Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Pryd allaf gymryd arian o fy mhensiwn?

Gallwch ddechrau cymryd arian o'r rhan fwyaf o bensiynau o 60 neu 65 oed. Dyma pan fydd llawer o bobl fel arfer yn meddwl am leihau eu horiau gwaith a symud i ymddeoliad. Yn aml, gallwch hyd yn oed ddechrau cymryd arian o bensiwn gweithle neu bensiwn personol o 55 oed os dymunwch. Mae hyn ymhell cyn y gallwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth

Cymryd arian o’ch pensiwn

Os oes gennych bensiwn a cyfraniadau wedi'u diffinio, fel arfer gallwch ddechrau cymryd incwm neu gyfandaliadau (neu'r ddau) o 55 oed.

Ond byddwch yn ymwybodol po gynharaf y byddwch yn dechrau tynnu arian o'ch pensiwn, po hwyaf y bydd angen iddo bara. Felly mae'n bwysig meddwl yn ofalus am sut rydych yn rheoli'ch arian - er mwyn ei osgoi rhag rhedeg yn rhy isel wrth i  chi fynd yn hŷn.

Mae’r isafswm oedran pensiwn arferol yn cynyddu i 57 oed.

Er y gallwch gael mynediad at eich pensiwn fel arfer o 55 oed, mae hyn yn newid i 57 oed ar 6 Ebrill 2028. Gallai hyn effeithio ar eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio neu eich pensiwn buddion wedi’u diffinio.

Efallai y bydd unrhyw un a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1973 yn gweld eu isafswm oedran pensiwn yn symud i 57 oed. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch yn gallu cymryd rhai neu’r cyfan o’ch buddion pensiwn nes i chi gyrraedd yr oedran hwnnw, a allai fod hyd at 2 flynedd yn hwyrach na’r disgwyl.

Dylech wirio gyda’ch darparwr pensiwn a fydd eich isafswm oedran pensiwn ar gyfer cael mynediad i’ch pensiwn yn cynyddu, oherwydd efallai y bydd rhai pobl yn gymwys ar gyfer oedran pensiwn a ddiogelir ar rai neu’r cyfan o’u buddion.

Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio, fel arfer gallwch ddechrau ei gymryd o 60 neu 65 oed.

Efallai y gallwch ddechrau derbyn incwm ohono yn 55 oed. Fodd bynnag, mae’r incwm rydych yn ei gael yn debygol o gael ei ostwng, gan eich bod yn ei gymryd yn gynharach nag oed pensiwn arferol y cynllun.

Er hynny, os wnewch ddechrau cymryd yr arian o’r cynllun nes ymlaen, fe allwch gael incwm uwch. Mae hyn oherwydd ei fod yn bosibl iddo dalu allan am gyfnod llai.

Gallech ddefnyddio'r arian o'ch pensiynau i helpu i ychwanegu at eich cyflog os ydych yn dal i weithio. Mae hyn yn golygu y gallwch weithio llai o oriau neu ymddeol yn gynnar.

Bydd yr isafswm oedran y gallwch gael mynediad at eich pensiwn yn newid o 55 i 57 o 2028. Gweler uchod am fanylion.

Oes gennych weithle neu bensiwn personol? Yna pan allwch gael mynediad bydd yn dibynnu ar delerau ac amodau eich polisi. Mae'n bwysig gwirio â'ch darparwr a oes unrhyw gosbau am gael mynediad i'ch pensiwn yn gynnar neu'n hwyrach na'r oedran pensiwn arferol.

Mae gan rai cynlluniau nodweddion sy'n golygu y gallech golli ‘bonws ag elw’ neu ‘cyfradd blwydd-dal gwarantedig’.

Os ydych yn aelod o bensiwn gweithle, efallai y bydd angen caniatâd eich cyflogwr neu gyn-gyflogwr arnoch i gymryd buddion yn gynharach na'r oedran pensiwn arferol. Mae hyn yn fwy tebygol os ydych yn dal i weithio iddynt. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen caniatâd ymddiriedolwyr y cynllun pensiwn arnoch hefyd.

A yw'ch aelodaeth yn cynnwys elfen sy'n ymwneud â chontractio allan o gynllun y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 1997? Yna bydd isafswm penodol y mae rhaid i'r cynllun ei dalu. Gelwir hyn yn Isafswm Pensiwn Gwarantedig (GMP).

Os na fydd eich pensiwn o leiaf yn hafal i'ch GMP disgwyliedig pan allwch ddechrau ei dynnu, efallai na fyddwch yn gallu cael mynediad iddo'n gynnar. Bydd angen i chi ofyn i weinyddwr eich cynllun am wybodaeth am ymddeol yn gynnar.

A gaf gymryd fy mhensiwn cyn 55 oed?

Fel rheol ni allwch gymryd arian o'ch pensiwn cyn eich bod yn 55 oed. Ond mae rhai achosion prin pan allwch - er enghraifft, os ydych mewn iechyd gwael.

Mae rhai proffesiynau yn caniatáu dyddiad ymddeol cynharach – er enghraifft, os ydych yn athletwr proffesiynol.

Mae gan rai pensiynau (yn nodweddiadol y rhai y gallech fod wedi ymuno â hwy cyn 6 Ebrill 2006) oedran pensiwn gwarchodedig sy'n is na 55. Os ydych yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, gofynnwch i weinyddwr eich cynllun cyn gynted â phosibl, neu cysylltwch â ni i drafod hynny gydag un o'n tîm.

Sgamiau

Mae sgamiau pensiwn mor ddifrifol oherwydd gallant olygu eich bod yn colli'ch holl arian ymddeol, a allai niweidio’ch cynlluniau ymddeol yn ddifrifol.

Gallech golli'ch arian ac wynebu tâl treth o hyd at 55% o'r swm a gymerwyd allan neu a drosglwyddwyd, ynghyd â thaliadau pellach gan eich darparwr.

Pensiwn y Wladwriaeth

Nid yw'n bosibl derbyn eich Pensiwn y Wladwriaeth cyn eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ond efallai y bydd gennych hawl i rai buddion eraill y Wladwriaeth.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.