Mae llawer o bobl yn poeni, na fyddant yn gadael digon o arian am eu hangladd pan fyddant farw a bydd rhaid i’r sawl sy’n gwneud y trefniadau dalu’r bil. Gyda chynllun angladd, chi sy’n trefnu ac yn talu amdano ymlaen llaw, gan roi tawelwch meddwl i chi bydd y rhan fwyaf o’r costau wedi’i thalu a bydd eich dymuniadau’n cael eu parchu.
Darganfyddwch sut mae cynlluniau angladd yn gweithio, faint maent yn costio a ffyrdd eraill i dalu am eich angladd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cynllunio’ch angladd
- Beth yw cynllun angladd?
- Ydy cynllun angladd yn opsiwn da i fi?
- Beth sy’n cael ei cynnwys mewn cynllun angladd?
- Ydy fy arian yn ddiogel mewn cynllun angladd?
- Cwestiynau i ofyn darparwr y cynllun angladd
- Sut ydw i’n prynu cynllun angladd?
- Ffyrdd eraill i gynllunio am eich angladd yn ariannol
Cynllunio’ch angladd
Gallwch gynllunio’ch angladd trwy nodi beth rydych eisiau a rhoi gwybod i rywun lle rydych wedi’i nodi. Gallwch hefyd rhoi copi iddynt.
Mae gan Quaker Social Action ffurflen ddefnyddiol i nodi eich dymuniadau angladdYn agor mewn ffenestr newydd
I sicrhau gall eich dymuniadau’n cael eu dilyn mae’n rhaid i chi wybod sut bydd costau eich angladd yn cael eu talu.
Mae’r dudalen hwn yn edrych ar gynlluniau angladd fel prif ddull i gynllunio a thalu am eich angladd ymlaen llaw ac yn ei gymharu gyda dulliau eraill gallwch gynilo i gwrdd â’r costau.
Beth yw cynllun angladd?
Dywedwch wrth rywun am eich penderfyniad
Os ydych yn penderfynu cymryd cynllun angladd, sicrhewch eich bod yn cadw’r gwaith papur mewn lle diogel ac yn rhoi copïau i’r person neu ysgutorion sy’n trefnu eich angladd. Bydd hi’n wastraff arian os mai dim ond chi sydd yn gwybod am eich cynllun angladd!
Mae cynllun angladd yn eich galluogi i dalu ymlaen llaw am rywfaint o’ch angladd, gyda phrisiau heddiw. Gallwch brynu cynllun oddi wrth drefnwyr angladdau a darparwyr cynllun angladd.
Gall yr arian yn y cynllun ond cael ei ddefnyddio i dalu am gostau angladd. Ar ôl i chi benderfynu beth rydych am gynnwys yn eich cynllun, rydych yn talu amdano un ai mewn cyfandaliad neu mewn rhandaliadau misol dros gyfnod sydd yn debygol yn para o un i ddeg mlynedd.
Os gallwch, y peth gorau yw talu am eich angladd ymlaen llaw gyda chyfandaliad. Bydd talu mewn rhandaliadau dros sawl blwyddyn yn costio mwy oherwydd ffioedd gweinyddu a llog. Er enghraifft, yn ôl arbenigwyr defnyddwyr Which? Gall talu dros bum mlynedd (60 mis) ychwanegu cymaint â 15% i 26% i gost eich cynllun.
Os ydych yn talu mewn rhandaliadau ac yn farw o fewn 2 blynedd o gymryd eich cynllun angladd, efallai na fydd y swm rydych wedi talu yn ddigonol am gost eich angladd. Yn y sefyllfa hon bydd eich darparwr yn ad-dalu beth rydych wedi talu i’ch ysgutorion. Ond, mae rhai darparwyr yn tanysgrifennu yn eu cynlluniau fel os ydych yn marw o fewn 2 blynedd o gymryd cynllun, gallant dalu cost eich angladd. Cyn i chi ddewis talu am eich angladd mewn rhandaliadau, darganfyddwch beth fydd yn digwydd yn y sefyllfa hon.
Bydd hefyd rhaid sicrhau gallwch gwrdd â chost y taliadau misol tan ddiwedd y cyfnod gwnaethoch gytuno iddo.
Sut mae darparwyr yn gwarantu bydd digon o arian i dalu costau fy angladd?
Mae eich arian un ai yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth neu mewn polisi yswiriant bywyd, ar wahân i’r darparwr cynllun angladd. Mae hwn yn amddiffyn eich arian ac yn sicrhau er eich bod wedi talu am eich angladd mewn prisiau heddiw, bydd digon o arian i dalu’r cynnydd yng nghostau pan ddaw’r amser i dalu am eich angladd.
