Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Beth yw cost cadw cwningod?

Cyhoeddwyd ar:

Last updated:

Os yw’ch plant wedi’ch hala’n wallgof yn gofyn am gwningen, mae’n werth gwybod y costau cyn dod â’r ffrind blewog adref. O’r bwyd i’r cwt, brechiadau a’r yswiriant, cost gyfartalog perchen cwningen yw o gwmpas £900 i £1,500 y flwyddyn. 

Ond cofiwch - mae cwningod yn anifeiliaid cymdeithasol felly yn ddelfrydol mae’n rhaid iddynt gael eu cadw mewn pâr. Er y gallent rannu bowlen, cwt a photeli, bydd angen dwli’r costau isod.

Argymhellir eich bod yn mynd i ganolfan ailgartrefu sy’n cael ei gynnal gan elusen lles anifeiliaid wrth gael dy gwningen. Mae gan Blue Cross a’r RSPCA nifer o ganolfannau ar draws y DU a byddent wedi gwirio iechyd unrhyw gwningen cyn eu rhoi i chi. 

Wrth gwrs, nid rhain yw’r unig lefydd gallwch gael eich cwningen ond mae PDSA yn argymell gwirio safonau iechyd ac amodau byw’r gwningen cyn eu prynu, yn enwedig os ydych yn cael eich cwningen o siop anifail anwes neu loches. 

Mae cost cwningen yn dibynnu ar y brîd, gall costau amrywio o £15 i £55 o fridwyr a siopau anifail anwes ac o ganolfannau achub mabwysiad mae’r ffi fel arfer rhwng £25-60 - yn dibynnu ar os mae’r gwningen wedi’u niwtro a brechu. Gall gost prynu cwningen pur o fridiwr fod yn £50 i £100, neu hyd yn oed yn fwy. 

Costau undro

Gydag unrhyw anifail anwes, mae costau cychwynnol nad oes modd osgoi. Cwt yw un o’r pethau cyntaf rydych yn prynu am eich cwningen, ac mae’r rhan fwyaf o brisiau cwt yn amrywio o £60 i £300. Ond, gall rhai bod yn ddrytach a chostio hyd at £450 neu fwy o bosib. 

Mae’n dibynnu ar os ydych am gael cwt i gadw’ch cwningen tu mewn, neu gwt tu allan gyda rhediad/pen wedi’i gysylltu.

Mae bowlenni, basged gwastraff, bocs cludo a photeli i gyd yn angenrheidiau cychwynnol hefyd a byddent yn costio tua £50.

Cost gyfartalog bwyd cwningen

Mae angen bwydo cwningod diet cytbwys, peidiwch ddisgwyl rhoi gwair yn y cwt yn unig. Mae glaswellt a gwair yn rhan fawr o’u diet ond hefyd mae pelenni a llysiau. 

Yn dibynnu ar faint eich cwningen, dylai gwair costio tua £10-£20 y mis, pelenni tua £50 y flwyddyn oni bai eich bod yn tyfu rhai eich hun, a bydd llysiau tua £20 y mis. Gyda chost flynyddol gyfartalog o: £400 - £530 (os ydych yn ychwanegu danteithion bydd £50+ ychwanegol).

Cost gyfartalog niwtro a disbaddu cwningen

Os oes gennych ddwy gwningen o rhywedd wahanol ac nid oes gennych gynlluniau i fod yn fridiwr cwningod bydd niwtro a disbaddu eich cwningod yn costio rhwng £80-£250 yr un yn gyfartalog.

Mae hwn hefyd yn opsiwn os oes gennych ddau gwningen wryw gyda’i gilydd, gan all hwn helpu rhwystro ymladd a gwella eu natur. 

Cost gyfartalog brechiadau cwningod

Mae brechiadau mae’n rhaid i chi sicrhau bod gan eich cwningen o’r dechrau.

