Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Siopa a thalu’n ddiogel ar-lein

Bydd yr awgrymiadau syml hyn yn helpu i’ch diogelu yn erbyn sgamiau a thwyll, hefyd beth i’w wneud os nad ydych yn cael yr eitem rydych yn archebu.

Defnyddio cysylltiad diogel

Defnyddiwch gysylltiad wi-fi sâff a diogel neu ddata ffôn symudol wrth siopa ar-lein – gall twyllwyr ddefnyddio wi-fi cyhoeddus i ddwyn gwybodaeth.

Mae hefyd yn werth sicrhau bod eich meddalwedd ac diogelwch gwrthfeirysau wedi’u diweddaru.

Gwiriwch a yw’r gwefan yn ddilys

Os nad ydych yn adnabod manwerthwr, byddwch yn ofalus bob tro cyn prynu. Yn enwedig os ydych wedi dod o hyd i fargen sy’n rhy dda i fod yn wir.

Mae’n werth gwirio:

Gall sgamwyr greu gwefannau ffug i’ch twyllo i feddwl ei fod yn fargen go iawn. Felly, hyd yn oed os yw’n brand rydych yn ei ymddiried, gwiriwch fod bar cyfeiriad y gwefan:

  • gyda symbol clo clap wedi’i gloi
  • yn dechrau gyda https://
  • heb wallau sillafu neu gymeriadau rhyfedd.

Gweler Ydw i’n cael fy sgamio? am help i adnabod sgamiau.

Gwiriwch y polisi danfon a dychwelyd

Bydd gwerthwyr dilys yn nodi gwybodaeth dychwelyd a dosbarthu ar eu gwefan. Mae hefyd yn ddefnyddiol i wybod rhag ofn y bydd rhywbeth yn mynd o’i le.

Mae pethau i’w gwirio’n cynnwys:

  • pa mor hir y dylai gymryd i ddanfon rhywbeth
  • a fyddant yn rhoi rhif tracio i chi
  • beth fydd yn digwydd os yw’r eitem ar goll neu’n cyrraedd yn ddiffygiol
  • sut i ddychwelyd eitem os ydych yn newid eich meddwl.

Defnyddiwch gyfrinair cadarn os ydych yn creu cyfrif

Dewiswch gyfrinair cadarn bob tro ar gyfer eich cyfrifon ar-lein, gan ddefnyddio cyfuniad o lythrennau mawr a bach, rhifau a nodau arbennig. Mae defnyddio dywediad neu frawddeg yn arfer da.

Darganfyddwch fwy, gan gynnwys sut mae rheolwyr cyfrineiriau’n gweithio, ar Get Safe OnlineYn agor mewn ffenestr newydd

Defnyddio cerdyn credyd i dalu

Mae cerdyn credyd yn rhoi diogelwch gwario am ddim i chi ar bopeth rydych yn ei brynu. Os aiff rhywbeth o’i le ac os na fydd y manwerthwr yn rhoi ad-daliad i chi, gofynnwch eich banc i roi’r arian yn ôl i chi.

Mae yna ddau lefel:

  • Adran 75 os yw’r eitem yn costio rhwng £100 a £30,000 – mae gan y darparwr cardiau credyd gyfrifoldeb cyfartal â'r gwerthwr am eitemau diffygiol, anfoddhaol neu sydd heb eu cyrraedd
  • Chargeback ar bob pryniant – mae gennych 120 diwrnod i hawlio os nad yw’r eitem yn cyrraedd neu’n ddiffygiol.

Ar yr amod eich bod yn talu'r bil yn llawn ac ar amser bob mis, ni chodir llog arnoch. Gweler ein canllaw syml i gardiau credyd i gael mwy o wybodaeth.

Mae cardiau debyd a Paypal hefyd yn cynnig diogelwch

Os nad ydych eisiau defnyddio cerdyn credyd:

  • Mae cardiau debyd hefyd yn cynnig diogelwch chargeback ar bob pryniant (ond nid Adran 75)
  • Mae gan Paypal gynllun diogelwch os nad yw eitem yn cyrraedd neu nad yw’n cydfynd â’r disgrifiad

Beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le

Mae’r broses i’w dilyn yn dibynnu ar beth sydd wedi digwydd.

Problem gyda phryniant

Os ydych yn cael trafferth gyda phryniant, fel derbyn eitem ddiffygiol neu nad ydych yn derbyn beth rydych wedi talu amdano, gofynnwch y cwmni i’w ddatrys yn gyntaf.

Os nad ydynt yn rhoi ad-daliad i chi, gallwch ofyn eich banc neu ddarparwr cerdyn credyd i roi’r arian yn ôl i chi. Byddant yn ymchwilio a’n rhoi’r canlyniad i chi o fewn wyth wythnos.

Os nad ydych yn cytuno, neu mae’r amser wedi mynd heibio, gallwch fynd â’ch cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol am ddim. Byddant yn darparu penderfyniad annibynnol ynghylch a oedd ymateb eich banc yn deg neu a oes angen mwy o wybodaeth arnynt. Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw sut i gwyno.

Siopa a thalu’n ddiogel ar-lein

Os ydych yn meddwl eich bod wedi defnyddio gwefan dwyllodrus neu mae gan sgamwyr eich manylion, gofynnwch i’ch banc canslo eich cerdyn yn gyflym. Efallai gallant hefyd ad-dalu’r trafodion.

I siarad â rhywun, ffoniwch ein huned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402.

Mae hefyd yn werth rhoi gwybod i:

 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.