Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Pam nad gamblo yw’r ateb i’r argyfwng costau byw

Cyhoeddwyd ar:

Gyda chyllidebau cartrefi yn gorfod ymestyn ymhellach bob wythnos, gall fod yn demtasiwn i gredu y gallai gamblo ddarparu’r arian sydd ei angen arnoch i dalu eich biliau a chostau eraill. Dyma pam na fydd gamblo yn helpu - a ble i ddod o hyd i gymorth os oes gennych broblemau ariannol.

Mae costau byw yn cynyddu - ac nid gamblo yw’r ateb

Mewn teuluoedd ar incwm is, mae menywod yn aml yn rheoli cyllideb y cartref[i]. Ac i lawer ohonom, mae’n mynd yn anoddach bob wythnos i ddod o hyd i'r arian am fwyd, biliau, costau tai a mwy. Pan fydd arian yn dynn, gall fod yn hawdd chwilio am ffynonellau incwm eraill i helpu.

Felly efallai nad yw’n syndod bod mwy o fenywod yn gamblo ar-lein y dyddiau hyn[ii], yn enwedig gyda chymaint o opsiynau gamblo ar gael 24/7 trwy ein ffonau. Ond mae gamblo yn dod â risgiau. Yn wir, mae un o bob pum menyw sy’n gamblo eisoes yn profi problemau fel straen a phryder oherwydd gamblo[iii].

Bwriad cwmnïau gamblo yw gwneud arian, nid ei roi i ffwrdd

Os ydych yn gamblo, dros amser byddwch yn rhoi mwy o arian i’r cwmni gamblo nag y maent yn ei roi i chi (roedd cwmnïau gamblo wedi gwneud dros £12.7 biliwn ym Mhrydain Fawr y llynedd[iv]). Mae ceisio ennill arian yn ôl rydych wedi'i golli yn gyffredinol yn arwain at golledion mwy. Felly os ydych eisoes yn teimlo'r straen, bydd gamblo bron yn sicr yn gwneud pethau'n waeth.

Ond os ydych yn pendroni o ble mae’r arian i dalu eich biliau yn mynd i ddod y mis hwn, mae HelpwrArian yma gydag ystod o gyngor arbenigol a theclynnau arbenigol.

Cyngor ariannol i’ch helpu i deimlo mewn rheolaeth eto

Beth bynnag fo’ch sefyllfa, gall HelpwrArian eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth cywir, rheoli eich cyllid a dod o hyd i ffordd ymlaen.

Gall siarad helpu

Mae cynnydd yn nifer y menywod sy’n profi problemau neu niwed a achosir gan gamblo.  Fodd bynnag, mae llawer o bobl sy’n gamblo yn ei chael hi’n anodd siarad amdano.

Mae’n gallu bod yn arbennig o anodd i ferched, gan fod gamblo yn dal i gael ei ystyried yn fwy derbyniol i ddynion o hyd. Ond os ydych yn poeni am eich gamblo eich hun, neu rywun rydych yn ei garu, cael sgwrs yn aml yw’r cam cyntaf tuag at gael help.

Os ydych yn poeni y gallai eich gamblo fod yn achosi problemau i chi, peidiwch â chadw’ch pryderon i chi’ch hun - siaradwch â ffrind y gallwch ymddiried ynddo neu aelod o’r teulu.


Tagiau
Cyllidebu Pob postiadau blog Teulu
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.