Mae cytundeb prydlesu personol (PCH) yn rhoi cyfle i chi yrru car newydd bob ychydig o flynyddoedd, â thaliadau misol cymharol isel a dim pryderon am werth ailwerthu’r car. Fodd bynnag, ni fydd yn rhoi dewis i chi brynu’r car ar ddiwedd y cytundeb.
Beth sydd yn y canllaw
- Sut mae prydlesu car yn gweithio?
- Sut rwyf yn cyllido car ar gytundeb prydlesu personol (PCH)?
- Cyfyngiadau wrth i chi brydlesu car
- Y gwahaniaeth mawr rhwng PCP a PCH: prynu a bod yn berchen ar y cerbyd
- Eich hawliau os ydych yn dymuno canslo cynllun PCH
- Beth i’w wneud os ydych yn dechrau mynd ar ei hôl â’ch taliadau cyllido car
- Cymharu cytundebau prydlesu car
Sut mae prydlesu car yn gweithio?
Coronafeirws a thaliadau car
Darganfyddwch fwy am wyliau talu os ydych yn cael trafferth â thaliadau cyllid car.
Mae prydlesu car yn debyg i rentu tymor hir – byddwch yn talu ffi fisol sefydlog i ddefnyddio’r car am gyfnod o amser a nifer o filltiroedd a gytunir arnynt.
Efallai bydd angen i chi basio gwiriad credyd i gael eich cytundeb. Gallwch wirio’ch sgôr credyd â:
Ni fydd gwiriadau credyd prydlesu car yn asesu’ch gwariant eraill felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu fforddio’r ad-daliadau. Mae hyn yn golygu bod angen i chi wneud yn siŵr bod y costau o fewn eich cyllideb.
I dorri’n rhydd o gytundeb PCH yn gynnar efallai na fyddwch yn medru rhoi diwedd ar y cytundeb ar unwaith. Efallai y bydd rhai costau ychwanegol i’w talu cyn i chi adael nad oeddech wedi eu hystyried yn eich cyllideb.
Gall hyn fod yn broblem os ydych yn dod â chytundeb i ben gan na allwch fforddio’r taliadau mwyach.
Sut rwyf yn cyllido car ar gytundeb prydlesu personol (PCH)?
Os ydych yn dymuno prydlesu car dros gyfnod hir ond ddim yn dymuno ei brynu, y dewis rhataf mae’n debyg yw drwy PCH. Dyma’r manylion:
- mae’r cytundeb prydlesu yn para dwy i bum mlynedd.
- bydd angen i chi basio gwiriad credyd gorfodol yn gyntaf.
- mae rhaid i chi dalu tua tri mis o’r brydles ymlaen llaw.
- ni fydd y cerbyd fyth yn perthyn i chi yn ystod y cytundeb ac bydd rhaid i chi ei ddychwelyd ar ddiwedd y cyfnod.
- mae taliadau misol yn uwch fel arfer nag ar gyfer cerbydau cyfatebol a brydlesir drwy PCP, ond dros gyfnod llawn y cytundeb byddwch yn talu llai ar PCH yn arferol.
- Weithiau gallwch gael pecyn cynhaliaeth sy’n cynnwys pethau fel treth car blynyddol (treth ffordd) neu wasanaethu.
- Mae amodau a thelerau llym, fel cyfyngiad ar y nifer o filltiroedd y caniateir i chi deithio.
Faint rwyf yn ei dalu y mis ar PCH?
Mae taliadau misol yn uwch fel arfer na phe byddech wedi prydlesu’r car drwy PCP. Y rheswm am hyn yw eich bod yn prydlesu ar sail swm llawn am y cerbyd ac â PCP rydych yn benthyca rhan o’r gwerth.
Fodd bynnag, mae’r swm y byddwch yn ei dalu dros gyfnod llawn y cytundeb yn aml yn llai na PCP. Ond mae pob cytundeb yn wahanol felly cofiwch chwilio am y cynnig gorau a chymharwch y gost yn llawn gan gynnwys y costau cynnal.
Mewn sawl ffordd mae PCP yn debyg, ond yn galluogi i chi brynu’r car ar ddiwedd y cytundeb.
Awgrym da
Bydd pedwar o bob pump o bobl sydd â chynlluniau PCP yn dewis peidio â phrynu’r car ar ddiwedd eu cytundeb (Ffynhonnell: y Gymdeithas Cyllido a Phrydlesu). Ydy hi’n debygol y byddech chi’n un ohonynt? Os felly, gall lesio car drwy Gytundeb Hurio Personol fod yn rhatach i chi.
