Mae talu am wasanaethau gofal (ar gyfer chi eich hun neu rywun arall) â thaliadau uniongyrchol gan eich cyngor lleol yn rhoi annibyniaeth, dewis, a rheolaeth i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw taliadau uniongyrchol?
- Cael asesiad gofal cymdeithasol
- Sut mae taliadau uniongyrchol yn gweithio ac ar gyfer beth allwch chi eu defnyddio?
- Gallai taliadau uniongyrchol fod yn addas i chi os:
- Mae’n debygol nad yw taliadau uniongyrchol yn addas i chi os:
- Faint gaf i fel taliad uniongyrchol?
- Sut i wneud cais am daliadau uniongyrchol
- Defnyddio taliadau uniongyrchol i benodi gofalwr
- Cymharu nwyddau a gwasanaethau
- Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid
Beth yw taliadau uniongyrchol?
Awgrym da
Eich dewis chi yw derbyn taliadau uniongyrchol neu beidio. Mae tua un person mewn pedwar dros 65Yn agor mewn ffenestr newydd oed sy’n derbyn gofal yn dewis taliadau uniongyrchol.
Os yw’ch cyngor lleol (neu’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) yn cytuno i ariannu rhywfaint neu’r cyfan o’ch gwasanaethau gofal, byddant yn cynnig y dewis i chi rhwng:
- eich awdurdod lleol yn darparu’r gwasanaethau’n uniongyrchol i chi
- cael taliadau uniongyrchol gan eich awdurdod lleol, y byddwch yn eu defnyddio i drefnu a thalu am wasanaethau gofal eich hun, neu
- ‘pecyn cymysg’, gyda rhai gwasanaethau’n cael eu darparu’n uniongyrchol ac eraill y byddwch yn eu prynu o’ch taliadau uniongyrchol.
Hyd yn oed os ydych yn derbyn taliadau uniongyrchol gan eich awdurdod lleol, gallwch newid eich meddwl nes ymlaen, a gofyn iddynt ddarparu gwasanaethau i chi yn lle. Efallai byddwch yn gwneud hwn os byddwch yn ei chael hi’n anodd rheoli’r taliadau, er enghraifft.
A yw taliadau uniongyrchol yn destun i brawf modd?
Ydyn – mae’r pecyn gofal cyfan bydd eich awdurdod lleol yn ariannu yn dibynnu ar brawf modd. Mae hyn yn berthnasol i wasanaethau mae’r awdurdod lleol yn ei darparu yn ogystal â gwasanaethau y mae taliadau uniongyrchol yn talu amdanynt.
Felly, mae faint a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol, ac efallai bydd angen i chi ychwanegu atynt gyda’ch arian eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyllid awdurdod lleol ar gyfer costau gofal – a ydych yn gymwys?
Cael asesiad gofal cymdeithasol
I gael taliadau uniongyrchol, mae angen i chi gysylltu’n gyntaf â’ch cyngor lleol (neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) i asesu’ch anghenion gofal.
Ar ôl yr asesiad, cewch gynllun gofal. Dyma gytundeb ysgrifenedig sy’n gosod pa anghenion sydd gennych, y bydd eich awdurdod lleol yn eu diwallu.
Gweler ein canllaw Sut mae asesiad anghenion gofal awdurdod lleol yn gweithio i ddarganfod mwy
Sut mae taliadau uniongyrchol yn gweithio ac ar gyfer beth allwch chi eu defnyddio?
Mae taliadau uniongyrchol yn mynd yn syth i’ch cyfrif banc, Swyddfa’r Post, cymdeithas adeiladu neu Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I). Ond byddwch yn ymwybodol na allwch wario’r arian ar unrhyw beth o’ch dewis.
Mae rhaid i’r awdurdod lleol fod yn fodlon bod y taliadau’n mynd tuag at y gwasanaethau gofal y cytunwyd arnynt yn eich cynllun gofal. Gallent gynnig rhestr o darparwyr cymeradwy awgrymedig, ond mae modd i chi ddefnyddio darparwyr eraill a mathau eraill o wasnanaeth os ydynt yn diwallu’ch anghenion gofal.
Bydd yr awdurdod lleol yn monitro’r ffordd rydych yn defnyddio’r taliadau, er enghraifft drwy adolygiad blynyddol. Cofiwch gadw derbynebau i ddangos sut rydych wedi gwario’r taliadau.
Bydd eich awdurdod lleol yn dweud wrthych pa wybodaeth bydd angen i chi ei darparu. Bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft, amserlenni wedi’u llofnodi gan ofalwyr, derbynebau am gyfarpar neu anfonebau oddi wrth asiantaethau gofal yn y cartref. Byddant hefyd yn dweud wrthych sut a phryd i ddarparu’r wybodaeth hon.
