Allwch chi gael tâl mamolaeth os ydych chi’n hunangyflogedig?

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
21 Chwefror 2025
Os ydych yn hunangyflogedig, gallech gael hyd at 39 wythnos o daliad o’r enw Lwfans Mamolaeth. Mae hyn yn wahanol i dâl mamolaeth statudol. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru’n hunangyflogedig am o leiaf 26 wythnos yn y 66 wythnos (tua blwyddyn a thri mis) cyn dyddiad geni’r babi.
Tâl mamolaeth statudol yn erbyn Lwfans Mamolaeth
Os ydych yn hunangyflogedig fel masnachwr unigol, byddwch fel arfer yn gwneud cais am Lwfans Mamolaeth yn lle tâl mamolaeth statudol. Daw tâl mamolaeth statudol gan gyflogwr, tra bod Lwfans Mamolaeth yn dod yn uniongyrchol gan y llywodraeth.
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell hawl mamolaethYn agor mewn ffenestr newydd y llywodraeth i wirio:
- absenoldeb neu dâl mamolaeth statudol
- absenoldeb neu dâl tadolaeth statudol
- Lwfans Mamolaeth.
Os ydych yn hunangyflogedig a bod gennych eich cwmni cyfyngedig eich hun, gallai eich cwmni dalu eich tâl mamolaeth statudol fel unrhyw weithiwr arall. Fel arfer gallwch hawlio rhan neu’r cyfan ohono’n ôl gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF).
I gael help i hawlio tâl mamolaeth statudol yn ôlYn agor mewn ffenestr newydd (a mathau eraill o dâl rhiant), gweler y canllaw ar GOV.UK.
Faint o Lwfans Mamolaeth fyddwch chi'n ei gael?
Os oes gennych hawl i Lwfans Mamolaeth, byddwch yn cael rhwng £27 a £184.03 yr wythnos. Bydd faint y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 rydych wedi’u gwneud yn ystod y cyfnod hawlio (66 wythnos, neu tua blwyddyn a thri mis).
I dderbyn y swm uchaf – £184.03 yr wythnos – rhaid i chi:
- fod wedi'ch cofrestru'n hunangyflogedig am o leiaf 26 wythnos yn y 66 wythnos cyn dyddiad geni'r babi
- wedi gwneud 13 wythnos o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 o fewn yr un cyfnod.
Gall y swm y byddwch yn ei dderbyn amrywio’n fawr yn dibynnu ar bethau fel eich incwm, a oes gennych bartner cyflogedig, a pha mor hir rydych wedi bod yn gweithio i chi’ch hun. I weld yn union beth fyddwch chi’n ei gael yn seiliedig ar eich sefyllfa, defnyddiwch y gyfrifiannell hawl mamolaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i wneud cais am Lwfans Mamolaeth
I wneud cais, bydd angen ffurflen gais Lwfans Mamolaeth (MA1)Yn agor mewn ffenestr newydd arnoch. Gallwch lawrlwytho a chwblhau'r ffurflen ar eich cyfrifiadur, yna ei hargraffu, neu ei hargraffu yn gyntaf a llenwi'ch atebion â llaw. Os na allwch ei hargraffu, gallwch ofyn i CThEF anfon y ffurflen i’ch cyfeiriad.
Bydd y ffurflen yn gofyn cwestiynau i chi am eich gwaith a’ch enillion yn ystod y ‘Cyfnod Prawf’ – sef y 66 wythnos cyn y disgwylir i’ch babi gael ei eni. Er mwyn osgoi gwneud y fathemateg, defnyddiwch declyn GOV.UK i Wirio dyddiadau eich Lwfans MamolaethYn agor mewn ffenestr newydd
Unwaith y byddwch wedi’i llenwi, anfonwch i’r cyfeiriad CThEF a restrir ar y ffurflen, ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill y maent wedi gofyn amdanynt.
Gallai’r rhain gynnwys:
- slipiau cyflog gwreiddiol
- prawf o ddyddiad geni'r babi
- prawf o'r enedigaeth, os yw'r babi eisoes wedi'i eni.
Mae’r ffurflen yn rhestru pa fath o ddogfennau sy’n ddilys – ar gyfer dyddiad geni’r babi, bydd hon fel arfer yn dystysgrif MAT B1 y bydd eich meddyg neu’ch bydwraig yn ei llenwi, yn ogystal â thystysgrif geni wreiddiol os yw’r babi eisoes wedi’i eni.
Byddant yn anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol yn ôl atoch, ond gall fod o gymorth i gael mwy nag un dystysgrif geni wrth law rhag ofn y bydd ei hangen arnoch ar gyfer unrhyw beth arall.
Efallai y bydd angen i chi anfon dogfennau eraill os:
- roeddech wedi'ch cyflogi yn ystod rhannau o'r Cyfnod Prawf
- ydych yn gwneud cais oherwydd bod eich partner yn hunangyflogedig, a'ch bod yn gwneud gwaith di-dâl iddynt
- rydych yn gyfarwyddwr cwmni
- rydych wedi ysgaru neu wedi diddymu partneriaeth sifil.
Pryd y gallaf wneud cais?
Gallwch wneud cais am Lwfans Mamolaeth ar ôl 26 wythnos o feichiogrwydd – ychydig cyn i chi ddechrau eich trydydd tymor. Gallwch wneud cais hyd yn oed ar ôl i'r babi gael ei eni, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais o fewn tri mis i ddyddiad dechrau'r Lwfans Mamolaeth i gael y swm llawn.
Dylech glywed yn ôl gan CThEF gyda phenderfyniad o fewn 20 diwrnod.
Dysgwch fwy yn ein canllaw am Lwfans Mamolaeth.
Allwch chi gael tâl tadolaeth os ydych chi’n hunangyflogedig?
Ni fyddwch yn cael tâl tadolaeth statudol os ydych yn hunangyflogedig. Nid oes cyfwerth â Lwfans Mamolaeth ar gyfer tadau neu bartneriaid sy’n hunangyflogedig, ac nid yw ychwaith yn bosibl defnyddio Absenoldeb Rhiant a Rennir.
Os ydych yn dad cyflogedig neu’n ail riant ond mae’r fam yn hunangyflogedig, mae’n debygol y bydd gennych hawl i dâl tadolaeth statudol ac wythnos neu bythefnos o absenoldeb.
Gwiriwch ein canllaw absenoldeb a thâl tadolaeth i weld sut i wneud cais a beth i’w wneud os nad ydych yn gymwys.