Mae hwn oherwydd mae’ch arian yn cael ei fuddsoddi ynghyd â deiliaid polisi eraill i ystod o fuddsoddiadau, gwariannau ac arian parod a fydd yn cynyddu dros amser. Mae’ch arian hefyd wedi’i amddiffyn gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol os aiff eich darparwr allan o fusnes.
Ydy cynllun angladd yn opsiwn da i fi?
Cyn penderfynu os ydy cynllun angladd yn gywir i chi, mae’n bwysig ystyried y byddion ac anfanteision o gael un.
Manteision
-
Gallent amddiffyn rhag chwyddiant. Felly hyd yn oed os yw costau angladd yn cynyddu, ni fydd eich cynllun angladd wedi’i effeithio. Mae costau angladd yn hanesyddol wedi cynyddu’n gyflymach nag enillion cyfradd llog mewn cyfrif cynilo.
-
Mae cynlluniau angladd nawr yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae hwn yn golygu dylech gael yr angladd rydych wedi talu amdano, a mae’ch arian wedi’i amddiffyn.
-
Os ydych yn un o’r 5% o ystadau sy’n talu Treth Etifeddiant, mae’n werth gwybod ni fydd cynllun angladd yn cael ei gynnwys fel ased wrth gyfrifo Treth Etifeddiant.
-
Fel arfer ni chaiff yr arian sydd yn y cynllun ei gynnwys yn yr asesiad o gynilon ar gyfer budd-daliadau prawf modd neu gostau gofal. Os nad ydych yn siŵr gwiriwch gyda’ch darparwr budd-dal neu’ch awdurdod lleol.
Anfanteision
-
Dydy’r mwyafrif o gynlluniau sylfaenol ddim yn gallu talu costau angladd, felly os oes unrhyw beth ar ôl i dalu, bydd hwn yn dod allan o’ch ystâd neu bydd rhai i’r person neu ysgutorion sy’n trefnu eich angladd talu’r bil.
-
Mae mynd am gynllun rhatach yn golygu bod llai o reolaeth gennych dros beth fydd eich cynllun yn cynnwys. Er enghraifft, efallai na fydd modd cael y math o angladd rydych eisiau, gall fod dewis cyfyngedig o drefnwyr angladd, a chyfyngiadau ar amser a dyddiad eich angladd.
-
Os ydych yn marw ac mae’r person sy’n trefnu’r angladd am wneud newidiadau i’r trefniadau, bydd rhaid iddynt dalu’r costau.
Beth sy’n cael ei cynnwys mewn cynllun angladd?
Bydd cost cynllun angladd yn wahanol yn dibynnu ar pa fath o angladd rydych eisiau. Mae pob cynllun yn cynnwys gwasanaeth trefnwr angladd sydd yn cymryd gofal o’r ymadawedig, trefnu’r angladd a thrafnidiaeth y corff i’r man gorffwys.
Mae pethau a all effeithio ar y cost yn cynnwys:
- y fath o angladd a seremoni rydych eisiau
- y fath o arch
- pa ddarparwr rydych yn dewis
- ble rydych yn byw yn y DU gan fod costau lleol yn amrywio.
Mae cost cynllun angladd yn amrywio o £2500-£5000 os ydych yn talu ymlaen llaw mewn cyfandaliad. Mae cynlluniau amlosgi fel arfer yn rhatach na chynlluniau claddu, ond gallant fod mor isel â £1500 os ydych yn dewis amlosgiad uniongyrchol heb seremoni.
Mathau o gynlluniau angladd
Mae darparwyr fel arfer yn cynnig tri math gwahanol o gynlluniau angladd:
- Syml: gallai dalu am gost eich claddu neu amlosgiad, cyfyngiadau ar ddyddiad ac amser eich angladd a phryd gall eich anwyliaid gweld y corff.
- Safonol: gallai ddarparu limwsîn ar gyfer yr orymdaith angladdol, arch sylfaenol, ynghyd â’r cynnwys a ddarperir gan gynllun sylfaenol.
- Cynhwysfawr: gallai ddarparu eirch drud, limwsinau ar gyfer yr orymdaith angladdol ac i gludo gwesteion i’r angladd, mwy o hyblygrwydd mewn mynediad i weld y corff mewn capel gorffwys, a phethau ychwanegol.
