Gall gofalwyr neu gynorthwywyr personol roi cymorth i chi fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun. Os ydych chi’n cyflogi un - gan ddefnyddio’ch arian eich hun neu drwy daliadau uniongyrchol - mae llawer i’w ystyried.
Beth all ofalwr neu gynorthwyydd personol ei wneud i mi?
Mae gofalwr neu gynorthwyydd personol yna i’ch cefnogi fel y gallwch fyw mor annibynnol â phosibl yn eich cartref eich hun.
Efallai byddant yn gweithio am ychydig oriau’r wythnos yn unig, neu am sawl awr bob dydd (neu nos) ac yn helpu gydag amrywiaeth o dasgau fel:
- siopa
- paratoi prydau
- cymorth gyda meddyginiaeth
- gyrru neu’ch helpu i fynd o gwmpas
- cefnogi gofalwyr teulu pan fydd angen seibiant arnynt
- gofal personol, fel ymolchi, gwisgo a defnyddio’r tŷ bach.
Defnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi cynorthwyydd personol
Os ydych yn gymwys am gyllid i gael gofal cymdeithasol yn eich cartref, mae’r swm o arian yr aseswyd bod ei angen arnoch ar gyfer eich gofal yn gallu cael ei dalu’n syth i’ch cyfrif banc.
Mae hynny’n golygu, yn lle cael cynorthwyydd personol sy’n cael ei ddarparu gan y cyngor, gallwch ei gyflogi’n uniongyrchol neu benodi asiantaeth gofal yn y cartref i wneud hynny drosoch.
Defnyddio asiantaeth gofal yn y cartref
I lawer o bobl, mae defnyddio asiantaeth gofal yn y cartref yn llawer llai trafferthus. Ond mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o rai materion pwysig:
- Nid yw’r un rheolaeth gennych dros bwy sy’n rhoi’r gofal a chymorth i chi o’i gymharu â phe byddech yn cyflogi rhywun fel gynorthwyydd (wyr) personol eich hun.
- Nid yw rhai cwmnïau gofal yn y cartref yn cael eu rheoleiddio. Er enghraifft, gyda gwasanaethau rhagarweiniol, pan fydd gofalwr wedi’i ddyrannu, yr unigolyn sydd angen gofal a’i deulu sy’n gyfrifol am eu rheoli. Os ydych am osgoi’r math hwn o gwmni, gofynnwch iddynt anfon copi o’u hadroddiad Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) atoch. Os na allant wneud hynny, yna mae’n arwydd y gallent fod yn asiantaeth ragarweiniol heb ei reoleiddio.
Bydd asiantaeth reoleiddio yn ymdrin â phob taliad, treth ac yswiriant, yn ogystal â gwneud gwiriadau heddlu ac yn ymchwilio i eirdaon.
Fodd bynnag, efallai nad yr un person a fydd yn ymweld â’ch cartref bob amser.
Ac, wrth gwrs, mae’n costio mwy – caniatewch £5 i £10 ychwanegol yr awr, gan ddibynnu ar eich anghenion gofal a ble rydych yn byw.
I ddod o hyd i asiantaeth gofal yn y cartref, ewch i wefan y UK Home Care Association (UKHCA)
Cyflogi cynorthwyydd personol
Mae’n amlwg bod rhai manteision yma.
Drwy gyflogi rhywun eich hun, cewch fwy o ddewis a rheolaeth ar bwy sy’n gofalu amdanoch a pha dasgau a wnânt.
Ond mae hefyd yn eich troi’n gyflogwr ar unwaith, gyda’r holl faterion cyfreithiol, ariannol ac ymarferol sydd ynghlwm gyda hynny.
Felly cyn dewis y llwybr hwn, bydd angen i chi ystyried llawer o bethau.
Cyflogi gofalwr neu gynorthwyydd personol
Oni bai bod rhywun rydych yn ei adnabod - efallai eich gofalwr asiantaeth neu cyngor lleol - bydd angen i chi hysbysebu, cyfweld a gwneud gwiriadau.
Efallai yr hoffech gyflogi rhywun rydych yn ei adnabod i ddarparu’r gofal, fel aelod o’r teulu neu ffrind.
Fodd bynnag, os ydych yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol a defnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi gweithiwr gofal mae yna reolau ynghylch cyflogi aelodau o’r teulu. Mae’r rheolau hyn yn amrywio yn dibynnu a ydych yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon
Gwiriwch y rheolau ar gyflogi rhywun rydych yn ei adnabod ar wefan Carers UK
Efallai y bydd asiantaethau recriwtio yn codi ffi arnoch, ond gallai fod yn werth chweil am y tawelwch meddwl ychwanegol
Gwirio hawl rhywun i weithio yn y DU
Fel cyflogwr, mae’n rhaid i chi sicrhau bod unrhyw ddarpar weithiwr yn gymwys i weithio yn y DU cyn eu cyflogi.
