Daw sgamiau ar sawl gwahanol ffurf. Felly mae’n bwysig adnabod yr arwyddion rhybudd y dylech gadw golwg amdanynt a beth i’w wneud os ydych wedi’ch targedu, neu os ydych yn meddwl eich bod wedi’ch targedu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Gwe-rwydo
Rhowch adroddiad am sgam
Os ydych wedi cael eich targedu neu wedi dioddef sgam, gallwch roi gwybod am hwn ar wefan Scam Smart yr Awdurdod Ymddygiad AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
Sgam e-bost sy’n ymddangos eich bod yn cael neges o ffynhonnell ddilys, fel eich banc, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, PayPal, Apple neu Amazon.
Bydd y neges yn eich annog i glicio ar ddolen a mewngofnodi i’ch cyfrif, fel arfer trwy ddweud wrthych fod eich cyfrif wedi’i gloi neu fod trosglwyddiad arian mawr.
Mewn gwirionedd, mae’r ddolen yn yr e-bost yn mynd at wefan ffug sy’n casglu’ch gwybodaeth.
Mae fersiwn arall ar y sgam yn cynnwys atodiad e-bost – efallai cwpon neu ffurflen y bydd angen i chi ei llanw – sy’n firws cyfrifiadurol mewn gwirionedd.
Sut i’w adnabod
Mae dwy brif ffordd o adnabod sgam gwe-rwydo:
- Edrychwch ar sut rydych yn cael eich cyfarch yn yr e-bost. Yn gyffredinol bydd sgamwyr yn defnyddio cyfarchiad megis Annwyl Syr, Annwyl Madam neu Annwyl Gwsmer. Bydd negeseuon e-bost dilys yn defnyddio’ch enw.
- Y cyfeiriad e-bost sydd wedi anfon y neges. Agorwch yr e-bost ac ehangwch y paen ar dop y neges ac edrychwch ar yr e-bost a’i hanfonodd. Os yw’n neges go iawn, daw oddi wrth gyfeiriad cyfarwydd noreply @ bank.com. Ni fydd sgamwyr yn gallu anfon negeseuon o enw parth go iawn, felly bydd cyfeiriadau e-bost yn cael eu llenwi â llythrennau neu rifau ar hap noreply @ 1234.bank.com, neu’n cynnwys gwallau sillafu bwriadol.
Beth i’w wneud
Peidiwch byth â chlicio ar y dolenni mewn e-bost amheus. Os credwch y gallai problem ddilys fod â chyfrif, ewch i’r wefan yn uniongyrchol a mewngofnodi. Y ffordd hon ni fyddwch byth yn cael eich dal gan wefan ffug.
Mae gan rai sefydliadau, megis CThEM, gyfeiriad e-bost y gallwch anfon y negeseuon e-bost hyn ymlaen atynt, sy’n helpu i frwydro yn erbyn sgamiau.
Darganfyddwch fwy am we-rwydo yn Action Fraud
Llais rwydo
Help gyda sgamiau
Os ydych eisiau help gyda'ch anghenion presennol a help i weld a ydych yn gallu cael eich arian yn ôl, ffoniwch ein uned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402
Galwad ffôn ble mae’r sgamwyr yn honni ei fod gan eich banc, cymdeithas adeiladu neu hyd yn oed asiantaeth llywodraeth.
Yn ystod yr alwad ffôn, bydd y twyllwyr yn ceisio’ch cael i ddatgelu eich manylion personol, neu hyd yn oed i drosglwyddo arian allan o’ch cyfrif banc.
Sut i’w adnabod
Mae’n anodd iawn i’w adnabod. Yr arwydd amlwg yma yw bydd y sawl sy’n ffonio’n ceisio’i orau i’ch cael i ddatgelu’ch gwybodaeth, a ni fyddai unrhyw alwr dilys yn gofyn i chi wneud hynny.
Beth i’w wneud
Os ydych yn sicr bod yr alwad yn dwyllodrus, rhowch y ffôn i lawr.
Os nad ydych yn siŵr, rhowch y ffôn i lawr a ffoniwch eich banc, cymdeithas adeiladu ar y rhif sydd ar eich cerdyn debyd neu gredyd.
Bydd hyn yn golygu gallwch fod yn siŵr eich bod yn mynd at y bobl gywir ac os oes problem, gallant roi gwybod i chi amdano.