Cyfyngiadau wrth i chi brydlesu car
Yn unol â phob cytundeb rhentu, mae rhai cyfyngiadau y bydd angen i chi eu hystyried:
- Ni fyddwch yn gallu addasu’r car mewn unrhyw ffordd – er enghraifft, ychwanegu bar tynnu – heb ganiatâd. Fodd bynnag, gallwch ofyn i’r cwmni prydlesu wneud addasiadau cyn i chi ei gymryd.
- Os ydych yn mynd dros y terfyn milltiredd, bydd rhaid i chi dalu cosb am y milltiroedd ychwanegol hyn ar ddiwedd y cytundeb. Yn arferol mae hyn yn 10c fesul pob milltir ychwanegol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn amcangyfrif eich cyfanswm milltiroedd yn gywir. Deallwch y cost o fynd dros y terfyn milltiroedd. Gall fod yn rhatach dewis cytundeb â mwy o filltiroedd na thalu cosbau.
- Mae rhaid i chi ddychwelyd y car ‘mewn cyflwr da’ (wedi ystyried ‘traul dderbyniol’). Felly os, er enghraifft, caiff eich drych ochr ei dorri, efallai y codir tâl arnoch am y gost o’i drwsio.
- Os ydych yn bwriadu mynd â’ch car dramor, efallai y byddwch angen cael caniatâd ysgrifenedig gan y cwmni cyllid bob tro y byddwch yn gwneud hynny ac efallai y bydd rhaid i chi dalu i wneud hynny hefyd.
Y gwahaniaeth mawr rhwng PCP a PCH: prynu a bod yn berchen ar y cerbyd
Defnyddio PCH | Defnyddio PCP |
---|---|
Mae cyfanswm cost cytundeb PCP yn debygol o fod yn uwch o ganlyniad i flaendaliadau a thaliadau balŵn. |
Gall eich bod yn berchen ar y car ar ddiwedd cytundeb PCP, felly rydych yn talu tuag at ased y gallech werthu rhyw ddiwrnod. |
Mae taliadau misol PCH fel arfer yn uwch. |
Mae taliadau PCP fel arfer yn is. |
Bydd rhaid i chi wneud taliad rhenti cychwynnol sydd fel arfer yn hafal i les chwe mis. |
Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu blaendal o tua 10%, ond gallech dalu mwy. |
Gyda PCH, gall y rhoddwr adfeddu’r car heb orchymyn llys. |
Gyda PCP, gall y rhoddwr adfeddu’r car heb orchymyn llys. Ond os ydych wedi talu o leiaf treian gyfanswm y taliadau, nid oes modd iddynt adfeddu’r car heb orchymyn llys. |
Yn gyffredinol rydych ynghlwm a’r cytundeb am y cyfnod llawn. |
Os ydych am orffen y cytundeb yn gynnar, bydd rhaid eich bod wedi talu o leiaf hanner gwerth y cerbyd. Os nad ydych, bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth. |
Am fwy o wybodaeth ar daliadau ‘balŵn’ a manteision ac anfanteision cytundeb PCP, darllenwch ein canllaw Cyllido car â PCP
Eich hawliau os ydych yn dymuno canslo cynllun PCH
Mae dod â PCH i ben yn gynnar yn golygu y gallech orfod talu costau’r brydles yn llawn, felly meddyliwch yn ofalus cyn canslo’r cytundeb a chanfod yn union beth fyddai cyfanswm y costau hyn.
Beth i’w wneud os ydych yn dechrau mynd ar ei hôl â’ch taliadau cyllido car
Dychwelyd y car
Cyn belled â’ch bod wedi talu (neu’n medru talu) hanner cost y car, mae’r hawl gennych i’w ddychwelyd. Ar gyfer PCH, gall rhagor o daliadau fod yn ddyledus, felly gwiriwch eich cytundeb.
Siarad â’r cwmni cyllido
Gall gynnig ymestyn hyd y brydles, a fyddai’n gostwng eich taliadau misol, neu ddod i drefniant arall i’ch helpu
Cymharu cytundebau prydlesu car
Os ydych yn ystyried prydlesu car, cofiwch edrych ar ychydig o safleoedd cymharu gwahanol.
Dyma rai awgrymiadau: