
Ni fydd angen i chi dalu treth car os:
- oes gennych anabledd cymwysYn agor mewn ffenestr newydd
- mae eich car wedi'i gofrestru oddi ar y ffordd
- rydych yn gyrru car trydan (tan 1 Ebrill 2025)
- mae eich car dros 40 oed.
Hyd yn oed os nad oes rhaid i chi dalu unrhyw beth, bydd angen i chi drethu'ch cerbydYn agor mewn ffenestr newydd o hyd bob blwyddyn i roi gwybod i'r DVLA.
Pryd allaf roi’r gorau i dalu treth car?
Gallwch roi'r gorau i dalu treth car os ydych wedi cwblhau Hysbysiad Statudol Oddi ar y Ffordd (SORN).
Gallwch hefyd roi'r gorau i dalu treth car unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i'r DVLA:
- eich bod wedi gwerthu'ch car, sy'n golygu bod treth wedi dod yn gyfrifoldeb i'w berchennog newydd
- rydych chi wedi sgrapio eich car
- mae eich car wedi'i ddileu gan gwmni yswiriant
- mae eich car wedi'i ddwyn.
Gallwch ganslo'ch treth car a chael ad-daliad ar GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd
Pryd alla i yrru car heb ei drethu?
Yr unig sefyllfa lle caniateir i chi yrru car heb dreth yw os ydych chi'n mynd ag ef i MOT sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw.
Fel arall, mae gyrru car heb ei drethu yn anghyfreithlon.
Sut ydw i’n ddatgan car oddi ar y ffordd?
Bydd angen i chi gwblhau Hysbysiad Statudol Oddi ar y Ffordd (SORN). Gallwch gofrestru eich car fel oddi ar y ffordd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Ar ôl i chi wneud hyn, bydd angen i chi sicrhau bod eich car yn cael ei gadw oddi ar ffyrdd cyhoeddus. Ni ellir ei yrru am unrhyw reswm heblaw mynd ag ef i MOT sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw.
A oes angen i mi dalu treth car ar gyfer car trydan
O 1 Ebrill 2025 bydd angen i yrwyr ceir trydan ac allyriadau isel dalu treth car.
Gallwch weld manylion llawn faint y byddwch yn ei dalu am geir trydan ac allyriadau isel ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes gennych gar trydan gyda phris prynu o dros £40,000, byddwch eisoes yn talu treth car.
Ydy fy nghar wedi’i drethu?
Gallwch wirio a yw eich car wedi cael ei drethu gan ddefnyddio’r gwiriwr statws cerbyd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn prynu car, bydd angen i chi ei drethu unwaith y bydd yn eiddo i chi. Ni fydd yn cael ei drethu nes i chi wneud hynny, hyd yn oed os nad oedd treth y perchennog blaenorol i fod i ddod i ben eto.
Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn trethu fy nghar?
Os na fyddwch yn trethu'ch car, cewch ddirwy o £80 gan y DVLA (wedi'i ostwng i £40 os byddwch yn ei dalu o fewn 33 diwrnod). Mae risg hefyd y bydd eich car yn cael ei glampio neu ei bowndio.
Gallwch weld yr ystod lawn o ddirwyon y gallech eu hwynebu os ydych yn berchen ar neu’n gyrru car heb ei drethu ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os na fyddwch yn talu'ch cosb, bydd eich gwybodaeth yn cael ei hanfon at gasglwr dyledion i adennill y taliad, a gallech hyd yn oed gael eich erlyn.
Bydd y DVLA yn anfon nodyn atgoffa atoch pan fydd eich treth car yn ddyledus. Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n datrys hyn mewn pryd.
Beth os ydw i wedi cael dirwy annheg?
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael dirwy drwy gamgymeriad, gallwch apelio yn erbyn dirwy DVLA ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
A yw’r dreth yn cael ei throsglwyddo wrth brynu car?
Na. Os ydych yn prynu car y mae rhywun arall wedi'i drethu, bydd angen i chi drethu'r cerbyd eich hun o hyd cyn y gallwch ei yrru. Does dim ots pa mor hir sydd ar ôl cyn i'r dreth ddod i ben.
Wrth brynu car, bydd eich taliad treth cyntaf yn ddyledus ar y 1af o'r mis.
Gallwch drethu car newydd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
A allaf gael ad-daliad ar dreth os byddaf yn gwerthu car?
Gallwch, byddwch yn gallu cael ad-daliad ar unrhyw fisoedd llawn o dreth sydd ar ôl. Mae hyn yn golygu na fyddwch ar eich colled os ydych yn talu eich treth yn flynyddol.
Bydd eich ad-daliad yn cael ei anfon yn awtomatig pan fyddwch yn dychwelyd adran werthu'r V5C i'r DVLA.
Gallwch ganslo'ch treth car a chael ad-daliad ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
A oes angen i mi drethu mathau eraill o gerbydau?
Oes, bydd angen trethu unrhyw gerbyd gan gynnwys:
- beiciau modur
- mopeds
- beiciau modur tair olwyn
- cartref modurYn agor mewn ffenestr newydd
Bydd angen i chi drethu beiciau modur a beiciau modur tair olwyn trydanol o 1 Ebrill 2025. Gallwch weld cyfraddau treth ar gyfer cerbydau eraill ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Pa gostau eraill sydd wrth yrru car?
Mae treth car yn un o ychydig o wahanol gostau y byddwch yn eu hwynebu wrth redeg car. Bydd angen i chi hefyd dalu am:
- yswiriant
- gwasanaethu a chynnal a chadw
- profion MOT
- tanwydd neu drydan
- unrhyw ddirwyon parcio neu oryrru
- tollau a thaliadau parth aer glân.
Gallwch ddysgu mwy yn ein canllaw Costau prynu a rhedeg car.
Sut alla i sicrhau y gallaf fforddio talu treth car?
Bydd angen i chi dalu treth car bob blwyddyn, p'un a yw'n fisol, bob chwe mis neu'r cyfan ar yr un pryd. Defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb i sicrhau eich bod yn barod am y gost flynyddol hon.