Os oes mwy na phum mlynedd tan eich nod cynilo, gallai buddsoddi rhywfaint o’ch arian roi cyfle i chi ennill mwy o’ch arian a chadw i fyny â chynnydd mewn prisiau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw buddsoddiadau?
Diogelu eich hun
Osgowch gynigion buddsoddi nas gofynnwyd amdanynt.
Cyn buddsoddi gwiriwch gofrestr yr FCA a’r rhestr rybuddio
Os ydych yn ystyried cynnig buddsoddi, ceisiwch gyngor ariannol wedi’i reoleiddio.
Mae buddsoddiadau yn rhywbeth rydych yn ei brynu neu’n rhoi eich arian ynddo er mwyn cael elw proffidiol.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis o blith pedwar prif fath o fuddsoddiad y cyfeirir atynt fel ‘dosbarthiadau asedau’:
- cyfranddaliadau – byddwch yn prynu cyfran mewn cwmni
- arian parod – y cynilion y byddwch yn eu rhoi mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
- eiddo – byddwch yn buddsoddi mewn adeilad ffisegol, boed yn adeilad masnachol neu breswyl
- gwarannau llog sefydlog (y cyfeirir atynt hefyd fel bondiau) – byddwch yn rhoi benthyg eich arian i gwmni neu’r llywodraeth.
Gelwir yr amrywiol asedau y mae buddsoddwr yn berchen arnynt yn bortffolio.
Fel rheol gyffredinol, mae lledaenu eich arian rhwng y gwahanol fathau o ddosbarthiadau asedau yn helpu i leihau’r risg y bydd eich portffolio cyffredinol yn tanberfformio – ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ddiweddarach.
Mae sawl ffordd wahanol o fuddsoddi. Mae llawer o bobl yn buddsoddi trwy gronfeydd cyfunol neu ‘gyfun’ fel ymddiriedolaethau uned.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISAs Stociau a chyfranddaliadau
Adenillion
Adenillion yw’r elw y byddwch yn ei ennill o’ch buddsoddiadau.
Gan ddibynnu ble y byddwch yn rhoi eich arian, gellid ei dalu mewn nifer o ffyrdd gwahanol:
- difidendau (o gyfranddaliadau)
- rhent (o eiddo)
- llog (o adneuon arian parod a gwarannau llog sefydlog)
- y gwahaniaeth rhwng y pris y byddwch yn talu a’r pris y byddwch yn gwerthu – enillion neu golledion cyfalaf.
Gyda chyfrif arian parod dim rhybudd, gallwch godi arian pryd bynnag fel y mynnwch ac yn gyffredinol, mae’n fuddsoddiad diogel. Mae’r un arian wedi’i roi mewn gwarannau llog sefydlog, cyfranddaliadau neu eiddo yn debygol o godi a gostwng mewn gwerth ond dylai gynyddu fwy dros y tymor hwy, er bod pob un ohonynt yn debygol o gynyddu symiau gwahanol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cynilo a buddsoddi fy arian?
Sut mae ffioedd yn lleihau adenillion ar fuddsoddiadau
Mae rheoli buddsoddiadau yn cymryd amser ac arian a bydd darparwyr gwasanaethau yn codi ffi.
Gall y gost hon gymryd rhan o’r adenillion y byddwch yn eu cael ac mae’n rhywbeth y dylech holi yn ei gylch cyn i chi fuddsoddi.
Risgiau
Nid oes unrhyw un yn hoffi gamblo â’i gynilion ond y gwir amdani yw nad oes y fath beth â buddsoddiad ‘dim risg’.
Wrth wraidd buddsoddi mae cyfaddawd syml: po fwyaf o risg y byddwch yn ei gymryd, y po fwyaf y gallwch ei gael yn ôl neu ei golli (a'r isaf yw'r risg rydych yn ei chymryd, y lleiaf rydych yn debygol o fynd yn ôl neu ei golli).
Byddwch bob amser yn mentro rhywfaint pan fyddwch yn buddsoddi, ond bydd graddau’r risg yn amrywio rhwng gwahanol fathau o fuddsoddiad.
Mae arian rydych yn ei roi mewn adneuon diogel fel cyfrifon cynilo mewn perygl o golli gwerth mewn termau real (pŵer prynu) dros amser.
Mae hyn oherwydd nad yw'r gyfradd llog a delir bob amser yn cadw i fyny â phrisiau cynyddol (chwyddiant).
Ar y llaw arall, nid yw buddsoddiadau sy’n gysylltiedig â mynegeion sy’n dilyn y gyfradd chwyddiant bob amser yn dilyn cyfraddau llog y farchnad.
Mae hyn yn golygu, os bydd chwyddiant yn cwympo, gallech ennill llai o log nag yr oeddech yn ei ddisgwyl.
Gall buddsoddi yn y farchnad stoc drechu chwyddiant a chyfraddau llog dros amser, ond mae risg y gall prisiau fod yn isel ar yr adeg y bydd angen i chi werthu.
Gallai hyn arwain at elw gwael neu, os bydd prisiau yn is na’r adeg prynu, at golli arian.
Pan fyddwch yn dechrau buddsoddi, fel arfer mae’n syniad da lledaenu eich risg drwy roi eich arian mewn i nifer o wahanol gynnyrch a dosbarthiadau asedau.
Drwy wneud hynny, os na fydd un buddsoddiad mor llwyddiannus ag roeddech wedi’i obeithio, mae gennych fuddsoddiadau eraill i wneud iawn am hynny.
Pryd y dylech ddechrau buddsoddi?
Os bydd gennych ddigon o arian yn eich cyfrif cynilo arian parod – digon am o leiaf chwe mis – a’ch bod am weld eich arian yn tyfu yn yr hirdymor, dylech ystyried buddsoddi rhywfaint ohono.
Bydd y cynilion neu’r buddsoddiadau priodol i chi yn dibynnu ar eich parodrwydd i fentro ac ar eich cyllid presennol a’ch nodau ar gyfer y dyfodol. Dilynwch y dolenni isod i gael yr atebion.