Daw llawer o newidiadau wrth ymddeol - newid i'ch trefn arferol, i'ch incwm ac i'r dreth y mae'n rhaid i chi ei thalu. Darganfyddwch sut y gallai gwahanol rannau o'ch incwm, gan gynnwys eich pensiynau, gael eu trethu.
Treth Incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol
Mae’n rhaid i chi barhau i dalu Treth Incwm ar unrhyw incwm dros eich lwfans personol ar ôl i chi ymddeol (darganfyddwch fwy isod).
Mae hyn yn berthnasol i’ch holl incwm pensiwn, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae llawer o bobl yn tybio y bydd incwm eu pensiwn – yn enwedig Pensiwn y Wladwriaeth – yn ddi-dreth, ond nid yw hynny’n wir.
Telir rhywfaint o incwm, gan gynnwys eich Pensiwn y Wladwriaeth, heb i unrhyw dreth wedi cael ei dynnu. Ond nid yw hynny’n golygu nad yw treth yn ddyledus.
Os bydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth, cesglir hyn trwy unrhyw bensiwn gweithle neu bensiwn personol a allai fod gennych.
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn daladwy o 16 oed i oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Felly os byddwch yn parhau i weithio y tu hwnt i oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich enillion mwyach.
Lwfansau Personol Treth Incwm
Y Lwfans Personol Safonol yw £12,570 (2023/24). Mae hyn yn golygu cewch ennill neu gael incwm hyd at £12,570 yn y flwyddyn dreth 2023/24 (6 Ebrill i 5 Ebrill) heb dalu treth.
Lwfans Personol yw’r enw a roddir ar hyn. Os enillwch neu os cewch llai na hyn yna nid ydych yn drethdalwr.
Efallai y bydd eich Lwfans Personol yn uwch na hyn os ydych yn gymwys i gael Lwfans priodas a phâr priod.
Gall eich Lwfans Personol fod yn is na hyn mewn rhai amgylchiadau - er enghraifft, os ydych yn enillydd uchel a bod eich incwm net wedi'i addasu dros £100,000.
Ydych chi’n talu treth ar eich pensiwn?
Rydych yn talu treth ar eich pensiwn os yw cyfanswm eich incwm blynyddol yn ychwanegu i fwy na'ch Lwfans Personol. Ar gyfer 2023/2024, mae hynny'n golygu os yw'ch incwm dros £12,570.
Pensiynau buddion wedi’u diffinio
Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio (a elwir hefyd yn bensiwn cyflog terfynol neu bensiwn cyfartalog gyrfa), telir incwm am oes i chi, a fydd yn drethadwy fel enillion.
Efallai y byddwch hefyd yn cael cyfandaliad di-dreth ochr yn ochr â hyn.
Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio
Pan fyddwch wedi cyrraedd yr oedran y caniateir i chi gael mynediad iddo (ar hyn o bryd yr oedran cynharaf yw 55 fel rheol, ond mae hwn yn cynyddu i 57 o 2028), gallwch dynnu arian o'ch pensiwn fel y mynnwch.
Fodd bynnag, fel arfer dim ond y 25% cyntaf fydd yn ddi-dreth. Mae'r gweddill yn drethadwy fel enillion. Mae'r gyfradd dreth rydych yn ei thalu yn cynyddu pan fydd eich incwm yn mynd dros y trothwyon treth incwm.
Mae hyn yn golygu po fwyaf o arian y byddwch yn ei gymryd o'ch cronfa bensiwn, yr uchaf y gallai eich bil treth fod.
Darganfyddwch fwy am eich opsiynau ar gyfer tynnu arian o'ch cronfa bensiwn gweler ein canllaw Eich opsiynau ar gyfer defnyddio'ch cronfa bensiwn cyfraniadau diffiniedig
Mae'r tabl hwn yn rhoi trosolwg o faint o dreth y gallech ei thalu ar yr arian rydych yn ei gymryd o'ch cronfa bensiwn, yn seiliedig ar y gwahanol opsiynau.
