Os yw’r arian roeddech yn ei ddefnyddio i dalu am eich gofal hirdymor nawr yn brin, dyma ffyrdd eraill o ariannu’ch gofal a sut i wneud cais amdano.
Camau cyntaf - ystyriwch eich sefyllfa
Hyd yn oed os yw’ch arian yn rhedeg yn isel, mae’n bwysig gwybod eich bod yn cael cadw rhai cynilion ac asedau (fel eich cartref) a pharhau i fod yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal
I fod yn gymwys i gael help gan eich awdurdod lleol (neu yng Ngogledd Iwerddon, eich Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol lleol) mae angen i’ch cynilion a rhai asedau fod yn llai na:
- £24,000 am ofal gartref a £50,000 os ydych mewn cartref gofal – yng Nghymru
- £23,250 – yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
- £29,750 – yn yr Alban.
Mae’r cap gofal cymdeithasol yn newid yn Lloegr o Hydref 2025, darganfyddwch fwy yn ein canllaw A wyf yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol am gostau gofal?
Os ydych cyn berchen ar gartref, nid yw gwerth eich cartref yn cyfrif tuag at y terfynau hyn os:
- ydych yn cael gofal gartref neu
- ydych mewn cartref gofal, ond mae’ch partner, priod neu ddibynnydd arall yn dal i fyw yn eich cartref.
Gweler ein canllaw ar Profion modd i gael cymorth gyda chostau gofal – sut maent yn gweithio
Gofynnwch am asesiad anghenion gofal
Os yw’ch cynilion bellach yn is neu’n agos at y lefel lle y gallech gael help gyda chyllid, gofynnwch i’ch awdurdod lleol (neu’r Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol).
Gofynnwch am asesiad o anghenion gofal. Dyma’r cam cyntaf i ddarganfod a ydych bellach yn gymwys i gael cymorth gan awdurdod lleol neu’r GIG.
Ceisiwch wneud hyn tua tri mis cyn i chi ddisgwyl i’ch cynilion disgyn o dan y terfyn. Mae hyn er mwyn rhoi digon o amser i’r asesiad o’ch anghenion gofal a chyllid cael eu gwneud, a chael popeth mewn lle cyn i’ch arian rhedeg allan.
Dim ond o’r dyddiad rydych yn cysylltu â’ch awdurdod neu ymddiriedolaeth lleol y byddant yn darparu cyllid.
Os yw’r asesiad anghenion gofal yn dangos eich bod yn gymwys i gael cymorth, bydd eich awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth yn trefnu asesiad ariannol. Mae hyn i weld a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Bydd hyn yn edrych ar eich incwm, cynilion ac asedau. Efallai y bydd yn dangos nad oes angen i chi ariannu eich gofal eich hun yn llawn mwyach.
Gallai’r asesiad ddangos bod eich anghenion gofal bellach yn golygu bod angen lle arnoch mewn cartref gofal. Efallai y cynigir pecyn gofal cartref i chi, neu le mewn tai cysgodol neu lety tebyg.
Yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad ariannol, efallai y bydd angen i chi dalu rhai o’ch costau gofal o hyd.
Felly mae’n bwysig sicrhau eich bod chi’n cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Gwiriwch a ydych yn gymwys am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG
Oeddech chi’n gwybod?
Gallai cyllid gofal iechyd parhaus y GIG dalu am eich costau llety os ydych mewn cartref gofal sy’n darparu gofal nyrsio. Os arhoswch gartref, gallai helpu tuag at eich costau gofal cymdeithasol a gofal iechyd.
Os ydych yn oedolyn sydd ag anabledd neu broblem feddygol gymhleth, efallai y byddwch yn gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG am ddim. Os ydych yn yr un sefyllfa ac o dan 18 oed, efallai y byddwch yn gymwys i gael gofal parhaus y GIG am ddim.
Mae’n talu costau gofal personol a gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys help gyda thasgau byw bob dydd, gofal nyrsio neu dalu am therapi arbenigol.
