Faint yw'r bil nwy a thrydan cyfartalog y mis?
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
20 Tachwedd 2023
Mae'n anodd cyfrifo'r bil nwy a thrydan cyfartalog ar draws y DU gan ei fod yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys cap pris uwch eleni. Efallai rydych yn poeni am eich biliau ynni yn ogystal â chostau yw cynyddol. Gall gwybod y gost gyfartalog am 2022 eich helpu i wybod beth i ddisgwyl.
Beth yw'r bil ynni cyfartalog y mis?
Bil ynni cyfartalog ar gyfer 2023 yw £1,834 neu £1543 y mis. Mae hyn yn seiliedig ar ‘ddefnydd tebygol’ mewn cartref sy’n defnyddio nwy a thrydan a’n talu gyda debyd uniongyrchol.
Mae Ofgem yn cyfrifo’r bil cyfartalogYn agor mewn ffenestr newydd hwn yn seiliedig ar gartref maint canolig gyda 2-3 o bobl yn byw ynddo.
Bydd cost eich bil chi’n dibynnu ar y math o eiddo rydych yn byw ynddo, ble rydych yn byw, y system gwresogi sydd gennych, effeithiolrwydd ynni’r eiddo, y nifer o bobl sy’n byw yna a’ch defnydd personol.
Beth yw'r bil nwy cyfartalog y mis?
Ar gyfer pobl sydd ar gap ar brisiau Ofgem mae bil nwy cyfartalogYn agor mewn ffenestr newydd yn dueddol o fod:
- Fflat neu dŷ gydag 1 ystafell wely: £625 y flwyddyn, neu £52.08 y mis
- Tŷ gyda 3 ystafell wely: £901 y flwyddyn, neu £75.08 y mis
- Tŷ gyda 5 ystafell wely: £1,280 y flwyddyn, neu £106.66 y mis
Mae’r rhifau yma’n seiliedig ar ddefnydd ynni blynyddol cyfartalog am gartrefi o’r meintiau hynny.
Y bil nwy cyfartalog ar gyfer 2022Yn agor mewn ffenestr newydd oedd £1272, neu £106 y mis yn seiliedig ar ystadegau’r llywodraethYn agor mewn ffenestr newydd o ddefnydd blynyddol o 13,600kWh/blwyddyn.
Beth yw'r bil trydan cyfartalog y mis?
Nid yw’r llywodraeth wedi cyhoeddi rhagdybiau ar gyfer 2023 ond mae Nwy Prydain yn tybio bydd biliau nwy cyfartalog fesul cartrefYn agor mewn ffenestr newydd yn:
- Fflat neu dŷ gydag 1 ystafell wely: £687 y flwyddyn, neu £57.25 y mis
- Tŷ gyda 3 ystafell wely: £933 y flwyddyn, neu £77.75 y mis
- Tŷ gyda 5 ystafell wely: £1,316 y flwyddyn, neu £109.66 y mis
Mae’r rhifau yma’n seiliedig ar ddefnydd ynni blynyddol cyfartalog am gartrefi o’r meintiau hynny.
Y bil trydan cyfartalog ar gyfer 2022 oedd £1105, neu £92 y mis, yn ôl ffigurau’r llywodraethYn agor mewn ffenestr newydd Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys y taliad Cymorth Cynllun Biliau Ynni (EBSS) o £400 a gafodd ei gymhwyso rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023.
Mae’n bosibl y gall eich bil fod yn is neu’n uwch na’r swm hwn, hyd yn oed os ydych yn talu’r cap ar brisiau ar hyn o bryd, gan y bydd yn dibynnu ar eich defnydd unigol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i’w wneud os ydych chi’n poeni bod eich biliau ynni’n codi.
Pam fod biliau ynni mor uchel ar hyn o bryd?
Mae cap ar brisiau Ofgem nawr tua £2,000 y flwyddyn, er yn 2022 roedd mor uchel a £2,500. Nid yw bargeinion sefydlog mor gyffredin ag oedden nhw o hyd, ac mae rhai bargeinion sefydlog yn debyg iawn i’r cap ar brisiau. Mae prisiau ynni yn uchel o hyd yn 2023 oherwydd y cyflenwad a’r galw sydd ar y farchnad gyfanwerthu fyd-eang.
Mae'r galw hwn wedi cynyddu'r swm y mae darparwyr yn ei dalu am nwy a thrydan - ac mae'r gost honno bellach yn cael ei throsglwyddo i'r defnyddiwr.
Dim ond os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban y mae'r cap ar brisiau ynni yn effeithio arnoch.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae prisiau ynni yn cael eu llywodraethu gan y Rheoleiddiwr Cyfleustodau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y help sydd ar gael i dalu eich biliau ynniYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y Cyngor Defnyddwyr.
