Mae gwystlwyr yn gadael i chi fenthyca arian yn gyfnewid am eich pethau gwerthfawr. Byddwch yn gallu cael yr eitem yn ôl os byddwch yn ad-dalu’r benthyciad a’r llog ar amser, fel arall bydd yn cael ei werthu.
Manteision ac anfanteision gwystlwyr
Manteision
-
Os nad oes gennych statws credyd da, gallai fod yn haws benthyg gan wystlwr na darparwr arall, ac efallai y bydd llai o wiriadau credyd.
-
Mae’n sydyn – fel arfer mi gewch eich arian ar yr un diwrnod.
-
Dylai gwystlwr adael ichi gael eich nwyddau’n ôl unrhyw bryd a dim ond codi llog am y cyfnod yr ydych wedi cael benthyg yr arian.
-
Os yw’r eitem yn cael ei gwerthu, a bod yna ddiffyg, fel arfer ni fydd y gwystlwr yn dod i ofyn i chi amdano (ond gwiriwch y bydd hynny’n wir).
-
Os oes angen mwy o amser arnoch i ad-dalu, efallai y bydd y gwystlwr yn cytuno i ymestyn y cyfnod, er y gallant wrthod. Fel arfer byddant yn disgwyl i chi o leiaf ad-dalu’r llog sy’n ddyledus gennych.
Anfanteision
-
Fel arfer dim ond canran o werth yr eitem y byddwch yn cael ei benthyca. Felly, er enghraifft, os oes gennych chi rhywfaint o emwaith sy’n werth £200, efallai mai dim ond benthyciad o £100 y byddwch yn ei gael.
-
Gallwch ddisgwyl talu cyfradd llog uwch i wystlwr nag y byddech ar gyfer benthyciad stryd fawr, ond fel arfer byddai’n costio llawer llai na benthyciad tymor byr neu ddiwrnod cyflog i chi.
-
Fel arfer bydd disgwyl i chi ad-dalu’r benthyciad mewn un taliad yn hytrach nag mewn rhandaliadau.
-
Os gwnaethoch fenthyg hyd at £75 ac na allwch ad-dalu'r benthyciad, bydd perchnogaeth yr eitem yn trosglwyddo'n awtomatig i'r gwystlwr. Os yw'r benthyciad dros £100, rhaid i'r gwystlwr ddweud wrthych cyn iddo ei werthu.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau incwm a chymorth ychwanegol yn ein hadran Help gyda chostau byw
Sut mae gwystlwyr yn gweithio
Os ydych chi eisiau defnyddio gwystlwr, gwnewch yn siŵr ei fod yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Gwystlwyr (NPA), sydd â chod ymddygiad ar gyfer aelodau. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl:
- Mae’r gwystlwr yn rhoi gwerth ar eich eitem (a elwir yn ‘wystl’ neu ‘addewid’), felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ei gwerth cyn i chi ei derbyn.
- Rydych chi a'r gwystlwr yn cytuno ar faint y gellir ei fenthyg yn erbyn eich eitem a'r tâl llog ar gyfer y benthyciad. Efallai y dyfynnir cyfradd llog fisol neu ddyddiol, er bod rhaid i’r gwystlwr hefyd ddangos y gyfradd llog flynyddol a’r APR (y gyfradd ganrannol flynyddol).
- Byddwch yn cael cytundeb credyd i'w lofnodi gyda manylion eich trefniant – gwiriwch hwn yn ofalus a gofynnwch gwestiynau os nad ydych yn deall unrhyw beth. Dylai’r gwystlwr hefyd roi ffurflen ‘Gwybodaeth cyn Llofnodi Contract’ i chi – gofynnwch am hon os nad yw’n gwneud hynny.
- Oni bai ei fod yn rhan o’r cytundeb credyd, bydd y gwystlwr yn rhoi derbynneb ar wahân i chi y bydd angen i chi ei chadw i brofi mai chi sy’n berchen ar yr eitem.
- Unwaith y cytunir arno, mae gennych hyd at chwe mis i gymryd yr eitem yn ôl a thalu'r llog. Os byddwch yn canslo yn ystod y cyfnod ailystyried o 14 diwrnod, bydd angen i chi dalu llog am y nifer o ddyddiau sydd wedi mynd heibio.
- Os na fyddwch yn ad-dalu’r benthyciad mewn pryd, gall y gwystlwr werthu’ch eitem i dalu’r swm a fenthycwyd ynghyd â llog. Os yw'n gwerthu am fwy, dylid rhoi'r arian ychwanegol i chi.
Beth sy’n digwydd os byddwch yn colli’ch derbynneb
Os oedd y swm a fenthycwyd gennych yn £75 neu lai, gall y gwystlwr roi ffurflen safonol i chi ei llenwi. Mae hyn yn nodi eich bod wedi colli'r tocyn, ond eich eiddo chi yw'r eitemau.
Ar gyfer benthyciadau dros £75, neu os na fyddant yn derbyn y ffurflen, bydd yn rhaid i chi fynd at gomisiynydd llwon – megis cyfreithiwr – i dyngu mai eich eiddo chi yw’r eitemau. Yng Nghymru a Lloegr gallwch hefyd fynd at ynad, neu ynad heddwch yn yr Alban.
Beth fydd yn digwydd os bydd eich gwystlwr lleol yn cau
Os oedd yn rhan o gadwyn o wystlwyr, gallwch geisio cysylltu â changen arall.
Gallwch hefyd ffonio'r NPA ar 0172 785 8687Yn agor mewn ffenestr newydd neu ewch i'w gwefan i weld a allant eich helpu i gysylltu â'r gwystlwrYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i gwyno
Gallwch fynd â gwystlwr i’r Llys Hawliadau Bychain ond mae ffioedd i’w talu ac mae risg efallai na fydd y setliad yn un rydych ei eisiau.
Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb gan y cwmni neu os na allwch gysylltu â hwy, gallwch fynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd gallwch eu ffonio ar 0800 023 4567Yn agor mewn ffenestr newydd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hawlio iawndal os ydych wedi dioddef cam-werthu
Dewisiadau eraill yn lle gwystlwyr
Mae benthyca arian trwy wystlwr yn ddrud a gallai olygu colli eitem werthfawr yn ogystal â chostio arian i chi. Efallai yr hoffech ystyried:
- Cynlluniau Cyflog Ymlaen Llaw - mae hwn yn fudd i weithiwr sy'n golygu cymryd rhywfaint neu'r cyfan o'ch cyflog cyn diwrnod cyflog. Byddwch yn ymwybodol y byddwch yn cael taliad llai ar y diwrnod cyflog os fyddwch yn dewis yr opsiwn hwn.
- Undebau credyd - mae'r rhain fel arfer yn eich caniatáu i fenthyca swm bach am gyfnod byr.
- Sefydliad Cyllid Datblygu Cymunedol– maent yn cynnig benthyciadau i bobl sy’n cael trafferth cael credyd, ond mae eu cyfraddau llog yn tueddu i fod yn uwch nag undebau credyd.
- Gorddrafftiau banc - gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw o fewn y terfyn a gofalwch nad ydych yn wynebu taliadau diofyn.