Os ydych yn cael trafferth talu’ch ad-daliadau morgais ac nid ydych yn gallu cael trefn ar bethau mae'n bwysig peidio ag anwybyddu'r broblem. Mae llawer o help ar gael .
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cam 1 – Cysylltu â’ch benthyciwr
- Cam 2 – Gwirio a oes gennych yswiriant
- Cam 3 – Cymryd camau i leihau’ch costau
- Cam 4 – Siarad â gwasanaeth cwnsela am ddim ar ddyledion
- Cam 5 – Holi i weld a allwch gael help â’ch taliadau morgais
- A ydych yn poeni caiff eich cartref ei adfeddiannu?
- Beth yw wneud os oes rhywun yn ceisio cael meddiant o’ch cartref
- Gwerthu’ch cartref pan fydd popeth arall wedi methu
- Pethau i’w hosgoi
- Cymorth morgais i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd
Cam 1 – Cysylltu â’ch benthyciwr
Bydd eich benthyciwr morgais yn awyddus i helpu a bydd yn egluro’ch opsiynau.
Mae rhaid iddynt wneud ymgais rhesymol i ddod i gytundeb â chi, gan gynnwys ystyried a ddylid newid sut rydych yn gwneud taliadau a phryd rydych yn eu gwneud.
Dewch o hyd i help sydd ar gael o’ch benthyciwr gan ymweld â’i wefan – defnyddiwch Restr UK Finance LendersYn agor mewn ffenestr newydd
Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn diffinio ôl-ddyledion o fewn contract morgais rheoledig neu gynllun prynu cartref fel diffyg sy'n cyfateb i ddau neu fwy o daliadau misol.
Beth i’w ddisgwyl gan eich benthyciwr morgais
Os ewch i ôl-ddyledion, o fewn 15 diwrnod mae’n rhaid i’ch benthyciwr :
- rhoi gwybod i chi am gyfanswm eich ôl-ddyledion
- rhestru’r holl daliadau rydych wedi’u methu neu eu rhandalu
- rhoi gwybod i chi am yr union swm sy’n weddill ar eich morgais
- rhoi gwybod i chi am unrhyw ffioedd a godir oherwydd methu unrhyw daliadau (a rhoi gwybod i chi am y ffioedd a fydd yn debygol yn y dyfodol os na thelir yr ôl-ddyledion).
Hefyd, ni ddylai eich benthyciwr gymryd camau i adfeddiannu oni bai fod pob ymdrech resymol arall i ddatrys y sefyllfa wedi methu, ac mae’n rhaid iddynt roi rhybudd rhesymol i chi cyn cymryd y camau hynny.
Sut i ofyn am cymorth os na allwch wnedu eich taliadau morgais misol
Mae rhaid i fenthycwyr eich trin yn deg ac ystyried unrhyw gais a wnewch i newid y ffordd rydych yn talu'ch morgais.
- Cynigiwch ad-dalu'r hyn y gallwch ei fforddio wrth drafod eich opsiynau â'ch benthyciwr - mae'n well parhau i dalu rhywfaint o arian yn ôl na thalu dim a bydd yn helpu i leihau eich ôl-ddyledion.
- Ystyriwch sut a phryd y gallwch ddychwelyd i wneud eich taliadau misol llawn.
- Meddyliwch pryd y gallwch fforddio talu mwy i wneud taliadau sy'n fwy neu'n uwch na'ch taliad misol arferol i dalu unrhyw ôl-ddyledion.
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau gallai eich benthyciwr hefyd wneud awgrymiadau ar eich rhan, er enghraifft ymestyn eich tymor morgais.
Peidiwch ag oedi - mae'n bwysig cysylltu â'ch benthyciwr cyn gynted â phosibl.
Cam 2 – Gwirio a oes gennych yswiriant
Gall yswiriant diogelu taliadau morgais, a elwir hefyd yn yswiriant damweiniau, salwch a diweithdra, helpu gyda’ch ad-daliadau morgais os yw’ch incwm wedi gostwng oherwydd diswyddo, damwain neu salwch.
Efallai eich bod wedi ei gymryd pan gawsoch eich morgais – edrychwch drwy waith papur eich morgais a gwiriwch gyda’ch benthyciwr neu’r brocer a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gymryd y morgais.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant diogelu incwm?
Cam 3 – Cymryd camau i leihau’ch costau
Cynlluniwch eich cyllideb
Bydd treulio peth amser yn ystyried eich arferion gwario yn eich helpu i weld a allwch arbed arian yn unrhyw le.
Er mwyn helpu i weld ble y gallwch arbed arian parod, edrychwch ar eich gwariant mewn perthynas â'r hyn sydd gennych yn dod i mewn yna rhannwch y gwariant yn eitemau hanfodol ac eitemau nad ydynt yn hanfodol.