Efallai y byddwch am agor cyfrif banc yn benodol ar gyfer derbyn eich taliadau uniongyrchol ac i dalu am ofal. Os gwnewch hyn, mae’n hawdd cadw trac ar eich gwariant a gallwch gyflwyno’r gyfriflen banc llawn i’ch awdurdod lleol. Darganfyddwch fwy am sut mae dewis y cyfrif banc cywir.
Os na allwch gyfrif am bopeth byddwch yn ei wario, neu eich bod yn defnyddio’r arian ar gyfer pethau nad ydynt yn eich cynllun gofal, efallai cewch eich gofyn i dalu’r arian yn ôl.
Ni allwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am ofal anffurfiol gan briod, partner, neu berthynas agos sy’n byw gyda chi, oni bai eu bod wedi eu cofrestru’n ofalwr. Fodd bynnag, efallai y byddant yn cytuno arno lle mae'r awdurdod lleol yn fodlon bod ei angen i ddiwallu anghenion. Yn Lloegr efallai gallech eu talu i reoli’ch taliadau uniongyrchol.
Ni allwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am lety preswyl parhaol. Ond gallech eu defnyddio i talu am gyfnodau byr achlysurol mewn llety preswyl os yw eich awdurdod lleol yn cytuno dyna sydd eisiau arnoch.
Mae’r rheolau manwl ar gyfer taliadau uniongyrchol yn amrywio o gwmpas y wlad. Siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol neu gysylltwch â’ch awdurdod lleol i ddysgu pa reolau sy’n berthnasol i chi.
Gallai taliadau uniongyrchol fod yn addas i chi os:
- ydych am gadw neu gael rheolaeth o’ch gwasanaethau cymorth a gofal eich hun
- ydych am gael mwy o ddewis wrth ddewis y cynhyrchion a’r gwasanaethau sy’n diwallu’ch anghenion penodol
- ydych yn hyderus ag arian a gwaith papur, neu fod gennych bobl i roi cymorth i chi gyda hynny - cewch enwebu rhywun arall i reoli’ch taliadau i chi os ydych angen
- ydych yn fodlon cadw derbynebau ac anfonebau a’u cyflwyno i’r gwasanaethau cymdeithasol mewn pryd.
Os na allwch reoli’ch taliadau uniongyrchol eich hun nac enwebu rhywun arall, gall person arall gofyn i ddod yn berson awdurdodedig. Gall hwnnw fod yn ffrind neu’n aelod o’ch teulu. Byddant wedyn yn rheoli’ch taliadau uniongyrchol ar eich rhan.
Mae’n debygol nad yw taliadau uniongyrchol yn addas i chi os:
- ydych yn teimlo’n anghyfforddus am fod yn gyflogwr. Efallai byddai hynny’n berthnasol os byddwch yn talu rhywun i ofalu amdanoch (er bod cymorth ar gael ynghylch y dyletswyddau o fod yn gyflogwr).
- nad ydych yn hyderus am gadw cofnodion gofalus a ffeilio dogfennau pwysig fel derbynebau yn ddiogel (er bod cymorth ar gael am hyn).
- ydych yn treulio cyfnodau aml neu hir yn yr ysbyty.
- ydych yn fodlon gadael i’ch awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau gofal i chi.
Faint gaf i fel taliad uniongyrchol?
Mae rhaid i’r taliadau uniongyrchol fod yn ddigon i ddiwallu’r anghenion y mae’r awdurdod lleol wedi asesu bod gennych.
Os defnyddiwch yr arian i dalu am weithiwr gofal, efallai y bydd yna costau ychwanegol ynghylch bod yn gyflogwr iddynt. Er enghraifft, costau recriwtio, cyfraniadau pensiwn ac Yswiriant Gwladol cyflogwr a’u Treth Incwm. Mae’n rhaid i’r taliad uniongyrchol fod yn ddigon i fodloni’r costau hyn hefyd.
Fodd bynnag, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau ariannol, gallech orfod cyfrannu tuag at gost eich gofal. Prawf modd neu asesiad ariannol gan awdurdod lleol fydd yn penderfynu hynny.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Profion modd i gael cymorth gyda chostau gofal – sut maent yn gweithio
Sut i wneud cais am daliadau uniongyrchol
Os ydych eisoes yn cael gwasanaethau gofal, gofynnwch i’ch awdurdod lleol am daliadau uniongyrchol.
Os ydych yn gwneud cais am wasanaethau gofal am y tro cyntaf, dylai’ch gweithiwr cymdeithasol drafod y dewis taliadau uniongyrchol gyda chi pan fydd yn asesu’ch anghenion gofal.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban gwnewch gais am daliadau uniongyrchol ar wefan GOV.UK
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am daliadau uniongyrchol ar wefan nidirect
Cael cymorth i reoli taliadau uniongyrchol
Gall eich awdurdod lleol eich helpu i reoli’ch taliadau uniongyrchol.
Fel arall, mae nifer o sefydliadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yn darparu cefnogaeth sydd wedi ei theilwra wrth i chi reoli eich taliadau uniongyrchol a rhoi cynllun gofal at ei gilydd. Mae’r sefydliadau hyn yn annibynnol i’ch awdurdod lleol.