Gallai hefyd gynnwys llety os yw’r gofal yn cael ei ddarparu mewn cartref gofal, neu gefnogaeth i ofalwyr os ydych yn derbyn gofal gartref.
Mae siawns hefyd bod y meini prawf cymhwysedd wedi newid ers i chi gael eich asesu ddiwethaf.
Efallai na fyddech hyd yn oed wedi clywed am y math hwn o gyllid o’r blaen.
Y naill ffordd neu’r llall, mae’n bendant yn werth siarad â’ch meddyg, gofalwr neu weithiwr cymdeithasol.
Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys nawr, mae’n werth adolygu’r sefyllfa os yw’ch cyflwr yn gwaethygu.
Yn Yr Alban, bydd ‘Hospital Based Complex Clinical Care’ yn ariannu gofal yn llawn ond dim ond mewn lleoliad ysbyty.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ydw i’n gymwys am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG?
Fyddwch chi’n gallu aros yn eich cartref gofal?
Peidiwch â chynhyrfu
Mae yna bob amser ddewisiadau i’ch cadw mewn lle sydd yn cwrdd â’ch anghenion.
Os yw’ch asesiad anghenion gofal diweddaraf yn nodi mai’r ffordd orau o ddiwallu’ch anghenion yw byw mewn cartref gofal, rhaid i’ch awdurdod neu ymddiriedolaeth leol gynnig lle i chi mewn o leiaf un cartref gofal. Yn ddelfrydol, dylent gynnig dewis i chi.
Yr Health and Social Care Trust sy’n gwnued hyn yng Ngogledd Iwerddon.
Fodd bynnag, efallai na fydd yr opsiynau y maent yn eu cynnig yn cynnwys y cartref gofal yr ydych eisoes ynddo os ydych bellach yn dibynnu’n llwyr ar gyllid awdurdodau lleol i dalu am eich gofal. Mae hyn oherwydd, mae’r swm y bydd awdurdodau lleol yn ei ariannu fel arfer yn llawer llai na chartrefi gofal yn codi tâl ar bobl sy’n ariannu eu hunain.
Ond nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd yn rhaid i chi symud i gartref arall.
Yn gyntaf, gwiriwch eich contract gyda’r cartref gofal. Bydd rhai darparwyr gofal yn gadael i chi aros wrth i chi wneud cais am gyllid. Ac efallai y byddant yn derbyn y gyfradd is gan eich awdurdod lleol felly ni fyddai angen i chi symud allan.
A fydd diffyg rhwng yr hyn y gallwch chi a’r awdurdod lleol ei fforddio a’r hyn y bydd y cartref yn ei godi? Yna, efallai y gallwch gael teulu neu ffrindiau i ychwanegu at eich cyfraniad. Gelwir hyn yn ‘gyfraniad trydydd parti.
Neu, efallai y bydd yna elusen neu gronfa garedig a all eich helpu chi.
I ddarganfod mwy am sefydliadau a allai helpu gydag ychwanegiadau, defnyddiwch y teclyn dod o hyd i grant ar wefan Turn2us
Os nad yw hyn yn bosibl efallai y gallwch symud i ystafell rhatach neu un wedi’i rhannu yn yr un cartref.
Os nad oes unrhyw un o’r opsiynau hyn yn bosibl, efallai y bydd angen i chi symud i gartref gofal arall sy’n derbyn cyllid yr awdurdod lleol fel taliad llawn.
Mae gennych hawl i ddewis eich cartref gofal, cyn belled â’i fod yn cwrdd â meini prawf yr awdurdod lleol ar gyfer eich anghenion a aseswyd.
Darganfyddwch fwy yn y ffeithlen ‘Choice and Council Funded Care Home Placements’ ar wefan FirstStop
Ariannu gofal hirdymor os ydych yn berchen ar gartref
Os ydych yn berchen ar gartref mae sawl ffordd y gall ecwiti yn eich cartref helpu i ariannu eich gofal hirdymor.
