Faint ywr bil dŵr cyfartalog y mis?
Diweddarwyd diwethaf:
13 Mehefin 2021
Os oedd eich rhieni erioed wedi dweud y drefn wrthych pan oeddech yn iau am ofyn iddynt brynu diod i chi, pan oedd modd i chi arllwys gwydraid o ddŵr am ddim i chi'ch hun - nid oeddent yn dechnegol gywir! Yn ôl Water UK bydd dŵr yn costio £408 y flwyddyn, neu £34 y mis yn 2021/22, ar gyfartaledd ar gyfer dŵr a charthffosiaeth cyfunedig. Mae hyn yn cynnwys cyfartaledd o £194 ar gyfer y bil dŵr a £204 ar gyfer y bil carthffosiaeth.
Yn amlwg, bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Er enghraifft, os ydych yn Ne Orllewin Lloegr, byddwch yn talu £75 yn fwy ar gyfartaledd, tra os ydych yn y Gogledd Orllewin, byddwch yn talu £80 yn llai na’r cyfartaledd.
Mae cwmnïau dŵr yn codi tâl mewn dwy ffordd wahanol. Mae’r cyntaf heb fesurydd ac mae’n cyfrifo cyfradd benodol y penderfynir arni gan werth ‘ardrethol’ eich cartref. Yr ail ddull yw mesurydd, lle cewch eich bilio am faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio. Os nad yw eich bil dŵr wedi’i fesur a’ch bod yn teimlo bod y biliau’n rhy uchel, gallwch ofyn i’ch cyflenwr newid i fil â mesurydd.
Mae'n bosibl nad oes gan eich defnydd o ddŵr lawer o gysylltiad â'ch bil dŵr. Mae hynny'n sicr yn wir os nad oes gennych fesurydd dŵr. Yn yr achos hwn, bydd eich bil yn cynnwys tâl sefydlog a thâl yn seiliedig ar werth ardrethol eich cartref.
Mae’r gwerth ardrethol yn seiliedig ar asesiad eich awdurdod lleol o werth rhentu eich cartref. Yr hyn sy’n annifyr yw bod y sgôr hon wedi’i chyflawni rhwng 1973 a 1990 – felly go brin ei fod yn gyfredol, ac ni allwch hyd yn oed apelio os credwch fod y gwerth ardrethol yn rhy uchel ychwaith.
Felly i grynhoi - mae'r hyn rydych yn ei dalu allan o'ch rheolaeth, nid oes ganddo ddim i'w wneud â faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd, ac mae'n seiliedig ar faint oedd gwerth eich tŷ yn 1990.
Y newyddion da yw os ydych yn defnyddio llwyth o ddŵr, dylech gael gwerth eich arian.
Bil dŵr cyfartalog y mis yn ôl maint y teulu neu nifer ypreswylwyr
Gan dybio eich bod ar fesurydd dŵr a bod gennych deulu mawr, mae defnydd dŵr y cartref yn amrywio’n aruthrol yn dibynnu ar nifer y bobl mewn tŷ a’u hanghenion personol.
Yn ôl Waterwise, ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2019 - Mawrth 2020, y defnydd cyfartalog o ddŵr mewn metrau ciwbig mewn cartref:
un person - 66 (y flwyddyn)
dau berson - 110
tri o bobl - 136
pedwar o bobl - 165
pump o bobl - 182
chwech o bobl- 200.
Bydd y swm o arian y bydd hyn yn ei gostio yn amrywio yn seiliedig ar yr ardal rydych yn byw ynddi a'r cwmni dŵr y mae eich ardal yn ei wasanaethu.
Wedi dweud hynny, os cymerwch Southern Water fel enghraifft, a defnyddio dŵr A dŵr gwastraff fel safonYn agor mewn ffenestr newydd fel a ganlyn:
un person - £286 y flwyddyn a £23 y mis
dau berson - £401 y flwyddyn a £33 y mis
tri o bobl - £516 y flwyddyn a £43 y mis
pedwar o bobl - £597 y flwyddyn a £49 y mis
pump o bobl - £663 y flwyddyn a £55 y mis
chwech o bobl - £728 y flwyddyn a £60 y mis.
Bil dŵr cyfartalog y mis yn ôl maint tŷ (nifer yrystafelloedd)
Gall maint eich eiddo gael dylanwad mawr ar gost eich biliau misol, gan gynnwys eich bil dŵr. Os nad oes gennych fesurydd, y mwyaf o bobl sy’n byw mewn tŷ, yn gyffredinol, y mwyaf o ddŵr a ddefnyddir.
Mae hyn oherwydd y bobl sydd ynddo, yn defnyddio'r dŵr yn hytrach na nifer yr ystafelloedd.
