Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Esboniad o ‘Cario Ymlaen’ Lwfans Blynyddol Pensiwn

Mae cario ymlaen yn caniatáu i chi wneud cyfraniadau pensiwn sy'n fwy na'r lwfans blynyddol ac sy'n dal i gael rhyddhad treth.

Defnyddio lwfansau blynyddol sydd ddim wedi cael eu defnyddio

Mae cario ymlaen yn caniatáu i chi ddefnyddio unrhyw lwfans blynyddol na fyddech efallai wedi'i ddefnyddio yn ystod y tair blynedd dreth flaenorol, ar yr amod eich bod yn aelod o gynllun pensiwn cofrestredig yn ystod y cyfnod amser perthnasol.

Er mwyn defnyddio cario ymlaen, mae rhai amodau y mae rhaid eu bodloni. Mae'r rhain yn cynnwys:

  1. Mae rhaid bod cyfraniadau i'ch pensiynau wedi defnyddio'ch holl lwfans blynyddol yn y flwyddyn dreth rydych am ddefnyddio'r rheolau cario ymlaen.
  2. Mae rhaid eich bod wedi bod yn aelod o gynllun pensiwn a gofrestrwyd yn y DU* (nid yw hyn yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth) ym mhob un o'r blynyddoedd treth rydych am gario ymlaen ohono (nid oes angen i chi fod wedi talu unrhyw arian i'r cynlluniau hyn).
  3. Rhaid i chi ddefnyddio unrhyw lwfans blynyddol nas defnyddiwyd o'r flwyddyn gynharaf gyntaf (dim ond tair blynedd y gallwch fynd yn ôl).
  4. Os ydych yn destun i lwfans blynyddol sy'n lleihau'n raddol, mae angen i chi fesur unrhyw lwfans blynyddol nas defnyddiwyd yn erbyn y lwfans sy'n lleihau'n raddol ar gyfer pob blwyddyn benodol (a all newid yn dibynnu ar eich incwm wedi'i addasu). Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y lwfans blynyddol sy'n lleihau'n raddol yn ein canllaw Lwfans blynyddol sy'n lleihau'n raddol

* Yn fras, byddwch yn aelod o gynllun sydd wedi'i gofrestru yn y DU os oes gennych:

  • cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
  • pensiwn buddion wedi’u diffinio
  • aelodaeth credyd pensiwn lle mae gennych gyfran o bensiwn eich cyn-bartner.

Er mwyn defnyddio cario ymlaen, mae rhai amodau y mae'n rhaid eu bodloni. Mae'r rhain yn cynnwys:

 

1. Rhaid bod cyfraniadau i'ch pensiynau wedi defnyddio'ch holl lwfans blynyddol yn y flwyddyn dreth rydych am ddefnyddio'r rheolau cario ymlaen.

 

2. Rhaid i chi ennill o leiaf y swm rydych  am ei gyfrannu yn y flwyddyn dreth rydych yn gwneud y cyfraniad amdani (felly os ydych, er enghraifft, am wneud cyfanswm cyfraniadau o £100,000 mae'n rhaid i chi ennill o leiaf £100,000 yn y flwyddyn dreth honno). Nid yw hyn yn berthnasol os yw'ch cyflogwr yn gwneud y cyfraniad ar eich rhan.

 

3. Mae'n rhaid eich bod wedi bod yn aelod o gynllun pensiwn a gofrestrwyd yn y DU* (nid yw hyn yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth) ym mhob un o'r blynyddoedd treth rydych am gario ymlaen ohono (nid oes angen i chi fod wedi talu unrhyw arian ynddo ).

 

4. Rhaid i chi ddefnyddio unrhyw lwfans blynyddol nas defnyddiwyd o'r flwyddyn gynharaf gyntaf (dim ond tair blynedd y gallwch fynd yn ôl) a dim ond unwaith y gallwch ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu mai dim ond unwaith y gellir ei ddefnyddio ac os caiff ei ddefnyddio'n llawn ar gyfer blwyddyn dreth flaenorol, ni ellir ei ddefnyddio'r eildro.

