Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Y ffordd orau o brynu car drwy drefniant ariannol

Nid yw prynu car yn benderfyniad syml. O brynu’r car yn gyfan gwbl i brynu car ar gyllid, mae sawl opsiwn. Rhaid i chi ystyried costau rhedeg hefyd. Yn wir, mae’n debyg mai dyma’r ail beth drutaf y byddwch chi’n ei brynu - ar ôl eich cartref. Felly mae’n bwysig gwneud yn siwr eich bod chi’n dewis y ffordd orau i chi brynu car.

Defnyddio arian i brynu car

Y ffordd rataf a’r ffordd fwyaf syml i brynu car yw cyllido’r cyfan ohono, neu ran ohono, gydag arian parod.

Byddwch yn berchen y car yn llwyr os gallwch dalu’r gost lawn gydag arian parod.

Os ydych yn prynu’r car trwy gytundeb ariannol fel prynu ar gontract personol (PCP) neu logi contract personol (PCH), bydd y darparwr ariannol yn berchen y car yn ystod y contract. Mae hyn yn golygu ni allwch werthu’r car a gallwch eu colli os ydych yn methu ad-daliadau.

Manteision ac anfanteision

Manteision:
  • Gan eich bod yn berchen ar gar yn llwyr, gallwch werthu’r car unrhyw adeg os fydd eich amgylchiadau yn newid neu os ydych yn ddioddef o broblemmau ariannol.

  • Nid oes rhaid i chi boeni am ad-daliadau benthyciad misol, neu’r telerau ac amodau o’ch cytundeb ariannol. 

  • Ni fydd unrhyw gofnod ohono ar eich adroddiad credyd.

  • Nid oes rhaid i chi boeni am werth y car fod llai na beth sy’n daladwy ar y cytundeb ariannol.

Anfanteision:
  •  Efallai y bydd eich dewis yn fwy prin, ac efallai y bydd temtiad arnoch i gyfaddawdu ar safon o ddiogelwch neu ddibynadwyedd y cerbyd.

     

  •  Bydd angen swm sylweddol o arian ar gael i chi yn syth.

  •  Nid yw’n helpu gwella eich adroddiad credyd trwy reoli’r benthyciad yn iawn. 

Os byddwch chi’n penderfynu defnyddio arian parod:

  • gwnewch yn siwr bod gennych chi ddigon o arian i gynnal cost o foduro, fel yswiriant, treth car a chynhaliaeth
  • hyd yn oed os ydych chi’n defnyddio arian o’ch cynilion efallai y byddai’n well i chi dalu am ychydig o’r car ar eich cerdyn credyd er mwyn i chi gael budd amddiffyniad prynu ar gerdyn credyd. Mae hyn yn golygu bydd y cwmni cerdyn yn cydatebol gyda’r manwerthwr os aiff rhywbeth o’i le. Dylech dalu’r bil yn llawn yn ystod y mis nesaf.

Os byddwch chi’n penderfynu defnyddio drefniant ariannol:

  •  defnyddiwch eich cynilo er mwyn rhoi’r blaendal fwyaf posibl i chi gael mynediad i’r cyfraddau gorau ar unrhyw gytundeb ariannol. 

Sgoriau credyd a chyllid car

Os nad ydych yn talu gydag arian parod, byddwch yn defnyddio cyllid car neu gredyd i brynu eich car. Os ydych yn defnyddio credyd, byddwch yn cael mynediad i’r cyfraddau gorau os oes gennych sgôr credyd da.

Mae rhaid i chi fod yn ymwybodol er bod gennych sgôr credyd da a gallwch fenthyg swm mwy, nid yw’n golygu y gallwch fforddio hyn. Bydd rhaid i chi gyfrifo eich holl dreuliau a bod yn hyderus y gallwch gwrdd â’r holl ad-daliadau am gyfnod llawn o’r cytundeb credyd.

Os ydych yn methu eich taliadau car, siaradwch gyda’ch cwmni cyllid neu fenthyciwr cyn gynted â phosib. Efallai y gallwch roi’r car yn ôl neu dalu’r benthyciad yn gynnar.

Prynu car gan ddefnyddio benthyciad personol

Gallwch gael benthyciad personol o fanc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyllid os yw’ch sgôr credyd yn dda. Gallwch ledaenu’r gost dros un i saith mlynedd.