Gofynnwch am weld pasbortau pobl neu brawf adnabod arall i brofi eu bod yn dod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu fod ganddynt fisa i weithio yma.
Am restr o wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, ewch i wefan GOV.UK
Cofiwch gadw copi o’r gwaith papur.
Am fwy o wybodaeth am yr hawl i weithio yn y DU, ewch i wefan y Swyddfa Gartref
Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (gwiriadau CRB yn flaenorol)
Bellach, gelwir gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS) yn wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Gelwir hyn yn wiriadau Diogelu Grwpiau Bregus (PVG) yn yr Alban.
Mae’n rhaid i chi gael copi o’r gwiriad DBS ar gyfer unrhyw un rydych yn gobeithio eu cyflogi cyn i chi roi cyfweliad iddynt neu eu gadael i mewn i’ch cartref.
- Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, cewch ragor o wybodaeth am wiriadau DBS ar y wefan GOV.UK
- Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am wiriadau PVG ar wefan mygov.scot
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi ofyn i’ch ymddiriedolaeth leol neu sefydliad gwirfoddol lleol i ofyn am y wybodaeth ar eich rhan. Darganfyddwch fwy ar wefan yr Adran Gyfiawnder
Llunio cytundeb cyflogaeth ar gyfer gofalwr neu gynorthwyydd personol
Bydd angen i chi ddarparu datganiad ysgrifenedig o gyflogaeth. Dylai hyn gynnwys y tasgau penodol y disgwylir i’r cynorthwyydd personol eu darparu, lle gwaith, oriau gwaith, cyfradd tâl, hyd y gyflogaeth a hawl i wyliau.
Darganfyddwch fwy ar wefan acas
Tâl a threth
Rhaid i chi o leiaf dalu’r isafswm cyflog i’ch cynorthwyydd personol – yn realistig, rydych yn sôn am tua £10 yr awr, neu’n agosach i £12 os yw’ch anghenion gofal yn fwy cymhleth.
Efallai hefyd y byddwch yn gyfrifol am ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol o’u cyflog, yn ogystal â thalu cyfraniad Yswiriant Gwladol fel cyflogwr.
Darganfyddwch fwy am dreth ac Yswiriant Gwladol wrth gyflogi pobl yn eich cartref eich hun ar wefan GOV.UK
Amser i ffwrdd, tâl salwch a thâl gwyliau
Nid yn unig bydd rhaid i chi dalu’r rhain, ond bydd hefyd angen i chi ddod o hyd i rywun i gymryd lle’r gweithiwr.
Mae gan eich gofalwr neu’ch cynorthwyydd personol hawl i:
- egwyliau gorffwys
- tâl gwyliau
- tâl salwch (yn yr rhanfwyf o achosion)
- uchafswm o oriau gwaith mewn unrhyw wythnos.
Yswiriant
Fel cyflogwr, mae’n rhaid i chi gael Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
Dylai fod eich taliadau uniongyrchol yn gallu helpu tuag at gost hyn. Ond bydd yn dibynnu ar eich cyngor lleol.
Darganfyddwch fwy ar wefan Y Rheoleiddwr Pensiynau
Defnyddio gofalwr neu gynorthwyydd personol i reoli eich taliadau uniongyrchol
Mewn rhai achosion, gallwch ddewis i’ch cynorthwywyr personol neu ofalwr cael a rheoli’r taliadau uniongyrchol gan y cyngor ar eich rhan.
Mae hwn fel arfer yn cael ei roi ar waith ar ran rhywun sydd heb y gallu meddyliol i wneud hynny ei hun - ac fel arfer gan fod teulu’r unigolyn wedi gofyn am y trefniant.
Mae risgiau gyda’r math hwn o drefniant. Ac yn arbennig, rhaid gwarchod oedolion sy’n agored i niwed rhag twyll.
Felly, cyn cytuno i drefniant o’r math yma, rhaid fod y cyngor lleol yn fodlon fod y cynorthwyydd personol neu’r gofalwr yn ‘berson addas’ ac y byddant yn ymddwyn er budd pennaf y person maent yn gofalu amdanynt.
Gofynnwch i’ch cyngor lleol ddarparu manylion ysgrifenedig ei broses i sicrhau bod cynorthwyydd personol yn cael ei ystyried i fod yn ‘berson addas’.