Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Yswiriant bywyd dros 50 oed  - a yw’n werth chweil?

Os ydych yn 50 oed neu’n hŷn ac un meddwl am gynllunio angladd neu roi tawelwch meddwl i chi a’ch teulu, gall yswiriant bywyd dros 50 oed, a elwir hefyd yn yswiriant gydol oes, ymddangos fel ffordd hawdd a rhad i ddarparu yswiriant. Ond efallai nad y cynlluniau hyn sydd orau ar gyfer eich anghenion. Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut maent yn gweithio, a beth i gadw llygaid allan amdano. 

Beth yw yswiriant dros 50 oed?

Math o bolisi am bobl sydd rhwng 50 a 85 oed yw cynllun yswiriant dros 50 oed.

Rydych yn talu premiwm misol sefydlog ac mae’r polisi yn gwarantu i dalu cyfandaliad arian parod – a elwir yn ‘daliad’ neu ‘swm gwarantedig’ – i’ch anwyliaid pan fyddwch farw.

Mae’r arian a adewir i’ch anwyliaid fel arfer yn cael ei defnyddio i gyfrannu tuag at gostau angladd, ond gallent ei wario sut bynnag y dymunent.

Sut mae yswiriant dros 50 oed yn gweithio?

  • Rhaid i chi fod dros 50 oed – cofiwch, po hynaf ydych, po fwyaf bydd eich premiwm misol am yr un daliad.
  • Derbynioldeb gwarantedig – nid oes angen i chi ateb cwestiynau iechyd neu gael prawf meddygol er mwyn cael eich derbyn am yswiriant.
  • Rydych yn talu premiwm misol sefydlog am weddill eich bywyd neu’r oedran sydd wedi’i nodi yng nghytundeb y polisi – mae hwn yn meddwl na all eich cwmni yswiriant codi eich premiwm felly ni fydd y swm rydych yn talu pob mis yn newid.
  • Rydych yn sicr o gael taliad sefydlog pan fyddwch farw – os ydych yn cymryd cynllun, gallwch ddewis pa daliad hoffech, sy’n golygu eich bod yn gwybod yn union faint bydd hwn.

Beth i gadw llygaid allan amdano gydag yswiriant dros 50 oed

Er gall cynllun yswiriant bywyd dros 50 oed ymddangos fel ffordd syml i ddarparu cyfandaliad i’ch anwyliaid, mewn gwirionedd gall fod yn werth gwael am arian ac mae pethau mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt gyn cymryd un allan. Dyma beth i feddwl amdano:

Efallai gewch llai o’r polisi nag rydych wedi talu

Os ydych yn byw i oed cyfartalog o 80 oed neu’n hŷn, byddwch yn y diwedd yn talu llawer mwy i mewn na fyddwch yn derbyn.

Er enghraifft, os ydych yn cymryd cynllun dros 50 sy’n costio £20 y mis pan rydych yn 55 oed, sy’n gwarantu taliad o £5,000 pan fyddwch farw.

Erbyn i chi cyrraedd 76 oed byddwch wedi talu £5,040 i mewn. Am bob blwyddyn ar ôl hynny byddwch yn talu £240 am ddim byd. 

Os ydych yn stopio talu’r premiwm, bydd eich yswiriant yn cael ei ganslo

Os ydych yn byw i oed cyfartalog o 80 oed neu’n hŷn, byddwch yn y diwedd yn talu llawer mwy i mewn na fyddwch yn derbyn.

Er enghraifft, os ydych yn cymryd cynllun dros 50 sy’n costio £20 y mis pan rydych yn 55 oed, sy’n gwarantu taliad o £5,000 pan fyddwch farw.

Erbyn i chi cyrraedd 76 oed byddwch wedi talu £5,040 i mewn. Am bob blwyddyn ar ôl hynny byddwch yn talu £240 am ddim byd.

Efallai na fydd rhai achosion marwolaeth yn cael eu cynnwys

Efallai na fydd rhai polisïau yn cynnwys marwolaeth o ganlyniad i gamdriniaeth cyffuriau ac alcohol, felly mae’n werth gwirio hwn yn gyntaf.

Gall chwyddiant erydu gwerth y daliad

Mae’r swm rydych yn yswirio eich hun amdano yn sefydlog pan rydych yn cymryd y cynllun allan. Dros amser, gall cynnydd yng nghostau byw lleihau gwerth y taliad. Os ydych yn defnyddio’r cynllun am drefnu angladd, efallai na fydd y daliad yn ddigonol am eich costau angladd pan ddaw’r amser.

Mae hwn yn broblem yn enwedig os ydych yn cymryd y polisi allan yn eich 50au ac yn parhau i fyw am 30 mlynedd neu’n fwy.