Gwnewch yn siŵr nad yw’r benthyciad wedi’i warantu yn erbyn eich cartref. Fel arall byddwch yn rhoi’ch cartref dan risg os byddwch chi’n methu talu’r ad-daliadau.

Edrychwch o gwmpas am y gyfradd log orau trwy gymharu’r APR (neu gyfradd ganrannol flynyddol, sy’n cynnwys costau eraill sy’n rhaid i chi eu talu ar ben llog).

Manteision ac anfanteision

Manteision
  • Byddwch yn berchen â’r car o’r dechrau’r benthyciad, a gallwch ei werthu os bydd angen.

     

  • Heblaw talu gydag arian parod, fel arfer y dewis amgen rhataf dros gostau i gyd yw prynu gyda benthyciad personol.

  • Gellir trefnu dros y ffôn, ar y rhyngrwyd neu wyneb yn wyneb.

  • Gellir defnyddio’r benthyciad i dalu am y car i gyd (ond nid oes raid).

  • Gallwch gael cyfradd llog sefydlog cystadleuol os byddwch chi’n edrych o gwmpas.

Anfanteision
  • Efallai y bydd angen i chi aros i’r arian gael ei dalu i’ch cyfrif banc ond mae rhai darparwyr benthyciadau yn sicrhau bod arian ar gael bron ar unwaith.

  • Gallai effeithio ar fenthyciadau eraill.

  • Gall costau misol fod yn uwch na gydag opsiynau eraill.

Hurbwrcasu (HP) i gyllido car newydd

Mae hurbwrcasu yn ffordd o brynu car ar gyllid, ble y mae’r benthyciad wedi’i ddiogelu yn erbyn y car. Byddwch chi angen talu blaendal o tua 10%, ac yna gwneud taliadau misol sefydlog dros gyfnod penodol o amser.

Mae hyn yn golygu na fyddwch chi’n berchen arno hyd nes y bydd y taliad olaf wedi’i wneud. Felly, os ydych yn methu taliadau, gallwch golli’r car.

Fel arfer mae trefniadau hurbwrcasu yn cael eu trefnu gan y deliwr car, ac felly mae’n nhw’n hwylus i’w trefnu a gallant fod yn gystadleuol iawn ar gyfer ceir newydd, ond yn llai cystadleuol ar gyfer rhai ail law.

I geir newydd mae'r cyfraddau gorau, felly gwirwch beth fydd rhaid i chi dalu os ydych yn prynu car ail law.

Unwaith y byddwch wedi talu hanner cost y car, efallai y gallwch ei roi yn ôl heb orfod gwneud unrhyw daliadau eraill – gwirwch eich contract i weld os bydd hyn yn gymwys i chi. Bydd rhaid i’r car bod mewn cyflwr da hefyd, neu ella bydd rhaid talu am gostau trwsio.

Unwaith y byddwch wedi talu traean o’r cyfanswm sy’n ddyledus gennych, ni allai y benthyciwr ailfeddiannu eich cerbyd heb orchymyn llys. 

Manteision ac anfanteision

Manteision
  • Blaendal isel (10% fel arfer).

  • Cyfnodau ad-dalu hyblyg (rhwng 12 a 60 mis).

  • Cyfraddau llog sefydlog a chystadleuol.

Anfanteision
  • Ni fyddwch yn berchen ar y car tan y taliad olaf.

     

  • Mae’n tueddu i fod yn fwy drud ar gyfer cytundebau tymor byr.

Prynu ar Gontract Personol (PCP)

Mae’r math hwn o ddêl cyllido car yn debyg i gytundeb hurbwrcasu ond fel arfer byddwch chi’n gwneud taliadau misol is. Cofiwch y bydd cyfanswm yr arian y byddwch chi’n ei dalu yn aml yn uwch.

Yn lle cael benthyciad am gost lawn y car, rydych chi’n cael benthyciad am y gwahaniaethu rhwng ei bris yn newydd sbon a gwerth disgwyliedig y car ar ddiwedd y contract personol. Mae hyn wedi’i seilio ar ragolwg o filltiroedd blynyddol yn ystod cyfnod y contract.

