Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Lwfans blynyddol sy’n lleihau’n raddol

Mae'r lwfans blynyddol taprog yn cyfyngu ymhellach ar faint o ryddhad treth y gall enillwyr cyflog uchel ei hawlio ar eu cynilion pensiwn drwy leihau eu lwfans blynyddol i gyn lleied â £10,000. Gallai’r lwfans gostyngol hwn newid o flwyddyn dreth i flwyddyn dreth yn dibynnu ar eich incwm.

Pwy y mae’r lwfans blynyddol sy’n lleihau’n raddol yn effeithio arnynt?

Ers 6 Ebrill 2020, mi fydd ond yn effeithio ar bobl sy'n cwrdd â'r ddau o'r gofynion incwm canlynol:

  • mae eich ‘incwm trothwy’ yn uwch na £200,000, ac
  • mae eich ‘incwm wedi’i addasu’ yn uwch na £240,000
  • o 06 Ebrill 2023, mae’r trothwy ‘incwm wedi’i addasu’ yn cynyddu i £260,000.

Gall cyfrifo'ch trothwy a'ch incwm wedi'i addasu fod yn gymhleth. Rydym yn esbonio sut i wneud hyn ar y dydalen hon ac yn rhoi enghreifftiau i chi isod, ond gallai fod yn ddefnyddiol i gael cyngor ariannol neu dreth wedi'i reoleiddio.

Sut mae’r lwfans blynyddol sy’n lleihau’n raddol yn gweithio?

Bydd unrhyw un sy’n cwrdd â’r gofynion incwm uchod yn gweld eu lwfans blynyddol yn lleihau’n raddol £1 am bob  2 o ‘incwm wedi’i addasu’ uwch na £260,000.

Er enghraifft, pe bai'ch incwm wedi'i addasu yn £280,000 byddai'ch lwfans blynyddol yn cael ei ostwng i £50,000.

Mae’r ‘lleihad raddol’ hwn yn stopio ar £360,000, felly bydd pawb yn cadw lwfans o £10,000 o leiaf.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn mynd dros fy lwfans blynyddol gostyngedig?

Os yw'r lleihad raddol yn effeithio arnoch a bod eich incwm wedi'i addasu yn fwy na'ch lwfans blynyddol sydd wedi’i leihau, gwiriwch yn gyntaf a allwch ddefnyddio cario ymlaen i leihau neu gael gwared ar unrhyw ormodedd.

Mae'n bosibl y gallai eich incwm ostwng yn is na'r incwm trothwy, a allai eich adfer i'r lwfans blynyddol arferol ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

Os oes swm gormodol o hyd ar ôl cario ymlaen, byddwch yn wynebu tâl treth ar y swm hwn. Ychwanegir y swm at eich incwm a bydd yn destun Treth Incwm ar eich cyfradd ymylol uchaf.

Fel rheol, caiff y tâl ei ddatgan a'i dalu trwy'r broses hunanasesu Treth Incwm, er y gellid ei ddidynnu'n uniongyrchol o'ch cynilion pensiwn os bodlonir rhai amodau. Gelwir hyn yn ‘Cynllun Talu’. Bydd yn rhaid i chi wneud cais ffurfiol i'ch darparwr cynllun pensiwn os ydych chi am wneud cais am hyn.

Beth os ydw i eisoes yn destun y lwfans blynyddol prynu arian?

Os ydych wedi cymryd arian trethadwy o'ch cronfa pensiwn drwy ddefnyddio rhyddid pensiwn (mwy na'r rhan ddi-dreth), gallai lwfans blynyddol prynu arian is (MPAA) fod yn berthnasol i chi.

Os oes hefyd gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio (sy’n cynnwys cynlluniau pensiwn ‘cyflog terfynol’ a ‘chyfartaledd gyrfa’), gallwch elwa ar ‘lwfans blynyddol amgen’. Mae hyn yn £50,000 am flwyddyn dreth 2023/24. Cysylltwch â'ch darparwr pensiwn buddion wedi’u diffinio am fanylion.