Ond byddwch yn ofalus. Gall sgamwyr herwgipio eich llinell ffôn. Felly, pan fyddwch yn rhoi’r ffôn i lawr, arhoswch ychydig funudau cyn ffonio eich banc neu gymdeithas adeiladu neu ddefnyddiwch ffôn gwahanol.
Sgamiau buddsoddi
Yn gyffredinol sgam ar y ffôn yw hwn, er gallech gael eich targedu mewn ffyrdd eraill, fel e-bost, cyfryngau cymdeithasol, neu rywun yn dod draw at eich drws ffrynt.
Er bod sgamiau buddsoddi yn amrywio, mae’r egwyddor yn parhau’r un fath. Fe’ch anogir i drosglwyddo arian i fuddsoddi mewn cwmni neu gynnyrch, nad yw’n bodoli go iawn.
Sut i’w adnabod
Gall fod yn eithaf anodd. Gall llawer o gwmnïau y mae sgamwyr yn galw ohonynt neu’n ceisio’ch cael i fuddsoddi ynddynt edrych yn ddilys, â gwefannau, proffiliau cyfryngau cymdeithasol a geirdaon.
Gwelwch a yw’r cwmni neu ymgynghorwr wedi’i reoleiddio trwy wirio’r gofrestr ar wefan y FCA. Gwiriwch a yw’r cwmni ar restr rhybudd yr FCA.
Gwiriwch a yw'r hyn maent yn eich cael chi i fuddsoddi ynddo yn bodoli ar wefan Tŷ'r Cwmnïau.
Ni fydd cwmni dilys yn cysylltu â chi yn ddirybudd am gyfle buddsoddi. Felly os byddwch yn cael galwad ffôn annisgwyl, y peth gorau yw ei anwybyddu.
Rhybudd amlwg yw os byddant yn dweud wrthych fod buddsoddiad yn cynnig cyfradd uchel o adenillion heb fawr risg.
Beth i’w wneud
Adroddwch sgamiau ar wefan y FCA.
Neu, os ydych wedi colli arian i fuddsoddiad lle’r amheuir mai twyll ydyw, rhowch wybod i Action Fraud ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch nhw ar 0300 123 2040.
Darganfyddwch fwy am adnabod ac osgoi sgamiau buddsoddi yn ein canllaw Sut i adnabod twyll buddsoddi
Twyll pensiwn
Ers i’r rhyddid pensiwn gael ei gyflwyno yn 2015, mae’r rhai sydd wedi ymddeol yn gallu cael gafael ar symiau mawr o arian o botiau pensiwn.
Y sgil-effaith anffodus yw bod y grŵp hwn bellach yn cael eu targedu gan sgamwyr oherwydd ei bod yn bosibl iddynt gael gafael ar symiau mawr o arian.
Bydd sgamiau pensiwn fel arfer yn dilyn llwybr tebyg i sgamiau buddsoddi, â chyswlltu fel arfer dros y ffôn.
Sut i’w adnabod
Mae arwyddion rhybudd yn debyg i’r rheiny ar gyfer sgamiau buddsoddi.
Dylid trin galwadau ffôn digymell, neu gyswlltu heb gais, fel rhai amheus. Dylai unrhyw beth sy’n cynnwys adenillion uchel â risg isel ganu clychau rybudd.
Os ydych eisiau bod yn sicr bod cwmni'n ddilys, gwiriwch gofrestr FCAYn agor mewn ffenestr newydd a gwefan Tŷ’r Cwmnïau
Beth i’w wneud
Adroddwch sgamiau ar wefan y FCAY, n agor mewn ffenestr newydd, Action Fraud neu Heddlu'r Alban, hyd yn oed os nad ydych wedi colli arian.
Neu, os ydych wedi cael arian wedi ei ddwyn i fuddsoddiad lle’r amheuir mai twyll ydyw, rhowch wybod i Action Fraud ar-lein neu ffoniwch nhw ar 0300 123 2040.