Yr opsiynau pensiwn | Beth sy’n ddi-dreth | Beth sy’n drethadwy |
---|---|---|
Eich cronfa gyfan tra bydd yn aros heb ei gyffwrdd |
Dim tra bydd eich cronfa’n aros heb ei gyffwrdd |
|
25% o'ch cronfa cyn i chi brynu blwydd-dal |
Incwm o'r blwydd-dal |
|
25% o'ch cronfa cyn i chi fuddsoddi mewn incwm addasadwy |
Incwm a gewch o’ch buddsoddiad |
|
25% o bob swm rydych yn ei gymryd allan |
75% o bob swm rydych yn ei gymryd allan |
|
25% o'ch cronfa gyfan |
75% o'ch cronfa gyfan |
|
Cymysgu eich opsiynau |
Mae’n dibynnu ar yr opsiynau rydych yn eu cymysgu |
Mae’n dibynnu ar yr opsiynau rydych yn eu cymysgu |
Cael mwy na 25% o’ch pensiwn yn ddi-dreth
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y gallwch gael mwy na 25% o'ch pensiwn yn ddi-dreth.
Amddiffyniad penodol i’r cynllun
Os oeddech yn aelod o bensiwn cyn 6 Ebrill 2006 efallai y bydd gennych hawl i gael cyfandaliad di-dreth o fwy na 25% o werth eich pensiwn o dan y cynllun. I gael y cyfandaliad cyfan yn ddi-dreth bydd angen i chi gael lwfans gydol oes ar gael pan delir y cyfandaliad.
Diogelu lwfans oes
O 2023/24 bydd yr uchafswm gall aelod ei gymryd fel cyfandaliad di-dreth yn cael ei rewi ar £268,275 - 25% o’r lwfans oes safonol presennol sef £1,073,100.
Mae'n bosibl y gallwch gael cyfandaliad di-dreth o fwy na 25% o'r lwfans oes os ydych wedi gwneud cais i Gyllid a Thollau EM (CThEM) ac wedi derbyn naill ai diogelwch uwch neu sylfaenol gan CThEM gyda diogelwch cyfandaliad. Mae gwahanol delerau ac amodau yn berthnasol i bob un o'r mesurau diogelu hyn. Bydd eich tystysgrif yn cynnwys manylion unrhyw ddiogelwch cyfandaliad.
Os oes gennych ddiogelwch sefydlog neu ddiogelwch unigol yn ymwneud â'r lwfans oes, mae swm y cyfandaliad di-dreth y gallwch ei gymryd fel arfer wedi'i gyfyngu i 25% o werth eich diogelwch.
Sut mae treth yn cael ei dalu ar bensiwn
Mae’r arian rydych yn ei gymryd o’ch cronfa yn dod o’ch darparwr gyda’r dreth eisoes wedi’i dynnu ohonno. Bydd eich darparwr wedi cyfrifo hyn trwy ddefnyddio'ch cod treth.
Gall eich darparwr hefyd dynnu unrhyw dreth sy'n ddyledus ar eich Pensiwn y Wladwriaeth trwy Talu Wrth Ennill (PAYE).
Efallai y byddwch yn talu treth frys pan fyddwch yn cymryd arian o'ch cronfa. Gallwch hawlio hyn yn ôl gan Gyllid a Thollau EM.
Incwm o fwy nag un ffynhonnell
Yn hwyrach mewn bywyd mae’n eithaf cyffredin i gael incwm o wahanol ffynonellau. Er enghraifft, efallai eich bod yn dal i weithio rhan amser ac yn cael incwm o’ch pensiwn gweithle ac o rai cynilion.
Os byddwch yn cael incwm o fwy nag un ffynhonnell, gwnewch yn siŵr bod HMRC yn gwybod hyn - fel eich bod yn talu’r swm cywir o dreth yn erbyn pob incwm.
Fel arfer bydd eich Lwfans Personol yn cael ei neilltuo yn erbyn eich prif swydd neu bensiwn – fel arfer yr incwm sy’n fwy na’r lwfans personol.
Os yw hyn yn wir, bydd yr holl o unrhyw incwm arall a gewch yn cael ei drethu yn ôl pa fand treth y mae'r incwm arall yn syrthio iddo.
Mae manylion bandiau treth cyfredol y DU ar y wefan GOV.UK
Bydd gan eich cod PAYE lythrennau yn ei erbyn sy’n rhoi gwybod i chi faint o dreth fydd yn cael ei ddidynnu o bob ffynhonnell incwm.