Symud i eiddo llai
Gallai hyn ryddhau’r arian y mae angen i chi ei dalu am eich gofal. Gallai symud i rywle sy’n fwy addas i’ch anghenion hefyd wella ansawdd eich bywyd a dod â chi’n nes at ffrindiau a pherthnasau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael tŷ llai i ariannu eich gofal hirdymor
Defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti
Os ydych am aros yn eich cartref eich hun, gallech edrych ar gynlluniau sy’n rhyddhau peth o’r cyfalaf yn eich cartref i dalu am eich gofal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti i gyllido eich gofal
Defnyddio cynllun talu gohiriedig
Gall eich awdurdod lleol gynnig yr opsiwn i chi ohirio taliadau felly does dim rhaid i chi werthu eich cartref i dalu am gartref gofal. Gelwir hyn yn daliad gohiriedig.
Os oes gennych ddigon o ecwiti yn eich cartref, gallai cytundeb talu gohiriedig ganiatáu i chi dalu am ofal atodol eich hun a chaniatáu i chi fyw mewn cartref gofal drutach nag y bydd yr awdurdod lleol yn ei ariannu.
Yna bydd yr awdurdod lleol yn adennill yr hyn sy’n ddyledus gennych mewn ffioedd pan fyddwch yn gwerthu’ch tŷ, neu o’ch ystâd ar ôl eich marwolaeth.
Yng Ngogledd Iwerddon nid oes system ffurfiol o gytundebau talu gohiriedig, er y gall Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol lleol hwyluso'r math hwn o drefniant.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cytundebau taliad gohiriedig ar gyfer pobl sy’n berchen ar eu cartref ac sy’n symud i mewn i gartref gofal
Rhentu eich cartref
Ochr yn ochr â’r cynllun ffioedd wedi’u gohirio, gallech ddewis rhentu eich cartref. Gallwch wedyn ddefnyddio’r incwm o’r rhent i leihau’r swm bydd rhaid i chi ei fenthyg gan yr awdurdod lleol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifoldebau ariannol os ydych yn gosod eiddo
Defnyddio’r diystyriaeth eiddo 12 wythnos
Os oes angen i chi fyw mewn cartref gofal yn barhaol, efallai y bydd gennych hawl i gyfnod o 12 wythnos pan na fydd gwerth eich cartref yn cael ei ystyried gan eich awdurdod lleol wrth asesu eich gallu i dalu.
Mae’r 12 wythnos rhad ac am ddim hwn wedi’i gynllunio i roi amser i bobl baratoi ar gyfer eu dyfodol. Mae'n eich galluogi i weithio allan pa atebion tymor hir fydd yn iawn i chi, cyn gwneud unrhyw atebion terfynol. Fe'i cynlluniwyd hefyd i roi amser i chi weld eich eiddo os mai dyna'r ffordd orau o weithredu.
Os ydych yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol beidio â chynnwys gwerth eich eiddo yn eich asesiad ariannol am 12 wythnos. Gelwir hyn yn ddiystyru eiddo 12 wythnos.
Bydd yr awdurdod lleol yn cyfrannu at ffioedd eich cartref gofal yn ystod yr amser hwn, neu nes i chi werthu eich eiddo, os ynghynt.
Darganfyddwch fwy am y diystyriaeth eiddo 12 wythnos, gan gynnwys pwy sy’n gymwys, yn ein canllaw Hunangyllido’ch gofal hirdymor – eich dewisiadau
A yw’ch awdurdod lleol heb gynnig diystyru eiddo 12 wythnos ar y sail eich bod yn breswylydd cartref gofal parhaol hunangyllido? Yna, gwnewch gŵyn am y penderfyniad hwn a gofyn iddo gael ei adolygu
I ddarganfod mwy, gweler ein canllaw ar Sut i herio’ch awdurdod lleol ynghylch eich gofal