Darganfyddwch fwy am adnabod ac osgoi sgamiau pensiwn yn ein canllaw Sut i adnabod sgamiau pensiwn
Twyll ffi o flaen llaw
Dyma fath arall o dwyll e-bost a chyfryngau cymdeithasol, ac yn ôl pob tebyg yr un mwyaf cyfarwydd. Cewch neges yn dweud wrthoch eich bod chi'n mynd i gael taliad mawr. Weithiau mae’r negeseuon hyn yn dod ddirybudd, neu weithiau gall fod yn rhywun sy'n ceisio meithrin perthynas gyda chi. Fel arfer, byddant yn dweud wrthych fod person cyfoethog mewn trafferth, a byddwch yn cael eich gwobrwyo am eich help.
Bydd twyllwyr yn ceisio eich darbwyllo y gallwch dalu ffi ymlaen llaw am fenthyciad, nwyddau, gwasanaethau neu enillion ariannol na fyddwch fyth yn eu derbyn.
Gofynnir i chi am eich manylion banc, ond wrth gwrs nid oes arian a bydd y sgamwyr yn defnyddio’r manylion y byddwch yn eu hanfon i gael mynediad i'ch cyfrif banc a'i wacáu.
Mae cynlluniau tebyg yn bodoli ag ewyllysiau a hawlio etifeddiaeth gan berthynas pell.
Sut i’w adnabod
Fel llawer o’r sgamiau rydym wedi sôn amdanynt hyd hyn – os yw’n swnio’n rhy dda, yna yn ôl pob tebyg felly y bydd hi.
Unwaith eto, mae’n werth gwirio’r e-bost – gan na fydd yr enw y mae’r neges oddi wrtho a’r e-bost yr un peth. Mae gwallau sillafu a gramadeg gwael hefyd yn arwyddion.
Beth i’w wneud
Anwybyddwch yr e-bost a pheidiwch byth ag anfon manylion talu na gwybodaeth bersonol neu dalu ddi am fenthyciad neu daliad arall nad oeddech yn ei ddisgwyl.
Darganfyddwch fwy am dwyll ffi o flaen llaw ar wefan Action Fraud
Twyll taliad gwthio a awdurdodwyd
Nod y sgam hon yw eich cael i anfon, neu i ganiatáu, taliad i’r sgamwyr o’ch gwirfodd. Maent yn gwneud hyn trwy honni eu bod yn fusnes dilys, trwy gael gafael ar eich cyfrif e-bost neu ei hacio.
Mae hefyd yn dacteg a ddefnyddir gan sgamwyr sy'n esgus eu bod yn cysylltu o'ch banc.
Mae’r twyll hwn yn digwydd yn aml wrth i chi brynu tŷ, wneud gwaith adeiladu ar eich tŷ neu drefnu gwyliau. Mae’r sgamiwr yn rhyng-gipio e-bost cwmni ac yn anfon neges atoch yn gofyn am daliad. Gan eich bod yn aros am fil i'w dalu, gall fod yn anodd gweld mai sgam ydyw.
Mae yna dwyll cyffredin newydd lle efallai byddwch yn cael neges destun neu WhatsApp o rif ffôn newydd, yn dweud mai ffrind neu berthynas ydyn nhw sydd angen arian. Gall y negeseuon hyn fod yn argyhoeddiadol iawn, os oes amheuaeth, ffoniwch neu anfonwch neges i’r person maent yn esgus bod ar ei hen rif ffôn i wirio.
Sut i’w adnabod
Gall sylwi ar dwyll taliad gwthio fod yn anodd iawn gan ei fod yn digwydd fel arfer ar adeg pan ydych yn disgwyl cael cais am daliad. Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod pob neges yn un dilys.
Beth i’w wneud
Os ydych yn talu trwy drosglwyddiad banc, mae angen i chi fod 100% yn hyderus eich bod yn gwybod pwy yw’r derbynnydd, gan y gall fod yn anodd cael yr arian yn ôl.
Gwiriwch fod y cwmni rydych yn disgwyl rhoi taliad iddo wedi anfon yr e-bost dan sylw atoch a bod y manylion banc yn cyfateb.
Os byddwch yn dioddef, mae rheolau newydd a gyflwynwyd gan y FCA, yn golygu y gallwch gyflwyno cwyn i’ch banc a’r banc sy’n derbyn y taliad.
Mae'r rhan fwyaf (ond nid pob un) o fanciau'r stryd fawr wedi ymrwymo i'r cod ymarfer newydd hwn. Mae’r cod gwirfoddol hwn yn golygu y dylai banciau (ond nid bob amser) ad-dalu dioddefwyr os nad ydynt ar fai
Darganfyddwch fwy am beth i'w wneud os ydych chi'n ddioddefwr sgam trosglwyddiad o’r bancYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Which?
