Dros y blynyddoedd diwethaf, bu nifer o newidiadau sylweddol i hawl menywod i Bensiwn y Wladwriaeth.
Oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod
Beth yw fy oedran Pensiwn y Wladwriaeth?
I gyfrifo’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth, defnyddiwch gyfrifiannell Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nid yw oedran Pensiwn y Wladwriaeth bellach yn 60 i ferched. Newidiodd i 65 i ferched rhwng 2010 a 2018. Mae bellach yn cynyddu fesul cam, ochr yn ochr â dynion, nes iddo gyrraedd 68.
Mae'n bwysig gwirio pryd y mae disgwyl i chi gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth gan y gallai hyn newid yn y dyfodol.
Bydd rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth hefyd yn dweud hyn wrthych.
Faint a gaf?
Lefel lawn Pensiwn y Wladwriaeth yw £203.85 yr wythnos ym mlwyddyn dreth 2023/24, sy'n rhoi incwm blynyddol o £10,600.20. Gall hyn fod yn is yn dibynnu pryd y gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth a'ch cofnod Yswiriant Gwladol.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, dim ond 30 mlynedd oeddech ei angen i fod yn gymwys am y swm llawn.
Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol
Bydd angen o leiaf ddeng mlynedd arnoch i gael unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth o dan y system gyfredol.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, dim ond 30 mlynedd oedd ei angen arnoch i fod yn gymwys am y swm llawn. Er bod y swm a gawsoch wedi'i ffurfio ychydig yn wahanol.
O dan yr hen system, dim ond blwyddyn oedd ei hangen arnoch i fod â hawl i unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth.
Roedd y rheolau o dan yr hen system hefyd yn golygu, pe byddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac nad oeddech wedi talu digon o gyfraniadau i dderbyn Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth eich hun, efallai y gallwch dderbyn pensiwn yn seiliedig ar gyfraniadau eich partner. Gallech gael hyd at 60% o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth eich partner.
Yn y ddau achos, efallai y bydd gennych hawl i swm uwch os:
- gwnaethoch adeiladu rhywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol
- gwnaethoch ohirio cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth pan wnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy am sut rydych yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth a sut mae’n cael ei dalu yn ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: trosolwg
Darganfyddwch sut y mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio, a faint y gallai ei dalu i chi, yn ein canllaw Sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio a faint allech ei gael?
Cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Gall rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ddweud wrthych :
- faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael
- pryd gallwch ei gael
- sut i'w gynyddu, os gallwch.
Mae'r swm y rhagwelir y byddwch yn ei gael yn tybio byddwch yn gwneud neu'n cael eich credydu gyda'r nifer uchaf o gredydau Yswiriant Gwladol yn y blynyddoedd hyd at eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth .
Os byddwch chi'yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ymhen mwy na 30 diwrnod gallwch hefyd :
- llenwi’r ffurflen gais BR19W a'i hanfon trwy'r post. Cewch y ffurflen BR19 ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- ffonio Canolfan Pensiynau’r Dyfodol a fydd yn postio’r rhagolwg atoch. Mae manylion cyswllt Canolfan Pensiynau'r Dyfodol ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae fersiwn ar-lein yr arolwg hefyd yn rhoi cyfle i chi weld trosolwg o’ch hanes cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Efallai na fydd gan rai pobl y swm gofynnol o gyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn, neu i gymhwyso o gwbl. Gall hyn fod oherwydd cymryd seibiannau gyrfa a/neu ofalu am ddibynyddion.
Felly mae'n bwysig gwirio faint o Pensiwn y Wladwriaeth rydych yn gymwys ar ei gyfer.
Efallai y gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol os nad ydych yn talu Yswiriant Gwladol, er enghraifft pan ydych yn hawlio budd-daliadau oherwydd eich bod yn ofalwr, yn gofalu am blentyn o dan 12 oed neu os ydych wedi penderfynu cymryd seibiant gyrfa.
Gall credydau helpu i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys i gael rhai buddion gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy am Gredydau Yswiriant Gwladol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Llenwch fylchau gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol
Os darganfyddwch nad yw hanes eich cyfraniad Yswiriant Gwladol yn ddigon i roi Pensiwn y Wladwriaeth llawn i chi, efallai y gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol i gynyddu eich hawl.
Darganfyddwch sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio, a faint y gallech eich talu, yn ein canllaw Sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio a faint allech ei gael?