Cyhoeddwyd ar: 28 Mehefin 2021
28 Mehefin 2021
Os ydych yn un o’r cartrefi niferus sy’n pendroni sut y byddwch yn ymdopi â chost gynyddol nwy a thrydan, nid ydych ar eich pen eich hun. Er y bydd biliau unigol yn dibynnu ar eich defnydd eich hun, mae’n ddefnyddiol cael syniad o’r costau tebygol cyfartalog fel y gallwch eu cynnwys yn eich cyllideb ac edrych ar ba gymorth a allai fod ar gael os byddwch ei angen.
Ers 1 Hydref 2021, mae cwsmeriaid rhagdalu sy’n talu’r cap ar brisiau wedi gweld cynnydd blynyddol o tua £153 o £1156 i £1309.
O 1 Ebrill, disgwylir i'r cap ar brisiau ynni gynyddu 54%.
Ar gyfer y cartref cyffredin, mae hyn yn golygu os ydych ar dariff diofyn yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol y byddwch yn gweld cynnydd o £693, o £1,277 i £1,971 y flwyddyn. Os ydych yn gwsmer rhagdalu fe welwch gynnydd o £708, o £1,309 i £2,017.
Y bil nwy blynyddol ar gyfartaledd ar gyfer 2021 oedd £575, neu £47.92 bob mis. Cynyddodd costau 3.2% y llynedd o gymharu â phrisiau 2020.
Y bil trydan blynyddol ar gyfartaledd ar gyfer 2021 oedd £764. Mae hynny’n £64 y mis, cynnydd o 7.5% ar 2020. Mae hyn yn debygol o fod yn llai na’r hyn rydych yn ei dalu ar hyn o bryd gan fod prisiau’n codi mor gyflym.
Ar hyn o bryd, nid oes tariffau ynni sefydlog rhatach na’r gyfradd newidiol safonol, sy’n cael ei chyfyngu gan gap pris Ofgem. Mae hynny’n golygu, yn anarferol, na fyddwch yn arbed unrhyw arian drwy newid cyflenwr. Fodd bynnag, mae’n werth gwirio’n rheolaidd i weld a yw hynny’n newid, yn enwedig unwaith y bydd y cap pris yn cynyddu eto ym mis Ebrill 2022.
Bydd cost eich bil eich hun yn dibynnu ar y math o eiddo rydych yn byw ynddo, ble rydych yn byw, y system wresogi sydd gennych chi, effeithlonrwydd ynni'r eiddo, nifer y bobl sy'n byw yno, a'ch defnydd personol.
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu os mai dim ond dau ohonoch sydd mewn fflat un neu ddau ystafell wely, yna mae'n debygol y bydd eich biliau'n is.
Y rheswm y mae aelwydydd yn wynebu cynnydd serth yn eu prisiau ynni yw oherwydd bod prisiau cyfanwerthol nwy (swm y mae cwmnïau ynni yn ei dalu) wedi cynyddu’n sylweddol ers i Ofgem ddiweddaru’r cap ar brisiau ddiwethaf. Mae prisiau nwy wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed wrth i'r byd ddod allan o'r pandemig ar yr un pryd ag y mae ffactorau economaidd eraill yn cael effaith.
Mae hyn wedi cynyddu'r swm y mae darparwyr yn ei dalu am nwy a thrydan - ac mae'r gost honno bellach yn cael ei throsglwyddo i'r defnyddiwr.
Dim ond os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban y mae'r cap ar bris ynni yn effeithio arnoch chi.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae prisiau ynni yn cael eu llywodraethu gan y Rheoleiddiwr Cyfleustodau. Gallwch ddarganfod mwy am yr help sydd ar gael i dalu eich bil ynni ar wefan y Cyngor Defnyddwyr (Agor mewn ffenestr newydd)
I’ch helpu i ddelio â’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni, dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i arbed ar eich biliau nwy a thrydan.