Sgamiau cyfrif diogel
Bydd rhywun yn cysylltu â chi, fel arfer ar y ffôn gan honni eu bod yn galw o’ch banc. Byddant yn dweud bod eich cyfrif wedi’i gyfaddawdu mewn rhyw ffordd ac yn eich annog i drosglwyddo’ch holl arian o’ch banc i ‘gyfrif diogel’.
Peidiwch byth â rhoi manylion eich cyfrif banc, rhif PIN neu gerdyn credyd oni bai eich bod yn sicr gyda phwy rydych yn delio.
Sut i’w adnabod
Gall fod yn anodd iawn gan fod y sgamwyr yn chwarae ar eich ofnau am bobl yn cael mynediad anghyfreithlon at eich arian.
Ond y peth cyntaf i’w gofio yw na fydd banciau byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian i ‘gyfrif diogel’.
Os oes rhywun wedi hacio’ch cyfrif, bydd eich banc yn gallu stopio arian rhag gadael y cyfrif yn gyflym iawn ac ni fyddai diben trosglwyddo’ch arian i gyfrif banc gwahanol.
Beth i’w wneud
Os oes rhywun yn cysylltu â chi ar y ffôn, rhowch y ffôn i lawr, ac os ydych yn poeni am ddiogelwch eich cyfrif, ffoniwch eich banc yn uniongyrchol.
Os ydych yn ddioddefwr o’r math hwn o dwyll, gysylltwch â’ch banc yn uniongyrchol.
Twyll ffi benthyciad
Os ydych yn chwilio am fenthyciadau ar-lein, gallai twyllwyr gysylltu â chi a chynnig benthyciad i chi’n uniongyrchol.
Gofynnir i chi dalu ffi ymlaen llaw er mwyn cael y benthyciad, ond ni fydd yr arian fyth yn cael ei anfon atoch.
Sut i’w adnabod
Ni ddylai neb fyth ofyn i chi dalu ffi ymlaen llaw am fenthyciad.
Efallai bydd sgamwyr hefyd yn gofyn i chi mewn ffyrdd anarferol, fel drwy dalebau iTunes neu wasanaeth trosglwyddo arian.
Beth i’w wneud
Sicrhewch eich bod yn defnyddio darparwr benthyciadau dilys, trwy wirioYn agor mewn ffenestr newydd gwefan y FCA.
Gwe-gorlannu
Yn debyg i we-rwydo, ond yn hytrach nac anfon e-bost atoch yn uniongyrchol, mae’r sgamwyr yn targedu’r wefan rydych yn ymweld â hi.
Rydych yn teipio’r cyfeiriad gwefan cywir, ond rydych wedyn yn cael eich cyfeirio at fersiwn ffug, ble y byddwch yn anfwriadol yn nodi’ch manylion mewngofnodi a gwybodaeth ddiogel.
Sut i’w adnabod
Mae rhaid i chi fod yn graff iawn. Gan eich bod wedi nodi’r cyfeiriad gwe cywir, yn naturiol byddech yn cymryd yn ganiataol eich bod wedi mynd i’r wefan gywir.
Mae sgamwyr hefyd wedi cynllunio’r gwefannau ffug hyn i edrych yn union fel yr un go iawn.
Edrychwch ar gyfeiriad y wefan. Ni fydd yn ymddangos yn ôl y disgwyl, ond fel detholiad o rifau. Neu efallai rywbeth sy’n debyg i’r enw go iawn, ond â llythrennau wedi’u cyfnewid neu sillafu gwahanol.
Beth i’w wneud
Byddwch yn graff wrth fewngofnodi i wefannau, a byddwch yn wyliadwrus am gyfeiriadau gwefan amheus.
Mae’n bwysig hefyd cadw’ch system weithredu a meddalwedd gwrthfirws yn gyfredol.
Darganfyddwch fwy am we-gorlannu yn Norton Security
Twyll neges destun (smishing)
Sgam ar sail neges destun yw’r rhain.
Bydd sgamwyr yn cysylltu â chi gan honni eu bod o’ch banc yn dweud bod angen i chi ddiweddaru’ch manylion personol, neu fod ryw fath o broblem.