 

5. Os ydych yn destun i lwfans blynyddol taprog, mae angen i chi fesur unrhyw lwfans blynyddol nas defnyddiwyd yn erbyn y lwfans taprog ar gyfer pob blwyddyn benodol (a all newid yn dibynnu ar eich incwm wedi'i addasu). Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y lwfans blynyddol taprog yn ein canllaw Lwfans blynyddol

 

* Yn fras, byddwch yn aelod o gynllun sydd wedi'i gofrestru yn y DU os oes gennych:

 

• cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio

• pensiwn buddion wedi’i diffinio

• aelodaeth credyd pensiwn lle mae gennych gyfran o bensiwn eich cyn-bartner.

 

Os ydych wedi prynu incwm gwarantedig am oes ar ffurf blwydd-dal yn eich enw drwy ddefnyddio'ch cynilion ymddeol, ni allwch ei ddefnyddio i fod yn gymwys i'w gario ymlaen.

Os ydych yn derbyn incwm gwarantedig am oes ar ffurf blwydd-dal, mae p'un a ydych yn cael eich ystyried yn aelod o'r cynllun ai peidio yn dibynnu ar sut mae'r polisi blwydd-dal yn cael ei sefydlu. Dylech wirio â'ch darparwr blwydd-dal. 

Yn ogystal, i dderbyn rhyddhad treth ar eich cyfraniadau, rhaid i chi ennill o leiaf y swm rydych chi am ei gyfrannu yn y flwyddyn dreth rydych chi'n gwneud y cyfraniad amdani. Felly os ydych chi, er enghraifft, eisiau gwneud cyfanswm cyfraniadau o £100,000 mae'n rhaid i chi ennill o leiaf £100,000 yn y flwyddyn dreth honno. Nid yw hyn yn berthnasol os yw'ch cyflogwr yn gwneud y cyfraniad ar eich rhan.

Lwfans Blynyddol Prynu Arian

Os byddwch yn dechrau cymryd mwy na'ch arian parod di-dreth o'ch cronfa bensiwn drwy ddefnyddio'r dewisaidau rhyddid pensiwn, gall hyn sbarduno lwfans blynyddol is o £10,000 (blwyddyn dreth bresennol) a elwir yn Lwfans Blynyddol Prynu Arian (MPAA).

Mae hyn yn golygu mai dim ond hyd at 100% o'ch enillion trethadwy neu £10,000 y byddwch yn eu cael fel rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn, p’un bynnag sydd isaf.

Os byddwch yn sbarduno'r MPAA, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r opsiwn cario ymlaen i wneud cyfraniadau o fwy na'ch lwfans blynyddol.

Fodd bynnag, mae lwfans blynyddol amgen y gellir ei ddefnyddio os ydych yn aelod o gynllun buddion wedi’u diffinio sy'n dal i fod yn weithredol ac nad yw ar gau i gyfraniadau pellach.

Gallwch siarad â'ch cynllun buddion wedi’u diffinio i gael mwy o fanylion am hyn.

Fel canllaw sylfaenol, y prif sefyllfaoedd pan fyddwch yn sbarduno'r MPAA yw:

  • os cymerwch eich cronfa gyfan fel cyfandaliad neu'n dechrau cymryd cyfandaliadau o'ch cronfa bensiwn fel y dymunwch
  • os byddwch yn rhoi arian eich cronfa bensiwn i mewn i gynnyrch incwm ymddeol hyblyg (tynnu i lawr pensiwn) ac yn dechrau cymryd incwm
  • os ydych yn prynu blwydd-dal hyblyg sy'n gysylltiedig â buddsoddiad lle gallai'ch incwm ostwng
  • os oes gennych gynllun tynnu i lawr wedi'i gapio cyn mis Ebrill 2015 a dechrau cymryd taliadau sy'n fwy na'r cap

Ni fydd yr MPAA fel arfer yn cael ei sbarduno os:

  • ydych yn cymryd cyfandaliad arian parod di-dreth ac yn prynu incwm gwarantedig am oes (blwydd-dal) sydd naill ai'n aros yr un peth neu'n cynyddu bob blwyddyn
  • ydych yn cymryd cyfandaliad arian parod di-dreth ac yn rhoi eich cronfa bensiwn i mewn i incwm ymddeol hyblyg (tynnu i lawr pensiwn) ond nad ydych yn cymryd unrhyw incwm ohono
  • ydych yn tynnu, yn llawn, un neu fwy o gronfeydd pensiwn bach sy'n werth llai na £10,000.