Beth sy'n cael ei gynnwys yn fy miliau ynni?
Nid dim ond cost yr ynni a ddefnyddiwyd gennych yw eich biliau nwy a thrydan. Mewn gwirionedd, mae eich bil ynni yn cynnwys llawer o gostau gwahanol.
Mae pris cyfanwerthol y nwy a’r trydan (swm y mae’n ei gostio i’ch cyflenwr ynni ei brynu) yn cyfrif am ychydig dros draean o’ch bil ynni.
Mae rhwydweithio, neu'r swm y mae'n ei gostio i ddefnyddio a chynnal y pibellau a'r gwifrau a ddefnyddir i gael y nwy a'r trydan i'ch cartref, yn cyfrif am ychydig dros chwarter eich bil.
Mae costau gweithredu, sef y treuliau y mae'n rhaid i'r cwmni ynni eu talu, hefyd yn gyfran o'ch bil.
Mae cwmnïau ynni hefyd wedi'u cynnwys mewn nifer o raglenni sy’n cael eu cefnogi gan y llywodraeth i arbed ynni a lleihau allyriadau. Mae cost y rhain yn cael ei throsglwyddo i ddefnyddwyr ac yn ychwanegu canran at filiau ynni.
Mae TAW (Treth ar Werth), maint yr elw a chostau eraill yn cyfrif am weddill eich bil ynni.
Sut allaf wario llai ar nwy a thrydan?
Nawr eich bod yn gwybod beth yw'r bil nwy a thrydan cyfartalog ledled y DU a beth sy'n rhan o'ch bil, efallai eich bod yn meddwl sut y gallwch arbed ynni a lleihau eich biliau.
Yn ffodus, mae yna lawer o ffyrdd o wneud hyn heb hyd yn oed newid cyflenwr.
Os ydych eisiau arbed ar eich biliau ynni, gallwch ddechrau trwy fod yn synhwyrol ynglŷn â defnyddio'ch gwres a'ch goleuadau.
Mae inswleiddio hefyd yn bwysig iawn, gan helpu i gadw cartrefi'n gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf. Os nad oes gennych insiwleiddio gweddus neu wydr dwbl, yna mae'n amlwg y bydd yn rhaid i chi wario rhywfaint o arian i arbed.
Os ydych yn ystyried gwerthu'ch cartref, efallai yr hoffech wella eich sgôr tystysgrif EPC. Gall hyn eich helpu i werthu eich cartref yn gyflymach a gallai gynyddu ei werth cyffredinol.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ganllaw i ganllaw i Dystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC's)Yn agor mewn ffenestr newydd sy'n cynnwys awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud gwelliannau i gadw'ch cartref yn gynnes ac arbed arian i chi.
Bydd gwneud yn siŵr eich bod yn datgysylltu plwg o wefrwyr ffôn, peidio â gadael pethau yn y modd segur a defnyddio bylbiau golau ynni-effeithlon hefyd yn helpu i leihau eich biliau.
Gall defnyddio eich offer ar osodiad eco eich helpu i ddefnyddio llai o ynni. Os gwisgwch chi ddillad ychwanegol neu ddefnyddich chi boteli dŵr poeth neu flancedi trydan i gadw’ch hun yn gynnes, efallai gallwch arbed ynni ar wresogi eich cartref.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau nwy a thrydan
Sut allaf wario llai ar nwy a thrydan?
Yn anarferol, ar hyn o bryd ni fyddwch yn arbed llawer o arian trwy newid cyflenwr. Mae’r tariffau cyfradd sefydlog sydd ar gael tua’r un pris â chap ar brisiau Ofgem y byddwch yn ei dalu ar dariff cyfradd amrywiol.
Mae rhai cyflenwyr yn cynnig gostyngiadau am ddefnyddio ynni ar amseroedd allfrig neu amseroedd penodol o’r wythnos. Gwiriwch wefan eich cwmni ynni i weld os allwch gymryd rhan mewn rhywbeth fel hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i'w wneud os ydych chi'n poeni bod eich biliau ynni'n codi
Rwy’n cael trafferth i dalu fy miliau ynni – beth allaf ei wneud?
Gall fod yn straen mawr os ydych yn cael trafferth gyda'ch biliau ynni. Efallai eich bod yn poeni am fynd i ddyled ac yn ansicr sut y byddwch yn llwyddo i fforddio gwresogi neu bweru eich cartref.
Mae parhau i dalu eich biliau yn bwysig, felly cysylltwch â’ch cyflenwr cyn i chi fethu taliad neu fynd i ddyled. Mae llawer o ffyrdd y gall eich cyflenwr helpu gan gynnwys gweithio allan cynllun talu sy'n gweithio i chi.