Gall ymddeoliad bara 20 o flynyddoedd neu ragor yn ddibynnol ar ba bryd y byddwch yn ymddeol a pha mor hir y byddwch yn byw. Mae’n debygol y bydd eich incwm yn eich ymddeoliad yn dod o amryw o ffynonellau. Mae’r rhain yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, unrhyw bensiynau eraill gwnaethoch eu casglu wrth i chi weithio ac unrhyw gynilion a buddsoddiadau sydd gennych. Cyn i chi roi’r gorau i’ch gwaith bydd angen i chi wneud yn siŵr y bydd gennych ddigon o arian i chi fyw arno drwy gydol eich ymddeoliad.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pa mor hir fydd angen i’ch arian bara?
Oeddech chi’n gwybod?
Ar gyfartaledd, mae disgwyl i ddyn 65 oed fyw hyd at 85 oed, a disgwylir i fenyw 65 oed fyw hyd at 87 oed. (Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2023)
Bydd angen i chi feddwl sut i wneud i'r arian sydd gennych bara am weddill eich oes.
I amcangyfrif eich disgwyliad oes, gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Gall hyn eich helpu i gynllunio pa mor hir y gallai fod angen i'ch pensiwn bara. Ond cofiwch y gallai dewisiadau ffordd o fyw a ffactorau eraill effeithio ar ba mor hir rydych yn byw.
Os ydych yn byw yn hwy na’r disgwyl, gallech brofi anhawster ariannol yn ddiweddarach yn eich bywyd.
Ni ddylech ddefnyddio’ch arian yn rhy gyflym a bod mewn peryg o fod yn brin o arian yn ddiweddarach.
Ar y llaw arall, nid ydych yn dymuno gorfod byw’n fwy cynnil nag mae rhaid.
Mae rhaid i chi hefyd ystyried sut all chwyddiant effeithio ar faint o arian y byddwch ei angen i fyw arno a pha mor hir fydd eich cynilion yn para.
Pa mor hir fydd eich arian yn para?
Gan nad yw llawer ohonom yn gwybod am ba hyd y byddwn yn byw mae hynny’n anodd cynllunio ar ei gyfer.
Yn gyffredinol, mae'n syniad da sicrhau bod gennych ddigon o incwm gwarantedig a fydd yn talu am y pethau hanfodol (fel eich cartref, bwyd a biliau) am weddill eich bywyd.
Gallai hyn ddod o un neu gyfuniad o wahanol ffynonellau. Darganfyddwch fwy am incwm diogel isod.
Chwyddiant
Mae prisiau’n dueddol o godi dros amser. Felly, os ydych am barhau â’ch safon byw byddwch angen i’ch incwm ymddeol gynyddu’n unol â chwyddiant.
Efallai y gallwch gael incwm pensiwn gwarantedig sy'n cynyddu yn unol â phrisiau o'ch pensiwn personol neu bensiwn gweithle.
Bob blwyddyn mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu yn unol â chyfradd chwyddiant o leiaf. Ac os cewch incwm ymddeol gan gyn gyflogwr, yn aml mae hwn yn codi yn unol â chyfradd chwyddiant neu swm penodol bob blwyddyn.
Os byddwch yn dibynnu ar gynilion a buddsoddiadau i hybu’ch incwm, mae’n debyg y byddwch angen cynyddu’r swm a gymerwch ohonynt bob blwyddyn os dymunwch i’ch incwm bara cymaint ag yr arferai.
Os cymerwch fwy o incwm nag a enillir drwy eich cynilion a’ch buddsoddiadau bob blwyddyn, yn raddol byddwch yn defnyddio’ch arian cyfalaf. Bydd hyn yn golygu eich bod mewn perygl o redeg allan o gynilion.
Incwm diogel
Dyma incwm y gallwch ddibynnu arno am gyfnod penodedig neu am weddill eich bywyd.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth wedi’i warantu am oes.
Efallai y bydd incwm pensiwn yn ddyledus i chi gan gyn gyflogwr os oeddech mewn cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio. Bydd hyn yn rhoi incwm rheolaidd i chi am oes.
Efallai y byddwch wedi cyfrannu at gynllun pensiwn cyflogwr neu breifat gan greu eich cronfa bensiwn eich hun.
Os oes angen i chi ychwanegu at eich incwm gwarantedig, gallech ddefnyddio pob un neu rai o unrhyw botiau pensiwn i brynu blwydd-dal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Blwydd-daliadau wedi’u hesbonio
Gallai incwm o ffynonellau eraill, fel incwm rhent, ddarparu incwm rheolaidd ond efallai na fydd yn gwbl ddiogel. Mae hyn yn golygu y gallai fod gennych adegau pan fydd gennych lai o incwm yn dod i mewn nag sydd ei angen arnoch. Ystyriwch sut y gallai hyn effeithio arnoch.
Incwm hyblyg
A oes gennych ddigon o incwm yn eich ymddeoliad. Yna, gallech ddewis gadael eich cronfa bensiwn wedi ei buddsoddi a chymryd incwm hyblyg neu gyfandaliadau ohoni yn ôl yr angen.
Mae cyfle i’ch cronfa bensiwn dyfu ond mae peryg hefyd y gall eich buddsoddiadau ostwng yn eu gwerth.
Os dibynnwch ar hyn i roi incwm i chi, efallai y bydd angen i chi leihau’r swm a gymerwch os gostyngir gwerth eich cronfa. Fel arall, bydd perygl i’ch arian redeg allan os byddwch yn byw yn hwy nag a gynlluniwyd gennych.
Gallwch hefyd gymryd incwm hyblyg o gynilion neu fuddsoddiadau eraill ond bydd angen i chi fonitro faint a gymerwch er mwyn sicrhau i’r arian bara.