Mae’r tabl yn dangos beth sy’n cael ei gynnig yn debygol mewn cynllun angladd safonol ar gyfer claddu neu amlosgiad. Byddwch yn ymwybodol, bydd beth sy’n cael ei gynnwys yn amrywio o ddarparwr i ddarparwr.
Beth sy’n cael ei gynnwys? | Pa gostau sydd heb ei gynnwys? |
---|---|
Trefnwr angladd a threfniadau am angladd |
Plot claddu |
Cyngor ar ardystiad a chofrestru’r farwolaeth a dogfennaeth gysylltiedig |
Carreg fedd neu gofeb |
Arch syml er enghraifft, effaith pren, cardfwrdd neu wiail |
Eirch drud, er enghraifft bren solid, metal |
Casglu a chludo’r corff i safle’r trefnwr angladd o fewn cyfyngiad milltiroedd |
Blodau |
Gofal y corff cyn amlosgi |
Gwylnos/arlwyo |
Mynediad i weld y corff yng nghapel gorffwys neu ystafell gwasanaeth |
Limwsinau i gludo gwesteion i’r angladd |
Gwasanaeth angladd ym mynwent leol neu amlosgfa |
Pêr-eneiniad |
Gorymdaith angladd i leoliad yr angladd |
Trefn gwasanaeth |
Hers i fynwent leol neu amlosgfa |
Ffioedd gweinidog neu swyddog |
Cludwyr |
Ffioedd claddu neu amlosgi |
Trafnidiaeth i safle’r trefnwr angladd os yw’r farwolaeth yn digwydd tra ar wyliau yn y DU |
Tystysgrifau meddygol (am amlosgi’n unig) |
Lwfans am gostau trydydd parti |
Hysbysiadau papur newydd/ar-lein Tystysgrifau meddygol (am gladdu’n unig) |
Gallwch ddarganfod mwy am sut i gadw’r gost hwn i lawr yn ein canllaw Faint mae angladd yn ei gostio?
Mae ein canllaw Help i dalu am angladd yn amlinellu sut gall eich anwyliaid talu am eich angladd mewn ffyrdd eraill
Beth sy’n digwydd os ydw i’n methu taliad?
Os ydych yn talu mewn rhandaliadau ac yn cael trafferth talu, cysylltwch â’ch darparwr cynllun mor fuan â phosibl. Dylent allu ddod o hyd i ddatrysiad sy’n addas ar gyfer eich anghenion.
Os ydych yn methu taliad, gall eich cynllun llithro. Gall hwn arwain at ganslo’ch cynllun.
Os yw’ch cynllun yn cael ei ganslo, ni fyddwch yn colli’r arian sydd ynddo, fel y byddech gyda’r rhan fwyaf o gynlluniau yswiriant dros 50. Mae’r rhain yn gynlluniau yswiriant cyffredinol sydd yn aml yn cael ei hysbysebu fel ffordd i dalu am eich costau angladd, ond gall yr arian ynddynt gael ei ddefnyddio am unrhyw beth.
Fodd bynnag, ni fydd unrhyw arian sydd ar ôl yn y cynllun yn parhau i gynyddu ac mae’n debygol ni fydd digon i dalu am gostau eich angladd.
Beth sy’n digwydd os ydw i am ganslo fy nghynllun?
Ni fyddwch yn colli’r arian rydych wedi talu i mewn i gyd. Bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr angladd yn codi tâl canslo o sawl can punt. Ar ôl i hwn cael ei gymryd i ffwrdd, fel arfer caiff y swm sydd ar ôl yn y cynllun ei ad-dalu.
Gallwch ofyn i adael beth rydych wedi talu i’r cynllun cael ei ddefnyddio fel cyfraniad i’ch angladd pan ddaw’r amser.
Ond, os ydych yn gwneud hwn, mae’n debygol caiff y swm ei erydu gan chwyddiant gan na fydd yn cynyddu yn y ffordd y dylai os oeddech wedi cadw ymlaen gyda’r taliadau.
Ydy fy arian yn ddiogel mewn cynllun angladd?
Ers 29 Gorffennaf 2022, mae pob cwmni sy’n gwerthu darparwyr angladd rhagdaledig yn cael ei rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Mae hwn yn golygu mae’n rhaid i ddarparwyr sicrhau:
- bod eich arian yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth neu fel polisi bywyd cyfan, felly mae’n ddiogel ac yn eich amddiffyn rhag chwyddiant fel ni fyddwch yn cael llai yn ôl nag ydych wedi talu i mewn, a dylai’r swm cynyddu i dalu costau angladd yn y dyfodol.