Gallai’r neges gynnwys dolen, fel sgam gwe-rwydo, neu rif ffôn i’w ffonio. Mae’r rhif ffôn yn ffug a, phan fyddwch yn galw, bydd y twyllwyr yn ceisio’ch cael i ddatgelu’ch manylion.
Sut i’w adnabod
Mae’n anodd ei adnabod, felly os ydych yn derbyn neges fel hyn – byddwch yn amheus.
Un arwydd yw bod y rhif ffôn yn y neges yn wahanol i’r un ar eich cerdyn credyd neu ddebyd.
Os yw sgamwyr yn ffugio'r rhif, gallai ymddangos yn ddilys iawn, hyd yn oed yn gollwng i mewn i gadwyn negeseuon testun sy'n bodoli eisoes.
Beth i’w wneud
Os oes gennych amheuaeth, ffoniwch y rhif ar eich cerdyn a holi a ydynt wedi ceisio cysylltu â chi.
Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni mewn negeseuon testun. Ewch yn uniongyrchol i’r wefan bob amser a mewngofnodi yn ôl yr arfer.
Twyll meddalwedd cyfrifiadurol
Mae hwn lle mae sgamwyr yn honni eu bod gan Apple neu Microsoft yn cysylltu â chi ar y ffôn neu e-bost. Maent yn dweud eu bod angen eich manylion talu i drwsio, diweddaru neu ddilysu eich meddalwedd.
Sut i’w adnabod
Mae’n annhebygol iawn y byddai cwmnïau cyfrifiadurol yn gwneud galwad ffôn na ofynnwyd amdano am y math hwn o faterion.
Dylech fod yr un mor amheus o alwadau o’r fath ag y byddech i alwadau neu e-bost annisgwyl.
Beth i’w wneud
Os oes gennych amheuaeth, cysylltwch â’ch cyflenwr cyfrifiadur neu feddalwedd yn uniongyrchol a pheidiwch â rhoi eich manylion talu.
Darganfyddwch fwy am dwyll gwasanaethau meddalwedd cyfrifiadurol yn Action Fraud
Twyll o ddrws i ddrws
Daw’r rhain ar sawl ffurf, ond yn hytrach na dibynnu ar anhysbysrwydd cyfathrebu ar-lein, yn syml maent yn curo ar eich drws.
Er y gallant fod yn sgamiau buddsoddi a phensiwn, gallant hefyd geisio eich twyllo mewn ffordd fwy ymarferol – fel gwerthu cynnyrch neu wasanaeth i chi.
Enghraifft gyffredinol yw person yn honni ei fod yn adeiladwr sy’n digwydd sylwi ar ddifrod i’ch to pan oedd yn pasio. Mae casglwyr elusennol ffug a gwerthwyr yn enghreifftiau eraill.
Efallai y bydd sgamiwr yn honni ei fod yn dod o asiantaethau’r llywodraeth gan gynnwys Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Nid yw Gwasanaeth Arian a Phensiynau erioed wedi, ac ni fydd byth yn dod i’ch cartref, nac yn cysylltu â chi ar hap dros y ffôn, WhatsApp, e-bost neu neges destun.
Os yw pobl yn honni sy'n honni mai ni ydynt yn galw i’ch cartref, dylech ffonio 101 i adrodd y sgamwyr, neu 999 os ydych yn teimlo’n anniogel.
Sut i’w adnabod
Byddwch yn amheus hefyd o unrhyw un sy’n cyrraedd yn ddirybudd wrth eich drws. Yn oes gyfathrebu ddigidol, mae’n annhebygol y bydd unrhyw gwmni dilys yn ceisio gweithredu yn y modd hwn.
Mae’n bwysig hefyd peidio â chael eich twyllo dim ond achos bod gan rywun gerdyn adnabod. Mae’n hawdd iawn cynhyrchu cerdyn adnabod ffug ac nid yw’n warant o gyfreithlondeb.
Beth i’w wneud
Peidiwch â mynd i siarad ag unrhyw un sy’n curo ar eich drws yn ddirybudd.
A dylai unrhyw un rydych yn amau o geisio’ch sgamio chi neu eich cymdogion gael ei adrodd wrth yr heddlu.
