Ysgariad a’ch pensiwn: yr hyn sydd angen i chi ei wybod
13 Medi 2021
Gall y profiad o ysgaru neu o ddiddymiad fod yn straen mawr ar bawb sy'n gysylltiedig â’r peth. Mae'n gyfnod anodd yn emosiynol, ond gall hefyd gael effaith negyddol ar eich arian.
I ddechrau, efallai y byddwch yn poeni mwy am faterion ariannol uniongyrchol fel sut i rannu cartref y teulu neu fforddio costau byw o ddydd i ddydd i chi a'ch plant, ond ni ddylech osgoi meddwl am eich pensiwn. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli pa mor werthfawr yw eu pensiwn o'u cymharu ag asedau eraill.
Yr oedran cyfartalog y mae rhywun yn ysgaru yw 47.7 oed i ddynion a 45.3 oed i ferched, felly mae'n annhebygol mai'ch pensiwn fydd y peth cyntaf i chi feddwl amdano pan fydd yn digwydd. Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiynau (Opens in a new window) rydym yn rhannu'r hyn sydd angen i chi ei wybod o ran ysgariad a'ch pensiwn.
A yw fy mhensiwn yn ddiogel yn sgil ysgaru?
Fel arfer, ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei effeithio pan fyddwch yn ysgaru, er efallai na fydd hyn yn wir os gwnaethoch gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016.
Fodd bynnag, rhaid cynnwys unrhyw bensiynau preifat neu weithle sydd gennych yn eich rhestr o asedau, sy'n golygu y gallent gael eu rhannu â'ch cyn priod neu’ch partner sifil. Hyd yn oed os nad yw'ch pensiwn ei hun wedi'i rannu, mae'n rhaid ei ystyried wrth benderfynu sut i setlo'ch cyllid.
I ddarganfod faint yw gwerth eich pensiwn, bydd angen i chi ofyn i bob un o’ch cynlluniau pensiwn i roi ‘Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian’ i chi at ddibenion ysgaru. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol, gall weithiau gymryd hyd at 3 mis iddynt ddarparu hyn a gallant godi ffi am y cyfrifiad hwn weithiau. Ar ôl i chi dderbyn y gwerthoedd hyn, bydd gennych well syniad o faint yw gwerth eich pensiynau o gymharu ag asedau eraill, fel eich tŷ.
Os ydych wedi drysu ac angen arweiniad ar sut i ddelio â phensiynau yn ystod ysgariad neu ddiddymiad, gallwch drefnu sesiwn am ddim gydag arbenigwr pensiwn HelpwrArian
Sut mae pensiynau yn cael eu rhannu mewn ysgariad? A fydd fy nghyn bartner yn cael hanner fy mhensiwn os byddwn yn ysgaru?
Mae'n bwysig iawn deall nad oes hawl awtomatig i gael hanner pensiwn eich cyn bartner wrth ysgaru neu i'r gwrthwyneb. Yn gyffredinol, bydd y llysoedd teulu yn defnyddio setliad 50-50 o'r holl asedau fel man i ddechrau, ond gall faint y bydd gennych chi neu'ch cyn bartner hawl iddo ddibynnu ar ba mor hir rydych wedi bod yn briod, eich amgylchiadau a maint pob un o’ch cronfeydd pensiwn ynghyd ag asedau eraill. Mae hefyd reolau gwahanol yn dibynnu a ydych yn ysgaru yn yr Alban neu ran arall o'r Deyrnas Unedig.
Er enghraifft, os oes gan un priod neu bartner sifil bensiwn llawer mwy na’r llall, gellid rhannu hyn rhyngoch drwy orchymyn Llys o’r enw ‘gorchymyn rhannu pensiwn’.
Neu, yn lle hynny, gallai un parti gymryd cyfran fwy o ased gwahanol yn lle hawlio o'r pensiwn, gelwir hyn yn gwrthbwyso pensiynau.
Gall hyd yn oed gwrthbwyso pensiynau, lle nad yw'r pensiwn yn cael ei rannu o gwbl, fod yn anodd ei lywio ac mae bob amser yn werth ceisio cyngor cyfreithiol arbenigol cyn cytuno ar unrhyw setliad.
A all cyn bartner hawlio fy mhensiwn flynyddoedd ar ôl ysgaru?
Efallai. Os cawsoch ysgariad flynyddoedd lawer yn ôl ond heb gytuno ar setliad ariannol a gymeradwywyd gan y llys, yna gallai eich cyn bartner wneud cais am rywfaint o'ch pensiwn yn ddiweddarach - ond byddai angen iddynt berswadio'r llys pam roedd hyn yn briodol ar ôl yr holl amser hwn.
Os cymeradwyodd y llys setliad ariannol pan wnaethoch ysgaru yn wreiddiol yna mae'n anoddach o lawer i gyn bartner newid telerau'r setliad hwn a gwneud hawliad yn erbyn eich pensiwn. Dyma faes arall i ofyn am gyngor cyfreithiol arbenigol amdano os ydych yn poeni amdano.
Beth fydd yn digwydd i’m mhensiwn os bydd fy nghyn bartner yn ailbriodi neu os byddaf yn ailbriodi?
Bydd hyn yn dibynnu ar delerau'r setliad ariannol y cytunwyd arno yn eich ysgariad neu'ch diddymiad ac a wneir gorchymyn llys yn erbyn unrhyw un o'r pensiynau.
Er enghraifft, os yw'r llys yn cyhoeddi rhywbeth o'r enw gorchymyn ymlyniad pensiwn (a elwir hefyd yn ‘glustnodi’) sy’n cyfarwyddo bod cyfran o bensiwn neu gyfandaliad yn cael ei dalu i chi yna bydd hyn fel arfer yn dod i ben yn awtomatig pe byddech yn ailbriodi ac ni fyddai unrhyw daliadau pellach yn ddyledus.
Os bydd y llys yn cyhoeddi gorchymyn rhannu pensiwn i rannu'r pensiwn fel bod y parti arall yn derbyn ei hawl pensiwn newydd ei hun, ni effeithir ar hyn os bydd y naill neu'r llall ohonoch yn ailbriodi yn y dyfodol gan ei fod yn rhoi toriad glân i'r ddau ohonoch. Mae'r un peth yn wir am y dull gwrthbwyso pensiwn.
Rwy’n cael fy mhensiwn y wladwriaeth yn barod – os modd i mi ei gynyddu nawr fy mod yn ysgaru?
Os gwnaethoch gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 yna efallai y gallwch gynyddu hyn hyd at £137.60 yr wythnos ar ôl i chi ysgaru os:
- yw eich Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol eich hun yn llai na £137.60 yr wythnos; a
- roedd gan eich cyn priod neu bartner sifil ddigon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.