Dechreuwch gyda'n Cynlluniwr Cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio
Lleihau eich gwariant ar eitemau nad ydynt yn hanfodol
Mae cyllidebu’n hollbwysig os ydych yn cael trafferth talu’ch treuliau. Dyma rai ffyrdd o dorri’n ôl.
- Edrychwch ar y Debydau Uniongyrchol sy’n mynd allan o’ch cyfrif bob mis – pethau fel aelodaeth o gampfa a thanysgrifiadau i gylchgronau. Ystyriwch yn awr a ydych y cael gwerth am arian o’r holl bethau hyn. Os nad ydych, dylech eu canslo.
- Ceisiwch restru’r eitemau llai nad ydynt yn hanfodol rydych yn eu prynu bob dydd – coffi parod o siop neu ddiodydd ar ôl y gwaith. Trefnwch hwy yn ôl eu blaenoriaeth. Dewiswch yr eitemau blaenoriaeth is yn gyntaf a’u torri allan, un ar y tro.
Dysgwch fwy yn ein canllaw ar Byw ar incwm gwasgedig
Lleihau eich gwariant ar eitemau hanfodol
Am bethau fel bwyd a biliau ynni - edrychwch ar beth mae cwmnïau eraill yn eu cynnig er mwyn ceisio cael cytundeb gwell.
Fodd bynnag, meddyliwch yn ofalus cyn lleihau eich yswiriant, yn enwedig yswiriant bywyd.
Gofynnwch i chi’ch hun a fyddai gwario ychydig ar y premiwm yn well na’r risg o beidio â derbyn taliad llawn petaech yn marw neu dalu miloedd o bunnoedd allan o’ch arian eich hun petai rhywbeth yn digwydd i’ch cartref.
Darganfyddwch fwy yn Sut i arbed arian ar filiau cartref
Cam 4 – Siarad â gwasanaeth cwnsela am ddim ar ddyledion
Yn ogystal â siarad â’ch benthyciwr, mynnwch gyngor gan un o’r nifer o sefydliadau neu elusennau sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion.
Gall cynghorydd ariannol hyfforddiedig o asiantaeth annibynnol, fel Cyngor ar Bopeth neu Shelter, roi cyngor diduedd am ddim i chi.
Mae elusennau eraill ar gael hefyd a fydd yn gallu’ch helpu chi a rhoi gwybodaeth am ble i ddod o hyd i atebion.
Cam 5 – Holi i weld a allwch gael help â’ch taliadau morgais
Defnyddiwch ein cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym pa gefnogaeth gallech fod â hawl iddo.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai eich bod yn gymwys i gael rhai budd-daliadau – a/neu i gael help gan y llywodraeth tuag at eich taliadau llog.
Trowch at Turn2Us gwasanaeth elusennol sy’n helpu pobl i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau a chymorth arall
Hefyd, mae gennym ganllaw ar Help gyda thaliadau morgais
A ydych yn poeni caiff eich cartref ei adfeddiannu?
Os ydych yn poeni y gallech golli’ch cartref oherwydd nad ydych wedi bod yn gwneud eich ad-daliadau, gall elusennau roi cymorth a chyngor i chi, ac mae digon o help ar gael mewn mannau eraill hefyd.
Ewch i wefan ShelterYn agor mewn ffenestr newydd am fwy o wybodaeth ar adfeddiannu tai, neu ar wefan Housing RightsYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yng Ngogledd Iwerddon.
Efallai y bydd eich cyngor lleol yn gallu rhoi cymorth a chyngor.
Beth yw wneud os oes rhywun yn ceisio cael meddiant o’ch cartref
Mae cymorth ar gael o'r eiliad y byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan gredydwr sy'n ceisio cael meddiant o’ch cartref.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr gall y Housing Loss Prevention Advice Service helpu os ydych mewn perygl o gael eich troi allan o’ch eiddo os yw eich morgais mewn ôl-ddyledion.
Bydd arbenigwr tai a ariennir gan y llywodraeth yn gweithio gyda chi i adnabod beth sydd wedi sbarduno’r cais am feddiant ac yn ceisio dod o hyd i ddatrysiadau. Efallai y byddant yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i chi ar:
- ôl-ddyledion morgais
- taliadau budd-daliadau lles
- dyled.
Os na allwch ddatrys materion a gofynnir i chi fynychu gwrandawiad llys, gall ymgynghorydd tai hefyd ddarparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys. Dylech gyrraedd o leiaf 30 munud cyn eich gwrandawiad a siaradwch â'r tywysydd llys a byddant yn eich cyfeirio at yr ymynghorydd.
Gallwch ddod o hyd i'ch darparwr Housing Loss Prevention Advice Service agosaf drwy deipio eich cod post a ticio'r blwch ‘Housing Loss Prevention Advice Service', i ddod o hyd i gyngor cyfreithiol ar GOV.UK
Gwerthu’ch cartref pan fydd popeth arall wedi methu
Os ydych yn gwybod na fydd eich sefyllfa’n newid yn yr hirdymor, ystyriwch werthu’ch cartref eich hun a rhentu neu symud i eiddo rhatach.