Boed yn prynu eich cwningen o ganolfan ailgartrefu neu o siop anifail anwes, rhaid bod cwningod wedi’u brechu yn erbyn Clefyd Gwaedlifol Firaol Cwningod (VHD) a Mycsomatosis. Gall gael brechiadau i’ch cwningen costio rhwng £50 i £125, gyda phrisiau’n amrywio yn dibynnu ar le rydych yn byw yn y DU. Brechiadau blynyddol yw'r rhain felly cyllidwch eich costau yn unol â hynny. 

Cost feddygol gyfartalog am gwningod

Mae problemau meddygol cyffredin gyda chwningod bydd rhaid i chi ffactorio mewn wrth ystyried cael cwningen.

  • Cost i gadw mewn cof yw os mae eu dannedd yn gordyfu - mae eu dannedd blaen uchaf yn tyfu ar raddfa o 3mm yr wythnos, felly mae cadw nhw’n trim yn hanfodol. Byddent yn treulio’n naturiol gyda gwair a diet naturiol (achos mwyaf cyffredin dannedd sydd wedi gordyfu yw diet miwsli), ond os ydyn nhw’n tyfu’n rhy hir bydd rhaid mynd i’r milfeddyg. Gall cael dannedd eich cwningen wedi’i ffeilio costio rhwng £50 i £100. Os yw’r broblem yn fwy cymhleth mae’r prisiau’n cynyddu, gan fod angen i’ch cwningen mynd dan anaesthetig cyffredinol.
  • Gall rhai cwningod profi trafferthion llygaid cyffredin fel wlserau (a achosir gan ymladd neu wair) neu lid pilen y llygad - yn dibynnu ar y broblem, gall fflysio dwythell dagrau costio o £30 i £80, triniaeth llygad o £20 a diferion llygaid o £12.
  • Problemau clustiau, sydd yn gyffredin o fewn bridiau lop yn enwedig - mae’r RSPCA yn nodi gall costau problemau clustiau costio £400, er os oes angen scan CT gall y gost hon rhagori £1,000. 

Cost gyfartalog yswiriant cwningen

O’i gymharu â chath neu gwn, mae’r nifer o yswiriwr i ddewis ohonynt am eich cwningen yn weddol gyfyngedig. Fel arfer, rydych yn edrych ar tua £10 to £20 y mis, a bydd yswiriant fel arfer yn cynnwys ffioedd milfeddyg, triniaethau canmoliaethus, hysbysebu a gwobrwyon am gwningod coll a ffioedd preswylio anifail anwes. 

Yn wahanol i gathod a chwn, nid yw brîd eich cwningen yn gwneud gwahaniaeth i gost eich yswiriant.

Cost gyfartalog amlosgi cwningen

Nid yw’n pwnc neis iawn ond mae’n werth gwybod y gost pan mae’r amser yn dod. Os oeddech am amlosgi eich cwningen a gwasgaru neu gadw’r lludw, mae’r gost yn dibynnu ar faint eich cwningen.

Os ydych yn defnyddio gwasanaeth amlosgi anifeiliaid anwes, dylai lludw cwningen fach wedi’i rhoi mewn cwdyn i wasgaru costio tua £30 - £70. Ond, os ydych yn cymryd eich cwningen i’r milfeddyg, opsiwn cyffredin yw amlosgi gydag anifeiliaid eraill, er na fyddwch yn cael y lludw yn ôl - mae hwn yn costio o £6 i £15.

Mae amlosgiad unigol o’r milfeddyg gyda derbyn lludw eich cwningen yn ôl yn costio llawer mwy. Mae prisiau’n amrywio o £80 i £200 neu’n fwy.

Er eu bod yn ymddangos fel anifail sy’n rhad i gadw, mae cadw mewn cof bod angen dau gyda’i gilydd yn ddelfrydol, a’u bod yn byw am tua 8-12 mlynedd, rydych yn edrych ar gost botensial o £24,000 am ddwy cwningen am 12 mlynedd. Os oes angen lawer o ofal iechyd ar eich cwningen gall cost gydol-oes cyrraedd £30,000. 

Tags
Yswiriant anifeiliaid anwes Pob postiadau blog

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.