Cyhoeddwyd ar:
26 Mehefin 2023
Last updated:
23 Tachwedd 2023
Nid yw newid i dariff cyfradd sefydlog neu newid darparwyr am fargen well ar eich ynni wedi bod yn opsiwn am ychydig. Fodd bynnag, mae prisiau nwy a thrydan yn gostwng, felly pryd yw’r amser cywir i sefydlogi?
Mae cap ar brisiau Ofgem nawr yn £1,834 y flwyddyn, a bydd hwn yn newid i £1,928 ar 1 Ionawr 2024.
Mae cytundebau sefydlog ar gael am lai na’r cap ar brisiau, ac mae’r rhain nawr ar gael i gwsmeriaid newydd a phresennol. Cadwch lygad am lythyrau ac e-byst gan eich cyflenwr i ddarganfod a oes unrhyw gytundebau y gallwch gofrestru amdanynt.
Mae cap pris Ofgem yn cael ei gyfrifo ar sail faint mae'n ei gostio i brynu nwy a thrydan ar y farchnad gyfanwerthu. Mae'r cap pris yn newid bob tri mis, ar ddechrau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref. Ofgem yn cyhoeddi beth fydd y cap pris tua mis cyn iddo newid.
Ni fyddwn yn darganfod beth fydd y cap pris nesaf tan yn ddiweddarach eleni.
Mae’n anodd cyllidebu ar gyfer costau byw bob dydd pan nad ydych yn gwybod pa olwg fydd ar eich biliau mewn chwe mis. Gall sefydlogi eich biliau ynni eich helpu i wybod beth i’w ddisgwyl bob mis.
Os ydych wedi dod o hyd i gytundeb sefydlog sy’n llai na chap ar brisiau mis Hydref o £1,834 y flwyddyn, gallai fod yn werth ei ystyried.
Efallai na fydd dyfynbris eich cyflenwr yn rhoi’r gost flynyddol ar gyfer cartref arferol, gallai fod yn seiliedig ar eich defnydd. Defnyddiwch gyfradd uned y cap ar brisiau a’r gost sefydlog isod i gymharu â’r hyn y mae eich cyflenwr wedi’i gynnig.
Pris uned ynni ar gyfer Cap Prisiau o 1 Gorffennaf 2023 |
|
Trydan |
£0.27 fesul KWh Cost sefydlog ddyddiol: £0.53 |
Nwy |
£0.07 fesul KWh Cost sefydlog ddyddiol: £0.30 |
Ffynhonnell: OfgemOpens in a new window
Mae i fyny i chi i benderfynu a yw gwybod beth fydd eich biliau bob mis yn werth y risg y bydd prisiau ynni yn gostwng yn sylweddol y gaeaf hwn, a gallech ordalu trwy symud i fargen sefydlog.
Yn ddiweddar, mae sawl cyflenwr ynni wedi dechrau cynnig cytundebau sefydlog o tua’r un lefel â’r cap ar brisiau. Mae’r cytundebau hyn ar gael i gwsmeriaid newydd a phresennol, felly gallai fod yn syniad da os oeddech yn ystyried newid cyflenwr.
Gweler ein canllaw ar wefannau cymharu am fwy o wybodaeth.
Er efallai na fyddwch yn gallu lleihau’n sylweddol y swm y byddwch yn ei dalu fesul uned o nwy neu drydan, os gallwch ddefnyddio llai, yna bydd eich biliau’n gostwng.
Gallai gwneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni eich helpu i wneud arbedion tymor hir. Mae gan ein canllaw am dalu am welliannau cartref wybodaeth am grantiau a benthyciadau y gallwch eu defnyddio am bethau fel gwell inswleiddio neu foeler mwy effeithlon.