Os ydych yn ystyried yr opsiwn hwn, gofynnwch i’ch benthyciwr a gewch aros yn eich eiddo nes y byddwch wedi’i werthu a gofyn a yw’n cynnig help drwy gynllun Gwerthiant Gwirfoddol â Chymorth.
Ond gwnewch yn siŵr fod gennych le i fyw cyn symud allan. Os byddwch yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r benthyciwr a gwneud popeth yn eich gallu i’w werthu, dylai roi digon o amser i chi werthu.
Pethau i’w hosgoi
Ceisiwch gyngor ar ddyledion am ddim os ydych yn meddwl am droi i unrhyw un o’r opsiynau isod – mae’n debygol bydd datrysiad gwell a byddant yn gallu helpu.
- Cymryd benthyciad ychwanegol i dalu'ch dyledion - gall y rhain leihau eich ymrwymiadau misol, gan eu gwneud yn fwy fforddiadwy - ond gallant fod yn ddrud iawn dros y tymor hir ac yn aml fe'u sicrheir ar eich cartref.
- Trosglwyddo'r allweddi yn ôl - byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am yr ad-daliadau morgais cyn i'ch cartref gael ei werthu, ac o bosibl y balans sy'n weddill os nad yw'r arian a godir trwy werthu eich cartref yn ddigon i dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych.
- Cynlluniau gwerthu a rhentu yn ôl - dyma lle rydych yn gwerthu'ch cartref i gwmni a'i rentu'n ôl oddi wrthynt. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau gwerthu a rhentu yn ôl.
Cymorth morgais i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd
Ym mis Mehefin 2023, cytunodd benthycwyr i siarter morgais newydd sy'n darparu cymorth i gwsmeriaid morgeisi preswyl sydd wedi cael ei effeithio gan gynydd cyfraddau llog. Dyma'r rhain:
Cymorth gan eich benthyciwr
Os ydych chi'n poeni am ad-dalu morgais, ffoniwch eich benthyciwr. Gall eu staff hyfforddedig ateb eich cwestiynau a chynnig opsiynau cymorth wedi'u teilwra. Ni fydd gofyn am help yn effeithio ar eich sgôr credyd. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai opsiynau 'goddefgarwch' yn cael eu hadlewyrchu ar eich ffeilYn agor mewn ffenestr newydd Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i'ch benthyciwr beth allai'r effaith fod o unrhyw opsiwn penodol.
Gallai cymorth olygu ymestyn tymor eich morgais i ostwng eich taliadau misol, cynnig newid i daliadau llog yn unig, a darparu mynediad at ystod o opsiynau eraill, fel gohirio taliadau dros dro neu forgais rhan llog-rhan ad-daliad. Bydd yr opsiwn cywir yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Cefnogaeth gan y llywodraeth
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol gan y llywodraeth os ydych yn cael trafferth gyda’ch morgais. Yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw yn y DU, mae budd-daliadau'r llywodraeth ynghyd â chynlluniau fel y cynllun Achub Morgeisi, Cymorth ar gyfer Llog Morgais, neu Gymorth i Aros yng Nghymru yno i'ch helpu.
Am fwy o fanylion, darllenwch ein canllaw Help gyda thaliadau morgais
Cytundeb cyfradd sefydlog wedi’i gloi
Byddwch yn cael cynnig cyfle i gloi cytundeb hyd at chwe mis. Byddwch yn rhydd o hyd i wneud cais am gytundeb gwell, os oes un ar gael, hyd nes y bydd eich cytundeb morgais newydd yn dechrau.
Amser i ddatrys eich sefyllfa ariannol
Ni fydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu o fewn 12 mis i'ch taliad morgais cyntaf a fethwyd.
Os ydych wedi bod yn talu eich taliadau ar amser
Gallwch newid i gytundeb morgais newydd ar ddiwedd eich cytundeb cyfradd sefydlog presennol heb wiriad fforddiadwyedd arall. Mae hyn yn cael ei ddarparu gyda'ch benthyciwr presennol ac nid yw telerau eich cytundeb morgais presennol yn newid.
Hyblygrwydd ychwanegol i newid telerau eich morgais
Byddwch yn gallu newid i wneud ad-daliadau llog yn unig am chwe mis neu ymestyn cyfnod eich morgais, a fydd yn gostwng eich taliadau misol. Gallai hyn olygu eich bod yn talu mwy o log dros gyfnod y morgais. Ni fydd angen gwiriad fforddiadwyedd newydd gan eich benthycwyr a bydd gennych yr opsiwn i newid yn ôl i dymor gwreiddiol eich morgais o fewn y chwe mis cyntaf. Ni fydd newid yn effeithio ar eich sgôr credyd.