Er enghraifft, mae Disability Rights UK yn cynnig cyngor am daliadau uniongyrchol a chyflogi gofalwr. Ewch i wefan Disability Rights UK neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0330 995 0404.
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, gallwch lawrlwytho taflen wybodaeth yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus ar daliadau uniongyrchol
Defnyddio taliadau uniongyrchol i benodi gofalwr
Os defnyddiwch eich taliadau uniongyrchol i gyflogi gofalwr, byddwch yn cymryd cyfrifoldebau penodol fel cyflogwr.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi feddwl am Yswiriant Gwladol, Treth Incwm, Isafswm Cyflog Cenedlaethol, tâl salwch a thâl gwyliau, pensiwn, ac yswiriant atebolrwydd.
Os yw hynny’n swnio braidd yn frawychus, mae pobl a sefydliadau ar gael i roi cymorth:
- Meddyliwch am ddefnyddio asiantaeth gofal yn y cartref. Bydd rhai asiantaethau yn ymdrin â’r holl ddyletswyddi cyflogwr i chi; eraill fydd y cyflogwr yn hytrach na chi. Byddwch yn talu ffioedd i’r asiantaeth. Byddai asiantaethau gofal yn y cartref hefyd yn delio â’r gwaith papur sydd ymghlwm â chyflogi gofalwr, gan gynnwys geirdaon a gwirio troseddau.
- Edrychwch am gwmnïau lleol sy’n cynnig gwasanaethau cyflogres. Am ffi byddant yn ymdrin â chyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol.
Am ragor o wybodaeth:
- am gyngor dros y DU gyfan, gwelwch wefan acas
- yn yr Alban ewch i Care Information ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
- yng Ngogledd Iwerddon gwelwch wefan CILNIYn agor mewn ffenestr newydd
- yng Nghymru, ewch i Dewis Cymru – teipiwch ‘taliadau uniongyrchol’ a’ch cod post.
Mae hefyd gan y sefydliadau sy’n monitro ansawdd gwasanaethau gofal cyfeirlyfrau ar-lein gallwch eu defnyddio i chwilio am ofalwyr ac asiantaethau gofal cartref:
- yn Lloegr, cysylltwch â’r Care Quality Commission
- yn yr Alban, cysylltwch â’r Care Inspectorate
- yng Nghymru, cysylltwch â’r Arolygiaeth Gofal
- yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Regulation and Quality Improvement Authority
Mae amryw ffyrdd i ddod o hyd i ofalwyr yn eich ardal, er enghraifft:
- gofynnwch i’ch adran gwasanaethau cymdeithasol am ofalwyr lleol ac asiantaethau gofal yn y cartref
- Os ydych chi’n byw yn Lloegr, Yr Alban neu Gymru, mae gan yr Elderly Accommodation Counsel (EAC) gyfarwyddiadur ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd er mwyn eich helpu i chwilio am wasanaethau gan gynnwys gofal dementia, help yn y cartref, a llawer mwy
- defnyddiwch declyn chwilio ar-lein Carers Direct neu siaradwch ag ymgynghorydd llinell gymorth ar 0203 904 4529 i ddod o hyd i ofalwyr yng Nghymru a Lloegr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyflogi rhywun i roi cymorth gyda’ch gofal
Cymharu nwyddau a gwasanaethau
Nid yw taliadau uniongyrchol dim ond i dalu am ofalwyr. Gallwch hefyd eu defnyddio i brynu cyfarpar sy’n eich helpu i fyw’n fwy annibynnol. Gofynnwch i wasanaethau cymdeithasol am ddarparwyr lleol a hoff gyflenwyr, fel gallwch ddod o hyd i’r fargen orau.
Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid
Awgrym da
Peidiwch ag oedi dweud wrth eich awdurdod neu ymddiriedolaeth am newid yn eich amgylchiadau – gall olygu rhagor o arian i chi.
Os bydd eich anghenion yn newid, cysylltwch â’ch awdurdod lleol cyn gynted ag y gallwch fel gallant ailasesu’r lefel o daliadau sydd ei angen arnoch. Efallai y bydd hawl gennych i ragor o arian.
Neu, os nad oes angen i chi wario’r cyfanswm llawn gan fod eich cyflwr yn gwella am gyfnod, neu eich bod yn mynd i mewn i’r ysbyty, gall fod angen iddynt leihau’ch taliadau.
Os nad ydych yn am barhau â thaliadau uniongyrchol
Os nad ydych am reoli taliadau uniongyrchol eich hun bellach, mae gan eich awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i drefnu’r gwasanaethau yn lle.
Felly hefyd, os yw’r cyngor yn penderfynu na allwch ymdopi â thaliadau uniongyrchol, efallai byddant yn dewis darparu gwasanaethau’n uniongyrchol os nad oes unrhyw un sy’n agos i chi a all gymryd dros eu rheoli.