Mae'r MPAA o £10,000 dim ond yn berthnasol i gyfraniadau at bensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio ac nid cynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio.

Os byddwch yn sbarduno'r MPAA, bydd eich lwfans blynyddol yn cael ei ostwng i £10,000 o'r diwrnod ar ôl - ac mae hyn yn berthnasol i gyfraniadau i'ch holl gronfeydd pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.

Mae hyn yn golygu nad yw unrhyw gyfraniadau a wneir cyn i'r MPAA gael eu sbarduno yn cael eu cosbi.

Os ydych yn hunangyflogedig

Gallai cario ymlaen fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn hunangyflogedig a bod eich enillion yn newid yn sylweddol bob blwyddyn, neu os ydych am wneud cyfraniadau mawr i’ch pensiwn.

Os na ddefnyddir lwfans blynyddol y flwyddyn dreth benodol nas defnyddiwyd yn llawn, dim ond am hyd at dair blynedd y gellir ei gario ymlaen. Ar ôl hynny, mae wedi’i golli.

Cofiwch, i gael rhyddhad treth, mae rhaid i'ch enillion perthnasol fod yr un fath neu'n fwy na chyfanswm y cyfraniadau i'ch cynllun(iau) pensiwn yn y flwyddyn dreth y cânt eu gwneud.

Er enghraifft, os ydych am wneud cyfraniad o £20,000 mewn blwyddyn dreth benodol, mae rhaid i'ch enillion at ddibenion Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn dreth honno fod o leiaf yn gyfartal â £20,000.

Os ydych yn ystyried gwneud rhai cyfraniadau mawr a allai fod yn fwy na'ch enillion, efallai hoffech ystyried lledaenu'r cyfraniadau dros ddwy flynedd dreth (neu fwy).

Bydd hyn yn helpu i gynyddu swm y rhyddhad treth y gallwch ei gael. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau na fyddwch yn codi tâl treth lwfans blynyddol sy'n adfachu unrhyw ryddhad treth rydych wedi'i dderbyn nad oedd gennych hawl iddo.

Hefyd, dim ond i'r graddau rydych wedi'i dalu y byddwch yn cael rhyddhad cyfradd dreth uwch. Dyma reswm arall pam efallai hoffech ledaenu cyfraniadau mawr dros ddwy flynedd dreth (neu fwy).

Os ydych yn rhedeg eich busnes eich hun (fel Cwmni Cyfyngedig)

Os ydych yn rhedeg eich busnes eich hun, mae'r sefyllfa ychydig yn wahanol.

Un o fanteision bod yn gwmni corfforedig yw'r gallwch benderfynu a yw unrhyw gyfraniadau i'ch pensiynau i'w cael eu gwneud fel cyfraniad gan y cwmni (fel cyflogwr) neu fel cyfraniad personol (fel gweithiwr).

Os ydych eisiau gwneud y cyfraniad eich hun â rhyddhad treth llawn arno, mae angen arnoch ddigon o incwm wedi'i ennill i dalu'r cyfraniad, fel cyflog - nid yw difidendau yn cyfrif.

Er enghraifft, os hoffech wneud cyfraniad o £20,000 mewn blwyddyn dreth benodol, mae rhaid i'ch enillion at ddibenion Treth Incwm yn y flwyddyn dreth honno fod o leiaf £20,000.

Os yw’r arian i’w dalu i mewn i’ch pensiwn fel cyfraniad cwmni, gellir talu unrhyw swm i mewn i’r pensiwn, heb i chi orfod cael enillion cyfatebol at ddibenion Treth Incwm cyhyd â bod y cyfraniadau’n cwrdd â’r prawf ‘yn gyfan gwbl ac yn unig’.

Gan fod y cyfraniad yn dod gan y cwmni yn hytrach na gennych chi fel unigolyn, nid yw'n atebol am ostyngiad treth, ond yn lle hynny gellir ei ddidynnu fel cost busnes. Yn y modd hwn, y cwmni sy'n elwa o ostyngiad yn erbyn rhwymedigaethau treth gorfforaeth.