Un o'r ffyrdd gorau y gallwch arbed arian yw gwneud yn siŵr bod eich rheolyddion gwresogi wedi'u gosod yn effeithiol. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni(Agor mewn ffenestr newydd) ddigon o awgrymiadau ar sut i wneud hyn. Yn dibynnu ar ba system sydd gennych, gall eich rheolyddion gwresogi gynnwys eich thermostatau, amseryddion, gwresogyddion, mesuryddion, falfiau rheiddiaduron a rheolyddion rhaglenadwy eraill. Bydd gosod y rhain yn gywir yn arbed arian i chi.
Ar gyfer twymwr tanddwr dim ond ychydig oriau'r dydd sydd angen i chi ei redeg i gael digon o ddŵr am y diwrnod cyfan. Os ydych yn talu llai o arian am drydan gyda'r nos, gosodwch yr amserydd ar eich twymwr tanddwr fel ei fod ond yn cynnau ac yn cynhesu dŵr gyda'r nos.
Gwiriwch fod gennych inswleiddiad cywir ar gyfer y twymwr tanddwr ac ar gyfer unrhyw bibellau dŵr poeth.
Yn ôl y Ganolfan Ynni Cynaliadwy (Agor mewn ffenestr newydd) mae siacedi silindr insiwleiddio fel arfer yn costio tua £15 ond gallant arbed tua £49 y flwyddyn i chi.
Gall insiwleiddio pibellau dŵr poeth ag ewyn insiwleiddio neu 'lagio' gostio tua £10 ond dylai arbed £15 y flwyddyn i chi a helpu i gadw'ch dŵr poeth yn gynnes yn hirach.
Mae ffyrdd eraill y gallwch arbed arian ar eich bil gwresogi yn cynnwys:
Gall methu â thalu eich biliau nwy a thrydan fod yn straen mawr. Os ydych yn cael trafferth i dalu eich biliau ynni, mae camau y gallwch eu cymryd i gael cymorth a chefnogaeth. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein canllaw Help os ydych yn cael traferth i dalu eich bil nwy neu drydan.
Er bod hyn yn amrywio yn ôl rhanbarth a chwmni dŵr, yn ôl gwybodaeth a rennir gan Water UKYn agor mewn ffenestr newydd bil dŵr a charthffosiaeth cyfun y cartref ar gyfartaledd yw £408 y flwyddyn. Mae hynny'n £34 y mis neu £1.12 y dydd. Ar ôl chwyddiant, mae biliau ar gyfartaledd tua'r un lefel ag yr oeddent ddegawd yn ôl.
Yn ôl Darganfod Dŵr, er mwyn gwneud yn siŵr bod biliau’n deg ac yn rhoi gwerth am arian, mae’n rhaid i gwmnïau dŵr ddilyn rheolau llym y rheolydd, Ofwat. Mae hyn yn golygu na all y cwmnïau dŵr osod pa bynnag filiau y maent eisiau eu gosod. Os na fydd y cwmnïau’n cyflawni eu haddewidion, gall Ofwat gamu i mewn a gweithredu.
Mae'r costau dŵr a charthffosiaeth yn cael eu gosod mewn cyfnodau o bum mlynedd. Mae'n ofynnol i gwmnïau gynyddu neu leihau eu taliadau yn dibynnu ar argymhellion Ofwat ar faint o arian sydd ei angen arnynt i ddarparu eu gwasanaethau.
Mae bod yn ofalus gyda'ch defnydd o ddŵr yn bwysig iawn a gall gael effaith sylweddol ar eich biliau. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi wneud hyn:
Yn ôl Ofwat y rheolydd dŵr, gall gadael tap yn rhedeg wrth i chi frwsio eich dannedd neu olchi eich wyneb wastraffuYn agor mewn ffenestr newydd mwy na naw litr o ddŵr y funud.
Trwy newid pen cawod aneffeithlon am un sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon, gallech arbed arian ar filiau nwy a dŵr. Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn amcangyfrif y gallai teulu o bedwar arbed hyd at £80 y flwyddyn, gyda £35 oddi ar eu biliau nwy a thua £45 oddi ar eu biliau dŵr.
