Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn cael miliynau o bunnoedd wedi'i dwyn trwy dwyllau buddsoddi. Oherwydd y rhyngrwyd a datblygiadau mewn cyfathrebu digidol mae’r mathau hyn o dwyll yn dod yn fwy cyffredin ac yn anoddach eu hadnabod. Er hynny mae rhai arwyddion o rybudd, y gallwch eu defnyddio i osgoi cael eich llorio gan y twyllwyr.
Beth yw twyll buddsoddi?
Byddwch yn ymwybodol
Mae gan rai twyllwyr wefannau credadwy iawn a phresenoldeb arall ar-lein, sy’n gwneud iddynt ymddangos fel cwmni dilys. Gwiriwch gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) bob tro i sicrhau eu bod wedi’u cofrestru ac am rybuddion am wefannau clôn a chwmnïau heb eu rheoleiddio.
Edrychwch ar wefan y FCA
Mae twyll buddsoddi’n ceisio gorfodi pobl i drosglwyddo arian – gallant ymddangos yn hollol ddilys, yn llawn gwybodaeth gyda gwefannau, tystlythyron a deunydd marchnata.
Y math mwyaf adnabyddus o dwyll buddsoddi yw’r Cynllun Ponzi, lle cesglir arian gan fuddsoddwyr newydd i dalu buddsoddwyr blaenorol. Yn y pen draw bydd yr arian sy’n ddyledus yn gyfanswm uwch na’r hyn a gesglir ac mae’r cynllun yn chwalu, gan adael yr holl fuddsoddwyr heb arian.
Heddiw, oherwydd y rhyngrwyd a chyfathrebu digidol, gall twyll buddsoddi fod yn llawer mwy cymhleth. Mae rhai o’r twyll hyn yn gredadwy iawn, mae hyd yn oed buddsoddwyr proffesiynol wedi cael eu twyllo.
Mae rhai sgamiau cyffredin yn cynnwys lle mae sgamwyr yn clonio gwefannau cwmnïau cyfreithlon, neu'n eich cael i fuddsoddi mewn buddsoddiadau sgam a heb eu rheoleiddio sy'n cynnig enillion yn llawer gwell na'r cyfraddau sy'n cael eu cynnig ar gyfrifon cynilo.
Ers dyfodiad y rhyddid pensiynau ym mis Ebrill 2015, mae pobl hŷn yn enwedig mewn perygl o gael eu twyllo gan dwyllau buddsoddi gan eu bod yn gallu tynnu cyfandaliadau o arian parod o gronfeydd pensiwn.
Mae gan bob un twyll buddsoddi un peth yn gyffredin. Maent yn honni eu bod yn gallu cynnig elw sylweddol heb fawr o risg. Os yw'n edrych yn rhy dda i fod yn wir, yna mae'n debyg ei fod, a dylid ei osgoi.
Sut i adnabod twyll buddsoddi
Gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol o’r rhybuddion a allai ddangos bod cyfle buddsoddi yn sgam:
- Cynigion heb i chi ofyn amdanynt dros y ffôn, neges destun, e-bost neu unigolyn yn cnocio ar eich drws.
- Pan nad yw’r cwmni’n caniatáu i chi ei ffonio’n ôl.
- Pan gewch eich gorfodi i wneud penderfyniad cyflym, neu eich rhoi dan bwysau i wneud hynny.
- Yr unig fanylion cyswllt a gewch ganddynt neu ar eu gwefan yw rhif ffôn symudol neu gyfeiriad blwch post.
- Cewch gynnig elw sylweddol ar eich buddsoddiad, ond dywedir wrthych bod y risg yn isel.
Ai twyll ydyw?
Gwiriwch os yw cyfle buddsoddi neu bensiwn yn dwyll, a darganfyddwch lawer mwy o wybodaeth am osgoi’r sgamiau diweddaraf.
Defnyddiwch y teclyn ScamSmartYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y FCA.
Darganfyddwch fwy am drechu twyll ariannol ar wefan Take Five
Sut i ddiogelu eich hun rhag twyll buddsoddi
Pwysig
Os yw cynllun wedi ei awdurdodi, nid yw hynny’n golygu o reidrwydd eich bod wedi’ch diogelu’n awtomatig gan y Cynllun DIgolledu Gwasanaethau Ariannl (FSCS) na Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS). Hyd yn oed os ydych yn defnyddiocwmni awdurdodedig, yn gyffredinol mae rheolau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn berthnasol i gynnyrch prif ffrwd yn unig, yn hytrach nag i fuddsoddiadau ‘arbenigol’, a allai fod heb eu rheoleiddio’n gwfan gwbl.
I osgoi cael eich dal gan dwyll, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y rheolau syml hyn.
- Gwrthodwch unrhyw alwadau neu negeseuon testun nad ydych wedi gofyn amdanynt, neu ymwelwyr yn dod at eich drws. Ni fydd cwmnïau buddsoddi dilys yn galw neu’n cysylltu â chi’n ddirybudd.
- Gwiriwch gofrestr y FCA o gwmnïau rheoleiddiedig ar wefan y FCA Neu gwiriwch restr rybuddio’r FCA
- Os ydych yn ystyried cyfle i fuddsoddi, ceisiwch gyngor ariannol annibynnol gan gwmni a reoleiddir gan yr FCA.
Darganfyddwch sut i fod yn fuddsoddwr SmartScam ar wefan y FCA
Beth i’w wneud os credwch eich bod wedi cael eich targedu
Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich targedu gan dwyll buddsoddi, adroddwch hynny i wefan Scam Smart y FCA
Os ydych wedi cael eich targedu, hyd yn oed os nad ydych yn ddioddefwr, gallwch hysbysu Action Fraud. Ffoniwch 0300 123 2040 neu defnyddiwch y teclyn hysbysu ar-lein ar Action Fraud
Yn yr Alban, dylech roi gwybod am y sgam i Police Scotland ar 101 neu Advice Direct Scotland ar 0808 164 6400.
Byddwch yn ofalus rhag cael eich targedu yn y dyfodol, yn enwedig os gwnaethoch golli arian i dwyll. Gall cwmnïau twyllodrus fanteisio ar hyn a chynnig eich helpu i chi gael ychydig neu’r cyfan o’ch arian yn ôl.
Help gyda sgamiau
Os ydych eisiau help gyda'ch anghenion presennol a help i weld a ydych yn gallu cael eich arian yn ôl, ffoniwch ein uned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402