Enghraifft o sut mae’r lwfans blynyddol sy’n lleihau’n raddol yn gweithio’n ymarferol

Cyflog Elizabeth yw £245,000 ac mae’n derbyn bonws o £10,000.

Mae hefyd yn derbyn £3,000 mewn llog o'i chynilion a £7,000 mewn incwm (difidendau) o rai cyfranddaliadau cwmni y mae'n berchen arnynt.

Mae Elizabeth yn cyfrannu £30,000 i bensiwn personol ei grŵp ac mae ei chyflogwr yn cyfateb i'w chyfraniad.

Incwm trothwy Elizabeth = £235,000

  • Cyflog o £245,000
  • Bonws o £10,000
  • Llog a difidendau o £10,000
  • Llai ei chyfraniad pensiwn o £30,000.

Incwm Elizabeth wedi'i addasu = £295,000

  • Cyflog o £245,000
  • Bonws o £10,000
  • Llog a difidendau o £10,000
  • Ynghyd â chyfraniad pensiwn ei chyflogwr o £30,000.

Bydd y lwfans blynyddol sy’n lleihau’n raddol yn effeithio ar Elizabeth oherwydd bod ei hincwm trothwy yn uwch na £200,000 a'i hincwm wedi'i addasu yw £35,000 dros £260,000.

Bydd ei lwfans blynyddol o £60,000 yn cael ei ostwng £17,500 (£35,000 wedi'i rannu â 2) ac felly bydd yn £42,500 ar gyfer blwyddyn dreth 2023/24.

Gan fod cyfanswm y cyfraniadau pensiwn (£60,000) yn uwch na'i lwfans blynyddol gostyngedig, bydd angen iddi dalu treth.

Pe bai gan Elizabeth lwfans heb ei ddefnyddio o flwyddyn flaenorol, ac yn dweud er enghraifft mai £35,000 oedd hyn, byddai'n bosibl i Elizabeth wneud cyfraniad cynyddol i'w phensiwn. Byddai hyn yn ei dro yn gostwng ei hincwm wedi'i addasu, sy'n golygu nad oes raid iddi dalu tâl treth mwyach.

Pe bai Elizabeth yn penderfynu cyfrannu £35,000 ychwanegol ac roedd ganddi lwfans oedd dim wedi cael ei ddefnyddio o flwyddyn dreth flaenorol

Incwm trothwy Elizabeth = £200,000

  • Cyflog o £245,000
  • Bonws o £10,000
  • Llog a difidendau o £10,000
  • Llai ei chyfraniad pensiwn o £65,000.

Mae incwm trothwy Elizabeth bellach yn is na £200,000 ac felly ni fyddai'r lwfans blynyddol sy’n lleihau’n raddol yn berthnasol. O ganlyniad, mae ganddi’r lwfans blynyddol llawn o £60,000 ar gael i’w ddefnyddio o hyd a phan ychwanegir y £35,000 o lwfans heb ei ddefnyddio o flwyddyn dreth flaenorol, mae’n golygu y gellir gwneud y cyfraniadau o £95,000 gyda rhyddhad treth llawn yn berthnasol a heb dreth arwystl yn cael ei wneud.

Gall ymgynghorydd ariannol helpu 

Os ydych yn meddwl efallai eich bod yn nesáu at eich lwfans blynyddol, y gallai gael ei leihau, neu y gallech fod wedi mynd y tu hwnt iddo, ystyriwch gael cyngor gan ymgynghorydd ariannol rheoledig.

Gallent eich helpu i ddeall faint yw eich lwfans blynyddol gan gynnwys unrhyw swm nad ydych wedi ei ddefnyddio, a ydych wedi mynd dros eich lwfans blynyddol, a allai fod opsiynau i leihau unrhyw dâl posibl ac edrych ar eich opsiynau am dalu unrhyw dâl treth a all fod yn ddyledus.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.