Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Absenoldeb mamolaeth a thadolaeth a’ch pensiwn

Os ydych yn cael babi, bydd llawer i feddwl amdano - ac efallai na fydd eich pensiwn ar frig eich blaenoriaethau. Fodd bynnag, mae'n werth ystyried yr hyn y mae gennych hawl iddo a sut y gallai eich absenoldeb mamolaeth effeithio ar eich trefniadau pensiwn.

Telerau a fydd yn eich helpu i ddeall eich hawliau

Tâl Mamolaeth Statudol

Byddwch yn gymwys os ydych:

  • wedi gweithio i'ch cyflogwr am 26 wythnos pan fyddwch yn cyrraedd y 15fed wythnos cyn dyddiad disgwyl y babi, ac
  • yn ennill o leiaf £123 yr wythnos.

Bydd gennych hawl i 52 wythnos i ffwrdd o'r gwaith a derbyn Tâl Mamolaeth Statudol am 39 wythnos o'ch absenoldeb mamolaeth.

Am chwe wythnos gyntaf eich absenoldeb mamolaeth, byddwch yn cael 90% o'ch enillion wythnosol ar gyfartaledd.

Am y 33 wythnos nesaf, rydych yn cael yr isaf o 90% o'ch enillion wythnosol ar gyfartaledd a £172.48 yr wythnos.

Mae'r 13 wythnos sy'n weddill yn ddi-dâl.

Mae Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu tynnu o'r taliadau hyn.

Tâl Tadolaeth Statudol

Byddwch yn gymwys os ydych:

  • wedi gweithio i'ch cyflogwr am 26 wythnos pan gyrhaeddwch y 15fed wythnos cyn dyddiad disgwyl y babi, ac
  • yn ennill o leiaf £123 yr wythnos.

Bydd gennych hawl i amser i ffwrdd o'r gwaith a gallwch gael Tâl Tadolaeth Statudol. Gallwch ddewis cymryd naill ai wythnos neu bythefnos - ond mae rhaid i chi gymryd eich absenoldeb ar yr un pryd.

Y gyfradd wythnosol statudol o Dâl Tadolaeth yw £172.48, neu 90% o'ch enillion wythnosol ar gyfartaledd (p'un bynnag sydd isaf).

Lwfans Mamolaeth

Os nad oes gennych hawl i Dâl Mamolaeth Statudol efallai y bydd gennych hawl i Lwfans Mamolaeth am hyd at 39 wythnos.

I fod yn gymwys, mae angen i chi fod naill ai:

  • yn gyflogedig ac ddim yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, neu
  • hunangyflogedig ac wedi talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 am o leiaf 13 o'r 66 wythnos cyn dyddiad disgwyl y babi.

Os ydych yn gyflogedig, mae gennych hawl o hyd at 52 wythnos i ffwrdd o'r gwaith.

Os ydych yn gyflogedig

Os yw'ch cyflogwr wedi'ch cofrestru'n awtomatig, mae rhaid iddo barhau i gyfrannu at eich cynllun pensiwn.

Os yw'ch cyflogwr i fod i'ch cofrestru'n awtomatig tra'ch bod ar gyfnod mamolaeth, bydd yn penderfynu a ydych yn gymwys - yn seiliedig ar eich cyflog cyn i chi fynd ar gyfnod mamolaeth, ac unrhyw gynydd tâl yn ystod cyfnod mamolaeth.

Rwy'n gyflogedig ac mae gen i hawl i Dâl Mamolaeth Statudol
Absenoldeb Wythnos Eich cyfraniadau Cyfraniadau eich cyflogwr

Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin

Wythnos 1-26

Yn seiliedig ar eich cyflog gwirioneddol

Yn seiliedig ar eich cyflog cyn absenoldeb mamolaeth

Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol

Wythnos 27-39

Yn seiliedig ar eich cyflog gwirioneddol

Yn seiliedig ar eich cyflog cyn i chi fynd ar gyfnod mamolaeth, ac unrhyw gynydd tâl yn ystod cyfnod mamolaeth

Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol

Wythnos 40-52

Cyfraniadau dim ond yn daladwy os ydynt wedi eu nodi yn rheolau’r cynllun, neu’ch contract o gyflogaeth

Cyfraniadau dim ond yn daladwy os ydynt wedi eu nodi yn rheolau’r cynllun, neu’ch contract o gyflogaeth

Rwy'n gyflogedig ond nid oes gennyf hawl i Dâl Mamolaeth Statudol
Absenoldeb Wythnos Eich cyfraniadau Cyfraniadau eich cyflogwr

Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin

Wythnos 1-26

Nid oes ei angen oni bai eich bod yn derbyn rhywfaint o dâl gan eich cyflogwr

Yn seiliedig ar eich cyflog cyn i chi fynd ar gyfnod mamolaeth, ac unrhyw gynydd tâl yn ystod cyfnod mamolaeth

Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol

Wythnos 27-52

Cyfraniadau dim ond yn daladwy os ydynt wedi eu nodi yn rheolau’r cynllun, neu’ch contract o gyflogaeth

Cyfraniadau dim ond yn daladwy os ydynt wedi eu nodi yn rheolau’r cynllun, neu’ch contract o gyflogaeth

Aberth Cyflog

Os caiff eich cyfraniadau pensiwn eu didynnu o dan drefniant aberthu cyflog, caiff y rhain eu trin fel cyfraniadau cyflogwr. Yn ystod cyfnodau o absenoldeb mamolaeth, dylai eich cyflogwr barhau i dalu'r cyfraniad cyfan.

Efallai y bydd rhaid i'ch cyflogwr atal eich cyfranogiad mewn trefniant aberthu cyflog yn ystod eich absenoldeb mamolaeth i gydymffurfio â'i ddyletswydd i dalu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i chi o leiaf.

Mae aberthu rhan o'ch cyflog yn golygu eich bod yn ennill llai. Gallai enillion is effeithio ar eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau'r Wladwriaeth sy'n seiliedig ar gyfraniadau.

Os ydych yn hunangyflogedig

Gallwch benderfynu faint o absenoldeb mamolaeth rydych am ei gymryd, p'un ai i barhau i gyfrannu at eich cynllun pensiwn, a faint rydych am ei gyfrannu.

Absenoldeb tadolaeth

Os oes gennych hawl i absenoldeb tadolaeth gallwch gymryd wythnos neu ddwy wythnos o absenoldeb tadolaeth statudol â thâl.

Os penderfynwch gymryd absenoldeb tadolaeth, byddwch yn parhau i fod yn aelod o'ch cynllun pensiwn gweithle. Byddwch chi a/neu'ch cyflogwr yn parhau i wneud cyfraniadau - oni bai eich bod yn penderfynu rhoi'r gorau i gyfrannu.

Dylai cyfraniadau cynllun pensiwn gweithwyr fod yn seiliedig ar y tâl tadolaeth gwirioneddol a dderbyniwyd.

Os byddwch yn stopio cyfrannu, bydd eich cyflogwr hefyd yn atal ei gyfraniadau - bydd angen i chi wirio sut y bydd eich cynllun yn trin hyn.

Beth sy’n digwydd ar ôl absenoldeb mamolaeth/tadolaeth?

Os ydych yn dychwelwch i'r gwaith

Efallai y gallwch dalu cyfraniadau ychwanegol i wneud iawn am unrhyw gyfnod o absenoldeb di-dâl. Os gwnewch hyn, mae rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu hefyd.

Os ewch yn ôl i weithio'n rhan-amser ar gyflog is

Bydd hyn yn golygu y bydd eich pensiwn yn cronni ar gyfradd arafach. Felly efallai yr hoffech ystyried talu cyfraniadau ychwanegol.

Bydd y mwyafrif o gynlluniau pensiwn yn caniatáu i chi dalu mwy na swm y cyfraniad safonol.

Os penderfynwch beidio â dychwelyd i'r gwaith

Bydd y pensiynau rydych wedi talu i mewn yn aros â'ch darparwr pensiwn nes i chi gyrraedd eich ymddeoliad.

Os oes gennych bensiwn budd wedi’i diffinio, gallai hyn gynyddu â chwyddiant bob blwyddyn.

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, bydd y cyfraniadau rydych wedi'u gwneud yn parhau i gael eu buddsoddi a gall gwerth y gronfa gynyddu neu ostwng. Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cyfraniadau (yn amodol ar y lwfans blynyddol).

A oes gwahaniaeth pa fath o bensiwn sydd gennyf?

Nodir uchod y cyfraniadau a dalwyd gennych chi a'ch cyflogwr yn ystod absenoldeb mamolaeth/tadolaeth. Fodd bynnag, bydd y ffordd y mae'ch buddion pensiwn yn cronni yn ystod yr absenoldeb yn dibynnu ar y math o gynllun rydych yn aelod ohono.

Cynlluniau buddion wedi’u diffinio

Mae'r rhain yn talu incwm ymddeol yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr.

Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn cynnwys cynlluniau pensiwn ‘cyflog terfynol’ a ‘chyfartaledd gyrfa’.

Yn gyffredinol, dim ond o gynlluniau pensiwn gweithle sector cyhoeddus neu hŷn y mae'r rhain ar gael erbyn hyn.

Os ydych mewn pensiwn cyflog terfynol, byddwch yn parhau i gronni hawl i gael pensiwn yn seiliedig ar eich cyflog cyn i chi fynd ar gyfnod mamolaeth, ac unrhyw gynydd tâl yn ystod cyfnod mamolaeth. Mae hyn oherwydd ei fod yn cyfrif fel ‘gwasanaeth pensiynadwy’.

Os penderfynwch gymryd unrhyw absenoldeb di-dâl ychwanegol, mae hwn yn cael ei ystyried yn wasanaeth na ellir ei bensiynu.

Felly, er na fyddwch yn gadael y cynllun - nid yw'r cyfnod hwn o absenoldeb di-dâl yn cyfrif tuag at eich gwasanaeth pensiynadwy ac felly gallai arwain at bensiwn is pan fyddwch yn ymddeol. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu talu cyfraniadau ychwanegol i wneud yn iawn am unrhyw gyfnod o wasnanath nad yw’n pensiynadwy.

Cynlluniau gyrfa ar gyfartaledd

Byddwch yn parhau i gronni'ch pensiwn tra byddwch ar absenoldeb mamolaeth/tadolaeth â thâl. Er y bydd yn seiliedig ar eich cyflog cyn i chi fynd ar gyfnod mamolaeth, ac unrhyw gynydd tâl yn ystod cyfnod mamolaeth.

Os penderfynwch gymryd absenoldeb di-dâl ychwanegol, ni fyddwch yn cronni'ch pensiwn am y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu talu cyfraniadau ychwanegol i wneud yn iawn am unrhyw gyfnod o wasnanath nad yw’n pensiynadwy.

Cynlluniau cyfraniadau wedi’u ddiffinio

Mae'r rhain yn cronni cronfa pensiwn i dalu incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar faint rydych chi a/neu'ch cyflogwr yn ei gyfrannu, a faint mae hyn yn tyfu.

Tra ar absenoldeb mamolaeth/tadolaeth â thâl, mae’r cyfraniadau hyn yn dal i gael eu talu yn eich ‘cronfa’.

Bydd eich cyfraniadau yn seiliedig ar eich enillion gwirioneddol. Bydd cyfraniadau eich cyflogwr yn seiliedig ar eich cyflog cyn i chi fynd ar gyfnod mamolaeth, ac unrhyw gynydd tâl yn ystod cyfnod mamolaeth.

Os penderfynwch gymryd unrhyw absenoldeb di-dâl ychwanegol, nid oes angen i chi gyfrannu. Ac nid oes angen i'ch cyflogwr gyfrannu oni bai bod eich contract cyflogaeth neu reolau'r cynllun yn nodi fel arall.

Beth am fy Mhensiwn y Wladwriaeth?

Mae'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Mae'r cofnod hwn yn seiliedig ar y nifer o flynyddoedd rydych wedi talu Yswiriant Gwladol amdanynt, neu sawl blwyddyn o gredyd Yswiriant Gwladol sydd gennych.

Tâl Mamolaeth

Mae Tâl Mamolaeth yn destun i ddidyniadau Yswiriant Gwladol. Os yw'ch tâl mamolaeth yn £242 yr wythnos neu fwy, byddwch yn parhau i dalu Yswiriant Gwladol, a fydd yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn ennill rhwng £123 a £242 yr wythnos, byddwch yn cronni credydau Yswiriant Gwladol – ond nid oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Budd-dal Plant

Os yw'ch plentyn o dan 12 oed ac os nad ydych yn gweithio neu os nad ydych yn ennill digon i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, gall Budd-dal Plant eich helpu i fod yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol

Mae'r credydau hyn yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Cyfraniadau Gwirfoddol

Gellir talu'r rhain os gwelwch fod gennych fwlch yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Mae'n bwysig hefyd ystyried eich amgylchiadau a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae hyn oherwydd efallai y byddwch yn cronni digon o ‘flynyddoedd cymwys’ os dychwelwch i’r gwaith yn y dyfodol heb lenwi unrhyw fylchau cyfredol.

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am eich pensiwn ac absenoldeb mamolaeth/tadolaeth, er enghraifft nad yw’ch cyflogwr yn talu’r lefel cywir o gyfraniadau pensiwn, cysylltwch â ni a gallwn eich helpu.  

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.