Darganfyddwch fwy am sgamiau gwerthu o ddrws i ddrws yn Action Fraud
Twyll tocynnau
Mae hyn pan fyddwch yn prynu tocynnau ar gyfer cyngerdd neu ddigwyddiad chwaraeon, er enghraifft – ond nid yw’r unigolyn neu’r wefan rydych yn prynu ganddynt yn anfon tocynnau atoch, neu efallai yn anfon rhai ffug.
Mae hyn fwyaf cyffredin ar safleoedd ailwerthu neu gyfnewid tocynnau, sy’n ei gwneud yn anodd iawn i gael ad-daliad.
Er mwyn trechu towtiaid, mae nifer o ddigwyddiadau yn cyhoeddi tocynnau na ellir eu defnyddio gan neb ond y sawl sy’n eu prynu, felly ni fydd tocynnau oddi ar wefannau ailwerthu yn gweithio.
Sut i’w adnabod
Gall fod yn anodd adnabod y twyll hwn gan na fyddwch o reidrwydd yn sylweddoli eich bod wedi’ch twyllo tan ddiwrnod y digwyddiad.
Un ffordd o adnabod hyn yw trwy edrych ar y wefan.
Os yw’n wefan nad ydych yn gyfarwydd â hi, neu sydd heb fanylion cyswllt priodol, neu sy’n rhestru rhif ffôn symudol neu flwch Swyddfa’r Post yn unig – dylech ei osgoi.
Beth i’w wneud
Dylech osgoi prynu tocynnau oddi ar gyfryngau cymdeithasol neu wefannau arwerthiant os gallai fod yn anodd mynd ar drywydd y gwerthwr i gael ad-daliad.
Gwiriwch fod y wefan rydych yn prynu ganddi yn aelod o’r Gymdeithas Asiantaethau a Gwerthwyr Tocynnau (STAR).
Gwiriwch a yw’r wefan rydych chi'n ei phrynu wrthi yn aelodYn agor mewn ffenestr newydd o'r Society of Ticket Agents &Retailers (STAR).
Wrth dalu, sicrhewch fod cyfeiriad y wefan yn dechrau ag https, nid dim ond http, gan fod hyn yn golygu fod y safle’n ddiogel.
Talu â cherdyn credyd (os yw’n fwy na £100), cerdyn debyd neu PayPal, yn hytrach na throsglwyddiad banc, gan fod gennych fwy o ddiogelwch os aiff rhywbeth o’i le
Darganfyddwch fwy am dwyll tocynnau yn Action Fraud
Sgamiau posibl eraill
Mae sawl ffordd i dwyllwyr geisio eich cael i roi eich arian iddynt.
Gallent ddwyn gwybodaeth o’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, trwy gysylltiadau Wi-Fi cyhoeddus, neu trwy amryw fathau o dwyll yswiriant.
Dyma rai sgamiau cyffredin sy’n anos eu hadnabod a’u hatal.
Cynlluniau marchnata aml-lefel (MLMs)
Er nad sgam yw pob MLM, os ymunwch â MLM rydych yn dal yn debygol o golli mwy o arian nag a roddwch i mewn.
Yn nodweddiadol, bydd MLM yn sefydliad mawr sy’n cynnwys cannoedd o unigolion sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau. Er enghraifft, cynhyrchion harddwch, canhwyllau, cynhyrchion glanhau a llyfrau – o gartref neu drwy ‘bartïon’.
Mae gan MLMs strwythur tebyg i gynlluniau pyramid. Ac mewn llawer o MLMs mae’n llawer mwy proffidiol i recriwtio eraill nag ydyw i ennill comisiwn o werthiannau.
Darganfyddwch fwy am MLMs yn ein blog A yw cynllun marchnata aml-lefel (MLM) yn ffordd dda o wneud arian?
Twyll rhamant
Bydd rhai twyllwyr yn cysylltu â chi ar wefan canlyn gan ddefnyddio proffil ffug. Byddant yn dweud o’r cychwyn eu bod yn byw dramor ac yn anfon e-bost atoch, gan ddod i’ch adnabod dros gyfnod o amser a bod yn gariadus a rhamantus.
Pan fyddwch wedi dechrau canlyn byddant yn gofyn i chi am arian i berthynas sâl neu am docyn awyren i ddod i ymweld. Byddant yn hapus i fynd â’ch arian ond byth yn ymddangos.