- rydych yn cael y cynllun rydych wedi talu am bris teg, a sicrhau ei fod yn cwrdd â’ch anghenion
- rydych yn cael y wybodaeth sydd angen arnoch i wneud penderfyniad gwybodus cyn prynu cynllun angladd.
Bydd hefyd gennych yr hawl i:
- Cwyno i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS), os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd rydych wedi cael eich trin. Mae’n wasanaeth am ddim a hawdd i’w ddefnyddio sy’n datrys dadlau yn deg a’n ddiduedd sydd gyda’r pwer i gywiro pethau.
- Gael mynediad i’r amddiffyniad ariannol y cynigir gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Mae hwn yn golygu os ydy’ch darparwr angladd yn mynd i’r wal, efallai gallwch hawlio iawndal neu dderbyn cynllun angladd amnewidiol.
- Gael y gwasanaeth rydych wedi talu amdano. Er enghraifft, bydd cynnyrch cynllun rhandaliad angladd wastad yn darparu angladd gan fod yr FCA wedi gwahardd y rhain sydd ddim yn gwarantu hwn.
Gallwch ddod o hyd i restr o ddarparwyr cynllun angladdYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan yr FCA.
Cwestiynau i ofyn darparwr y cynllun angladd
Os ydych yn ystyried prynu cynllun angladd, efallai byddwch am ofyn y cwestiynau canlynol i’r darparwr:
- Oes ffioedd canslo?
- Beth yn union sydd wedi’i chynnwys yn y cynllun a pha gostau potensial sydd heb eu cynnwys?
- A yw’n bosibl canslo’r cynllun os yw amgylchiadau’n newid - er enghraifft rydych wedi cynllunio ar gyfer angladd eich priod ond wedyn yn gwahanu.
- Ydy’r cynllun yn eich galluogi i ddewis trefnwr angladd?
- Beth os ydy’ch trefnwr angladd dewisol yn mynd i’r wal?
- Beth sy’n digwydd os ydy’r person mae’r angladd ar gyfer yn farw tramor neu i ffwrdd o’r cartref?
- Gall y trefnwr angladd trefnu angladd o safon wahanol i’r un rydych wedi dewis?
- Os ydych yn talu mewn rhandaliadau, am faint ydych yn gwneud hwn ac oes rhaid talu llog?
- Beth sy’n digwydd os oes rhandaliadau heb eu casglu pan fyddwch farw?
- A oes gennych ryddid i newid manylion eich cynllun angladd?
Sut ydw i’n prynu cynllun angladd?
Gwiriwch wefan yr FCA – sicrhewch eich bod yn dewis cynllun o restr o ddarparwyr cynllun angladd awdurdodedig. Mae hefyd ganddynt restr o ddarparwyr sydd heb eu hawdurdodi i werthu cynlluniau angladd.
Siopwch o gwmpas gan gymharu darparwyr a chynlluniau – efallai gwnewch arbedion mawr. Cymharwch gynlluniau angladd a darparwyrYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Which. I weld sgoriau cynlluniau angladd ac amlosgiadauYn agor mewn ffenestr newydd, gwelwch wefan Fairer Finance.
Gwiriwch rag ffioedd ychwanegol – efallai bydd rhai darparwyr yn cynnwys ffioedd comisiwn a gweunyddu yn y cost terfynol.
Darllenwch y telerau’n ofalus – mae rhaid i chi sicrhau bod y manylion yn gywir neu efallai na fyddwch wedi’ch diogelu.
Ffyrdd eraill i gynllunio am eich angladd yn ariannol
Nid cynllun rhagdaledig yw’r unig ffordd o sicrhau nad oes angen i’ch anwyliaid talu am eich costau angladd a ni fyddent o reidrwydd yn cynnwys popeth sydd angen arnoch. Dyma rai ffyrdd amgen i chi feddwl amdanynt cyn penderfynu.
Cymharu yswiriant bywyd arferol
Mae rhai polisïau yswiriant bywyd yn cynnig cynnwys mwy hael. Gwelwch ein tabl am rhai o’r prif nodweddion i’ch helpu cymharu yn ein canllaw Beth yw yswiriant bywyd?
Rhoi arian mewn cyfrif cynilo
Mae rhoi ychydig o arian i ffwrdd pob mis yn un ffordd syml i gynilo am angladd.