Os nad ydych ar fesurydd dŵr a bod eich biliau’n sefydlog yn dibynnu ar faint eich eiddo, nid oes gwahaniaeth os mai chi yw’r unig un sy’n byw mewn tŷ 10 ystafell wely, bydd eich bil dŵr yn union yr un fath â’ch cymydog sydd â 10 o bobl yn byw ynddo - hyd yn oed os ydynt yn defnyddio 10x y dŵr rydych yn ei ddefnyddio.
Felly bydd faint o ystafelloedd sydd gennych yn bwysig os ydych ar dariff sefydlog, oherwydd mae'n debygol y bydd nifer yr ystafelloedd yn penderfynu gwerth eich tŷ.
Oherwydd hyn, mae'n amhosibl rhoi pris cyfartalog yn seiliedig ar ystafelloedd ond gallwn gymryd ond un enghraifft, Thames Water (2020/21), am syniad o'r prisiauYn agor mewn ffenestr newydd fel a ganlyn:
stiwdio/un ystafell wely - £300.82 y flwyddyn neu £25.07 y mis
dwy ystafell wely - £319.20 y flwyddyn neu £26.60 y mis
tair ystafell wely - £353.44 neu £29.45 y mis
pedair ystafell wely - £380.07 neu £31.72 y mis
pump neu fwy - £417.07 neu £34.75 y mis.
Sut allaf dorri fy mil dŵr?
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch gwtogi ar eich dŵr ac arbed arian ar eich bil dŵr.
Gosod mesurydd dŵr
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu os nad ydych yn defnyddio llawer o ddŵr fel cartref, efallai yr hoffech newid i fil â mesurydd. Mae hyn yn golygu y bydd eich bil yn cynnwys tâl sefydlog A thâl cyfeintiol, yn cwmpasu eich union ddefnydd. Bydd faint y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint o ddŵr a ddefnyddiwch.
Mae’n werth rhoi cynnig ar gyfrifiannell mesurydd dŵr eich darparwr dŵr er mwyn gweld a allech leihau eich biliau. Gallwch ddod o hyd i’ch darparwr dŵr ar wefan Water UK, a pheidiwch â phoeni os nad yw’n gweithio allan i chi oherwydd nid oes rhaid iddo fod yn newid parhaol. Gallwch newid yn ôl i filiau heb fesurydd o fewn y 12 mis cyntaf.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i newid i fesurydd dŵr
Cael help ychwanegol gan eich cyflenwr dŵr
Ers 1996, Ofwat yn datgan bod gan gwmnïau dŵr ddyletswyddYn agor mewn ffenestr newydd i hybu defnydd effeithlon o ddŵr gan eu holl gwsmeriaid.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cyflenwr dŵr i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch arbed dŵr.
I'r rhai sydd â mesurydd dŵr, mae rhai cwmnïau dŵr hyd yn oed yn cynnig ymweliadau cartref am ddim i siarad am eich defnydd o ddŵr. Gallant eich helpu i leihau eich defnydd a gallant hyd yn oed osod dyfeisiau arbed dŵr yn eich cartref. Gallai'r rhain gynnwys gosod tapiau, pennau cawod sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon, a thrawsnewidwyr fflysio toiledau.
Am ffyrdd eraill y gallwch leihau eich defnydd o ddŵr ac arbed arian, darllenwch ein canllaw Arbed arian ar eich bil dŵr
Beth allaf ei wneud os wyf yn cael trafferth talu fy mildŵr?
Os ydych ar incwm isel ac yn cael trafferth talu, dylech gysylltu â’ch cwmni dŵr i weld pa gymorth sydd ar gael.
Rhai o’r ffyrdd y gallant helpu yw trwy gynnig:
dulliau talu hyblyg
seibiannau talu
tariffau cymdeithasol sy'n ostyngiadau arbennig i bobl ar incwm isel neu sy'n derbyn budd-dal penodol.
Mae gan bob cwmni dŵr ei gynllun cymorth ei hun ac mae rhai hefyd yn rhedeg neu'n gweithio gydag elusennau i ddarparu cymorth ychwanegol.
Mae WaterSure yn un cynllun o'r fath. Mae’n cynnig cymorth i rai pobl gymwys tuag at eu biliau dŵr os oes gan eu cartref ddefnydd hanfodol uchel o ddŵr.
Fel arfer mae meini prawf penodol y bydd angen eu bodloni gan gynnwys:
bod ar fesurydd dŵr, ar ôl gwneud cais, neu aros i un gael ei osod
bod ar fudd-daliadau penodol
cael rhywun yn y cartref sydd â chyflwr meddygol lle mae angen iddynt ddefnyddio llawer o ddŵr
mae gan y cartref dri neu fwy o blant o dan 19 oed, ac mewn addysg amser llawn yn byw yno.