Ar ddiwedd y cyfnod gallwch:

  • Ddychwelyd y car i’r deliwr a thalu unrhyw gostau efallai eich bod wedi achosi (er enghraifft, traul a gwisgo gormodol neu fynd dros y milltiroedd)
  • Defnyddio’r gwerth ailwerthu tuag at brynu car newydd.
  • Talu’r gwerth ailwerthu a’i gadw. Gelwir hyn yn daliad balŵn hefyd. Mae hyn yn seiliedig ar beth mae’r deliwr yn meddwl bydd gwerth y car nawr – Gwerth Lleiaf Gwarantedig y Dyfodol (GMFV) – a gall hyn amrwyio rhwng ychydig gannoedd i ychydig filoedd o bunnoedd. Bydd hyn yn swm mwy na’ch taliad misol.  Os nad oes gennych y swm yma wedi’i gynilo, efallai bydd rhaid i chi gymryd benthyciad arall i dalu’r swm hwn.

Bydd rhaid i chi dalu hanner gwerth y cerbyd er mwyn terfynu’r ddêl yn gynnar neu ei ganslo. Os nad ydych wedi gwneud hyn, bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth cyn y gallwch ddod allan o’r contract. Bydd rhaid i’r car fod mewn cyflwr da hefyd, neu efallai bydd rhaid talu am gostau trwsio.

Manteision ac anfanteision

Manteision
  • Taliadau misol is.

  • Blaendal isel (10% fel arfer).

  • Cyfnodau ad-dalu hyblyg (rhwng 12 a 48 mis).

  • Dewis o beth i’w wneud ar ddiwedd y tymor ad-dalu.

Anfanteision
  • Bydd gwneud mwy na’r milltiroedd fel arfer yn arwain at gostau ychwanegol.

  • Gallai traul a difrod gormodol, megis crafiadau, olygu y byddwch chi’n talu ffioedd ychwanegol.

  • Gallai’r cyfanswm y byddwch chi’n talu fod yn fwy na’r hyn y byddwch yn ei dalu gyda hurbwrcasu.

  • Rhaid i chi dalu’r balans sy’n weddill i gadw’r car.

  • Os ydych yn trefnu mynd â’ch car dramor, gwirwch eich contract PCP gan fod rhai cwmnïau yn gosod terfyn ar nifer o ddiwrnodau gall eich car bod tu allan i’r wlad ac efallai bydd rhaid i chi ofyn am ganiatâd cyn mynd â’ch car dramor. 

Prydlesu – Llogi contract personol (PCH)

Rydych chi’n talu swm misol sefydlog i’r deliwr am ddefnyddio’r car, gyda chostau gwasanaethu a chynnal a chadw wedi’u cynnwys, ond rhaid i chi gadw o fewn y milltiroedd a nodir.

Pan fydd y cytundeb yn dod i ben, rydych chi’n rhoi’r car yn ôl. Ni fydd y car byth yn eiddo i chi.

Fel arfer mae llogi (PCH) yn costio mwy bob mis na PCP. Serch hynny, bydd gennych fwy o hyblygrwydd i newid darparwr ac fe all cyfanswm y gost fod yn rhatach yn gyffredinol gan fod y taliad yn cynnwys costau gwasanaethu a chynnal a chadw.

Manteision
  • Moduro am gost fisol sefydlog.

  • Yn cynnwys costau gwasanaethu a chynnal a chadw.

  • Does dim angen poeni am y car yn colli ei werth.

  • Cyfnodau talu hyblyg (rhwng 12 a 36 mis).

Anfanteision
  • Mae’r costau misol yn uwch gan fod y gwaith o wasanaethu’r car a’i gynnal a’i gadw yn gynwysedig.

  • Rhaid talu blaendal o dri mis o rent fel arfer.

  • Costau ychwanegol posibl os byddwch chi’n gwneud mwy o filltiroedd na’r cyfyngiad neu eisiau gorffen y cytundeb yn gynnar.

  • Nid yw’r car byth yn dod yn eiddo i chi.

Defnyddio cerdyn credyd i brynu car

Bydd defnyddio cerdyn credyd i dalu am bris cyfan eich car, neu ran ohono, yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i chi os aiff rhywbeth o’i le - cyhyd â’ch bod chi’n talu’ch taliadau cerdyn misol. Bydd ‘adran 75’ o’r Ddeddf Credyd Defnyddwyr yn eich diogelu os bydd y car yn costio dros £100 a hyd at £30,000.

Serch hynny, bydd rhai delwyr yn codi ffi trafod – weithiau cymaint â 3%. Ac efallai na fydd rhai yn derbyn cerdyn credyd o gwbl.