Ni fydd y rhan fwyaf o bolisïau yn talu allan yn syth

Byddwch yn ymwybodol, gall fod gan y polisïau hyn gyfnod o oedi o un i dair blynedd cyn byddant yn talu allan, oni bai eich bod yn cael damwain.

Bydd y cyfnod o oedi yn y telerau ac amodau felly mae’n bwysig i wirio beth sydd yn hyn cyn i chi ystyried prynu, yn enwedig os oes gennych salwch terfynol.

Pan gall cynllun dros 50 oed fod yn syniad da

Os ydych mewn iechyd gwael ac nad ydych yn disgwyl byw bywyd hir, gall cynllun dros 50 oed fod yn addas i chi gan fel arfer nad oes gwiriad meddygol pan rydych yn cymryd cynllun allan ac rydych yn debygol o dalu llai i mewn na byddwch yn cael allan yn y diwedd.

Ond cyn penderfynu, mae’n syniad da i edrych ar opsiynau eraill am dalu am angladd neu gynllunio i adael cyfandaliad. 

Dewisiadau amgen i yswiriant bywyd dros 50 oed

Gall yswiriant bywyd dros 50 oed ymddangos yn ddeniadol ond gall fod yn ffordd ddrud i gynllunio ar gyfer eich angladd a gadael eich anwyliaid i ddelio â threuliau annisgwyl ar ôl i chi farw. Dyma rhai dewisiadau amgen i feddwl amdanynt gyn i chi benderfynu.

Rhoi arian mewn cyfrif cynilo

Mae rhoi ychydig o arian i ffwrdd pob mis yn un ffordd syml o gynilo ar gyfer angladd.

Ond nid yw hwn yn ddi-risg, gan efallai byddwch farw cyn cronni digon i dalu am angladd. Ac mae nifer o bobl yn poeni nad oes ganddynt y ddisgyblaeth i beidio â chyffwrdd â’u cynilion.

Ond, os ydych yn sicr gallwch beidio â chyffwrdd â’ch arbedion, mae’n ffordd i warantu cyfandaliad a fydd ar gael i roi tuag at gostau angladd.

Darganfyddwch pam ei fod yn syniad da i gynilo’n gyson a pha opsiynau cynilo sydd ar gael i chi yn ein canllaw Sut i ddechrau cynilo.

Defnyddio arian yn eich cyfrif cyfredol

Bydd y rhan fwyaf o fanciau yn rhyddhau cronfeydd am gostau angladd cyn diweddaru profiant a chyn cyfrifo treth etifeddiant. Fel arfer y cyfan sydd angen arnoch yw bil wedi’i eitemeiddio neu dystysgrif farwolaeth. Os oes gennych gyfrif ar y cyd gydag anwylyd, bydd mynediad ganddynt o hyd i’r cyfandaliad llawn.

Defnyddio’r arian rydych yn gadael yn eich ewyllys

Efallai bod gennych asedau a all cael eu gwerthu pan fyddwch farw, fel eich cartref. Gallwch wneud yn glir yn eich ewyllys eich bod yn dymuno i’r rhain gael eu defnyddio i dalu am eich angladd.

Ond gall cymryd amser i werthu eiddo ar ôl i rywun farw. Felly, mae’n werth siarad ag aelod eich teulu rydych am iddynt drefnu’r angladd a gwirio bod ganddynt ddigon i dalu ymlaen llaw.

Gwirio budd-daliadau cyflogaeth marwolaeth mewn gwasanaeth

Os ydych  yn dal i weithio mae rhai cyflogwyr yn darparu taliad os ydych yn marw wrth weithio iddynt. Fel rheol, bydd y cyfandaliad hwn werth tair i bedair gwaith eich cyflog blynyddol yn cael ei dalu i aelod enwebedig o’r teulu.

Os ydych yn aelod o undeb llafur, corff proffesiynol neu gymdeithas arall, efallai byddant yn talu buddion pan fydd farw aelod. Cysylltwch â nhw i ddarganfod mwy.

Gwiriwch a fydd eich anwylyd yn gymwys am Daliad Cymorth Profedigaeth

Os ydych chi a’ch priod neu bartner sifil o dan oedran pensiwn y wladwriaeth (66 ar hyn o bryd) ac mae’ch priod neu bartner sifil yn marw, efallai byddwch yn gymwys am Daliad Cymorth Profedigaeth. Mae’r taliad yn gyfandaliad o £2,500 ac 18 taliad misol o £100.

Os oes gennych blant dibynnol ac rydych yn hawlio Budd-dal Plant ar eu cyfer, gall eich priod neu bartner sifil wneud cais am gyfandaliad o £3,500 ac 18 taliad misol o £350.