Darganfyddwch fwy am sgamiau canlyn yn Action Fraud
Damwain am arian
Yn syml, digwydd hyn pan fydd rhywun yn cael damwain yn fwriadol er mwyn gallu hawlio ar yr yswiriant. Mewn realiti, mae’n llawer mwy cymhleth.
Bydd grwpiau, fel arfer gangiau troseddol, yn targedu pobl y maent y meddwl y bydd ganddynt yswiriant car da, neu sy’n llai tebygol o greu ffws – er enghraifft, mamau gyda phlant.
Bydd car y twyllwyr o’ch blaen ac yn sydyn bydd yn taro’r brêc, neu’n tynnu allan o gyffordd yn annisgwyl – gan achosi i chi fwrw mewn iddynt.
Byddant yn mynnu mai’ch bai chi yw’r ddamwain, ond yn barod i drosglwyddo’u gwybodaeth yswiriant.
Ychydig wythnosau yn ddiweddarach bydd eich cwmni yswiriant yn dweud wrthych beth yw manylion hawliad y gyrrwr arall. Bydd hyn yn chwyddo costau fel llogi car, neu anafiadau atchwipio.
Darganfyddwch fwy am ddamwain am arian a sut i’w osgoi ar wefan yr AA
Twyll iechyd
Os byddwch yn gweld neges e-bost neu hysbyseb yn cynnig ‘iachâd gwyrthiol’ ar gyfer moelni, canser, analluedd, acne neu golli pwysau – cadwch yn glir.
Gallech gael cynnig rhywbeth sy’n ymddangos yn feddyginiaeth amgen dilys ond nad yw’n gweithio mewn gwirionedd.
Neu gallech feddwl eich bod yn derbyn cyffuriau a meddyginiaeth yn rhad iawn neu heb bresgripsiwn ond heb fod y pethau go iawn – neu ni fyddant yn cael eu dosbarthu o gwbl.
Mewn rhai achosion, gall y meddyginiaethau hyn niweidio’ch iechyd.
Darganfyddwch fwy am sgamiau iechyd yn Action Fraud
Twyll swyddi
Mae sawl math o dwyll swyddi. Maent yn amrywio o addewid o yrfa newydd, ble gofynnir i chi dalu o flaen llaw am hyfforddiant neu ddeunyddiau, i gael cynnig swyddi dramor nad ydynt yn bodoli ble gofynnir i chi dalu am ffi i drefnu fisâu a llety.
Gallech hefyd gael eich dal gan gynllun gweithio o adref ble y dywedir wrthych y byddwch yn gwneud arian yn rhwydd ac y gallai fod angen i chi dalu ffi o flaen llaw i gofrestru.
Serch hynny, mae’r ‘cyfleoedd’ neu’r cynnyrch yn ddiwerth ac – yn waeth byth – gallai’ch manylion cofrestru gael eu gwerthu ymlaen i sgamwyr eraill.
Darganfyddwch fwy am sgamiau swyddi yn Action Fraud
Mulod Arian
Yma gallech fod yn torri’r gyfraith yn ddiarwybod i chi ac yn helpu troseddwyr trwy ddefnyddio eich cyfrif banc i dderbyn arian sydd wedi ei ddwyn, ac yna ei anfon ymlaen – a derbyn comisiwn am helpu.
Byddai bod yn rhan o’r sgam hwn yn golygu eich bod yn torri’r gyfraith trwy wyngalchu arian.
Darganfyddwch fwy am fulod arian yn Action Fraud
Sgamiau arwerthiant ar-lein
Gall twyllwyr weithredu fel prynwyr ffug neu werthwyr ffug. Os ydynt yn prynu gennych mae’n ymddangos eu bod yn talu am y nwyddau, ond cyn gynted ag y byddwch wedi anfon y nwyddau, bydd y taliad yn cael ei dynnu yn ôl.
Mae gwerthwyr ffug yn eich cael i brynu cynnyrch nad ydynt yn bodoli ac yn syml yn diflannu â’ch arian.
Os gallwch, defnyddiwch bost sy’n cael ei olrhain i anfon yr eitem, a chadwch afael ar eich derbynneb. Peidiwch â chytuno i’r prynwr drefnu i’w gludwr ei hun ddod i nôl yr eitem.