Fodd bynnag, mae'r cyfraniad yn cyfrif tuag at eich lwfans blynyddol, ac felly efallai y gallwch gario ymlaen y lwyfans heb ei ddefnyddio o flynyddoedd treth blaenorol i ganiatáu cyfraniad cyffredinol uwch mewn blwyddyn dreth benodol, heb fod yn destun tâl lwfans blynyddol.

Yr anfantais yw, os yw'r cyfraniad yn sylweddol, bydd yn lleihau swm yr elw a swm y difidend y gellir ei dalu am y cyfnod cyfrifyddu.

Y prawf yn gyfan gwbl ac yn unig

I fod yn ddidyniad a ganiateir yn erbyn elw masnachu, mae rhaid gwneud cyfraniadau pensiwn yn gyfan gwbl ac yn unig at ddibenion y busnes.

Yn ymarferol, caniateir cyfraniadau fel didyniad yn erbyn elw masnachu'r cwmni at ddibenion Treth Gorfforaeth, ar yr amod eu bod ar lefel resymol i'r unigolyn dan sylw.

Mae'n bwysig siarad â'ch ymgynghorydd treth/ariannol i weld a yw'n briodol gwneud cyfraniadau ar y sail hon.

Enghraifft

Mae Bill yn hunangyflogedig ac mae wedi bod yn talu £1,500 (net) y mis i'w bensiwn personol am y pum mlynedd diwethaf.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Bill wedi bod yn gweithio ar gontract mawr ac yn disgwyl y bydd ei elw ar gyfer 2023/24 tua £120,000.

Mae'n deall y gall leihau ei fil treth trwy a chynyddu ei gynilion ymddeoliad trwy gyfrannu at ei bensiwn. Hoffai dalu £60,000 arall yn ystod y flwyddyn dreth 2023/24 ar ben ei gyfraniadau misol.

Gan fod Bill yn gwneud cyfraniadau i bensiwn personol yn barod, ei gam gyntaf fydd cyfrifo cyfanswm y rhain ar ôl rhyddhad treth.

I gyfrifo hyn, mae angen iddo gymryd y £1,500 y mae'n ei gyfrannu a'i rannu gan 0.8 (1-20% - cyfradd sylfaenol Treth Incwm)

Felly bydd ei gyfraniadau'n £1,875 y mis neu £22,500 ar gyfer y flwyddyn.

Mae Bill eisiau talu £60,000 yn ychwanegol i'w bensiwn. Ar ôl rhyddhad treth cyfradd sylfaenol, fel uchod, cyfanswm (gros) y gyfraniad yw £75,000.

Yn 2023/24, lwfans blynyddol Bill yw £60,000. Ar ôl didynnu ei gyfraniadau misol o £22,500 bydd ganddo £37,500 ar gael i'w ddefnyddio yn y flwyddyn dreth hon.

Mae gan Bill hefyd lwfansau blynyddol nas defnyddiwyd ar gyfer pob un o’r tair blynedd diwethaf, felly mae’n dewis cario ymlaen a defnyddio ei lwfans nas defnyddiwyd o £17,500 o 2020/21, £17,500 o 2021/22, a £2,500 o 2022/23.

Lwfans nad yw wedi cael ei ddefnyddio
Blwyddyn Dreth Lwfans Blynyddol Cyfraniadau rheolaidd Bill (gros) Lwfans blynyddol nas defnyddiwyd Cyfraniad ychwanegol gros Bill Lwfans blynyddol sy'n weddill

2023/24

£40,000

£22,500

£37,500

£37,500

£0

2022/23

£40,000

£22,500

£17,500

£2,500

£15,000

2021/22

£40,000

£22,500

£17,500

£17,500

£0

2020/21

£40,000

£22,500

£17,500

£17,500

£0

Bill’s total extra contribution

£75,000

£15,000

Trwy ddefnyddio cario ymlaen, gall Bill gael rhyddhad treth ar gyfanswm ei gyfraniadau gros o £97,500 yn 2023/24 (£22,500 o gyfraniadau rheolaidd + £75,000 o gyfraniad ychwanegol).

Os bydd ganddo flwyddyn dda arall y flwyddyn nesaf, efallai yr hoffai wneud cyfraniad ychwanegol arall at ei bensiwn.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.