Byddwch yn ymwybodol, os ydych yn byw gyda’ch partner ond nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, ni allwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth ar hyn o bryd, felly bydd angen meddwl am ffyrdd eraill i dalu am eich angladd neu ddarparu cyfandaliad i’ch anwylyd. 

Cymharu yswiriant bywyd arferol

Mae’n werth cymharu yswiriant bywyd dros 50 gyda pholisïau yswiriant bywyd arferol gan efallai gallwch gael yswiriant mwy hael. Gwelwch ein tabl am rhai o’r prif nodweddion i’ch helpu i gymharu a ddarganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant bywyd?

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng yswiriant bywyd dros 50 oed acyswiriant bywyd arferol?

Yswiriant bywyd dros 50 oed Yswiriant bywyd arferol

I wneud cais, mae rhaid i chi fod yn 50 oed neu’n hŷn. Gall y terfyn oedran uchaf bod hyd at 85 oed, yn dibynnu ar y polisi. 

Bydd angen i chi fod 18 oed i gymryd polisi yswiriant bywyd. Mae terfynau oedran uchaf a osodir gan ddarparwyr yswiriant bywyd yn amrywio.

Ni fyddwch yn cael eich gwrthod pan rydych yn gwneud cais, waeth beth fo’ch iechyd.

Mae eich cymhwysedd, premiwm a thaliad arian parod yn ddibynnol ar eich amgylchiadau personol, er enghraifft, eich ffordd o fyw, cyflwr meddygol a hanes teuluol.

 

Hyd yn oed os oes gennych gyflwr iechyd gall yswiriant bywyd arferol fod yn rhatach.

Gallwch ond cymryd polisi sengl.

Gallwch ddewis polisi ar y cyd neu bolisi sengl.

Mae llai o sicrwydd gyda chynllun dros 50 oed. Os ydych angen fwy o sicrwydd, efallai byddwch eisiau ystyried cymryd polisi yswiriant bywyd arferol yn lle.

Mae’r swm arian a delir yn ddibynnol ar y lefel o sicrwydd rydych yn prynu.

 

Gallwch hefyd amrywio’r tymor fel nad yw am eich bywyd i gyd ond efallai tan ddaw eich tymor morgais i ben neu mae’ch plant yn cyrraedd diwedd addysg lawn-amser, neu rydych yn ymddeol. 

Mae pryderon nad yw yswiriant bywyd dros 50 yn cael ei ystyried yn werth yr arian oherwydd os ydych yn byw i oedran cyfartalog o 80 oed neu’n hŷn, byddwch yn talu mwy i mewn na fyddwch yn cael allan. 

Mae yswiriant bywyd yn gyffredinol yn cael ei ystyried yn werth yr arian ond mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau.

 

Gall costau polisi sy’n rhoi amddiffyniad ariannol dda i’ch annwylyd ddechrau osawl ceiniog y diwrnod. Ond mae costau’n amrywio, gan ddibynnu ar sawl ffactor.

Os ydych yn cadw i fyny gyda phremiymau misol, mae’n gwarantu talu cyfandaliad pan fyddwch farw.

Mae’r taliad fel arfer yn fwy. Er enghraifft:

  • i’ch helpu talu eich morgais os byddwch farw yn ystod y tymor, a
  • gadael cyfandaliad am eich plant os byddwch farw cyn iddynt gyrraedd annibyniaeth ariannol.

Os ydych yn byw yn hirach na chyfnod y sicrwydd, ni fyddwch yn cael taliad. Mae gan ein canllaw Beth yw yswiriant bywyd? lawer o wybodaeth ar y wahanol fathau o yswiriant bywyd sydd ar gael a sut maent yn gweithio.

Sut wyf yn prynu yswiriant bywyd dros 50 oed?

Rydym yn awgrymu eich bod yn siopa o gwmpas ac yn cymharu gwahanol ffyrdd o arbed cyfandaliad i helpu gyda chynllunio angladd neu ddarparu diogelwch i’ch anwylyd ar ôl i chi farw.

Os ydych yn penderfynu bod cynllun dros 50 oed yn addas i chi dyma beth mae’n rhaid meddwl amdano gyn i chi brynu.

Gall premiymau a’r swm a dalir amrywio, felly mae’n werth siopa o gwmpas a chymharu dyfynbrisiau gwahanol. Gallwch gael dyfynbrisiau o:

Cyn i chi ystyried prynu polisi, mae’n bwysig gwirio a chymharu telerau ac amodau. Er enghraifft, pa mor hir yw’r cyfnod oedi cyn byddant yn talu ac os yw’r polisi yn cynnwys marwolaeth o ganlyniad i gamdriniaeth cyffuriau neu alcohol. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.