Mae cynllun angladd rhagdaledig yn eich caniatáu i dalu am rai costau angladd megis gwasanaethau trefnydd angladdau i drefnu'r angladd a gofalu am yr ymadawedig. O 29 Gorffennaf 2022, bydd pob cynllun angladd yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Os oes gennych gynllun angladd rhagdaledig, gallwch ddefnyddio'r canllaw hwn i'ch helpu i ddeall eich hawliau a darganfod a yw eich cynllun wedi'i awdurdodi gan yr FCA.
Sut ydw i’n gwybod bod gen i gynllun angladd rhagdaledig?
Mae cynlluniau angladd yn cwmpasu costau penodol trefnu a thalu am gladdedigaeth neu amlosgiad. Efallai eich bod wedi cymryd cynllun allan oherwydd nad ydych am i'ch anwyliaid boeni am reoli a thalu am angladd ar adeg mor anodd.
Byddwch eisoes wedi talu am rywfaint ohono ymlaen llaw, naill ai drwy gyfandaliad neu randaliadau.
Ond ni fydd hyd yn oed y cynlluniau gorau yn talu'r holl gostau ac mae perygl y bydd angen i'ch perthnasau neu'ch ffrindiau ddod o hyd i arian ychwanegol ar ben yr hyn y mae'r cynllun yn ei dalu.
Hyd yma, nid yw'r cynlluniau hyn wedi'u rheoleiddio gan yr FCA, felly efallai nad ydych wedi cael digon o wybodaeth i wneud y penderfyniad gorau ar gyfer eich anghenion pan wnaethoch gymryd eich cynllun allan. Hefyd, pe bai rhywbeth yn mynd o'i le, byddai gwneud cwyn effeithiol wedi bod yn anoddach.
Os ydych chi wedi cymryd cynllun angladd rhagdaledig, cadwch y gwaith papur mewn man diogel a gwnewch yn siŵr bod eich perthynas agosaf yn gwybod amdano. Mae hyn er mwyn iddynt wybod bod y cynllun yn bodoli a pha fath o angladd rydych chi ei eisiau.
Sut mae'r rheolau yn fy niogelu i?
Os oes gennych gynllun angladd rhagdaledig, rhaid i'ch darparwr fod wedi'i gofrestru gyda'r FCA a'i awdurdodi i weinyddu eich cynllun.
Mae'n rhaid i bob darparwr ddilyn rheolau penodol sy'n cynnwys sicrhau bod eich arian yn cael ei ofalu amdano a'i ddefnyddio'n gyfrifol.
Mae gennych hefyd yr hawl i:
- Gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)Yn agor mewn ffenestr newydd os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydych chi wedi cael eich trin. Mae'n wasanaeth rhad ac am ddim ac yn hawdd i'w ddefnyddio sy'n datrys anghydfod yn deg ac yn ddiduedd ac sydd â'r pŵer i gywiro pethau. Os digwyddodd y mater rydych chi eisiau cwyno amdano cyn 29 Gorffennaf 2022, gallwch chi dal gysylltu â'r Ombwdsmon oherwydd efallai y gallant helpu gyda'ch cwyn.
- Mynediad i'r diogelwch ariannol a gynigir gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (yr FSCS)Yn agor mewn ffenestr newydd Mae hyn yn golygu os bydd y darparwr angladdau'n mynd i'r wal, byddwch chi'n gallu hawlio iawndal am eich colled ariannol.
- Cael y gwasanaeth y gwnaethoch chi dalu amdano. Er enghraifft, bydd cynhyrchion cynllun rhandaliad angladdau bob amser yn darparu angladd gan y bydd yr FCA yn gwahardd y rhai nad ydynt yn gwarantu hyn.
Gwiriwch a yw eich cynllun angladd rhagdaledig yn cael ei reoleiddio gan yr FCA
Gallwch wirio a yw'ch darparwr wedi'i awdurdodi ar wefan FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Mae sawl ffordd o gynllunio a thalu am eich angladd, am restr o'ch opsiynau i'ch helpu i benderfynu beth sydd orau i chi darllenwch ein canllaw Yswiriant bywyd dros 50 oed – a yw’n werth chweil?
Beth i’w wneud os bydd eich darparwr cynllun angladd rhagdaledig yn mynd yn fethdalwr
Byddwch yn cael eich trosglwyddo i ddarparwr newydd a allai gynnig cynllun newydd i chi am gost ychwanegol neu gall fod ar delerau ac amodau gwahanol.
Mae gennych yr hawl i wrthod y cynnig newydd a chael rhywfaint o arian yn ôl o'r ansolfedd, ond mae'n debygol o fod yn llai na'r swm gwreiddiol a dalwyd gennych am eich cynllun angladd.