Mae rhaid i chi fod yn ymwybodol gall cyfraddau llog ar gardiau credyd fod yn uwch na mathau eraill o gyllid. Dêl 0% yw’r gorau fel arfer, fel y gallwch dalu’r benthyciad dros nifer o fisoedd heb orfod talu llog. Os nad oes gennych dêl 0%, talwch y weddill i gyd yn syth er mwyn osgoi llog.  

Defnyddio benthyciadau cyfoed-i-gyfoed i gyllido car newydd

Mae benthyciadau cyfoed-i-gyfoed, neu fenthyca cymdeithasol, yn caniatáu i bobl gael benthyg neu roi benthyg gan ei gilydd heb gynnwys banciau neu gymdeithasau adeiladu. Gallwch weld benthyciadau cyfoed-i-gyfoed ar wefannau megis Zopa.

Byddwch chi angen sgôr credyd da i gael y gyfradd orau, a bydd colli taliadau hefyd yn effeithio ar eich sgôr credyd. Bydd cyfraddau llog yn amrywio gan ddibynnu ar eich sgôr credyd hefyd, efallai y bydd benthyciadau cyfoed-i-gyfoed yn cynnig cyfraddau llog gwell na banciau, ond nid yw hyn bob amser yn wir.

Prynu car ar gyllid – pethau i gadw golwg amdanynt

Pan fyddwch chi’n cymharu deliau cyllido, mae rhai pethau allweddol i’w gwneud cyn gwneud y dewis terfynol.

  • Sicrhewch eich bod chi’n gallu fforddio’r taliad misol, nid dim ond yn awr ond ar gyfer cyfnod cyfan y benthyciad. Hefyd, meddyliwch am sut fyddwch yn talu’r costau foduro car, fel yswiriant, treth car a chynhaliaeth.
  • Sicrhewch eich bod yn deall y termau o’r cytundeb fel terfynau milltiroedd, taliadau balŵn a thalu am gynhaliaeth. Os nad ydych yn ei ddeall, efallai na fydd hyn yn ateb cyllid cywir i chi. Bydd eich darparwr cyllid yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych amdano.
  • Gofynnwch i’r cwmni sy’n cynnig y cyllid i chi beth fydd yn digwydd os byddwch chi’n cael anawsterau i dalu un mis, a pha opsiynau fyddai ar gael i chi os na fyddwch chi’n gallu fforddio talu.

Er mwyn deall eich opsiynau am derfynu eich trefniant cyllid car yn gynnar, gweler ein canllaw Cwtogi costau cyllid car

  • Cymharwch gyfanswm cost y benthyca, gan gynnwys yr holl gostau dros dymor llawn y benthyciad.
  • Byddwch yn ymwybodol o gostau ad-dalu’n gynnar neu eraill, megis costau ar gyfer mynd dros y milltiroedd y rhagwelwyd mewn cynlluniau prynu contract personol a llogi personol.
  • Cymharwch gyfraddau llog trwy edrych ar yr APR (cyfradd ganrannol flynyddol), sy’n cynnwys yr holl gostau y mae angen i chi eu talu. Cofiwch y bydd blaendal mwy fel arfer yn golygu cyfradd llog is. Dylech hefyd wiro os bydd y cyfradd llog yn sefydlog neu newidiol, fel eich bod yn ymwybodol o bryd gall taliadau ei gynyddu.
  • Ystyriwch yn ofalus cyn prynu yswiriant gwarchod taliadau (PPI) neu yswiriant arall, megis sicrwydd GAP, a all fod yn ddrud ac fe allai roi sicrwydd cyfyngedig. Mae sicrwydd GAP wedi’i gynllunio i dalu allan os yw’ch car yn cael ei ddifrodi’n llwyr a bod y cyllid sy’n weddill yn fwy na gwerth eich car.

Darganfyddwch fwy am sicrwydd GAP ac os fydd hyn yn iawn i chi yn ein canllaw A oes angen yswiriant GAP arnoch?

Sut i edrych o gwmpas am y bargeinion cyllido car gorau

Y ffordd orau o chwilio am fargen dda yw defnyddio gwefan gymharu.

Dyma rai o’r safleoedd y gallech eu hystyried.

Mwy o wybodaeth am gyllido car

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.