Gall tap sy'n diferu wastraffu mwy na 5,500 litr o ddŵr y flwyddyn. Gwnewch yn siŵr bod eich tapiau wedi'u diffodd yn iawn a newidiwch wasieri'n brydlon pan fydd tapiau'n dechrau diferu.
Mae peiriant golchi llawn neu gylchred peiriant golchi llestri yn defnyddio llai o ddŵr ac ynni na dau hanner llwyth. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r gosodiadau mwyaf ynni-effeithlon neu eco hefyd.
Os yn bosibl, dewiswch gawod gyflym am bum munud. Byddwch yn defnyddio hanner y dŵr y byddech yn ei wneud ar gyfer bath safonol.
Yn gyffredinol, os oes llai o bobl yn byw yn eich cartref nag ystafelloedd gwely a'ch bod ar filiau ardrethol, yna dylai mesurydd dŵr arbed arian i chi. Yn hytrach na bod ar dariff sefydlog, dim ond am y dŵr rydych yn ei ddefnyddio bob mis y byddwch yn talu.
Ers 1996, mae Ofwat yn datgan bod gan gwmnïau dŵr ddyletswyddYn agor mewn ffenestr newydd i hybu defnydd effeithlon o ddŵr gan eu holl gwsmeriaid.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cyflenwr dŵr i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch arbed dŵr.
Mae cwmnïau dŵr yn gwybod bod rhai cwsmeriaid yn cael trafferth i dalu eu biliau dŵr. Mae Water UKwedi dweud, erbyn y flwyddyn 2025Yn agor mewn ffenestr newydd, bod cwmnïau dŵr yn bwriadu bron i ddyblu nifer y bobl sy’n cael cymorth gyda’u biliau bob blwyddyn, cynnydd o 760,000 o gwsmeriaid i o leiaf 1.4 miliwn.
Os byddwch yn gweld bod angen cymorth arnoch, dylech gysylltu â'ch cwmni dŵr yn y lle cyntaf, gan fod amrywiaeth o help posibl ar gael.
Mae band eang fel arfer bellach yn cael ei becynnu mewn bwndel cyfryngau sydd hefyd yn cynnwys teledu, felly gall y prisiau cyfartalog amrywio. Mae adroddiad Ofcom ar dueddiadau pridio 2021 (Agor mewn ffenestr newydd) yn dangos y gallai pris rhestredig cyfartalog pecyn band eang safonol (gan gynnwys teledu a llinell sefydlog) fod tua £44. Yn ddiddorol, mae pris pecyn band eang cyflym iawn ar gyfartaledd yn agosach at £40, gan ddangos gwerth siopa o gwmpas.
Os ydych yn rhywun sy'n hoffi uwchraddio eu ffôn pan ddaw model newydd allan, yna mae'n bur debyg na fydd eich bil ffôn misol yn rhad. Y pris ar gyfartaledd gan OfcomYn agor mewn ffenestr newydd yw £38.22 y mis. Fodd bynnag, os ydych yn hapus gyda'ch ffôn yna mae yna ffyrdd i ostwng y gost hon.
Os na allwch dalu, cysylltwch â'ch darparwr a gofynnwch beth y gallant ei wneud i helpu.
Dyma rai o’r ffyrdd y gallant eich cefnogi chi:
Os ydych ond yn talu am y drwydded ac yn cadw at sianeli Freeview a gwasanaethau dal i fyny am ddim, yna mae’n debygol y byddwch yn talu tua £13.25 y mis am eich Trwydded Deledu (neu £159 y flwyddyn). Fodd bynnag, os oes gennych becyn tanysgrifio teledu yna mae'ch ffi fisol yn debygol o fod yn fwy na dwbl hyn.
Ychwanegwch wasanaethau ffrydio fel Netflix, Amazon Prime, NOW TV, a gallech weld eich gwariant cyffredinol yn cynyddu. Yn ôl data ONS (Swyddfa Ystadegau Gwladol) mae cartrefi cyfartalog y DU yn gwario £38.22 y mis ar becynnau teledu.