Ond nid yw hwn heb risg, gan allwch farw cyn cronni digon i dalu am angladd. Ac mae’n debygol bydd costau angladd yn cynyddu’n gyflymach na’r llog ar eich cynilion. Tra os eich bod yn prynu cynllun angladd mae’n warantedig, ac rydych yn talu amdano gyda phrisiau heddiw hyd yn oed os ydych yn marw ymhen 20 mlynedd.
Os oes gennych gynilion arian parod mynediad rhwydd, bydd y rhan fwyaf o fanciau neu gymdeithasau adeiladu yn rhyddhau’r cronfeydd am gostau angladd cyn terfynu profiant a chyn cyfrifo Treth Etifeddiant. Fel arfer y cyfan sydd angen arnoch yw bil eitemedig a chopi’r dystysgrif marwolaeth.
Os oes gennych gyfrif ar y cyd, bydd gyda nhw mynediad i’r swm llawn o hyd.
Darganfyddwch pam mae’n syniad da i gynilo’n aml a’r opsiynau cynilo sydd ar gael i chi yn ein canllaw Sut i ddechrau cynilo
Gall trefnu’ch cyllid hefyd eich helpu i sicrhau eich bod chi neu’ch teulu yn barod i gwrdd ag unrhyw gostau sydd yn codi yn y dyfodol a chymryd y pwysau i ffwrdd. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhoi trefn ar eich materion ariannol
Gwiriwch fuddion marw yn y swydd
Os ydych dal yn gweithio, bydd rhai cyflogwyr yn talu swm sefydlog os ydych yn marw.
Yn debygol, cyfandaliad yw hwn gwerth tair i bedair gwaith eich cyflog blynyddol a delir i aelod o’ch teulu enwebedig. Felly efallai byddwch eisiau oedi gosod cynllun angladd nes eich bod yn ymddeol neu’n newid i swydd gyda buddion llai hael.
Os ydych yn aelod o undeb llafur, corff proffesiynol neu asiantaeth arall, wnânt dalu budd-dal pan fydd farw aelod. Cysylltwch â nhw i ddarganfod mwy.
Cymharu cynlluniau yswiriant dros 50 oed
Os ydych 50 oed neu’n hŷn, mae cynllun yswiriant dros 50 oed yn gwarantu cyfandaliad – a elwir yn ‘talu allan’ neu ‘swm sicr’ – i’ch buddiolwyr pan fyddwch farw.
Os ydych yn ystyried cynllun angladd, gwiriwch nad ydyw’n cynllun dros 50 oed hyd yn oed os ydyw wedi’i hysbysebu fel ffordd i dalu am eich angladd ymlaen llaw. Mae gwahaniaethau pwysig rhwng cynlluniau dros 50 oed a chynlluniau angladd mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Yn enwedig, mae cynlluniau dros 50 oed fel arfer yn talu cyfandaliad sydd ddim yn cynyddu gyda chwyddiant ac felly efallai na fydd yn ddigonol i dalu costau llawn angladd.
Anfantais posibl arall yw gallwch dalu mwy i gynllun dros 50 oed nag y cewch ar y diwedd ac os ydych yn canslo’r cynllun cyn diwedd y cyfnod, byddwch yn colli’r arian wnaethoch roi i mewn i gyd.
Darganfyddwch sut maent yn gweithio a beth i gadw llygaid allan amdano yn ein canllaw Yswiriant bywyd dros 50 oed - a yw’n werth chweil?
Defnyddio’r arian rydych yn gadael yn eich ystad
Efallai bod gennych asedau gall cael eu gwerthu pan fyddwchuoch farw, fel eich tŷ, buddsoddiadau neu bethau gwerthfawr. Gallwch wneud yn glir yn eich ewyllys rydych am i’r rhain cael eu defnyddio i dalu am eich angladd.
Cofiwch gall cymryd amser i rai eiddo neu asedau eraill cael eu gwerthu ac i’r ystad cael ei sefydlogi ar ôl marwolaeth. Felly, mae’n werth siarad â phwy bynnag rydych am drefnu’ch angladd a gwirio bod digon o arian ganddynt i dalu ymlaen llaw.
Darganfyddwch fwy am ysgrifennu ewyllys yn ein canllaw Gwneud ewyllys a chynllunio beth i'w adael
Os na allwch fforddio cynllun
Os ydych yn poeni na allwch fforddio cymryd cynllun allan am eich angladd neu gynilo mewn ffyrdd eraill i gwrdd â’r costau, gallwch ddarganfod mwy am y cymorth gall fod ar gael i’r sawl sy’n cynllunio’ch angladd yn ein canllaw Help i dalu am angladd.