Oes gennych incwm o wahanol ffynonellau is na’r lwfans personol (£12,570 am 2023/24)? Dylech ofyn i CThEM ledaenu eich lwfans personol rhwng y gwahanol ffynonellau incwm i sicrhau nad ydych yn talu gormod o dreth.
Os byddwch yn gordalu treth, gallwch ei hawlio’n ôl ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r cod(au) treth er mwyn i chi wybod y didynnir y swm cywir o dreth.
Yn ansicr a yw eich cod treth yn gywir? Mae gan yr elusen Grŵp Diwygio Trethi Incwm Isel mwy o wybodaeth ar eu gwefan.
Os ydych yn parhau i weithio ac yn hunangyflogedig neu fod cyfanswm eich incwm (gan gynnwys arian o bensiynau a TWE) yn £100,000 neu’n fwy ar gyfer y flwyddyn dreth, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad.
Rydych hefyd yn gyfrifol am dalu treth ar incwm arall sydd gennych, fel o eiddo neu fuddsoddiadau. Efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad ar gyfer hynny hefyd.
Treth ar eich cynilion
Y Lwfans Cynilo Personol, a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2016, yw’r swm o incwm cynilion y cewch ei dderbyn yn ddi-dreth.
Ar hyn o bryd mae'n £1,000 i drethdalwyr cyfradd sylfaenol a £500 i drethdalwyr cyfradd uwch (does dim lwfans i drethdalwyr Cyfradd Ychwanegol).
Ers mis Ebrill 2016, nid yw banciau a chymdeithasau adeiladu bellach yn didynnu treth gyfradd sylfaenol o'r llog ar eich cynilion.
Yn lle, os yw'ch incwm cynilion dros £1,000 ar gyfer trethdalwr cyfradd sylfaenol a £500 ar gyfer trethdalwr cyfradd uwch, bydd Cyllid a Thollau EM yn casglu unrhyw dreth sy'n ddyledus trwy'ch cod TWE.
Os ydych fel arfer yn datgan incwm cynilion trwy ffurflen dreth Hunanasesiad, dylech barhau i wneud hyn.
Os yw eich incwm cyffredinol yn is na’r Lwfans Personol (£12,570 ar gyfer 2023/24), mae gennych hawl hefyd i’r gyfradd 0% ar £5,000 ar gyfer ‘y gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion’. Mae hyn ar ben y Lwfans Cynilo Personol o £1,000.
Gallwch barhau i hawlio treth yn ôl rydych wedi'i thalu ar eich cynilion mewn blynyddoedd blaenorol pan na ddylech fod wedi gwneud.
I hawlio’r treth yn ôl, defnyddiwch ffurflen R40 ar y wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy am y gyfradd cychwynnol ar gyfer cynilwyr a'r Lwfans Cynilo Personol yn ein canllaw Treth ar gynilion a buddsoddiadau – sut mae’n gweithio
Mae twf llog neu fuddsoddiad a gewch o gyfrifon cynilo treth-effeithlon, fel ISAs arian parod, yn cael ei dalu yn ddi-dreth - ni waeth a ydych yn drethdalwr ai peidio.
Os oes gennych fuddsoddiadau y tu allan i bensiwn neu ISA, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar yr enillion buddsoddi (a elwir yn ddifidendau) a gewch. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth Enillion Cyfalaf hefyd os ydych yn gwerthu'r buddsoddiadau.
I gael mwy o wybodaeth am y dreth y gallai fod yn rhaid i chi ei thalu ar gynilion a buddsoddiadau, ewch i wefan GOV.UK
Ble i gael mwy o help gydag ymholiadau ynghylch treth
Mae nifer o sefydliadau eraill a all eich helpu os oes gennych incwm isel a bod angen mwy o help arnoch gyda’ch treth:
- Mae TaxAidYn agor mewn ffenestr newydd yn darparu cyngor an ddim, annibynnol ar faterion yn ymwneud â threth i bobl sydd ar incwm o £20,000 y flwyddyn neu’n is.
- Mae Tax Help for Older PeopleYn agor mewn ffenestr newydd yn darparu help am ddim gyda phroblemau treth i bobl sy’n agos at 60 oed ac sydd ar incwm o hyd at £20,000.
- Mae’r Low Incomes Tax Reform GroupYn agor mewn ffenestr newydd yn darparu arweiniad i bobl efallai nad ydynt yn gallu fforddio cyngor proffesiynol.