Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sut mae PayPal a waledi symudol yn gweithio

Os ydych yn cysylltu'ch cerdyn credyd neu ddebyd â waled electronig – fel PayPal, Apple Pay, Google Pay neu Samsung Pay – gallwch wario ar-lein neu yn y siop heb fod angen y cerdyn. Dyma sut maent yn gweithio a beth i wylio allan amdano.

Beth yw waled digidol?

Mae waled ddigidol neu gyfrif e-arian yn gadael i chi dalu am bethau heb fod angen defnyddio'ch cerdyn. Efallai y bydd rhai hefyd yn gadael i chi anfon, derbyn a dal arian.

Fel arfer rydych yn:

Sefydlu diogelwch, fel:

enw defnyddiwr a chyfrinair 

adnabod olion bysedd neu wyneb

anfon cod i'ch e-bost neu ffôn symudol.

Ychwanegu o leiaf un cerdyn talu, fel cerdyn debyd neu gredyd. Mae hyn fel arfer yn golygu pasio gwiriad diogelwch gyda'ch banc.

Dewis y dull talu a ffefrir. Yn nodweddiadol hefyd: 

defnyddio’r cerdyn talu cysylltiedig – gallwch osod cerdyn diofyn os oes gennych fwy nag un

defnyddio arian a ddelir yn y cyfrif e-arian.

Defnyddio’r waled i dalu:

manwerthwyr ar-lein – byddwch fel arfer yn gweld yr opsiwn hwn wrth dalu 

mewn siop – defnyddio ffôn clyfar neu oriawr clyfar i dalu'n ddigyffwrdd, neu ddefnyddio cod QR i gysylltu eich cyfrif waled ar-lein

pobl eraill – o'ch cyfrif waled ar-lein, yn aml yn defnyddio eu cyfeiriad e-bost.

Bydd y nodweddion sydd ar gael yn dibynnu ar y cwmni e-daliad rydych yn ei ddefnyddio. Dyma sut mae'r rhai mwyaf yn gweithio.

PayPal

Mae cyfrif PayPal yn rhad ac am ddim ac yn caniatáu i chi:

  • gysylltu cerdyn debyd neu gredyd

  • ychwanegu arian i'ch cyfrif

  • talu manwerthwyr ar-lein 

  • talu mewn siop trwy sganio cod QR

  • anfon a derbyn arian ledled y byd.

Mae PayPal hefyd yn cynnig eu cynllun Prynu Nawr Talu Wedyn eu hunain o'r enw Paypal Credit. Mae hon yn fath o ddyled felly gwnewch yn siwr bob amser y gallwch fforddio ad-dalu cyn gwneud cais.

Darganfyddwch fwy am sut i ddefnyddio Prynu Nawr Talu Wedyn.   

Beth i'w wylio allan amdano

Dyma'r prif rwystrau:

  • ni fyddwch yn cael amddiffyniad Adran 75 os ydych yn talu gyda cherdyn credyd drwy PayPal
  • nid yw arian a ddelir yn cael ei ddiogelu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS), felly ni fyddech yn cael iawndal os byddai PayPal yn mynd allan o fusnes 
  • byddwch fel arfer yn talu i anfon arian dramor, felly gwiriwch bob amser a oes opsiynau rhatach
  • os oes gennych arian yn eich cyfrif ond nad ydych yn mewngofnodi am flwyddyn, codir ffi anweithgarwch o hyd at £9 arnoch.

Os ydych yn cael problem gyda phryniant

Os na ddanfonir eitem neu nid yw fel y disgrifiwyd, ceisiwch ddatrys y broblem gyda'r cwmni yn gyntaf bob amser. Os nad yw hyn yn gweithio, gallwch geisio:

Gall ein canllaw datrys problem neu wneud cwyn helpu os oes gennych broblem gyda phryniant.

Apple, Google a Samsung Pay

Mae'r cyfrifon rhad ac am ddim hyn yn creu fersiynau rhithwir o'ch cardiau credyd a debyd i'w defnyddio ar-lein, mewn siop neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ni allwch anfon na derbyn taliadau electronig na chadw arian mewn cyfrif ar wahân.

Fel arfer, byddwch angen ffôn clyfar diweddar neu ddyfais ddigyswllt arall (fel oriawr clyfar) i gofrestru:

  • Mae Apple Pay ond yn gweithio ar iPhone, iPad, Apple Watch neu Mac
  • Mae Samsung Pay ond yn gweithio ar ddyfeisiau Galaxy
  • Mae Google Pay yn gweithio ar ddyfeisiau Android.

Yna gallwch ddefnyddio'ch dyfais i dalu unrhyw le sy'n derbyn taliad digyffwrdd. Gan y bydd angen i chi roi cod mynediad neu ddefnyddio adnabyddiaeth olion bysedd neu wyneb, nid oes cyfyngiad ar y swm y gallwch ei dalu (mae cyfyngiad arferol o £100 ar daliadau cerdyn debyd digyswllt).

 

Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le

Dylech bob amser siarad â'r cwmni rydych yn ei dalu i geisio datrys unrhyw broblemau yn gyntaf. Os nad yw hynny'n gweithio, gallwch ofyn i'ch banc ymchwilio.

Mae ein canllaw ar ddiogelu cardiau debyd a chredyd yn  llawn help ar y ffordd y gallwch ei gymryd, yn dibynnu ar y math o gerdyn a ddefnyddiwyd gennych.

Shape Eicon saeth

Awgrymiadau i gadw'ch manylion yn ddiogel

Dyma rai rheolau cyffredinol i’w dilyn:

  • peidiwch byth â rhannu eich manylion mewngofnodi talu gydag unrhyw un
  • sefydlwch glo diogelwch ar gyfer eich dyfais clyfar, fel cod pas neu adnabyddiaeth wyneb
  • gwiriwch eich cyfrifon yn rheolaidd – gwiriwch a yw'ch banc yn cynnig hysbysiadau gwario ar unwaith
  • os nad ydych yn adnabod trafodiad, rhowch wybod i'ch banc ar unwaith
  • os yw'ch dyfais yn cael ei golli neu wedi'i dwyn, gofynnwch i'ch banc ganslo eich cardiau talu.

Cyn rhoi eich manylion talu ar-lein, gwnewch yn siwr eich bod yn hyderus bod y cwmni'n ddilys. Er enghraifft, gwiriwch bod gan y bar cyfeiriad:

  • symbol clo clap
  • yn dechrau gyda https://

Gweler mwy o wybodaeth am sut i siopa'n ddiogel ar-lein

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.